3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Llafur 3:46, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Edrychwch, mae'n awgrym diddorol. Rwyf eisiau dechrau drwy groesawu'r hyn oedd ganddi i'w ddweud am ein Bil i ddileu elw preifat. Rwy'n credu nad datganiad gwerth yn unig ydyw, er, mor bwysig yw hynny, mae'n gam ymarferol ymlaen i sicrhau bod yr arian sy'n bodoli ac sy'n gorfod cael ei wario o fewn y system yn cael ei ddefnyddio at bwrpas gwell ac, mewn gwirionedd, mewn ffordd fwy effeithlon. Mae achos effeithlonrwydd gwirioneddol dros wneud hyn sy'n mynd y tu hwnt i p'un a yw pobl yn hoffi'r ffaith bod y sector preifat yn gweithredu yn y maes hwn neu beidio. Ond mae'n bwysig i blant a phobl ifanc sydd wedi bod drwy'r system ofal. A chefais fy synnu'n fawr gan ba mor gryf oedd y farn honno, eu bod wedi teimlo—gyda'r union eiriau a ddefnyddioch chi—wedi cael eu hecsbloetio gan y ffaith bod arian yn cael ei wneud ar eu traul nhw, ac mewn ffordd pan, mewn gwirionedd, nad oedd eu profiad wedi bod yn un da.

Rwy'n meddwl yn ôl at nifer o'r sgyrsiau a gefais pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog iechyd, ond mewn gwirionedd un o'r pethau a drawodd yn fy meddwl oedd sgwrs gyda Mark Drakeford, pan ddywedodd, 'Rydym yn gwario llawer o arian yn y system hon, ac nid ydym yn prynu canlyniadau da i'n plant a'n pobl ifanc. Ar y cyfan, rydym yn prynu canlyniadau gwaeth nag y dylem eu cyflawni. Felly, nid sefyll yn ôl a rhoi mwy o arian yn y system yw'r peth iawn i'w wneud.' Ac mae hynny'n dal yn wir nawr, am yr holl welliannau yr ydym wedi'u gwneud. Felly, rwy'n falch iawn yn gyffredinol o gefnogi'r Bil y mae fy Llywodraeth yn ei gyflwyno ar ddileu elw preifat, ac rwy'n credu y bydd yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n llawer gwell defnydd o arian ymhob ystyr.

O ran a ddylai gofalwyr di-dâl fod yn nodwedd warchodedig, mae gennyf feddwl agored ond heb fy narbwyllo. Byddai gen i ddiddordeb mewn gweld pa wahaniaeth ymarferol fyddai hynny'n ei wneud, sut y gallai hynny ddigwydd. Nid yw o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol hon. Bydd pobl yn yr ystafell hon sy'n ofalwyr di-dâl, gyda chyfrifoldebau gofalu nid yn unig i blant ond i oedolion hŷn hefyd. Nid wyf yn argyhoeddedig bod hyn ynddo'i hun yn ffordd o wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl. Mae yna bethau eraill yr ydym yn eu gwneud, ond rwy'n fwy na pharod i barhau i gymryd rhan yn y sgwrs, fel yn wir, rwy'n siŵr y bydd Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth, o ran sut y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Oherwydd dyna'r pwynt yma: sut ydym ni'n gwneud gwahaniaeth gyda'r gofalwyr di-dâl ac iddynt er mwyn cydnabod yr hyn maen nhw'n ei wneud, nid yn unig i'w hanwyliaid, ond beth mae'n ei olygu i bob un ohonom.