3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Llafur 4:04, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod tri phwynt cymharol fyr. Y cyntaf yw bod y Bil diogelwch adeiladau, fel y nodais, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Bydd yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn nesaf. Rydym eisoes yn darparu, heb fod wedi pasio deddfwriaeth flaenorol—. Fel ymatebais i Andrew R.T. Davies, rydym yn darparu cymorth ymarferol i lesddeiliaid sy'n dymuno ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr eu heiddo ynghylch materion diogelwch tân, ac rydym hefyd yn cynnal llwybr i helpu i wella materion diogelwch tân, gan gynnwys yr adeiladau hynny nad oes ganddynt gladin. Ni yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

O ran eich pwynt ynghylch tribiwnlysoedd, rwy'n gwerthfawrogi y bydd gan gyfreithwyr adennill ddiddordeb yn hyn. Mae'n bwysig ein bod yn cael system gydlynol o ran cyfiawnder Cymru. Mae hwnnw'n Fil y gallwn ddod ato ar ddiwedd y tymor hwn os gallwn gyflawni pob rhan arall o'r rhaglen. Felly, mae'n gyflwyniad posibl ar ddiwedd y tymor, ond mae'n dibynnu ar faint o amser mae'n ei gymryd i ni ddeddfu. Gallaf ddweud wrthych fy mod wedi bod yn Aelod yn y lle hwn ers 2011, ac rwyf wedi gweld yn rheolaidd sut y mae deddfwriaeth naill ai'n cael ei rhuthro neu'n cael ei cholli mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol i unrhyw un ohonom. Nid wyf eisiau i'r Biliau mawr yr ydym wedi'u nodi yma fod mewn perygl o gael eu colli yn ystod wythnos neu ddwy ddiwethaf y tymor. Os gallwn wneud cynnydd da ar yr holl ddeddfwriaethau radical a sylweddol yr ydym wedi'u nodi, yna efallai y bydd cyfleoedd i gyflwyno Bil terfynol ar y diwedd, ond dyma'r blaenoriaethau allweddol ac mae'r Llywodraeth hon wedi dod i farn ar dad-flaenoriaethu—dewisiadau anodd, ond mae hynny'n caniatáu llwyfan mwy cadarn i gyflawni'r rhaglen ddiwygio ddeddfwriaethol radical a blaengar hon, ac rwy'n falch o wneud hynny; ni fyddaf yn ymhél â chymharu niferoedd y Biliau yn hytrach nag effaith ymarferol y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio. Dyna'r prawf yr wyf eisiau i ni ei osod: sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau i wneud gwahaniaeth gyda deddfwriaeth addas i'r diben, nid cyfrif y rhifau'n unig a pheidio â phoeni am y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud.