Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Diolch, Llywydd. Heddiw, mae hi'n bleser i mi allu nodi'r blaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer fy Llywodraeth i. Rwyf i wedi bod yn eglur y bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar yr hyn sydd bwysicaf ym mywydau pobl bob dydd. Mae ein henw da am gyflawni a'n cynlluniau i'r dyfodol fel ei gilydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i newid radical, blaengar a thrawsnewidiol i bob cwr o Gymru.
Mae ein cyflawniadau deddfwriaethol ni dros y 12 mis diwethaf yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn gan ein bod ni wedi pasio deddfau sy'n hanfodol i ddyfodol Cymru i'r hirdymor. Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn gynharach eleni, yn arddangos ein hymrwymiad ni i wella'r aer yr ydym ni'n ei anadlu a hyrwyddo seinweddau llesol. Wrth i ni symud tuag at allyriadau sero net erbyn 2050, bydd angen trawsnewid ein heconomi i bweru ffyniant gwyrdd. Bydd Deddf Seilwaith (Cymru), a basiwyd ym mis Ebrill, â rhan allweddol wrth gyflawni ein nodau ynni adnewyddadwy ac fe fydd yn symleiddio'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr.
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau gofal iechyd a chymdeithasol effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel i ddarparu canlyniadau gwell. Ym mis Mai, fe wnaethom ni gyflwyno'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a fydd yn gwahardd gwneud elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn rhan o'n rhaglen ni i drawsnewid gwasanaethau plant. Bydd Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol eleni, yn gwella effeithlonrwydd ac yn canoli gofal iechyd ar y claf ei hun. Ynghyd â'r rheoliadau yn ddiweddarach eleni, fe fydd hynny'n cyflwyno trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau'r GIG i ddiwallu anghenion y sector a'r bobl y mae'n rhoi gwasanaeth iddyn nhw. Mae'r rhain yn enghreifftiau o'r is-ddeddfwriaeth sylweddol sy'n rhoi sail i'n rhaglen ddeddfwriaethol ni, sy'n cynnwys rheoliadau i weithredu Deddfau'r Senedd, fel Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.
Llywydd, fe fydd y Biliau a gyflwynwyd gennym ni yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni newidiadau cadarnhaol i ddemocratiaeth yng Nghymru hefyd. Fe fydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, yn creu Senedd fodern, a fydd yn gallu cynrychioli a gwasanaethu pobl Cymru yn fwy effeithiol. Bydd mesurau pellach i ddiwygio'r Senedd yn cael eu hystyried wrth drafod egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yr wythnos nesaf. Mae'r uchelgais yn gyffredin ar draws y Senedd o ran cyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer Aelodau'r Senedd ac mae fy Llywodraeth i'n barod i gefnogi'r gwaith hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo hefyd i lunio deddfwriaeth i'r Senedd ei hystyried ynglŷn â dichell gan Aelodau'r Senedd ac ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i'r Senedd. Rydym ni'n edrych ymlaen at argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y ddau fater hyn yn rhan o'i waith ar atebolrwydd Aelodau unigol.
Yn ddiweddarach y prynhawn yma, fe fyddwn ni'n ystyried Cyfnod 4 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn datblygu system etholiadol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd yr Aelodau yn ystyried gwelliannau i'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn ddiweddarach heddiw hefyd. Mae'r Bil yn rhan o'n gwaith ni i ddiwygio ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Bydd Bil terfynol ein rhaglen blwyddyn tri, Bil y Gymraeg ac addysg, yn cael ei gyflwyno'r wythnos nesaf. Ein nod ni yw helpu disgyblion yng Nghymru i fedru'r Gymraeg a bod yn annibynnol a hyderus wrth wneud hynny.