3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Ceidwadwyr 4:01, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Prif Weinidog, am amlinellu'r rhaglen ddeddfwriaethol fel y gwnaethoch chi yma y prynhawn yma. Rwy'n synnu at y diffyg pwyslais ar wasanaethau iechyd o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, fel yr ydych wedi'i hamlinellu. Yn amlwg—[Torri ar draws.] Wel, deddfwriaeth yn ymwneud â gwasanaethau iechyd—ysgwyd pennau yn y rhes flaen acw. Iechyd, wrth gwrs, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o gyllideb Llywodraeth Cymru a dyma'r maes mwyaf canlyniadol o dan reolaeth y Llywodraeth hon, ac rydym yn gwybod yr heriau y mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn eu hwynebu. Yn benodol, rydym yn ymwybodol o'r rhestrau aros hiraf erioed, ac rydym yn ymwybodol nad yw pobl yn gallu cael ymatebion ambiwlans o fewn yr wyth munud. Mae'n amlwg bod angen sylw arno ar lefel ddeddfwriaethol.