Datganiad Personol — Hannah Blythyn

– Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:56, 9 Gorffennaf 2024

Dwi wedi cytuno y gall Hannah Blythyn wneud datganiad personol. Hannah Blythyn, felly.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Llafur

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddweud diolch i bawb a anfonodd negeseuon i fi. Diolch o galon.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Llafur

(Cyfieithwyd)

Efallai nad oeddwn i mewn sefyllfa i ymateb i bob un ohonyn nhw, ond roedden nhw'n golygu llawer ac fe wnaethon nhw wahaniaeth. Nid yw hwn yn ddatganiad sy'n hawdd i mi ei wneud, nac yn un yr wyf yn ei wneud ar chwarae bach. Yn wir, bu adegau yn y gorffennol pan nad oeddwn yn siŵr y byddwn i, neu y gallwn i, sefyll a siarad yn y Siambr hon eto. Rwy'n gwneud hynny heddiw oherwydd rwy'n gwybod bod fy niddymu o'r Llywodraeth wedi bod yn destun trafod yn y lle hwn pan nad ydw i wedi bod yma. Rwyf hefyd yn teimlo ymdeimlad o gyfrifoldeb i'r rhai sydd agosaf ataf ac at fy etholwyr niferus sydd wedi dangos amynedd, dealltwriaeth a ffydd fawr ynof.

Llywydd, rwyf am ddechrau drwy sôn yn fyr am yr amgylchiadau yn ymwneud â mi'n gadael y Llywodraeth. Rwy'n gwybod y gallaf edrych ym myw llygad fy holl gyd-Aelodau sy'n eistedd ar y meinciau hyn a dweud nad wyf erioed wedi gollwng na briffio'r cyfryngau am unrhyw un ohonoch chi. Yn wir, gallaf ddweud hynny wrth bawb yn y Siambr. Er na fyddaf yn rhannu'r manylion, fe wnaf rannu fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses a ddefnyddiwyd i fy niddymu o'r Llywodraeth, gan gynnwys peidio â dangos unrhyw dystiolaeth honedig i mi cyn fy niswyddo, peidio â chael gwybod fy mod yn destun ymchwiliad erioed ac ni chefais wybod ar unrhyw adeg ac ni ddangoswyd tystiolaeth fy mod o bosibl wedi torri cod y gweinidogion. Rwy'n cydnabod ac yn parchu'n llwyr ei bod o fewn gallu unrhyw Brif Weinidog i benodi a diddymu aelodau o'u Llywodraeth. Rwy'n deall natur gwleidyddiaeth ac yn derbyn hynny'n llwyr. Rwy'n codi pryderon nid oherwydd hunan-fudd, ond oherwydd fy mod yn sylfaenol yn credu mewn datganoli a gwasanaeth cyhoeddus. Mae gen i bryderon gwirioneddol hefyd nad yw gwersi wedi cael eu dysgu o'r gorffennol. Mae angen i'r broses briodol nid yn unig fod ar waith a chael ei dilyn er mwyn urddas a pharch unigolion dan sylw, ond hefyd i gynnal uniondeb y gwasanaeth sifil a swydd y Prif Weinidog.

Rydw i eisiau cymryd eiliad i fyfyrio ar rywbeth sy'n bersonol iawn ac ychydig yn anodd i mi, ond rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig dweud er mwyn y ffordd rydyn ni'n gwneud gwleidyddiaeth. Rwy'n gwybod bod dyfalu wedi bod ynghylch fy amgylchiadau ac a wyf wedi bod yn ddigon da i weithio. Mae hyn wedi amrywio o'r hyn a oedd yn gyfystyr â chamwybodaeth a'r hyn y gellid ei briodoli i gamddealltwriaeth. Ni ddylai fod yn syndod bod yr hyn a ddigwyddodd wedi bod yn niweidiol iawn i mi ar lefel bersonol, ac wedi arwain at orbryder a straen acíwt. Nid wyf erioed wedi cael llofnod meddyg i ddweud nad ydw i'n ddigon iach i weithio o'r blaen pan fyddaf wedi cael trafferth gyda hyn ynddo'i hun, ond roedd yna adeg pan oedd y syniad o droi fy nghamera ymlaen i bleidleisio, a'ch gweld chi i gyd, yn llythrennol yn mynd â fy anadl. Rwy'n rhannu hyn nawr nid i chwilio am gydymdeimlad—dydw i ddim eisiau cydymdeimlad pobl—ond oherwydd bod fy mhrofiad diweddar wedi gwneud i mi sylweddoli, er ein bod ni i gyd yn sôn am iechyd meddwl, mae mwy i'w wneud o hyd i wella ein dealltwriaeth a'r effaith y mae'n ei gael ar unigolion a'u gallu i wneud pethau y byddem fel arfer yn eu cymryd yn ganiataol. Yn drist, rwy'n credu, weithiau, ein bod yn cael ein suo cymaint gan y wleidyddiaeth fel nad ydym bob amser yn meddwl am y person.

Yn ddiweddar, fe wnes i wrando ar bodlediad o'r enw Broken Politicians, Broken Politics. Dydw i ddim wedi torri, ond rwy'n gwybod yn awr fwy nag yr oeddwn o'r blaen fy mod yn gallu cael fy nhorri, fel yr ydym ni i gyd mewn gwirionedd, ac nid wyf yn credu bod gwleidyddiaeth wedi torri, ond yn sicr gallai fod yn well. Rydyn ni wedi sôn yn aml yn y lle hwn am wleidyddiaeth fwy caredig, ond allwn ni ddim cael gwleidyddiaeth fwy caredig heb bobl garedig, ac ni fyddwn yn cael gwell gwleidyddiaeth heb fod yn well bobl. Mae ein hymddygiad a'n cymeriad ein hunain yn allweddol i'r cyhoedd ymddiried yn y rhai sy'n eu gwasanaethu ac yn credu y gall gwleidyddiaeth fod yn rym er daioni.

Llywydd, bu'n fraint cael gwasanaethu yn Llywodraeth fy ngwlad, yn enwedig dan arweinyddiaeth Mark Drakeford. Gwnaeth mudiad yr undebau llafur nid yn unig lywio fy ngwerthoedd, ond fe helpodd i roi fy llais i mi, ac rwy'n falch fy mod wedi tywys y ddeddfwriaeth undebau llafur fwyaf blaengar yn oes ddatganoli. Ac ni fyddwn i, pan oeddwn yn iau, pan oeddwn yn ymbalfalu gyda fy rhywioldeb, erioed, erioed wedi credu, y byddwn i, un diwrnod, yn arwain y cynllun i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.

Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle hwnnw a bydd bob amser yn fraint llwyr i wasanaethu'r gymuned a luniodd fi fel Aelod o'r Senedd. Rwyf dim ond yn pwy ydw i a lle yr ydw i oherwydd o ble rydw i'n dod. Ac er gwaethaf yr heriau a'r anawsterau—efallai o'u herwydd—rwy'n teimlo ymdeimlad o ymrwymiad o'r newydd i wleidyddiaeth gwasanaeth cyhoeddus ac yn teimlo'n benderfynol yn wirioneddol i barhau i gyfrannu at ein democratiaeth ddatganoledig, fy nghymuned a'n gwlad. Diolch. [Cymeradwyaeth.]