3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:27, 9 Gorffennaf 2024

Rydym ni ym Mhlaid Cymru'n glir am y mathau o bethau rydym ni'n credu y dylai Llywodraeth ddatganoledig geisio eu cyflawni ar gyfer Cymru. Mi wnawn ni amlinellu llawer o'r rheini rhwng rŵan a mis Mai 2026: sicrhau datblygiad economaidd yn seiliedig ar dargedau uchelgeisiol; strategaeth wirioneddol ar gyfer brwydro yn erbyn tlodi plant—eto, efo targedau mesuradwy; cronfa gyfoeth sofran i Gymru sy'n sicrhau bod refeniw ein hadnoddau naturiol ni yn cael ei gadw a'i fuddsoddi yma yng Nghymru.

Rydym ni'n clywed yn aml, onid ydyn, Ddirprwy Lywydd, fod yn rhaid i Lywodraethau Llafur ar y naill ben i'r M4 gydweithio efo'i gilydd er mwyn budd Cymru. Wel, os ydy hynny'n wir, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi fod yna ddim esgus bellach i Lywodraeth Lafur Cymru beidio â bod yn uchelgeisiol wrth gynllunio ei hagenda, achos mae'r hyn sydd wedi'i gyflwyno heddiw, mae gen i ofn, yn fyr iawn o'r hyn rydym ni fel plaid, ac yn bwysicach fyth, o'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl?