3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 3:49, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

O edrych ar ddatganiad y prynhawn yma o safbwynt trafnidiaeth, roedd yn rhywbeth anodd iawn i mi fod yn gyffrous yn ei gylch. Wrth gwrs, mae sôn am Fil bysiau, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd drwyddo'n fanylach, a Bil tacsis a cherbydau hurio preifat, ond i mi, Prif Weinidog, dyna'r cwbl mewn gwirionedd. Nid oedd yn uchelgeisiol iawn, yn fy marn i. Daeth yr ymgynghoriad ar y Bil tacsis a cherbydau hurio preifat i ben ym mis Mehefin 2023, ac nid ydym wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu pam mae'r darn hwn o waith wedi bod mor araf yn dod ger ein bron?

Nid yw datganiad y prynhawn yma yn sôn am gynllun terfyn cyflymder dadleuol 20 mya eich Llywodraeth. Prif Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i gyflwyno Bil cefnogi gyrwyr, a fyddai'n rhoi'r hyn y mae'r cyhoedd eisiau drwy adolygu eich prosiect 20 mya diffygiol a rhoi llais cryfach i gymunedau dros y materion hyn. Unwaith eto, rwy'n siomedig iawn nad oes neges nac yn wir unrhyw sôn am agenda adeiladu ffyrdd. Gall pob un ohonom gytuno bod ffyrdd yn bwysig nid yn unig i'n heconomi, ond maent yn hanfodol ar gyfer cael pobl o A i B, boed hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn cerbyd preifat. Mae rhestr hir o brosiectau y mae angen eu cynnwys a'u hadeiladu, fel trydedd groesfan Menai a ffordd osgoi Cas-gwent. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno pecyn o fesurau sy'n canolbwyntio ar adeiladu ffyrdd? Dim ond yr wythnos diwethaf fe godais fater Maes Awyr Caerdydd gyda'ch Ysgrifennydd Cabinet. Os yw Llywodraeth Cymru mor hyderus y gall wella sefyllfa'r maes awyr, yna pam nad yw darn o waith yn nodi'r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno? Mae trenau hefyd yn faes arall sydd wedi cael ei esgeuluso yn y datganiad heddiw, ac rwy'n ofni ei fod yn dangos—