Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
—bryderon Delyth Jewell ynghylch arllwysiad o domenni nas defnyddir, oherwydd yr egwyddor rheoleiddio yw y dylai'r llygrwr barhau i fod yn gyfrifol am niwed amgylcheddol ei weithredoedd, wrth symud ymlaen, sut y gellid gwneud hynny yn berthnasol i gwmnïau fel Monsanto, sydd bellach wedi gadael y glannau hyn? Ac a ydych chi wedi cael cyfle i drafod gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU i gadarnhau na fydd eu hagwedd tuag at gyfrifoldeb dros domenni glo, wrth gwrs, yr agwedd warthus a oedd gan Lywodraeth flaenorol y DU, sef nad oedd gan hwn dim byd i'w wneud â nhw, er—