3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:42, 9 Gorffennaf 2024

Brif Weinidog, buaswn i’n hoffi gwybod, plis, faint o flaenoriaeth bydd y Mesur diogelwch tomenni glo i’ch Llywodraeth. Pryd fydd pobl y Cymoedd yn gallu gweld y ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno, plis? O ystyried hefyd y gwaith manwl sydd wedi cael ei wneud o sgrwtineiddio gan bwyllgor newid hinsawdd y Senedd ar Ffos-y-frân a llefydd opencast, a fyddech chi’n ystyried ehangu sgôp y Mesur hwnnw i gynnwys y llefydd hynny?

Pan wnaethoch chi gwrdd â Syr Keir Starmer ddoe, a wnaethoch chi ailadrodd wrtho fe eich cred y dylai cost clirio’r tomenni glo gael ei rhannu gyda San Steffan? Achos dydy'r gwirionedd sylfaenol hwnnw, yr achos moesol, heb newid dim. Felly, rwy'n cymryd bod eich safbwynt chi ar hwnna heb newid ychwaith. 

Yn olaf, Brif Weinidog, mae eich datganiad yn sôn am Fil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth. Rwyf wir yn croesawu hynny. A fyddech chi'n gallu cadarnhau y bydd hwnna yn ateb galw'r RSPB ac eraill i wella bioamrywiaeth erbyn 2030 ac iddo fe fod mewn sefyllfa iach a gwydn erbyn 2050? Os gallech chi roi diweddariad i ni ar hynny. Diolch yn fawr iawn.