3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 3:16, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rwyf i am sôn ychydig bach am y pwynt olaf hwn felly, os caf i. O ran yr egwyddorion amgylcheddol a'r Bil bioamrywiaeth, fe fydd hwn yn amlwg yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth. Ni fydd y Senedd olaf i ddeddfu darn o ddeddfwriaeth o'r fath—rwy'n credu fy mod i'n gywir wrth ddweud hynny. Mae'r Alban a Lloegr eisoes wedi rhoi deddfwriaeth o'r fath ar y llyfr statud. A fydd hwn yn ddarn unigryw o ddeddfwriaeth, neu a fydd yn ddim ond hybrid o'r hyn a welwyd yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn yr Alban ac yn Lloegr, ac yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru? Felly, a allech chi roi blas i ni ar ei ehangder a'r uchelgais sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth, a beth yn union fydd yr amddiffyniadau sydd ynddo? Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.