– Senedd Cymru am 3:01 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Heddiw, mae hi'n bleser i mi allu nodi'r blaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer fy Llywodraeth i. Rwyf i wedi bod yn eglur y bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar yr hyn sydd bwysicaf ym mywydau pobl bob dydd. Mae ein henw da am gyflawni a'n cynlluniau i'r dyfodol fel ei gilydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i newid radical, blaengar a thrawsnewidiol i bob cwr o Gymru.
Mae ein cyflawniadau deddfwriaethol ni dros y 12 mis diwethaf yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn gan ein bod ni wedi pasio deddfau sy'n hanfodol i ddyfodol Cymru i'r hirdymor. Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn gynharach eleni, yn arddangos ein hymrwymiad ni i wella'r aer yr ydym ni'n ei anadlu a hyrwyddo seinweddau llesol. Wrth i ni symud tuag at allyriadau sero net erbyn 2050, bydd angen trawsnewid ein heconomi i bweru ffyniant gwyrdd. Bydd Deddf Seilwaith (Cymru), a basiwyd ym mis Ebrill, â rhan allweddol wrth gyflawni ein nodau ynni adnewyddadwy ac fe fydd yn symleiddio'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr.
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau gofal iechyd a chymdeithasol effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel i ddarparu canlyniadau gwell. Ym mis Mai, fe wnaethom ni gyflwyno'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a fydd yn gwahardd gwneud elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn rhan o'n rhaglen ni i drawsnewid gwasanaethau plant. Bydd Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol eleni, yn gwella effeithlonrwydd ac yn canoli gofal iechyd ar y claf ei hun. Ynghyd â'r rheoliadau yn ddiweddarach eleni, fe fydd hynny'n cyflwyno trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau'r GIG i ddiwallu anghenion y sector a'r bobl y mae'n rhoi gwasanaeth iddyn nhw. Mae'r rhain yn enghreifftiau o'r is-ddeddfwriaeth sylweddol sy'n rhoi sail i'n rhaglen ddeddfwriaethol ni, sy'n cynnwys rheoliadau i weithredu Deddfau'r Senedd, fel Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.
Llywydd, fe fydd y Biliau a gyflwynwyd gennym ni yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni newidiadau cadarnhaol i ddemocratiaeth yng Nghymru hefyd. Fe fydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, yn creu Senedd fodern, a fydd yn gallu cynrychioli a gwasanaethu pobl Cymru yn fwy effeithiol. Bydd mesurau pellach i ddiwygio'r Senedd yn cael eu hystyried wrth drafod egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yr wythnos nesaf. Mae'r uchelgais yn gyffredin ar draws y Senedd o ran cyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer Aelodau'r Senedd ac mae fy Llywodraeth i'n barod i gefnogi'r gwaith hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo hefyd i lunio deddfwriaeth i'r Senedd ei hystyried ynglŷn â dichell gan Aelodau'r Senedd ac ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i'r Senedd. Rydym ni'n edrych ymlaen at argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y ddau fater hyn yn rhan o'i waith ar atebolrwydd Aelodau unigol.
Yn ddiweddarach y prynhawn yma, fe fyddwn ni'n ystyried Cyfnod 4 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn datblygu system etholiadol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd yr Aelodau yn ystyried gwelliannau i'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn ddiweddarach heddiw hefyd. Mae'r Bil yn rhan o'n gwaith ni i ddiwygio ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Bydd Bil terfynol ein rhaglen blwyddyn tri, Bil y Gymraeg ac addysg, yn cael ei gyflwyno'r wythnos nesaf. Ein nod ni yw helpu disgyblion yng Nghymru i fedru'r Gymraeg a bod yn annibynnol a hyderus wrth wneud hynny.
Llywydd, rwyf i am droi nawr at y Biliau hynny y bydd fy Llywodraeth i'n eu cyflwyno yn ystod gweddill tymor y Senedd hon. Mae agenda ddeddfwriaethol lawn gennym ni o'n blaenau wrth i ni barhau i lunio deddfau a fydd yn sicrhau newid cadarnhaol a blaengar. Mae fy Llywodraeth i wedi ymrwymo i wella rhwydweithiau trafnidiaeth, a helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac adfer yr ymdeimlad o berthyn, cysylltiad a chymuned. Fe fyddwn ni'n ail-lunio'r system drafnidiaeth gyhoeddus mewn modd sylweddol, gan gyflwyno Bil bysiau i ganiatáu cydweithio ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru. Yna fe allwn ni ddylunio rhwydweithiau bysiau sy'n caniatáu i bobl gael gafael ar wasanaethau dibynadwy, cynaliadwy ac a fydd yn rhoi dewisiadau gwirioneddol ar wahân i deithio mewn car.
Llywydd, yn gyfochrog â hyn, rydym ni wedi ymrwymo i foderneiddio tacsis a thrwyddedu cerbydau hurio preifat i greu sector sy'n fwy diogel a theg. Felly, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar Fil drafft tacsis a cherbydau hurio preifat yn nhymor y Senedd hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda theithwyr, yr awdurdodau masnach a thrwyddedu i fwrw ymlaen â diwygiadau trwy ddulliau nad ydyn nhw'n rhai deddfwriaethol. Efallai y bydd yr Aelodau yn dymuno datgan buddiant o ran cwmni Veezu, yn ogystal â'm haelodaeth o undebau llafur Unite a GMB.
Fe fyddwn ni'n parhau i arddangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â bygythiad cynyddol i'r amgylchedd drwy gyflwyno Bil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth. Fe fydd hwnnw'n sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol statudol i Gymru, a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru ac yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol gyda nodau ar gyfer amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Mae'r Bil yn arwydd o'n hymrwymiad amlwg y bydd gweithredu ac arweinyddiaeth yn digwydd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ac fe fydd honno'n dal i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae tomenni glo yn waddol gorffennol glofaol Cymru. Bydd Bil mwyngloddiau a chwareli (tomenni nas defnyddir) yn rhoi mwy o sicrwydd i'r bobl sy'n byw yn eu cysgod nhw. Bydd hwnnw'n amddiffyn seilwaith hanfodol ac yn diogelu'r amgylchedd trwy ymgorffori cyfundrefn reoleiddiol sy'n gynaliadwy, addas i'r diben yn y gyfraith ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir.
Llywydd, rwyf i wedi egluro bod rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y materion mwyaf pwysig yng ngolwg pobl Cymru. Fe ddylai pawb fod â lle y gallant ei alw'n gartref, ac mae diogelwch ein preswylwyr ni'n hollbwysig. Bydd ein Bil digartrefedd yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi ac yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i wella'r system ddigartrefedd a thai yn sylweddol. Fe ddaeth cyfres o is-ddeddfwriaethau i rym ym mis Ebrill a oedd yn cyflwyno rheolaethau adeiladu sy'n fwy tyn. Bydd ein Bil Diogelwch Adeiladau yn ymestyn hynny drwy sefydlu cyfundrefn diogelwch i adeiladau newydd. Fe fydd hyn yn diwygio ystyriaethau meddiannaeth a rheolaeth barhaus ar adeiladau amlbreswyl ac yn mynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn ffyrdd sylweddol.
Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr. Fe fydd yr arian a gaiff ei godi yn cefnogi twristiaeth, yn helpu ein cymunedau ac yn diogelu harddwch Cymru i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y Bil llety ymwelwyr (rheoleiddio) yn gwella'r profiad i ymwelwyr drwy sicrhau bod llety ymwelwyr yn bodloni'r safonau a fydd yn ofynnol. Bydd y Bil yn sefydlu cofrestr o letyau i ymwelwyr ac yn caniatáu i ddarparwyr arddangos eu cydymffurfiaeth â'r gofynion diogelwch.
Mae gwella hygyrchedd ein cyfraith yn agwedd bwysig arall ar ein rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd ein Bil deddfwriaeth nesaf yn diddymu'r darpariaethau anarferedig ac a ddisbyddwyd o'r llyfr statud ac yn ffurfioli'r system o lunio a chyhoeddi offerynnau statudol Cymru. Fe wn i fod yr Aelodau yn awyddus i weld grymuso'r gyfraith gynllunio, a aeth yn fwyfwy anhygyrch a gorgymhleth i weithredwyr a defnyddwyr y system gynllunio. Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil tua diwedd y Senedd hon a fydd yn symleiddio ac yn moderneiddio'r gyfraith yn y maes hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU o ran deddfwriaeth y DU, ac fe fyddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn dilyn Araith y Brenin yn ddiweddarach y mis hwn. Hefyd, fe fydd yna raglen o is-ddeddfwriaeth i weithredu Deddfau a luniwyd i'r DU yn sesiwn flaenorol senedd San Steffan. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, a oedd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflawni diwygiadau yn y maes hwn.
Llywydd, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelodau a phwyllgorau'r Senedd, yn ogystal â'n partneriaid cymdeithasol a'n rhanddeiliaid ni, am eu rhan nhw wrth ddatblygu a chraffu ar y ddeddfwriaeth. Fe fydd ein rhaglen ddeddfwriaethol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac fe fydd yn helpu i wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad, yn amddiffyn ein pobl a'n cymunedau ni, ac yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen hon i'r Aelodau. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio ar y blaenoriaethau hyn i feithrin dyfodol uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach, gryfach a gwyrddach.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rwy'n dweud hyn bob blwyddyn: mae hi'n peri syndod i mi bob amser pan fyddwn ni'n sefyll yma a meddwl yn ôl am ddyddiau'r Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, pryd yr oedd Aelodau, pe bydden nhw'n dymuno, neu hyd yn oed pe byddai'r Llywodraeth yn dymuno dod â deddfwriaeth drwodd, yn gorfod rhuthro i San Steffan a chyflwyno honno fel achos cychwynnol, yn amlwg, ac yna, pe bydden nhw'n cael cymeradwyaeth i honno, fe allen nhw gyflwyno eu Mesurau, fel roedden nhw'n cael eu galw yn y dyddiau hynny, cyn i'r broses ddeddfwriaethol ddechrau, a sut roedd hynny'n ein rhwystro ni yma yn Senedd Cymru rhag cyflwyno deddfwriaeth a ddylai fod, ac rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog, yn ceisio gwella bywydau pobl Cymru a gwella gwasanaethau bob amser. A gyda hynny mewn cof rwy'n tynnu sylw at natur gyfyngedig y rhaglen ddeddfwriaethol a gyflwynodd y Llywodraeth hyd yn hyn. Pan edrychwch chi, ers 2021 yn yr Alban, er enghraifft, mae 43 o Filiau wedi cael eu cyflwyno yn yr Alban; os edrychwch chi ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn San Steffan, sy'n ddeddfwrfa llawer mwy, mae yna tua 165 o Filiau, ac yn y fan hon ers 2021, rydym ni'n sôn am 13 darn o ddeddfwriaeth—13 darn o ddeddfwriaeth. Felly, mae yna ddiffyg o ran uchelgais, fe fyddwn i'n awgrymu, gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog iechyd yn dymuno gweiddi ar draws trwy'r amser heddiw. Pe byddai hi'n gwneud cymaint o ymdrech wrth geisio datrys y rhestrau aros yma yng Nghymru, efallai y byddai gwelliant yn hynny o beth wedyn. Yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud wrth y Prif Weinidog yw ceisio deall yn union sut y bydd y datganiad deddfwriaethol hwn yn gwneud y gwelliannau hynny er mwyn pobl Cymru.
Fe wnaethoch chi siarad am y Bil iechyd a gofal cymdeithasol yn gynnar yn eich datganiad, a gyflwynwyd ym mis Mai. O ystyried y darlun newidiol, oherwydd y newid yn y Llywodraeth yn San Steffan sy'n digwydd yn Lloegr, pan fo'r awdurdodau yma yng Nghymru yn ceisio llawer o wasanaethau, yn enwedig o ran plant sy'n derbyn gofal, ac ymrwymiad Wes Streeting i sicrhau y bydd mwy o ddefnydd o'r sector annibynnol yn narpariaeth y gwasanaethau hynny, pa mor gydnaws fydd y ddeddfwriaeth hon yma yng Nghymru gyda'r fenter polisi i sicrhau mai hwnnw yw'r canlyniad gorau i'r unigolyn mewn gwirionedd, yn hytrach na'r cyfyngiad deddfwriaethol, sy'n cyflawni ar gyfer yr unigolyn hwnnw mewn gwirionedd? Oherwydd mae yna fwlch eang yn agor gyda bwriadau polisi Wes Streeting a'r hyn y mae ef yn awyddus i ddefnyddio'r sector annibynnol ar ei gyfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac, yn amlwg, yr hyn yr ydych chi yn y Llywodraeth yn ei hyrwyddo yn y ddeddfwriaeth hon. Ac os ydych chi'n byw yn y canolbarth, er enghraifft, fe fyddai llawer iawn o'r ddarpariaeth y byddech chi'n ei defnyddio i'w chael dros Glawdd Offa, yn hytrach nac yn ardal Powys, yn amlwg, er enghraifft. Felly, pe gallai'r Prif Weinidog egluro hynny, fe fyddwn i'n ddiolchgar.
O ran y gyfraith diogelwch adeiladau y cyfeiriodd ef ati, a fyddai ef yn cadarnhau heddiw a fydd y gyfraith diogelwch adeiladau honno'n defnyddio adrannau 116 a 124, yn un o'r seiliau i'w chydnawsedd deddfwriaethol, oherwydd mae llawer o ymgyrchwyr sydd wedi tynnu sylw at y darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth yn Lloegr wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hwnnw o ran eu galluogi nhw i geisio adfer a grymuso'r broses o herio datblygwyr am ddiffygion eu hadeiladau yn Lloegr, ond, yn anffodus, nid yw'r Llywodraeth yng Nghymru wedi cyflwyno darpariaethau tebyg hyd yn hyn mewn unrhyw ddeddfwriaeth? Felly, rwy'n gweld yr hyn y mae ef ei ddweud yn y datganiad ynglŷn â bod hyn o gymorth ataliol o ran diogelwch tân. A wnaiff ef gadarnhau heddiw a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ac a fydd hi'n cynnwys hynny yn y ddeddfwriaeth?
O ran y gyfraith gynllunio yn arbennig a'r Ddeddf seilwaith—unwaith eto, maes polisi mawr arall a darlun newidiol yn Lloegr, fel gwelsom ni gan y Canghellor ddoe—. Rwy'n deall gwleidyddiaeth ddatganoledig; yn amlwg, mae gan y Llywodraeth yma'r hawl i fod â'i pholisi ei hun a'i deddfwriaeth ei hun, ond, pan fydd buddsoddwyr yn ceisio rhoi arian mewn prosiectau, maen nhw'n amlwg yn chwilio am y llwybr cyflymaf i'r farchnad a'r fframwaith mwyaf hwylus sydd ar gael iddyn nhw ar gyfer gwneud y dewis hwnnw. Ac er mwyn i Gymru barhau i fod yn gystadleuol, a yw ef yn hyderus mai'r Ddeddf seilwaith a basiwyd y llynedd, rwy'n credu, a'r Ddeddf gynllunio y mae ef yn sôn amdani'n cael ei rhoi ar waith cyn yr etholiad nesaf i'r Senedd, fydd yr amgylchedd mwyaf cystadleuol bosibl wrth barhau i amddiffyn cymunedau rhag gorddatblygu a diogelu, yn y pen draw, yr hyn yr ydym ni'n malio amdano, sef tirwedd a chefn gwlad eang Cymru, sydd yn aml mewn perygl oherwydd datblygiadau nad ydyn nhw'n addas i'r ardaloedd neilltuol hynny.
A wnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig bach am ei farn ef ynglŷn â manteision y Ddeddf tomenni nas defnyddir y mae ef yn sôn amdani—y darn hwn o ddeddfwriaeth? Yn un y mae ei ranbarth ei hun, Canol De Cymru, yn cwmpasu llawer o'r ardaloedd hyn, mae ef yn sôn yn natganiad heddiw, yn amlwg, am seilwaith a diogelu seilwaith a chymunedau. A wnaiff y Prif Weinidog nodi sut y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn gwneud hynny mewn gwirionedd a'r hyn a fydd yn ei gyflawni er mwyn cymunedau, yn enwedig yn yr hen feysydd glo? Oherwydd, yn amlwg, mae yna beryglon difrifol yn rhai o'r cymunedau hynny oni bai fod y tomenni hynny, nid yn unig yn cael eu diogelu gan ddeddfwriaeth, ond hefyd o ran caniatáu deddfwriaeth i gymunedau ac awdurdodau lleol ddefnyddio asedau ar gyfer diogelu'r cymunedau hynny.
Y Bil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth—
Rydych chi wedi mynd dros eich amser. Allai hwn fod yr un olaf os gwelwch chi'n dda?
Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen.
Fe wn i hynny, ond nid oes gennych chi amser.
Rwyf i am sôn ychydig bach am y pwynt olaf hwn felly, os caf i. O ran yr egwyddorion amgylcheddol a'r Bil bioamrywiaeth, fe fydd hwn yn amlwg yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth. Ni fydd y Senedd olaf i ddeddfu darn o ddeddfwriaeth o'r fath—rwy'n credu fy mod i'n gywir wrth ddweud hynny. Mae'r Alban a Lloegr eisoes wedi rhoi deddfwriaeth o'r fath ar y llyfr statud. A fydd hwn yn ddarn unigryw o ddeddfwriaeth, neu a fydd yn ddim ond hybrid o'r hyn a welwyd yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn yr Alban ac yn Lloegr, ac yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru? Felly, a allech chi roi blas i ni ar ei ehangder a'r uchelgais sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth, a beth yn union fydd yr amddiffyniadau sydd ynddo? Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Nid wyf i'n derbyn ei feirniadaeth ef o ran diffyg uchelgais yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Hyd yn hyn rydym ni wedi bod â rhaglen lawn, fel bydd pobl sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau craffu yn ei gydnabod, a'r Gweinidogion yn treialu deddfwriaeth drwodd. Wrth gwrs, yn y dyfodol, fe fydd gennym ni Senedd gyda mwy o allu i graffu ar ddeddfwriaeth. Yr hyn y mae angen i ni ei ystyried hefyd yw sut y byddwn ni'n cyflwyno darn o ddeddfwriaeth addas i'r diben a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Wrth graffu, rwy'n credu bod awydd yn codi yn aml i ychwanegu mwy o bethau at y Biliau sy'n cael eu cyflwyno. Mae hynny'n digwydd ym mhob Senedd, a bod yn deg, ni waeth beth fyddo ei gogwydd gwleidyddol, ond mae cyflwyno Bil ysgubol aruthrol fawr yn ei gwneud hi'n broses lai sicr yn aml a heb ei hanelu mor agos at gyflawni'r gwelliannau gwirioneddol y mae angen i ni eu cyflawni nhw. Felly, rwyf i'n ymddiddori yn y deddfau a all ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau er lles pobl hefyd.
Fe fyddai'n rhaid i mi ddweud fy mod i o'r farn, yn ei sylwadau ef am Wes Streeting, ei fod ef yn chwilio am raniad lle nad oes un yn bod. Mae gennym ni ddiddordeb yn sut rydym ni'n gwella canlyniadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'r Bil y gwnaethom ni ei gyflwyno sy'n diddymu elwa yn ariannol ar wasanaethau gofal preswyl plant nid yn unig yn rhywbeth yr oeddwn yn falch o lofnodi'r datganiad unwaith eto ar ran Llywodraeth Cymru gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n cyflawni canlyniadau gwell. Ar hyn o bryd, mae gennym ni system a fydd yn mynd yn gynyddol gostus heb ymyrraeth, ac mewn gwirionedd rydym ni'n dymuno darparu system gyda chanlyniadau gwell yn ei sgil. Fe fydd canlyniadau sy'n well i'r trethdalwr, ond, yn hollbwysig, fe fydd yna ganlyniadau gwell i'r plant a'r bobl ifanc sy'n cael profiad o fod mewn gofal yn ystod eu hoes. Ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arwain hefyd at newid yng nghyfeiriad y ddadl ynghylch y mesurau yr ydym ni'n ceisio eu llunio ar gyfer gwella canlyniadau gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ac er eu mwyn nhw. Rwy'n awyddus i egluro fy mod i'n falch iawn o hyd o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn parhau i'w wneud o ran cefnogi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal gyda'r cynllun treialu incwm sylfaenol, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r datganiadau gwarthus ac anwir a gafodd eu gwneud am y cynllun treialu hwnnw'n dod i ben nawr am fod cyfres wahanol o ran yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth ar lefel y DU, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ystyried ar bob ochr i'r Siambr hon a'r tu allan iddi.
O ran diogelwch adeiladau, rydym ni wedi ystyried yr hyn sydd yn Neddf Diogelwch Adeiladau'r DU 2022, yn adrannau 116 i 125. Yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru eisoes yw llwybr newydd i fynd i'r afael â diogelwch tân ym mhob adeilad preswyl o 11m a throsodd. Nid yw hynny'n gyfyngedig i adeiladau â chladin ac mae'n berthnasol i faterion diogelwch tân y tu mewn a'r tu allan. Ni yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw, felly mae ein hymagwedd ni'n wahanol i'r un yn Lloegr. Fe wn i fod Julie James wedi mynd dros hynny sawl gwaith yn y Siambr hefyd. Rydym ni wedi bod yn eglur hefyd na ddylid gorfodi llesddeiliaid i dalu am waith i gywiro materion o ran diogelwch tân nad ydyn nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Dyna pam y bydd gennym ni gynllun ar gyfer personau cyfrifol, er mwyn gallu gwahodd pob lesddeiliad yn yr adeilad hwnnw i gael cefnogaeth addas, ac mae gennym ni gefnogaeth ar gael i lesddeiliaid hefyd a allai fod ag angen i weithredu.
O ran y Ddeddf seilwaith, rwy'n credu bod y Ddeddf seilwaith yn ein symud ni ymlaen. Dyna'r diben bwriadol wrth i ni ei basio, ar gyfer ddiweddaru ein strwythur cynllunio fel y gall pobl sy'n dymuno buddsoddi mewn seilwaith a datblygiad mawr yma fod â fframwaith sy'n addas i'r diben ar gyfer gwneud hynny. Ac mae cydbwysedd, fel nododd yr Aelod, rhwng ein huchelgeisiau ni'n fwy eang ar gyfer sicrhau budd economaidd a buddsoddiad mewn seilwaith, yn ogystal â rhai o'r heriau lle mae'r datblygiad hwnnw'n digwydd, a lle bydd seilwaith yn digwydd o'i amgylch hefyd. Dyna pam rydym ni wedi ceisio cydbwyso hynny eisoes ar gyfer rhoi sicrwydd i fuddsoddwyr, ond ar gyfer deall sut y gall pobl ddylanwadu ar y system gynllunio a'r ystyriaethau i'w gwneud yn iawn wrth wneud felly.
Er enghraifft, ni fyddwn i'n credu y byddai hi'n beth synhwyrol, o ystyried yr egni a'r ymdrech a roddwyd i adfer mawndiroedd ledled Cymru, i aredig ardaloedd eang o'r mawndir hwnnw gyda'r holl fudd sylweddol ychwanegol y mae'n ei roi i fioamrywiaeth yma yng Nghymru hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y ddeddfwriaeth sydd gennym ni o gymorth gyda sicrwydd o'r fath i fuddsoddwyr, oherwydd rwy'n awyddus i weld buddsoddiad yn digwydd yma yng Nghymru. Rwy'n awyddus i'w weld yn digwydd pan fyddwn ni'n cael swyddi yn dod yn ei sgil, nid cyfle i ennyn un rhan o'r gadwyn economaidd a dyna i gyd.
Bil i gydgrynhoi yw'r Bil cynllunio mewn gwirionedd, ac mae hi'n dal i fod yn bwysig sicrhau bod y ddeddfwriaeth gynllunio sy'n berthnasol gennych chi i gyd mewn un lle. Y perygl fel arall yw bod ystyriaethau cynllunio gennych chi mewn gwahanol rannau o'n fframwaith deddfwriaethol, a bod angen llawer o allu cyfreithiol a chwilio arnoch chi ar gyfer sicrhau eich bod chi'n casglu hynny i gyd mewn un lle. Nawr, os ydych chi'n awdurdod cynllunio sydd ag adnoddau da neu'n ymgynghorydd cynllunio sy'n gweithio yn y sector preifat, mae gennych chi'r gallu i wneud hynny. A dweud y gwir, mae yna elfen o ansicrwydd y gallwn ni helpu i'w lliniaru eto pe byddwn ni'n yn pasio'r Bil cynllunio yn y ffurf y cyflwynir ef. Rwyf i o'r farn, unwaith eto, y bydd yn llesol i fusnesau, yn llesol i'r awdurdodau lleol, ac yn llesol i drigolion a chymunedau unigol fod ag un lle i fynd iddo ar gyfer ystyriaethau cynllunio.
O ran y Bil llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth, fe fydd hwnnw, fel dywedais i yn y datganiad, yn nodi ein hymrwymiadau ni ar gyfer adferiad a gwelliant. Felly, fe fydd y Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth yn unigryw i Gymru o ran ei ystyriaeth o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yma yng Nghymru, ond wrth gwrs, fe fyddwn ni wedi achub ar y cyfle i ddysgu o'r hyn a wnaeth rhannau eraill o'r DU, a dyna'r hyn y dylem ni ei wneud. Ni ddylem ni fod yn ofni dysgu a sylwi ar syniadau da eraill y gallem ni eu cymhwyso yma, ac, yn yr un modd, fe ddylem ni fod â bwriad amlwg yn ein penderfyniad i fod â deddfwriaeth sy'n wirioneddol addas i'r diben. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn craffu ar y ddeddfwriaeth honno i sicrhau eu bod nhw'n fodlon ar y cynllun a nodwyd gennym, ond ar y nodau a fydd gennym ni hefyd ar gyfer adfer a gwella bioamrywiaeth a natur ledled y wlad.
Pan ddaeth o'n Brif Weinidog yn ôl ym mis Mawrth, mi amlinellodd y Prif Weinidog ei uchelgais o i gyflawni newid cadarnhaol a blaengar, ac mi oeddem ni ar y meinciau yma yn barod i hyrwyddo'r weledigaeth honno, mewn ffordd, ac i weithio'n adeiladol efo'r Llywodraeth i'w chyflawni. Ac, wedi'r cyfan, mi oedd cyflawni newid cadarnhaol a blaengar wrth wraidd y cytundeb cydweithio a oedd eisoes wedi cyflwyno mentrau arloesol iawn mewn meysydd o brydau ysgol am ddim, gwarchod y farchnad dai, gofal plant, diwygio'r Senedd, ac yn y blaen.
Ond wrth i'r Prif Weinidog symud o un sgandal i'r llall ohono'i hun o'r cychwyn cyntaf, mi hefyd welsom ni y weledigaeth uchelgeisiol yna yn cael ei gwthio i'r naill ochr a nifer o ymrwymiadau deddfwriaethol uchelgeisiol yn cael eu rhoi ar y silff wrth i'r Llywodraeth, dwi'n ofni, flaenoriaethu amddiffyn ei buddiannau ei hun yn hytrach na delifro ar ran pobl Cymru. Ac, yn wir, os ydy Keir Starmer rŵan wrth ddod yn Brif Weinidog yn ddiffuant wrth iddo fo ddweud ei fod o'n dymuno gweld Llywodraeth yn troi nôl at eu priod waith o wasanaethu pobl sy'n eu hethol nhw, mi fyddai'n gwneud yn dda i'r Prif Weinidog fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd, dwi'n meddwl, dros y pedwar mis diwethaf.
Rydym ni yn y sefyllfa anffodus erbyn hyn o fod â rhagor i'w ddweud am yr hyn a adawyd allan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth na'r hyn sydd ynddi hi: mae trefniadau llywodraethu amgylcheddol ôl-Brexit sydd wedi bod ar waith ers amser maith mewn gwledydd eraill yn y DU yn cael eu dal yn ôl o hyd; oedi mesurau arloesol i greu Senedd gytbwys o ran rhywedd dro ar ôl tro, o bosibl o nawr tan 2030; gweithredu pecyn trawsnewidiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor, a ddatblygwyd yn rhan o'n cytundeb cydweithio, sy'n cael ei wthio yn ôl tan ar ôl yr etholiad nesaf i'r Senedd. Rydych chi'n gwarantu y bydd yr aelwydydd mwyaf difreintiedig yn dal i gael eu cosbi yn anghymesur gan system sy'n annheg, atchweliadol a hen ffasiwn am o leiaf bedair blynedd arall.
Nawr, yng nghanol y siomedigaethau hynny i gyd ac, wyddoch chi, siomedigaethau mawr, mae ambell i lygedyn o obaith y byddem ni'n sicr o ddal ati i annog y Llywodraeth i beidio â cholli golwg arnyn nhw yn ystod y flwyddyn a hanner sydd ar ôl yn nhymor y Senedd hon. Rydym ni o'r farn fod diwygio masnachfreintiau bysiau i gysylltu ein cymunedau a gafodd eu datgysylltu yn hanfodol a bod angen gwneud hynny ar fyrder. Rwy'n croesawu'r hyn a gawn ni yn y datganiad heddiw ynglŷn â deddfwriaeth i hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu'r Gymraeg i bawb, a meithrin sector twristiaeth mwy cydnerth yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu'r ffaith hefyd fod y Llywodraeth wedi addo cyflwyno deddfwriaeth i wahardd dweud celwyddau mewn gwleidyddiaeth, mewn ymateb i waith da fy nghyd-Aelod, Adam Price.
Ond, ar y cyfan, rwy'n credu bod pobl Cymru ag angen a dyhead am fwy na'r hyn sydd gennym ni yn y rhaglen hon. Maen nhw'n hiraethu am fwy o degwch ac uchelgais i Gymru sef yr hyn sy'n ysgogi ein grŵp newydd, estynedig ni o ASau o Blaid Cymru yn San Steffan. Fe fyddan nhw'n sicr yn cyflwyno'r achos yn San Steffan am gyllid teg ar gyfer cyfran deg Cymru o HS2, a hefyd am fesurau i frwydro yn erbyn tlodi plant a sicrhau datganoli pellach, gan gynnwys Ystad y Goron. Ond fel dywedais i, yr hyn sy'n amlwg yn yr agenda ddeddfwriaethol hon a glywsom ni'n cael ei hamlinellu heddiw yw'r hyn sydd ar goll ohoni.
Er enghraifft, mae hi'n nesáu at chwe mis erbyn hyn ers i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi ei adroddiad terfynol. Nid oes unrhyw beth yn cael ei amlinellu yma a fyddai'n cyflawni unrhyw un o'i argymhellion, argymhellion yr hoffai'r Senedd hon eu gweld nhw'n cael eu derbyn yn llawn a hynny ar fyrder. Nid oes unrhyw beth yn cael ei amlinellu o ran braenaru'r tir ar gyfer datganoli pellach, gan gynnwys trosedd a chyfiawnder, rhywbeth y mae Llafur yng Nghymru wedi ei honni ers amser maith ei fod yn flaenoriaeth, ond y mae'r Ysgrifennydd Gwladol newydd wedi diystyru hynny'n fynych ac yn benodol. Os yw'r agenda ddeddfwriaethol hon yn cynrychioli cwmpas uchelgais Llafur i Gymru, wel, fe fydd llawer o bobl yn cael eu siomi. Rwy'n eiddgar i weld Llywodraeth sy'n gwthio'r ffiniau o ran yr hyn y gall y setliad datganoli presennol ei gyflawni, ac nid dyna'r hyn sydd gennym ni ger ein bron heddiw.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru'n glir am y mathau o bethau rydym ni'n credu y dylai Llywodraeth ddatganoledig geisio eu cyflawni ar gyfer Cymru. Mi wnawn ni amlinellu llawer o'r rheini rhwng rŵan a mis Mai 2026: sicrhau datblygiad economaidd yn seiliedig ar dargedau uchelgeisiol; strategaeth wirioneddol ar gyfer brwydro yn erbyn tlodi plant—eto, efo targedau mesuradwy; cronfa gyfoeth sofran i Gymru sy'n sicrhau bod refeniw ein hadnoddau naturiol ni yn cael ei gadw a'i fuddsoddi yma yng Nghymru.
Rydym ni'n clywed yn aml, onid ydyn, Ddirprwy Lywydd, fod yn rhaid i Lywodraethau Llafur ar y naill ben i'r M4 gydweithio efo'i gilydd er mwyn budd Cymru. Wel, os ydy hynny'n wir, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi fod yna ddim esgus bellach i Lywodraeth Lafur Cymru beidio â bod yn uchelgeisiol wrth gynllunio ei hagenda, achos mae'r hyn sydd wedi'i gyflwyno heddiw, mae gen i ofn, yn fyr iawn o'r hyn rydym ni fel plaid, ac yn bwysicach fyth, o'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl?
Wel, roedd rhai o'r sylwadau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio at y rhaglen ddeddfwriaethol, ond nid oedd llawer ohonyn nhw'n ymwneud â'n rhaglen ddeddfwriaethol ni na'r anghydweld syml rhwng ein pleidiau o ran cyfeiriad y dyfodol i Gymru. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n credu yn nyfodol yr undeb sy'n cyflawni ar gyfer Cymru a Phrydain, fy mod i'n awyddus i weld diwygio er mwyn i hynny ddigwydd. Mae cyfle gennym ni i fwrw ymlaen â datganoli, nawr bod Llywodraeth Lafur gennym ni sydd o blaid datganoli yn y DU. Fe ellid ac fe ddylid cyflawni llawer yn hynny heb angen gweld unrhyw ddeddfwriaeth ychwanegol er mwyn i hynny ddigwydd.
Rwy'n edrych ymlaen at adferiad rhai pwerau. Rwy'n edrych ymlaen at weld meysydd newydd o ddatganoli yn dod i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru, ac nid wyf i'n credu bod angen gweledigaeth arnom ni sy'n ceisio ail-lunio'r sefyllfa wirioneddol o ran yr hyn a wnaethom ni eisoes, boed hynny trwy'r cytundeb cydweithio neu'r ymrwymiadau a wnaethom ni, neu'r sefyllfa wirioneddol o ran y ffordd yr ydych chi'n cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol mewn gwirionedd. Mae hi'n cymryd amser i ddatblygu a mynd drwy'r cyfnodau sy'n ymgysylltu ag unrhyw bolisi, y Papur Gwyn, ac ymgysylltu wedyn â Biliau i'w rhoi gerbron y Senedd. Fe allai'r syniad y gallem ni lunio rhestr o saith neu wyth o wahanol Filiau fel awgrymodd yr Aelod a allai fod yn digwydd, ond nid yw hynny'n realistig iawn ac nid yw'n brosbectws diffuant i'w roi gerbron pobl Cymru.
Fodd bynnag, rydym ni'n dal ati i weithio drwy nifer o feysydd sy'n dilyn yn ddidwyll o'r cytundeb cydweithio. Rydym ni wedi bod yn onest o ran y cynnydd hyd yma gyda diwygiadau i'r dreth gyngor, ac fe fu yna drafodaethau gwirioneddol barchus ac adeiladol ynglŷn â hynny. Nid wyf i'n ystyried hynny'n fethiant; rwy'n ystyried hynny'n onestrwydd o ran ein sefyllfa bresennol, ac nid oedd yr arian i'w gael gennym ni i gyflawni'r math o gynllun y byddai angen i ni ei lunio. Wrth ymdrin â'r argyfwng costau byw sy'n parhau, ni fyddai cyflawni cynllun a fyddai wedi cymryd arian i'w rannu â'r aelwydydd mwyaf cefnog, yn fy marn i, wedi bod yn rhywbeth y gallem ni ei wneud ar hyn o bryd. Fe fyddai angen i ni fod â rhywbeth ar gyfer pontio i'r cynllun. Mae honno'n sgwrs ddiffuant a gafodd ei chynnal. A phan fo hynny'n digwydd ynghylch ble rydym ni am gyrraedd gyda Chyfnod 1 ar y Bil rhestrau ymgeiswyr, rwyf i o'r farn, unwaith eto, fod gonestrwydd ynghylch y sefyllfa fel ag yr oedd hi ar ddiwedd cyfnod fy rhagflaenydd i yn y swydd, ynghylch yr angen i ddeall yr adroddiad Cyfnod 1 hwnnw ac ystyried hwnnw, a deall sut yr ydym ni am fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Rydym ni wedi gweithredu gyda didwylledd, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud felly. Dyna pam y gwelwch chi ymrwymiadau o hyd o ran yr ardoll ymwelwyr a'r Biliau llety ymwelwyr yn y datganiad hwn, oherwydd rydym wedi gwneud ymrwymiadau yr ydym ni'n cadw atyn nhw. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i gyflawni yn unol â'r Bil bysiau, oherwydd rydym ni'n deall y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ledled Cymru, ar gyfer bod â dull llawer mwy rhesymol o fuddsoddi arian cyhoeddus yn ein rhwydwaith bysiau. Rydym ni eisoes yn buddsoddi llawer iawn yn y rhwydwaith bysiau. Arian cyhoeddus yw'r rhan fwyaf o'r arian sy'n mynd i gynnal bysiau yng Nghymru. Os byddwn ni'n pasio'r Bil, fe fydd gennym ni ffordd lawer gwell o reoleiddio hynny, a deall sut mae'r masnachfreintiau yn gweithio, a sicrhau bod yr arian yn cyflawni ei bwrpas economaidd a chymdeithasol gwirioneddol hefyd. Fe ddylem ni fod â rhwydwaith bysiau gwell o ganlyniad i hynny.
Rwy'n falch o'r rhaglen yr ydym ni'n ei rhoi gerbron y Senedd. Rwy'n credu y bydd pasio'r Biliau hyn yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau pobl ledled Cymru. Fe fydd yn ein galluogi ni i ddod wyneb yn wyneb â phobl a dweud y bydd yr hyn a wnaethom ni yma wrth basio cyfreithiau wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau nhw o ddydd i ddydd—a mwy na hynny: y pwerau a chyfrifoldebau eraill i gyd sydd gennym ni yma nad oes angen deddfwriaeth i'w gwireddu ond sy'n gyfran fawr iawn o'n hagenda ni o ran gwneud gwahaniaeth i bobl yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw ddiffyg o gwbl yn yr uchelgais, na'r gofyniad i fod â'r uchelgais honno, i ddyfodol Cymru. Rwyf i o'r farn fod cyfle gwirioneddol gennym ni nawr i fod â dwy Lywodraeth sy'n gallu bod yn bartneriaid gwirioneddol yn llwyddiant Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at arwain y Llywodraeth hon i wneud hynny'n union.
Mike Hedges, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Rydych chi wedi galw arnaf i ar gyfer yr un anghywir; rwyf yn ymwneud â'r dreth trafodiadau tir.
Mae'n ddrwg gen i, Mike, rydych chi ar y rhestr hon. [Torri ar draws.] Nac oes, nid oes ganddo ef 5 munud. [Chwerthin.] Ac felly, Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad chi yma heddiw. Yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n croesawu eich cyfeiriad chi at y gwaith pwysig y mae fy mhwyllgor i'n ei wneud ar atebolrwydd Aelodau unigol a'ch bod chi unwaith eto wedi datgan yr ymrwymiad i ganiatáu deddfwriaeth ar fater pwysig dichell. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod posibilrwydd gan y gwaith hwnnw i alluogi ein Senedd ni i fod yn Senedd enghreifftiol yn y DU ac y bydd o gymorth wrth adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwleidyddiaeth?
Yn ail, Prif Weinidog, fe hoffwn i droi at y Bil bysiau, deddfwriaeth sydd o'r pwys mwyaf i'm hetholwyr i, ac yn hanfodol, wrth gwrs, i ddadwneud y difrod a wnaethpwyd i'n rhwydwaith bysiau gan ddadreoleiddio Thatcher flynyddoedd maith yn ôl. Rwy'n croesawu'r cynlluniau i ail-lunio ein gwasanaethau bysiau yn sylweddol, ac rwy'n nodi eich sylwadau chi am weithio gyda phob lefel o'r Llywodraeth er mwyn cyflawni hynny. Mae gan ein cymunedau a grwpiau eraill fel yr undebau llafur sy'n cynrychioli gyrwyr bysiau swyddogaeth hanfodol hefyd. Felly, sut gellid annog y cyfranogiad ehangaf posibl gan gymdeithas sifil wrth i'r cynlluniau gael eu datblygu?
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf i am fynd i'r afael â'ch sylwadau chi fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn gyntaf, ac yna â'r hyn yr wyf i'n credu sydd o fwy o ddiddordeb i etholaeth yn y Bil bysiau.
O ran safonau, rydym ni i gyd yn deall pam rydym ni wedi dod at drafodaeth ynghylch adalw, yn dilyn cosb sylweddol yn erbyn un Aelod a'n dealltwriaeth ni o sut wedd ddylai fod ar ein cyfundrefn. Mae hynny'n rhannol oherwydd newidiadau a wnaeth Senedd y DU, ac yn rhannol am ein bod ni i gyd, ar draws pleidiau, o'r farn nad dyna'r ffordd y dylid ymdrin â'r materion hyn yn y dyfodol. A'r un pwynt ydyw hwnnw ynglŷn â dichell: mae hyn yn ymwneud â'r pwynt ynghylch y safonau a ddisgwyliwn gan Aelodau, ac, yn yr achos hwnnw, gan ymgeiswyr i'r Senedd hefyd.
Yr hyn yr wyf i'n ymddiddori ynddo yw'r cynllun cydlynol y gallem ni fod ag ef o ran ystyriaeth briodol yn y Senedd hon o'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl gan ein gilydd, yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gennym ni, sut mae'r dewisiadau hynny'n cael eu gwneud, a chanlyniadau'r dewisiadau hynny hefyd wedyn. Rwyf i o'r farn fod materion i'w hystyried o ran gwelliannau a wnaethpwyd yn Senedd y DU—rwy'n credu bod y broses adalw yn well—ond i ystyried meysydd hefyd lle na fyddwn i mor awyddus i ddilyn y patrwm yn San Steffan.
Rwy'n credu mai camgymeriad oedd bod â phroses ar wahân ar gyfer achosion unigol o aflonyddu ar staff yn sefyll ar wahân i ymddygiad Aelodau. Mae datgysylltu'r rhain, yn fy marn i, yn gwneud y system yn llai cydlynol. Mae gen i ddiddordeb o ran sut, gan weithio gyda thrawsbleidiol y pwyllgor safonau, gallwn fod â chynllun gwirioneddol gydlynol sy'n edrych ar bob math o ymddygiad y gallem ni ac y dylem ni ei ddisgwyl gan Aelodau, y broses gwneud penderfyniadau, ac yna'r arbenigedd i ymgymryd â hynny hefyd.
Nid yw honno'n feirniadaeth o unrhyw unigolyn a allai fod yn gomisiynydd safonau, ond ni fyddech chi'n disgwyl i unrhyw unigolyn fod â'r holl ddealltwriaeth angenrheidiol i ymchwilio i bob cwyn unigol a allai godi. Felly, mae hyn yn ymwneud a sut i fod â system sy'n cefnogi pwy bynnag fo yn gomisiynydd i gynnal ymchwiliadau. Fe fues i'n ddigon ffodus i fod yn gynrychiolydd undeb llafur ac yn gyfreithiwr cyflogaeth, ac felly rwyf i'n deall rhannau helaeth o sut mae byd gwaith yn gweithio, gan gynnwys, am i mi fod yn gyfreithiwr gwahaniaethu arbenigol—. A dweud y gwir, fe all hyn fod yn heriol ac yn wahanol. Mae yna gyfreithwyr cyflogaeth nad ydyn nhw'n arbenigwyr ac nid yw'r un ddealltwriaeth nac arbenigedd ganddyn nhw.
Felly, mae yna rywbeth ynglŷn â sut y byddwn ni'n cefnogi pwy bynnag fyddo'r comisiynydd i gael gafael gwirioneddol ar y gefnogaeth briodol i ymgymryd â'r gwaith ymchwilio, a sicrhau bod gennym gynllun cydlynol wedyn a fydd yn diwallu'r awydd trawsbleidiol gwirioneddol i rymuso ein proses. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo yn ddifrifol i ganiatáu i'r Senedd ystyried cynllun cydlynol ac y gall Aelodau bleidleisio ar hwnnw cyn diwedd y tymor hwn, felly mae hwnnw ar waith ar gyfer tymor y Senedd nesaf yn 2026.
O ran y Bil bysiau, rwy'n credu mai hwnnw yw un o'r darnau mwy cyffrous o ddeddfwriaeth a fydd yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym ni'n siarad amdano mor aml. Ni fydd pawb o'r cyhoedd yn cyffroi pan ddywedir wrthyn nhw fod gwleidyddion am lunio deddf newydd, ond rwy'n credu y bydd hon yn un a fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol gwirioneddol ar draws cymunedau. O fewn y gymuned y mae'r Aelod yn ei chynrychioli, fe fydd bod ag ymagwedd fwy cydlynol tuag at wasanaethau bysiau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol—ac yn fy etholaeth innau hefyd. Fe all pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, dynnu sylw at y mannau y byddai system well o reoleiddio a chymorth bysiau yn gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol ac er gwell.
Rydym ni'n cynnig system newydd, i symud i ffwrdd oddi wrth ffordd hynod anstrategol ac aneffeithlon o fuddsoddi arian cyhoeddus at un lle gallwn ni fod â mwy o gydlyniad a gwaith gwirioneddol gyda'r awdurdodau lleol ar gyfer deall y llwybrau angenrheidiol yn y broses o gomisiynu a masnachfreinio priodol, yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, gyda'r awdurdodau lleol yn ceisio achub llwybr sy'n hanfodol yn gymdeithasol ond nad yw'n gallu gwneud elw i gwmni preifat. Fe fydd yn symud oddi wrth fod yn broses o gystadleuaeth am ddim ond y llwybrau sy'n gwneud yr elw mwyaf gan anwybyddu'r rhai sydd o werth cymdeithasol enfawr. Ar hyn o bryd, mae'r pwysau i gyd ar yr awdurdodau lleol a'r Llywodraeth i fod, os hoffech chi, yn fuddsoddwr yn niffyg dim arall. Fe allwn ni wneud yn well na hynny, ac fe fydd y Bil bysiau, rwy'n credu, yn dangos ffordd i ni wneud hynny mewn partneriaeth wirioneddol â chydweithwyr ar draws llywodraeth leol a thu hwnt i hynny.
Prif Weinidog, a gaf i ddechrau drwy gydnabod digwyddiadau'r wythnos diwethaf? Rwy'n gobeithio y gall eich Llywodraeth chi a'n Llywodraeth newydd ni yn y DU ddod â buddiannau i Gymru. Rwy'n edrych ymlaen at wneud fy rhan wrth graffu ar y cynnydd yn hynny o beth. Mae angen i ni weld buddiannau yn llifo o'r berthynas newydd honno.
O ran y rhaglen ddeddfwriaethol, er nad wyf i am fyfyrio gormod ar yr hyn sydd ynddi hi, rwy'n cydnabod bod rhai pethau da yn cael eu cyflwyno ynglŷn â'r amgylchedd a chynllunio a phethau o'r fath. Rwyf i am ganolbwyntio mwy ar yr hyn nad oes i'w gael ynddi. Fe wn i nad oes amser nawr i gynnwys hyn, mae'n debyg, ond mae'n siŵr eich bod chi'n gwybod am fy niddordeb i mewn bwyd, felly roeddwn i'n siomedig nad oedd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cydnabod pwnc hanfodol diogeledd bwyd. Fe geir llawer o sôn am fioamrywiaeth, yr amgylchedd, a phethau o'r fath. Y peth sylfaenol sy'n deillio o hynny yw bwyd. Mae diogeledd bwyd mor sylfaenol i'r genedl hon—yn wir, i'r byd cyfan—ac mae angen i ni wneud mwy ynglŷn â hyn.
Er i fy Mil bwyd drengi, ac nid wyf i'n galaru amdano, roedd cryn gefnogaeth iddo o bob cwr o'r wlad, gan iddo gydnabod pwysigrwydd y pwnc pwysig hwn o ran cael bwyd lleol i mewn i bobl leol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol allweddol. Rwy'n croesawu swyddogaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wrth geisio codi proffil diogeledd bwyd, a'r hyn y mae ef yn ei wneud eisoes. Ond a gaf i eich annog—
Peter, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch chi'n dda.
Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n credu bod gennyf i ragor o amser.
Nac oes, un munud i bob unigolyn.
Y cwestiwn, Prif Weinidog, yw hwn: a gaf i awgrymu gyda phob parch bod angen i'ch Llywodraeth chi gymryd y pwnc hwn o ddifrif a chymryd camau i ddeddfu ar gyfer sefydlu dull ar sail Cymru gyfan o ran diogeledd bwyd a'r system fwyd, yn hytrach nag arddull mwy tameidiog, fel sydd i'w weld ar hyn o bryd?
A gaf i groesawu'r sylwadau cymodol a chadarnhaol a wnaeth yr Aelod ar y dechrau? Rwy'n meddwl yn aml fod gan yr Aelod hanes y tu allan i'r Siambr hon o orfod gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol Llafur a'i fod wedi gallu gwneud hynny mewn ffordd bragmataidd ar gyfer cyflawni amcanion. Roeddwn i eisiau gwneud hynny gyda'r Llywodraeth flaenorol. Roedd yna adegau y buon ni'n gallu gwneud hynny, ond gobeithio y cawn ni fwy o gyfle i fod o fudd i'r wlad nawr. Ac rwy'n parchu'r ffaith y bydd yr Aelod yn craffu ac yn ein herio drwy gydol y broses honno.
O ran bwyd a diogeledd bwyd, rwy'n croesawu menter comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag edrych ar y ffyrdd y gallwn ni ddarparu bwyd mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy ar ein cyfer ein hunain, a'r hyn y mae'n ei olygu i allforion bwyd hefyd. A dweud y gwir, mae'r twf sylweddol yn niwydiant bwyd a diod Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol nad ydym ni'n sôn digon amdano, ac mae hwnnw'n llwyddiant gwirioneddol mewn sawl ardal o Gymru. Ac mae'n ychwanegu gwerth at hynny hefyd, felly nid dim ond gwerthu'r cynnyrch amrwd yr ydym ni. Rwy'n gwybod nad yw Alun Davies yn y Siambr heddiw, ond pan honnodd ef y byddwn ni'n cynyddu cynhyrchiant bwyd a diod y genedl a gwerth economaidd hynny, roedd llawer o bobl o'r farn na fyddem ni'n cyflawni'r gwahaniaeth yr oedd ef yn sôn amdano. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi rhagori ar hynny. A'r pwynt hefyd ynglŷn â mynd ymhellach i fyny'r gadwyn ar gyfer gwerth economaidd a gweithgynhyrchu bwyd. Mae'r rhain yn parhau i fod yn bethau y mae angen i ni eu gwneud ac fe allwn ni eu gwneud nhw mewn ffordd wirioneddol gynaliadwy.
Rwy'n credu bod hon yn enghraifft wirioneddol dda o rywbeth nad oes angen i chi newid y gyfraith ar gyfer gwella canlyniadau. Mewn gwirionedd, dyma'r ffordd yr ydym ni'n cydbwyso ein cyfrifoldebau amgylcheddol ar gyfer cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel. Fe fydd hynny'n ein helpu ni i sicrhau diogeledd bwyd a deall o ble mae ein bwyd ni'n dod—y bwyd yr ydym ni'n ei allforio a'i fewnforio—mewn ffordd lle mae gwir grebwyll o ran sut beth yw cynaliadwyedd mewn system fwyd gyfan. Fe fydd hynny'n ymdrin hefyd â rhai o'r heriau yr wyf i'n credu byddwn ni'n eu hwynebu o ran rhai o'r sylwadau y mae Jenny Rathbone yn eu gwneud yn rheolaidd ynghylch angen deall effaith bwyd nad yw'n iach ar iechyd y cyhoedd a sut y byddwn ni'n ymdrin â bwyd a gafodd ei brosesu hefyd. Rwy'n credu bod hon yn ddadl gron y gallwn ni ei chael nad yw hi o reidrwydd yn gofyn am newid ar raddfa fawr yn y gyfraith ond sy'n gofyn am wahaniaeth o ran dulliau o weithredu a dulliau ynglŷn ag adnoddau a pholisi.
Brif Weinidog, buaswn i’n hoffi gwybod, plis, faint o flaenoriaeth bydd y Mesur diogelwch tomenni glo i’ch Llywodraeth. Pryd fydd pobl y Cymoedd yn gallu gweld y ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno, plis? O ystyried hefyd y gwaith manwl sydd wedi cael ei wneud o sgrwtineiddio gan bwyllgor newid hinsawdd y Senedd ar Ffos-y-frân a llefydd opencast, a fyddech chi’n ystyried ehangu sgôp y Mesur hwnnw i gynnwys y llefydd hynny?
Pan wnaethoch chi gwrdd â Syr Keir Starmer ddoe, a wnaethoch chi ailadrodd wrtho fe eich cred y dylai cost clirio’r tomenni glo gael ei rhannu gyda San Steffan? Achos dydy'r gwirionedd sylfaenol hwnnw, yr achos moesol, heb newid dim. Felly, rwy'n cymryd bod eich safbwynt chi ar hwnna heb newid ychwaith.
Yn olaf, Brif Weinidog, mae eich datganiad yn sôn am Fil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth. Rwyf wir yn croesawu hynny. A fyddech chi'n gallu cadarnhau y bydd hwnna yn ateb galw'r RSPB ac eraill i wella bioamrywiaeth erbyn 2030 ac iddo fe fod mewn sefyllfa iach a gwydn erbyn 2050? Os gallech chi roi diweddariad i ni ar hynny. Diolch yn fawr iawn.
Ar y cwestiwn olaf yn gyntaf, rydym ni'n disgwyl gallu ateb galwad ystod o weithredwyr ym maes eiriolaeth natur yn fwy eang gyda golwg ar welliant sylweddol erbyn 2030 a gwelliant pellach y tu hwnt i hynny. Felly, rwy'n credu y gall pobl fod yn gadarnhaol nid yn unig o ran cael datganiad, ond pan gyhoeddir manylion y Bil hefyd. Rwy'n credu bod hynny, a'ch cyfeiriad chi at y Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir), yn rhan o'r anghytundeb sylweddol sydd gennyf i gydag arweinydd Plaid Cymru ynglŷn â bod hon yn rhaglen nad yw hi'n uchelgeisiol rywsut. Fe fydd y ddau ddarn yma o ddeddfwriaeth ar eu pennau eu hunain yn gwneud gwahaniaeth mawr ar draws y wlad—newid cadarnhaol mawr wrth ein helpu ni i fod â ffordd amgen o reoli'r amgylchedd a deall sut y gallwn ni wneud chwareli a thomenni nas defnyddir yn ddiogel. Am fod gormod o bobl yn byw eu cysgod nhw. Mae gennym ni niferoedd anghymesur o'r rhain yng Nghymru, oherwydd ein gorffennol diwydiannol. Mae hynny'n wir yn y gogledd, de a'r gorllewin. Felly, nid mater sy'n canoli ar un rhan o'r wlad yn unig mohono.
Rwy'n wirioneddol falch y byddwn ni'n cyflwyno'r Bil hwnnw. Fe ddylid ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn eleni. Dyna yw ein cynllun ni. Rwy'n credu y byddwch chi'n croesawu'r Bil pan fyddwch chi'n ei weld, er bod dewis ynghylch peidio â chynnwys glo brig ynddo. Fe fyddai hynny'n ehangu'r cyrhaeddiad deddfwriaethol yn sylweddol, ac rwy'n credu bod angen darn gwahanol o ddeddfwriaeth arnom ni i ystyried rheoli ac adfer glofeydd brig yn y dyfodol. Ystyr hyn yw mynd i'r afael â chwareli a mwyngloddiau nas defnyddir, sy'n ymgymeriad sylweddol ynddo'i hunan, a dyna'r hyn yr ydym ni wedi ymrwymo i'w wneud. O ran eich pwynt ynghylch cefnogaeth i'r dyfodol ar gyfer sut i gyflawni'r gwaith hwn, rwyf i wedi cynnal trafodaethau eisoes gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Prif Weinidog ynghylch y ffaith fod honno'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rwy'n disgwyl y byddwn ni'n gwneud ceisiadau pellach am gyllid yn y dyfodol.
Un o'r pethau mwy siomedig yn y gorffennol diweddar yw bod cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru erbyn hyn wedi cytuno i gefnogi cais am gyllid i ddod i Gymru—ac mewn gwirionedd, yn nhermau gwariant y DU, nid oedd hwnnw'n swm enfawr o arian. Ac yna fe wrthododd yr ymrwymiad hwnnw ac fe wrthododd wneud a chefnogi cais i'r adnodd hwnnw ddod yma. Rwy'n credu y gallwn ni fod yn hyderus y bydd newid gwirioneddol a sylweddol gyda'r bartneriaeth newydd sydd gennym ni. Ymhell o gael ein siomi gyda'r partneriaid sydd gennym ni nawr, rwy'n credu bod achos gwirioneddol i optimistiaeth a bod yn gadarnhaol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at allu cyflawni hynny.
Hoffwn i sôn yn fyr am y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Yn gyntaf, rwy'n falch o fod mewn Cymru sy'n ceisio dileu'r elw o ofal. Ac rwy'n annog pawb, yn enwedig os oes amheuwyr yn y Siambr—er enghraifft, efallai arweinydd y Ceidwadwyr—i gyfarfod â rhai o'n pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Dywedodd Georgia Toman ei bod yn teimlo ei bod yn cael ei hecsbloetio gan gwmnïau preifat sy'n gwneud elw ar draul pobl ifanc ofnus sydd wedi dioddef trawma. Felly, byddaf yn siarad ag arweinydd yr wrthblaid i weld a allwn wneud y cysylltiad hwnnw fel y cewch gyfle i wrando ar ein pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Ond mae'r ail fater i mi yn ymwneud â gofalwyr di-dâl. Ar hyn o bryd, nid yw ffurflenni monitro cydraddoldeb yn gofyn a oes gan rywun gyfrifoldebau gofalu di-dâl. Nid oes unrhyw ofyniad uniongyrchol i wneud addasiadau syml a rhesymol ar eu cyfer yn y gweithle. Felly, hoffwn ofyn eich barn ynghylch a ydych chi'n credu mai ffordd arbennig o drawsnewidiol o fynd i'r afael â'r gwahaniaethu hwn fyddai gwneud statws gofal yn nodwedd warchodedig. Diolch yn fawr iawn.
Edrychwch, mae'n awgrym diddorol. Rwyf eisiau dechrau drwy groesawu'r hyn oedd ganddi i'w ddweud am ein Bil i ddileu elw preifat. Rwy'n credu nad datganiad gwerth yn unig ydyw, er, mor bwysig yw hynny, mae'n gam ymarferol ymlaen i sicrhau bod yr arian sy'n bodoli ac sy'n gorfod cael ei wario o fewn y system yn cael ei ddefnyddio at bwrpas gwell ac, mewn gwirionedd, mewn ffordd fwy effeithlon. Mae achos effeithlonrwydd gwirioneddol dros wneud hyn sy'n mynd y tu hwnt i p'un a yw pobl yn hoffi'r ffaith bod y sector preifat yn gweithredu yn y maes hwn neu beidio. Ond mae'n bwysig i blant a phobl ifanc sydd wedi bod drwy'r system ofal. A chefais fy synnu'n fawr gan ba mor gryf oedd y farn honno, eu bod wedi teimlo—gyda'r union eiriau a ddefnyddioch chi—wedi cael eu hecsbloetio gan y ffaith bod arian yn cael ei wneud ar eu traul nhw, ac mewn ffordd pan, mewn gwirionedd, nad oedd eu profiad wedi bod yn un da.
Rwy'n meddwl yn ôl at nifer o'r sgyrsiau a gefais pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog iechyd, ond mewn gwirionedd un o'r pethau a drawodd yn fy meddwl oedd sgwrs gyda Mark Drakeford, pan ddywedodd, 'Rydym yn gwario llawer o arian yn y system hon, ac nid ydym yn prynu canlyniadau da i'n plant a'n pobl ifanc. Ar y cyfan, rydym yn prynu canlyniadau gwaeth nag y dylem eu cyflawni. Felly, nid sefyll yn ôl a rhoi mwy o arian yn y system yw'r peth iawn i'w wneud.' Ac mae hynny'n dal yn wir nawr, am yr holl welliannau yr ydym wedi'u gwneud. Felly, rwy'n falch iawn yn gyffredinol o gefnogi'r Bil y mae fy Llywodraeth yn ei gyflwyno ar ddileu elw preifat, ac rwy'n credu y bydd yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n llawer gwell defnydd o arian ymhob ystyr.
O ran a ddylai gofalwyr di-dâl fod yn nodwedd warchodedig, mae gennyf feddwl agored ond heb fy narbwyllo. Byddai gen i ddiddordeb mewn gweld pa wahaniaeth ymarferol fyddai hynny'n ei wneud, sut y gallai hynny ddigwydd. Nid yw o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol hon. Bydd pobl yn yr ystafell hon sy'n ofalwyr di-dâl, gyda chyfrifoldebau gofalu nid yn unig i blant ond i oedolion hŷn hefyd. Nid wyf yn argyhoeddedig bod hyn ynddo'i hun yn ffordd o wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl. Mae yna bethau eraill yr ydym yn eu gwneud, ond rwy'n fwy na pharod i barhau i gymryd rhan yn y sgwrs, fel yn wir, rwy'n siŵr y bydd Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth, o ran sut y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Oherwydd dyna'r pwynt yma: sut ydym ni'n gwneud gwahaniaeth gyda'r gofalwyr di-dâl ac iddynt er mwyn cydnabod yr hyn maen nhw'n ei wneud, nid yn unig i'w hanwyliaid, ond beth mae'n ei olygu i bob un ohonom.
O edrych ar ddatganiad y prynhawn yma o safbwynt trafnidiaeth, roedd yn rhywbeth anodd iawn i mi fod yn gyffrous yn ei gylch. Wrth gwrs, mae sôn am Fil bysiau, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd drwyddo'n fanylach, a Bil tacsis a cherbydau hurio preifat, ond i mi, Prif Weinidog, dyna'r cwbl mewn gwirionedd. Nid oedd yn uchelgeisiol iawn, yn fy marn i. Daeth yr ymgynghoriad ar y Bil tacsis a cherbydau hurio preifat i ben ym mis Mehefin 2023, ac nid ydym wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu pam mae'r darn hwn o waith wedi bod mor araf yn dod ger ein bron?
Nid yw datganiad y prynhawn yma yn sôn am gynllun terfyn cyflymder dadleuol 20 mya eich Llywodraeth. Prif Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i gyflwyno Bil cefnogi gyrwyr, a fyddai'n rhoi'r hyn y mae'r cyhoedd eisiau drwy adolygu eich prosiect 20 mya diffygiol a rhoi llais cryfach i gymunedau dros y materion hyn. Unwaith eto, rwy'n siomedig iawn nad oes neges nac yn wir unrhyw sôn am agenda adeiladu ffyrdd. Gall pob un ohonom gytuno bod ffyrdd yn bwysig nid yn unig i'n heconomi, ond maent yn hanfodol ar gyfer cael pobl o A i B, boed hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn cerbyd preifat. Mae rhestr hir o brosiectau y mae angen eu cynnwys a'u hadeiladu, fel trydedd groesfan Menai a ffordd osgoi Cas-gwent. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno pecyn o fesurau sy'n canolbwyntio ar adeiladu ffyrdd? Dim ond yr wythnos diwethaf fe godais fater Maes Awyr Caerdydd gyda'ch Ysgrifennydd Cabinet. Os yw Llywodraeth Cymru mor hyderus y gall wella sefyllfa'r maes awyr, yna pam nad yw darn o waith yn nodi'r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno? Mae trenau hefyd yn faes arall sydd wedi cael ei esgeuluso yn y datganiad heddiw, ac rwy'n ofni ei fod yn dangos—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn olaf nawr, os gwelwch yn dda.
—diffyg uchelgais clir gan y Llywodraeth hon. Felly, wrth symud ymlaen, Prif Weinidog, mae croeso i chi fy mhrofi'n anghywir y prynhawn yma trwy amlinellu pa Filiau eraill sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth fydd yn dod i'r amlwg yn y Siambr hon yn y dyfodol. Diolch.
Wel, nodais y Biliau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a fydd yn cael eu cyflwyno yn y datganiad rhaglen ddeddfwriaethol hwn. Mae'r cliw yn y teitl: nid oes gan lawer o'r hyn a ddywedodd yr Aelod unrhyw beth i'w wneud â deddfwriaeth. O ran ein gallu i ddeddfu, rydym yn deddfu mewn ffordd y credaf y bydd Aelodau'r Senedd yn brysur iawn yn ymdrin â'r ddeddfwriaeth hon. Pan fydd yr Aelodau'n dweud mwy o ddeddfwriaeth, yna, ar ben hyn, credaf fod hynny'n gamddealltwriaeth go iawn o faint o waith sydd o flaen Aelodau, gweinidogion sy'n arwain Biliau ac yn wir unrhyw aelodau meinciau cefn sy'n ceisio cyflwyno deddfwriaeth. Efallai y byddech eisiau siarad â'ch cyd-Aelod am y gwaith sylweddol y bu'n rhaid iddo ymgysylltu ag ef fel Aelod oedd eisiau cyflwyno darn o ddeddfwriaeth ar wahân, ac yn wir yr holl aelodau meinciau cefn a fydd yn craffu ar y Biliau a fydd yn cael eu cyflwyno.
O ran eich sylwadau ehangach, rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio ar sylwadau Peter Fox wrth gydnabod y newid sylweddol a ddigwyddodd ddydd Iau. Pan ofynnwyd i bobl yng Nghymru am yr hyn yr oeddent eisiau ei weld, un o'r cynigion clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr a wrthodwyd yn llwyr oedd y Bil cefnogi gyrwyr, yr ymosodiad blaen llawn ar ddatganoli a fyddai wedi cymryd pwerau i ffwrdd o'r lle hwn, yn hytrach na'n hymrwymiad maniffesto ni ar 20 mya a'r adolygiad rwy'n falch iawn bod Ken Skates yn ei arwain, a fydd, rwy'n credu, yn dangos ein bod yn gwrando ar y cyhoedd ac yn gweithredu ar hynny. Felly, ymhell o fodolaeth mandad ar gyfer y galwadau rydych chi'n eu gwneud, rwyf am atgoffa'r Aelod, pan ofynnwyd i bobl Cymru, dewison nhw weithredu gwaharddiad cyffredinol ar ASau Torïaidd yng Nghymru, ac rwy'n croesawu eu doethineb a'u barn gadarn wrth wneud hynny.
Mae yna bedwar Bil yn eich rhaglen ddeddfwriaethol sydd o ddiddordeb penodol i mi fel llefarydd tai newydd Plaid Cymru, so dwi’n edrych ymlaen at weld y Bil digartrefedd a’r Bil diogelwch adeiladu. Dwi yn sylwi bod yna enw newydd ar y Bil cofrestru a thrwyddedu statudol, sef Bil rheoleiddio llety twristiaeth, sydd yn sefydlu cofrestr. A wnewch chi gadarnhau y bydd y Bil yma hefyd yn cynnwys trwyddedu statudol yn ogystal â sefydlu cofrestr, ac a wnewch chi hefyd gadarnhau amserlen cyflwyno’r Bil yma? Mae’n rhaid cael trwyddedu statudol os ydy hwn am fod yn ddarn effeithiol o ddeddfwriaeth.
Yn y rhaglen lywodraethol, yn sgil y cytundeb efo fy mhlaid i, mae yna ymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn i gyflwyno cynigion ar gyfer yr hawl i gartref digonol. Dwi yn deall na fydd hwn yn cael ei gyhoeddi rŵan tan yr hydref. Fedrwch chi gadarnhau hynny, a chadarnhau y bydd y Papur Gwyn yn rhoi sylw teilwng i’r hawl i gartref digonol?
Yn olaf, dwi’n nodi’r cyfeiriad at gynllunio, a dwi yn credu mai’r bwriad gwreiddiol oedd cydgrynhoi’r gyfraith bresennol, y consolidation Bill, ond dwi yn gweld eich bod chi’n sôn rŵan am symleiddio a moderneiddio’r gyfraith ym maes cynllunio, sydd i’w groesawu. Felly, a fedrwch chi gadarnhau nad jest tynnu pethau at ei gilydd bydd y Bil yma, ac y bydd yna gyfle gwirioneddol i ddiwygio’r gyfraith gynllunio, a hynny er budd cymunedau ar draws Cymru ac er mwyn hwyluso adeiladu tai newydd?
Wel, rwy'n credu bod pwyntiau pwysig ynghylch sut rydym yn hwyluso adeiladu cartrefi newydd. Mae cynllunio yn rhan o hynny, ond nid dyna'r brif ran ohono yn aml. Mewn gwirionedd, y brif ran yn aml yw cyflenwad tir a sicrwydd a gwneud penderfyniadau; mae hynny'n gapasiti o fewn y system gynllunio yn hytrach na'r rheolau fel y maent yn berthnasol mewn gwirionedd. Bydd y Bil cydgrynhoi yn gwneud hyn yn llawer symlach, er mwyn deall sut rydym eisoes wedi gweld diwygio cynlluniau. Rwy'n credu yn nau dymor blaenorol y Senedd, cawsom ddeddfwriaeth diwygio cynllunio yn mynd trwyddo. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw ei gwneud yn llawer mwy hygyrch fel bod y rheolau'n glir i bawb, ac yna mae angen i ni wneud darn o waith yr wyf i wrth fy modd fy mod wedi cytuno â Julie James y bydd Jack Sargeant yn arwain gweithgor i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud o ran cyflwyno'r cyflenwad, a sut mae gennym ddealltwriaeth gliriach nid yn unig o faint o dai sydd eu hangen arnom, ond ansawdd y tai hefyd. Mae o fudd economaidd go iawn. Bydd yn ein helpu i gyrraedd rhai o'n targedau hinsawdd hefyd os gallwn ddarparu nid yn unig mwy o gartrefi, ond cartrefi llawer gwell hefyd, a bydd hynny'n aml yn arwain at ganlyniadau cyflogaeth lleol sylweddol.
Disgwylir i'r Bil llety ymwelwyr (rheoleiddio) gael ei gyflwyno yn 2025, mewn digon o amser i'w basio yn y tymor hwn, a bydd yn edrych ar gofrestru a thrwyddedu, felly gallwch ddisgwyl i hynny ddigwydd. Ysgrifennydd yr economi yw'r Gweinidog sy'n arwain hynny, o ystyried ei gysylltiadau uniongyrchol â'n rhagolygon economaidd a'n dyfodol. Roedd angen i ni ddewis pwy oedd y Gweinidog arweiniol. Roedd diddordeb gan lawer mwy o bobl, ond rwy'n hyderus y byddwn yn gweld darn o ddeddfwriaeth sy'n cyflawni yn erbyn ein maniffesto ac, yn wir, fel y dywedais i yn gynharach, yr ymrwymiadau didwyll yr ydym wedi'u gwneud yn y cytundeb cydweithio.
Mae hynny hefyd yn berthnasol i ddiogelwch adeiladau ac ar gyfer ein deddfwriaeth digartrefedd. Rwy'n credu y bydd y Bil digartrefedd unwaith eto yn ddarn arall o ddeddfwriaeth y bydd pobl yn cydnabod ei bod yn wirioneddol flaengar—ymyrryd yn gynt ac atal digartrefedd, yr hyn y mae hynny'n ei olygu i deuluoedd a phlant, yr hyn y mae'n ei olygu o ran sut rydym yn defnyddio'r ystad gyhoeddus sydd gennym, yn ogystal â, i orffen ar y pwynt y gwnaethoch chi orffen arno, yr ysgogiad ar gyfer adeiladu cartrefi sydd wir yn addas i'r diben. Mae pawb yn haeddu lle i'w alw'n gartref, yn lle diogel a gweddus i'w alw'n gartref. Dyna'r hyn yr ydym wedi ymrwymo i'w wneud.
Un o'r materion a oedd yn glir iawn ar garreg y drws oedd yr angen am fwy o fysiau a rheini'n rhai gwell, felly rwy'n croesawu'r Bil bysiau yn fawr fel y gallwn gyfeirio'r buddsoddiad a wnawn mewn bysiau i'r mannau lle gallwn sicrhau'r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl. Fodd bynnag, rwy'n siomedig bod y Bil tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael ei ohirio ac mai dim ond drafft yr ymgynghorir arno. Ac roeddwn i'n meddwl tybed pam na fu'n bosibl cysylltu'r ddeddfwriaeth tacsis a cherbydau hurio preifat ag un y Bil bysiau, oherwydd mae pryder gwirioneddol yng Nghaerdydd, sy'n ceisio cadw cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw—yn hytrach, yr hyn sydd gennym yw gyrwyr tacsi yn methu gwneud bywoliaeth oherwydd cystadleuaeth annheg pan fo gyrwyr tacsi o awdurdodau lleol eraill lle ceir trwyddedu heb reolaeth yn dod i Gaerdydd ac yn tanseilio busnes pobl eraill. Felly, rwy'n credu fy mod yn poeni nad ydym yn bwriadu rheoleiddio hynny'n well yn y tymor hwn.
Roeddwn eisiau ychwanegu at—
Yn gyflym, os gwelwch yn dda.
—bryderon Delyth Jewell ynghylch arllwysiad o domenni nas defnyddir, oherwydd yr egwyddor rheoleiddio yw y dylai'r llygrwr barhau i fod yn gyfrifol am niwed amgylcheddol ei weithredoedd, wrth symud ymlaen, sut y gellid gwneud hynny yn berthnasol i gwmnïau fel Monsanto, sydd bellach wedi gadael y glannau hyn? Ac a ydych chi wedi cael cyfle i drafod gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU i gadarnhau na fydd eu hagwedd tuag at gyfrifoldeb dros domenni glo, wrth gwrs, yr agwedd warthus a oedd gan Lywodraeth flaenorol y DU, sef nad oedd gan hwn dim byd i'w wneud â nhw, er—
Diolch yn fawr, Jenny.
—bod yr holl domenni glo wedi cau ymhell cyn datganoli?
O ran bysiau, rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelod i'r Bil bysiau. Mae'n fater sylweddol yn etholaeth Canol Caerdydd, a'r Canol Caerdydd presennol yn y Senedd, wrth gwrs, mae'r orsaf fysiau newydd wedi agor o'r diwedd, ac yn gyfnewidfa go iawn gyda'r rheilffordd, ac yn wir gyda gwasanaethau tacsi hefyd.
O ran bysiau a thacsis, roedd gennym gynnig o'r blaen i wneud y ddau beth mewn un darn o ddeddfwriaeth, a daeth y Bil yn anymarferol ac yn rhy fawr yn y diwedd, ac roedd angen i ni hefyd sicrhau bod gennym yr arbenigedd sy'n canolbwyntio ar gyflawni yn erbyn y darn o ddeddfwriaeth a oedd yn bwysig, yn hytrach na gorfod gwasgu'r ddau i mewn. Fodd bynnag, mae gennym fater polisi a mater ymarferol ynghylch materion trawsffiniol. Rwy'n ei glywed yn glir iawn. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd weithio ar hyn gyda rhanddeiliaid gwahanol, gan gynnwys cynrychiolwyr gyrwyr tacsi eu hunain, i ddeall beth fyddai ffurf datrysiad. Dyna waith y mae Ken Skates yn ymwneud ag ef gyda'i swyddogion, gydag awdurdodau lleol, gyda gweithredwyr ac, fel y dywedais i, cynrychiolwyr gyrwyr tacsi eu hunain, oherwydd rwy'n awyddus ein bod yn gweld cynnydd. Gwn hefyd fod yna ymrwymiadau i edrych ar y mater hwn yn Lloegr hefyd, oherwydd mewn rhannau helaeth o Gymru, nid yw materion trawsffiniol yn ymwneud ag awdurdodai lleol yn unig, mae'n ymwneud â phobl sy'n symud o un awdurdod lleol dros y ffin gyfan hefyd, felly rydych chi'n gweld nifer o bobl yn teithio o Fryste i weithio yng Nghymru. Rydych yn gweld y symudiad hwnnw, sy'n gwbl angenrheidiol ac yn rhesymol ar gyfer llawer o deithiau yn y gogledd-ddwyrain, lle mae gennym nifer o ardaloedd lle mae'r ffin yn rhedeg trwy aneddiadau.
O ran tomenni glo, fel y dywedais i mewn ymateb i gwestiynau cynharach, rwy'n credu y byddwn yn cael ymateb llawer mwy cadarnhaol gan y Llywodraeth newydd o ran parchu a myfyrio ar etifeddiaeth ddiwydiannol tomenni glo a chwareli nas defnyddir. Mae'n orffennol diwydiannol sy'n rhagflaenu datganoli, ac eto mae heriau gwirioneddol iawn yn bodoli nawr. Ni fyddwn i eisiau i arllwysiad mawr ddigwydd o dan fy ngoruchwyliaeth i. Rwyf eisiau i ni fod â rhaglen a rennir lle rydym yn deall sut mae'r ddwy Lywodraeth yn barod i fuddsoddi i unioni'r pethau hyn. Mae rhywfaint o waith i ddeall sut olwg fydd ar hynny wedi'i wneud eisoes. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw parodrwydd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ochr yn ochr â ni i wneud hynny.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am amlinellu'r rhaglen ddeddfwriaethol fel y gwnaethoch chi yma y prynhawn yma. Rwy'n synnu at y diffyg pwyslais ar wasanaethau iechyd o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, fel yr ydych wedi'i hamlinellu. Yn amlwg—[Torri ar draws.] Wel, deddfwriaeth yn ymwneud â gwasanaethau iechyd—ysgwyd pennau yn y rhes flaen acw. Iechyd, wrth gwrs, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o gyllideb Llywodraeth Cymru a dyma'r maes mwyaf canlyniadol o dan reolaeth y Llywodraeth hon, ac rydym yn gwybod yr heriau y mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn eu hwynebu. Yn benodol, rydym yn ymwybodol o'r rhestrau aros hiraf erioed, ac rydym yn ymwybodol nad yw pobl yn gallu cael ymatebion ambiwlans o fewn yr wyth munud. Mae'n amlwg bod angen sylw arno ar lefel ddeddfwriaethol.
Sam, un eiliad. A all Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth ganiatáu i'r Aelod gyfrannu at ei ddatganiad mewn gwirionedd?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Felly, fy nghwestiwn i yw, Prif Weinidog: a ydych chi'n credu bod y rhaglen ddeddfwriaethol hon yn adlewyrchu'n gywir y sylw a'r pwyslais y mae ein gwasanaeth iechyd yn eu haeddu?
Wel, dyna gamddealltwriaeth sylweddol, yn ddiniwed neu fel arall, ynghylch pwrpas rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym ni fel Llywodraeth yn ymrwymo ein hadnodd ariannu mwyaf sylweddol i'r gwasanaeth iechyd gwladol ac rydym yn falch o wneud hynny: cynnydd o 4 y cant a mwy i gyllideb y GIG yn y gyllideb a basiwyd gan y lle hwn y llynedd, o'i gymharu ag ychydig dros 1 y cant dros y ffin yn Lloegr a oedd yn Geidwadol ar y pryd. Nid oes angen i ni basio Biliau blocbyster er mwyn gael y diwygiadau y mae angen i ni eu gweld yn cael eu cyflawni, ynghyd â'r adnodd yn y gwasanaeth iechyd. Ni allwch ddeddfu i wella cynhyrchiant. Ni allwch ddeddfu i newid pob rhan o ymddygiad iechyd y cyhoedd. Ac rwy'n siŵr bod yr Aelod yn deall nad trwy'r datganiad hwn mae gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau iechyd yn cael ei gyflawni. Nid oes angen i ni newid y gyfraith i wella canlyniadau iechyd; mae gwir angen i ni newid y ffordd y gallwn fuddsoddi yn nyfodol ein gwasanaeth a'i drefnu o amgylch y claf ac o amgylch ein staff i ddarparu'r gofal gorau posibl yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o'ch etholwyr, Prif Weinidog, yn falch iawn o glywed y bydd Bil diogelwch adeiladau yn cael ei gyflwyno, ond o gofio bod saith mlynedd wedi mynd heibio ers Grenfell ac mae llawer o bobl yn dal yn methu symud ymlaen â'u bywydau, pryd mae'n rhagweld y bydd y Bil hwnnw'n cael ei gyflwyno?
Yn ail, mae'n dair blynedd ers i ni dderbyn adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig, ond nid oes gennym amserlen o hyd o ran deddfwriaeth yn y maes hwn. Trwy'r tribiwnlysoedd datganoledig, mae gennym sylfaen i adeiladu system gyfiawnder deg yng Nghymru. Pryd fydd y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn cael ei chyflwyno?
Ac yn olaf, hoffwn ailadrodd pryderon y cyfeiriwyd atynt gan arweinydd yr wrthblaid. Ers yr etholiad diwethaf, mae Senedd yr Alban wedi pasio 26 o Ddeddfau, gyda phump o Filiau eraill yn aros am Gydsyniad Brenhinol a 14 Bil yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer eleni. I'r gwrthwyneb, dim ond 10 Deddf y Senedd sydd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol. A yw'r Prif Weinidog yn fodlon bod deddfu yn derbyn digon o adnoddau oddi wrth Lywodraeth Cymru? Diolch yn fawr.
Rwy'n credu bod tri phwynt cymharol fyr. Y cyntaf yw bod y Bil diogelwch adeiladau, fel y nodais, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Bydd yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn nesaf. Rydym eisoes yn darparu, heb fod wedi pasio deddfwriaeth flaenorol—. Fel ymatebais i Andrew R.T. Davies, rydym yn darparu cymorth ymarferol i lesddeiliaid sy'n dymuno ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr eu heiddo ynghylch materion diogelwch tân, ac rydym hefyd yn cynnal llwybr i helpu i wella materion diogelwch tân, gan gynnwys yr adeiladau hynny nad oes ganddynt gladin. Ni yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.
O ran eich pwynt ynghylch tribiwnlysoedd, rwy'n gwerthfawrogi y bydd gan gyfreithwyr adennill ddiddordeb yn hyn. Mae'n bwysig ein bod yn cael system gydlynol o ran cyfiawnder Cymru. Mae hwnnw'n Fil y gallwn ddod ato ar ddiwedd y tymor hwn os gallwn gyflawni pob rhan arall o'r rhaglen. Felly, mae'n gyflwyniad posibl ar ddiwedd y tymor, ond mae'n dibynnu ar faint o amser mae'n ei gymryd i ni ddeddfu. Gallaf ddweud wrthych fy mod wedi bod yn Aelod yn y lle hwn ers 2011, ac rwyf wedi gweld yn rheolaidd sut y mae deddfwriaeth naill ai'n cael ei rhuthro neu'n cael ei cholli mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol i unrhyw un ohonom. Nid wyf eisiau i'r Biliau mawr yr ydym wedi'u nodi yma fod mewn perygl o gael eu colli yn ystod wythnos neu ddwy ddiwethaf y tymor. Os gallwn wneud cynnydd da ar yr holl ddeddfwriaethau radical a sylweddol yr ydym wedi'u nodi, yna efallai y bydd cyfleoedd i gyflwyno Bil terfynol ar y diwedd, ond dyma'r blaenoriaethau allweddol ac mae'r Llywodraeth hon wedi dod i farn ar dad-flaenoriaethu—dewisiadau anodd, ond mae hynny'n caniatáu llwyfan mwy cadarn i gyflawni'r rhaglen ddiwygio ddeddfwriaethol radical a blaengar hon, ac rwy'n falch o wneud hynny; ni fyddaf yn ymhél â chymharu niferoedd y Biliau yn hytrach nag effaith ymarferol y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio. Dyna'r prawf yr wyf eisiau i ni ei osod: sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau i wneud gwahaniaeth gyda deddfwriaeth addas i'r diben, nid cyfrif y rhifau'n unig a pheidio â phoeni am y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud.
Prif Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Yn ystod cyfnod ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cefais y fraint wirioneddol o gwrdd â chymaint o bobl ifanc ledled Cymru, yn enwedig y plant hynny a oedd â phrofiad o fod mewn gofal, ac mae'n dda iawn clywed pobl ar draws y Siambr heddiw yn sôn am ein plant â phrofiad o fod mewn gofal a'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn y maes hwn. Yn yr adroddiad a gyflwynwyd gennym, soniodd y pwyllgor am hyd at naw argymhelliad; daeth yr argymhellion hyn oddi wrth y bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwnnw mewn gwirionedd, gyda meysydd lle gallai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal ledled Cymru. Ar ben yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, a allwch amlinellu unrhyw le pryd gallai'r Llywodraeth ddeddfu yn y dyfodol i wella bywydau ein pobl ifanc ar hyd a lled Cymru? Ac ar ben hynny, Prif Weinidog, rwy'n edrych ymlaen hefyd at weithio gyda chi ac un o'ch Gweinidogion, Jayne Bryant, yma ar ddatblygu fy Mil safonau gofal iechyd meddwl.
Diolch am y sylwadau. O ran cyfleoedd yn y dyfodol, rydym yn cymryd adroddiadau o ddifrif a ddarperir gan ein pwyllgorau craffu a pholisi. Nid yw'r Llywodraeth bob amser yn cytuno â nhw, ond mae yna adegau pan fyddwn ni'n gweld datblygu syniadau a all arwain at wella polisi a chyflawni, neu o bosibl mewn deddfwriaeth. Rwy'n siarad heddiw am y rhaglen ddeddfwriaethol sydd gennym, yn hytrach na'r hyn a allai ddigwydd ar ddiwedd y tymor hwn, ac wrth gwrs bydd gan bleidiau eu maniffestos eu hunain ar gyfer y dyfodol. Felly, nid oes meddwl caeedig o ran yr hyn y gall y dyfodol ei gynnig, ond mae gennym gyfnod penodol o gapasiti o fewn gweddill y tymor hwn: dyna'r Biliau yr ydym wedi'u nodi yn rhaglen y Llywodraeth ac wrth gwrs y Biliau yr wyf wedi ymrwymo iddynt, a'r Cwnsler Cyffredinol, i gefnogi gwaith y pwyllgor safonau, efallai na fydd hynny'n gyfnod sylweddol o ddeddfwriaeth mewn gwirionedd, ond bydd ei heffaith yn arwyddocaol iawn, felly credaf fod yr ymgynghoriad a'r gwaith o gael hynny'n iawn yn bwysig iawn, ac mae'n faes lle gallwn weld nad hyd y Bil yw'r mater, mae'n sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn yn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau y bydd angen iddynt ddod ar ôl hynny hefyd.
Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r sgwrs adeiladol a gawsom ar y ddeddfwriaeth y mae'r Aelod eisiau ei datblygu. Gyda Llywodraeth y DU sydd newydd gael ei hethol gydag ymrwymiadau maniffesto i ddiwygio deddfwriaeth iechyd meddwl, sydd i'w groesawu, edrychaf ymlaen at weld a oes maes ymarferol i wneud cynnydd gyda'r Aelod yn y maes y mae wedi'i ddewis, ac rwy'n gwybod y bydd yn parhau i gael sgyrsiau adeiladol gyda Jayne Bryant, ac rwy'n gefnogol iawn iddynt.
Diolch i'r Prif Weinidog.