3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Llafur 3:33, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf i am fynd i'r afael â'ch sylwadau chi fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn gyntaf, ac yna â'r hyn yr wyf i'n credu sydd o fwy o ddiddordeb i etholaeth yn y Bil bysiau.

O ran safonau, rydym ni i gyd yn deall pam rydym ni wedi dod at drafodaeth ynghylch adalw, yn dilyn cosb sylweddol yn erbyn un Aelod a'n dealltwriaeth ni o sut wedd ddylai fod ar ein cyfundrefn. Mae hynny'n rhannol oherwydd newidiadau a wnaeth Senedd y DU, ac yn rhannol am ein bod ni i gyd, ar draws pleidiau, o'r farn nad dyna'r ffordd y dylid ymdrin â'r materion hyn yn y dyfodol. A'r un pwynt ydyw hwnnw ynglŷn â dichell: mae hyn yn ymwneud â'r pwynt ynghylch y safonau a ddisgwyliwn gan Aelodau, ac, yn yr achos hwnnw, gan ymgeiswyr i'r Senedd hefyd.

Yr hyn yr wyf i'n ymddiddori ynddo yw'r cynllun cydlynol y gallem ni fod ag ef o ran ystyriaeth briodol yn y Senedd hon o'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl gan ein gilydd, yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gennym ni, sut mae'r dewisiadau hynny'n cael eu gwneud, a chanlyniadau'r dewisiadau hynny hefyd wedyn. Rwyf i o'r farn fod materion i'w hystyried o ran gwelliannau a wnaethpwyd yn Senedd y DU—rwy'n credu bod y broses adalw yn well—ond i ystyried meysydd hefyd lle na fyddwn i mor awyddus i ddilyn y patrwm yn San Steffan.

Rwy'n credu mai camgymeriad oedd bod â phroses ar wahân ar gyfer achosion unigol o aflonyddu ar staff yn sefyll ar wahân i ymddygiad Aelodau. Mae datgysylltu'r rhain, yn fy marn i, yn gwneud y system yn llai cydlynol. Mae gen i ddiddordeb o ran sut, gan weithio gyda thrawsbleidiol y pwyllgor safonau, gallwn fod â chynllun gwirioneddol gydlynol sy'n edrych ar bob math o ymddygiad y gallem ni ac y dylem ni ei ddisgwyl gan Aelodau, y broses gwneud penderfyniadau, ac yna'r arbenigedd i ymgymryd â hynny hefyd.

Nid yw honno'n feirniadaeth o unrhyw unigolyn a allai fod yn gomisiynydd safonau, ond ni fyddech chi'n disgwyl i unrhyw unigolyn fod â'r holl ddealltwriaeth angenrheidiol i ymchwilio i bob cwyn unigol a allai godi. Felly, mae hyn yn ymwneud a sut i fod â system sy'n cefnogi pwy bynnag fo yn gomisiynydd i gynnal ymchwiliadau. Fe fues i'n ddigon ffodus i fod yn gynrychiolydd undeb llafur ac yn gyfreithiwr cyflogaeth, ac felly rwyf i'n deall rhannau helaeth o sut mae byd gwaith yn gweithio, gan gynnwys, am i mi fod yn gyfreithiwr gwahaniaethu arbenigol—. A dweud y gwir, fe all hyn fod yn heriol ac yn wahanol. Mae yna gyfreithwyr cyflogaeth nad ydyn nhw'n arbenigwyr ac nid yw'r un ddealltwriaeth nac arbenigedd ganddyn nhw.

Felly, mae yna rywbeth ynglŷn â sut y byddwn ni'n cefnogi pwy bynnag fyddo'r comisiynydd i gael gafael gwirioneddol ar y gefnogaeth briodol i ymgymryd â'r gwaith ymchwilio, a sicrhau bod gennym gynllun cydlynol wedyn a fydd yn diwallu'r awydd trawsbleidiol gwirioneddol i rymuso ein proses. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo yn ddifrifol i ganiatáu i'r Senedd ystyried cynllun cydlynol ac y gall Aelodau bleidleisio ar hwnnw cyn diwedd y tymor hwn, felly mae hwnnw ar waith ar gyfer tymor y Senedd nesaf yn 2026.

O ran y Bil bysiau, rwy'n credu mai hwnnw yw un o'r darnau mwy cyffrous o ddeddfwriaeth a fydd yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym ni'n siarad amdano mor aml. Ni fydd pawb o'r cyhoedd yn cyffroi pan ddywedir wrthyn nhw fod gwleidyddion am lunio deddf newydd, ond rwy'n credu y bydd hon yn un a fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol gwirioneddol ar draws cymunedau. O fewn y gymuned y mae'r Aelod yn ei chynrychioli, fe fydd bod ag ymagwedd fwy cydlynol tuag at wasanaethau bysiau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol—ac yn fy etholaeth innau hefyd. Fe all pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, dynnu sylw at y mannau y byddai system well o reoleiddio a chymorth bysiau yn gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol ac er gwell.

Rydym ni'n cynnig system newydd, i symud i ffwrdd oddi wrth ffordd hynod anstrategol ac aneffeithlon o fuddsoddi arian cyhoeddus at un lle gallwn ni fod â mwy o gydlyniad a gwaith gwirioneddol gyda'r awdurdodau lleol ar gyfer deall y llwybrau angenrheidiol yn y broses o gomisiynu a masnachfreinio priodol, yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, gyda'r awdurdodau lleol yn ceisio achub llwybr sy'n hanfodol yn gymdeithasol ond nad yw'n gallu gwneud elw i gwmni preifat. Fe fydd yn symud oddi wrth fod yn broses o gystadleuaeth am ddim ond y llwybrau sy'n gwneud yr elw mwyaf gan anwybyddu'r rhai sydd o werth cymdeithasol enfawr. Ar hyn o bryd, mae'r pwysau i gyd ar yr awdurdodau lleol a'r Llywodraeth i fod, os hoffech chi, yn fuddsoddwr yn niffyg dim arall. Fe allwn ni wneud yn well na hynny, ac fe fydd y Bil bysiau, rwy'n credu, yn dangos ffordd i ni wneud hynny mewn partneriaeth wirioneddol â chydweithwyr ar draws llywodraeth leol a thu hwnt i hynny.