Grŵp 7: Diwygio’r dreth gyngor (Gwelliant 2)

– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:41, 9 Gorffennaf 2024

Mae’r seithfed grŵp o welliannau’n ymwneud â diwygio’r dreth gyngor. Gwelliant 2 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Peredur Owen Griffiths).

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r dreth gyngor yn gosod baich anghymesur ar aelwydydd incwm is, gan waethygu anghydraddoldebau cymdeithasol sydd wedi ymwreiddio. Mae'r achos dros ddisodli'r system drethu atchweliadol hon gyda model tecach, mwy blaengar, yn ddi-ddadl, yn hir-ddisgwyliedig ac yn cael ei gydnabod yn eang. Mae diwygio'r system drethu doredig a hen ffasiwn hon wedi bod yn gonglfaen i bolisi Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer, ac roeddem yn falch o weithio ar y cyd â'r Llywodraeth i gyflawni hyn o fewn tymor y Senedd bresennol. Credwn yn gryf fod gennym ni fframwaith credadwy a allai fod wedi bod ar waith erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, fel yr addawyd, ond yn anffodus roedd y Llywodraeth yn meddwl fel arall, ac nid am y tro cyntaf, rydym yn wynebu rhan allweddol o'u hagenda ddeddfwriaethol yn cael ei dadflaenoriaethu oherwydd problemau mewnol y Blaid Lafur.

Nid ydym o dan unrhyw amheuaeth y bydd y diwygiad hwn yn ymgymeriad cymhleth, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ceisio cyfiawnhau'r oedi ar y sail honno yn ei hymateb. Ond gan mai dyna natur yr ateb radical ac angenrheidiol sydd ei angen arnom ni i greu cymdeithas decach, byddwn yn gofyn i Aelodau Llafur yma'n benodol fyfyrio ar oblygiadau gwirioneddol gohirio'r diwygio hwn, yn enwedig i deuluoedd incwm is sy'n parhau i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw. Fel y dywedoch chi'n gynharach, Ysgrifennydd Cabinet, byddai oedi yn rhoi'r rhai mwyaf agored i niwed dan anfantais, ond trwy beidio â gweithredu ar ddiwygio'r dreth gyngor tan 2028 ar y cynharaf, mae'r Llywodraeth hon yn condemnio'r rhai sy'n llai abl i dalu i dair blynedd arall o filiau treth gyngor anghymesur o uchel, pryd nad yw'r rhai â mwy o fodd yn gorfod talu eu cyfran deg am wasanaethau cyhoeddus.

Er ein bod wedi clywed dro ar ôl tro yn yr ymgyrch etholiadol ddiweddar mai etholiad ar gyfer newid oedd hwn, ar y cyfle cyntaf i newid yng Nghymru cawn yr un hen drefn am y tair blynedd nesaf. Felly, mae newid yn golygu mwy o'r un peth. Ond nid yw'n rhy hwyr i unioni'r llwybr. Yn yr ysbryd hwn, rydym ni wedi cyflwyno'r gwelliant hwn, a fydd yn gosod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r dreth gyngor erbyn mis Ebrill 2025, fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Er mwyn lleddfu'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, byddwn yn annog yr Aelodau i afael yng nghyrn yr arad ac ymrwymo i'r diwygiad hanfodol bwysig hwn cyn gynted â phosibl. Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur

(Cyfieithwyd)

Byddai gwelliant 2 yn ychwanegu gofyniad i Weinidogion Cymru weithredu diwygio'r dreth gyngor erbyn 1 Ebrill 2025. Fodd bynnag, nid oes diffiniad yn cael ei gynnig yn y gwelliant o'r hyn a olygir gan ddiwygio'r dreth gyngor. Felly, mae drafftio'r gwelliant hwn yn rhy eang i fod yn gyfraith ymarferol neu glir mewn perthynas â'r system dreth gyngor.

Rydym wedi dangos ein bod wedi ymrwymo i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn llai atchweliadol. Rydym wedi cyhoeddi llawer iawn o dystiolaeth am ein hystyriaethau, mewn partneriaeth â'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ac rydym wedi rhyddhau dau ymgynghoriad yn 2022 a 2023 yn gofyn am farn ar gynigion. Bydd cydweithwyr yn ymwybodol bod hyn yn rhan o'r gwaith a wnaethom mewn partneriaeth â Phlaid Cymru. Rwy'n hynod ddiolchgar am y gwaith a wneuthum ar y cyd â Cefin Campbell ar hyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio blaenorol. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn yn ein hystyriaethau. Arweiniodd y gwaith pwysig hwnnw at ryddhau ystod o gynigion yn yr ymgynghoriad cam 2, a gaeodd ym mis Chwefror eleni, gan ofyn am farn ar raddfa a chyflymder y diwygiad.

Canlyniad yr ymgynghoriad oedd bod pobl a rhanddeiliaid wedi mynegi awydd clir i ddiwygio'r system i'w gwneud yn decach, ond dros gyfnod arafach o amser, o 2028. Er bod 2025 wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad fel yr opsiwn cyflymaf, nid yw'n ymarferol bellach i gyflwyno system wahanol yn yr amserlen honno. Mae'r dyddiad cau ar gyfer rheoleiddio ar gyfer bandiau newydd a chyfraddau treth bellach wedi mynd heibio. Mae'n ymarfer gweithredol ar raddfa fawr, sy'n cynnwys cyrff annibynnol a llywodraeth leol. Yn hanfodol, ni fyddem bellach yn gallu cynnig rhyddhad trosiannol i gefnogi aelwydydd trwy'r newidiadau.

Rydym yn gwrando ar bobl Cymru drwy symud ymlaen gydag ailbrisio a diwygio'r dreth gyngor yn 2028, a phob pum mlynedd ar ôl hynny, gan gadw'r dreth gyngor yn deg ac yn ymatebol i amgylchiadau economaidd. Mae'r Bil hwn yn sail i gyflawni'r hyn y buom yn gweithio arno ynghyd â Phlaid Cymru. Yn y cyfamser, rwyf hefyd yn cyflwyno nifer o ddiwygiadau eraill i'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach, fel yr amlinellwyd yn fy natganiad ar 15 Mai, er enghraifft ar drin aelwydydd mewn dyled, ar apeliadau, ac ar ddisgowntiau a gostyngiadau. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthsefyll gwelliant 2. 

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi cytuno i'r gwelliant hwn ar y mater hwn. Fel yr wyf eisoes wedi dweud, nid yw diwygio'r dreth gyngor yn fater o syndod i neb—mae wedi bod yn destun craffu difrifol a chynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd, ac wedi ffurfio rhan allweddol o'n cytundeb cydweithio ar gyfer tymor presennol y Senedd. Mae'r achos moesol dros weithredu'r newid hwn yn anferthol, ac o ystyried y pwysau ariannol parhaus sy'n wynebu aelwydydd ar hyd a lled ein cenedl, nawr yw'r amser i achub ar y cyfle. Drwy ohirio'r rhaglen waith hanfodol hon tan ar ôl yr etholiad nesaf, mae'r Llywodraeth yn gwneud penderfyniad ymwybodol heddiw i ddiystyru’r cyfle hanfodol hwn lle mae'n amlwg bod rhifyddeg seneddol o blaid newid. Byddwn yn annog yr Aelodau i bleidleisio dros y newid a phleidleisio dros y gwelliant hwn.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:47, 9 Gorffennaf 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.

Gwelliant 2: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 5468 Gwelliant 2

Ie: 12 ASau

Na: 37 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 11 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw