3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:24, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rydym ni yn y sefyllfa anffodus erbyn hyn o fod â rhagor i'w ddweud am yr hyn a adawyd allan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth na'r hyn sydd ynddi hi: mae trefniadau llywodraethu amgylcheddol ôl-Brexit sydd wedi bod ar waith ers amser maith mewn gwledydd eraill yn y DU yn cael eu dal yn ôl o hyd; oedi mesurau arloesol i greu Senedd gytbwys o ran rhywedd dro ar ôl tro, o bosibl o nawr tan 2030; gweithredu pecyn trawsnewidiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor, a ddatblygwyd yn rhan o'n cytundeb cydweithio, sy'n cael ei wthio yn ôl tan ar ôl yr etholiad nesaf i'r Senedd. Rydych chi'n gwarantu y bydd yr aelwydydd mwyaf difreintiedig yn dal i gael eu cosbi yn anghymesur gan system sy'n annheg, atchweliadol a hen ffasiwn am o leiaf bedair blynedd arall.

Nawr, yng nghanol y siomedigaethau hynny i gyd ac, wyddoch chi, siomedigaethau mawr, mae ambell i lygedyn o obaith y byddem ni'n sicr o ddal ati i annog y Llywodraeth i beidio â cholli golwg arnyn nhw yn ystod y flwyddyn a hanner sydd ar ôl yn nhymor y Senedd hon. Rydym ni o'r farn fod diwygio masnachfreintiau bysiau i gysylltu ein cymunedau a gafodd eu datgysylltu yn hanfodol a bod angen gwneud hynny ar fyrder. Rwy'n croesawu'r hyn a gawn ni yn y datganiad heddiw ynglŷn â deddfwriaeth i hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu'r Gymraeg i bawb, a meithrin sector twristiaeth mwy cydnerth yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu'r ffaith hefyd fod y Llywodraeth wedi addo cyflwyno deddfwriaeth i wahardd dweud celwyddau mewn gwleidyddiaeth, mewn ymateb i waith da fy nghyd-Aelod, Adam Price.

Ond, ar y cyfan, rwy'n credu bod pobl Cymru ag angen a dyhead am fwy na'r hyn sydd gennym ni yn y rhaglen hon. Maen nhw'n hiraethu am fwy o degwch ac uchelgais i Gymru sef yr hyn sy'n ysgogi ein grŵp newydd, estynedig ni o ASau o Blaid Cymru yn San Steffan. Fe fyddan nhw'n sicr yn cyflwyno'r achos yn San Steffan am gyllid teg ar gyfer cyfran deg Cymru o HS2, a hefyd am fesurau i frwydro yn erbyn tlodi plant a sicrhau datganoli pellach, gan gynnwys Ystad y Goron. Ond fel dywedais i, yr hyn sy'n amlwg yn yr agenda ddeddfwriaethol hon a glywsom ni'n cael ei hamlinellu heddiw yw'r hyn sydd ar goll ohoni.

Er enghraifft, mae hi'n nesáu at chwe mis erbyn hyn ers i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi ei adroddiad terfynol. Nid oes unrhyw beth yn cael ei amlinellu yma a fyddai'n cyflawni unrhyw un o'i argymhellion, argymhellion yr hoffai'r Senedd hon eu gweld nhw'n cael eu derbyn yn llawn a hynny ar fyrder. Nid oes unrhyw beth yn cael ei amlinellu o ran braenaru'r tir ar gyfer datganoli pellach, gan gynnwys trosedd a chyfiawnder, rhywbeth y mae Llafur yng Nghymru wedi ei honni ers amser maith ei fod yn flaenoriaeth, ond y mae'r Ysgrifennydd Gwladol newydd wedi diystyru hynny'n fynych ac yn benodol. Os yw'r agenda ddeddfwriaethol hon yn cynrychioli cwmpas uchelgais Llafur i Gymru, wel, fe fydd llawer o bobl yn cael eu siomi. Rwy'n eiddgar i weld Llywodraeth sy'n gwthio'r ffiniau o ran yr hyn y gall y setliad datganoli presennol ei gyflawni, ac nid dyna'r hyn sydd gennym ni ger ein bron heddiw.