Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Llywydd, rwyf i am droi nawr at y Biliau hynny y bydd fy Llywodraeth i'n eu cyflwyno yn ystod gweddill tymor y Senedd hon. Mae agenda ddeddfwriaethol lawn gennym ni o'n blaenau wrth i ni barhau i lunio deddfau a fydd yn sicrhau newid cadarnhaol a blaengar. Mae fy Llywodraeth i wedi ymrwymo i wella rhwydweithiau trafnidiaeth, a helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac adfer yr ymdeimlad o berthyn, cysylltiad a chymuned. Fe fyddwn ni'n ail-lunio'r system drafnidiaeth gyhoeddus mewn modd sylweddol, gan gyflwyno Bil bysiau i ganiatáu cydweithio ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru. Yna fe allwn ni ddylunio rhwydweithiau bysiau sy'n caniatáu i bobl gael gafael ar wasanaethau dibynadwy, cynaliadwy ac a fydd yn rhoi dewisiadau gwirioneddol ar wahân i deithio mewn car.
Llywydd, yn gyfochrog â hyn, rydym ni wedi ymrwymo i foderneiddio tacsis a thrwyddedu cerbydau hurio preifat i greu sector sy'n fwy diogel a theg. Felly, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar Fil drafft tacsis a cherbydau hurio preifat yn nhymor y Senedd hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda theithwyr, yr awdurdodau masnach a thrwyddedu i fwrw ymlaen â diwygiadau trwy ddulliau nad ydyn nhw'n rhai deddfwriaethol. Efallai y bydd yr Aelodau yn dymuno datgan buddiant o ran cwmni Veezu, yn ogystal â'm haelodaeth o undebau llafur Unite a GMB.
Fe fyddwn ni'n parhau i arddangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â bygythiad cynyddol i'r amgylchedd drwy gyflwyno Bil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth. Fe fydd hwnnw'n sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol statudol i Gymru, a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru ac yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol gyda nodau ar gyfer amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Mae'r Bil yn arwydd o'n hymrwymiad amlwg y bydd gweithredu ac arweinyddiaeth yn digwydd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ac fe fydd honno'n dal i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae tomenni glo yn waddol gorffennol glofaol Cymru. Bydd Bil mwyngloddiau a chwareli (tomenni nas defnyddir) yn rhoi mwy o sicrwydd i'r bobl sy'n byw yn eu cysgod nhw. Bydd hwnnw'n amddiffyn seilwaith hanfodol ac yn diogelu'r amgylchedd trwy ymgorffori cyfundrefn reoleiddiol sy'n gynaliadwy, addas i'r diben yn y gyfraith ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir.
Llywydd, rwyf i wedi egluro bod rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y materion mwyaf pwysig yng ngolwg pobl Cymru. Fe ddylai pawb fod â lle y gallant ei alw'n gartref, ac mae diogelwch ein preswylwyr ni'n hollbwysig. Bydd ein Bil digartrefedd yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi ac yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i wella'r system ddigartrefedd a thai yn sylweddol. Fe ddaeth cyfres o is-ddeddfwriaethau i rym ym mis Ebrill a oedd yn cyflwyno rheolaethau adeiladu sy'n fwy tyn. Bydd ein Bil Diogelwch Adeiladau yn ymestyn hynny drwy sefydlu cyfundrefn diogelwch i adeiladau newydd. Fe fydd hyn yn diwygio ystyriaethau meddiannaeth a rheolaeth barhaus ar adeiladau amlbreswyl ac yn mynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn ffyrdd sylweddol.
Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr. Fe fydd yr arian a gaiff ei godi yn cefnogi twristiaeth, yn helpu ein cymunedau ac yn diogelu harddwch Cymru i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y Bil llety ymwelwyr (rheoleiddio) yn gwella'r profiad i ymwelwyr drwy sicrhau bod llety ymwelwyr yn bodloni'r safonau a fydd yn ofynnol. Bydd y Bil yn sefydlu cofrestr o letyau i ymwelwyr ac yn caniatáu i ddarparwyr arddangos eu cydymffurfiaeth â'r gofynion diogelwch.
Mae gwella hygyrchedd ein cyfraith yn agwedd bwysig arall ar ein rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd ein Bil deddfwriaeth nesaf yn diddymu'r darpariaethau anarferedig ac a ddisbyddwyd o'r llyfr statud ac yn ffurfioli'r system o lunio a chyhoeddi offerynnau statudol Cymru. Fe wn i fod yr Aelodau yn awyddus i weld grymuso'r gyfraith gynllunio, a aeth yn fwyfwy anhygyrch a gorgymhleth i weithredwyr a defnyddwyr y system gynllunio. Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil tua diwedd y Senedd hon a fydd yn symleiddio ac yn moderneiddio'r gyfraith yn y maes hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU o ran deddfwriaeth y DU, ac fe fyddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn dilyn Araith y Brenin yn ddiweddarach y mis hwn. Hefyd, fe fydd yna raglen o is-ddeddfwriaeth i weithredu Deddfau a luniwyd i'r DU yn sesiwn flaenorol senedd San Steffan. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, a oedd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflawni diwygiadau yn y maes hwn.
Llywydd, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelodau a phwyllgorau'r Senedd, yn ogystal â'n partneriaid cymdeithasol a'n rhanddeiliaid ni, am eu rhan nhw wrth ddatblygu a chraffu ar y ddeddfwriaeth. Fe fydd ein rhaglen ddeddfwriaethol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac fe fydd yn helpu i wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad, yn amddiffyn ein pobl a'n cymunedau ni, ac yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen hon i'r Aelodau. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio ar y blaenoriaethau hyn i feithrin dyfodol uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach, gryfach a gwyrddach.