3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Llafur 3:32, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad chi yma heddiw. Yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n croesawu eich cyfeiriad chi at y gwaith pwysig y mae fy mhwyllgor i'n ei wneud ar atebolrwydd Aelodau unigol a'ch bod chi unwaith eto wedi datgan yr ymrwymiad i ganiatáu deddfwriaeth ar fater pwysig dichell. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod posibilrwydd gan y gwaith hwnnw i alluogi ein Senedd ni i fod yn Senedd enghreifftiol yn y DU ac y bydd o gymorth wrth adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwleidyddiaeth?

Yn ail, Prif Weinidog, fe hoffwn i droi at y Bil bysiau, deddfwriaeth sydd o'r pwys mwyaf i'm hetholwyr i, ac yn hanfodol, wrth gwrs, i ddadwneud y difrod a wnaethpwyd i'n rhwydwaith bysiau gan ddadreoleiddio Thatcher flynyddoedd maith yn ôl. Rwy'n croesawu'r cynlluniau i ail-lunio ein gwasanaethau bysiau yn sylweddol, ac rwy'n nodi eich sylwadau chi am weithio gyda phob lefel o'r Llywodraeth er mwyn cyflawni hynny. Mae gan ein cymunedau a grwpiau eraill fel yr undebau llafur sy'n cynrychioli gyrwyr bysiau swyddogaeth hanfodol hefyd. Felly, sut gellid annog y cyfranogiad ehangaf posibl gan gymdeithas sifil wrth i'r cynlluniau gael eu datblygu?