Grŵp 6: Cyhoeddi hysbysiadau (Gwelliant 19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 5:34, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Felly, diben gwelliant 19 yw dileu adran 20 o'r Bil, sy'n disodli'r gofyniad hen ffasiwn presennol i awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau'r dreth gyngor mewn papur newydd lleol gyda gofyniad i gyhoeddi'r wybodaeth yn electronig. Ac rwy'n credu mai dyma oedd seren annisgwyl y sioe mewn perthynas â'r hyn sy'n ddarn cymhleth ac eang iawn o ddeddfwriaeth sy'n diwygio cyllid llywodraeth leol.

Rwy'n ddiolchgar i'r holl gyd-Aelodau am y pwyntiau a godwyd yn y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bwyllgorau'r Senedd am eu gwaith craffu dwys ar y ddarpariaeth benodol hon. Yn wir, cynhaliodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai sesiwn dystiolaeth ychwanegol ar y pwnc hwn, a glywodd dystiolaeth a barn wahanol gan ystod o randdeiliaid. Rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau yn nodi fy rhesymeg dros gynnwys y mesurau hyn yn y Bil, y bwriedir iddyn nhw foderneiddio arferion gwaith sy'n ymwneud â'r dreth gyngor, a manteisiais hefyd ar y cyfle yn yr ohebiaeth honno i gywiro rhai o'r camargraffiadau a fynegwyd hefyd.

Rhoddwyd y gofyniad statudol i awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau treth gyngor ar waith ym 1992, pan oedd hi'n arferol cyfathrebu â dinasyddion trwy hysbysiadau mewn papurau newydd, ond nawr, 30 mlynedd yn ddiweddarach, ystyrir bod hyn yn ddull anhyblyg o ddarparu gwybodaeth am y dreth gyngor, nad oes gofyn amdano mwyach oherwydd datblygiadau technolegol a newidiadau eraill yn y system drethi.

Rwy'n cydnabod yn llwyr y gwaith amhrisiadwy y mae ein papurau newydd lleol a chenedlaethol yn ei wneud i hysbysu ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, ac rwy'n llwyr ddeall yr hinsawdd economaidd anodd y mae papurau print yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd. Yr wythnos diwethaf, cwrddais â chynrychiolwyr Cymdeithas y Cyfryngau Newyddion a gwrando ar yr hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud. Fe allais i roi sicrwydd iddyn nhw mai'r bwriad yw peidio â dileu gofynion statudol ar gyfer mathau eraill o hysbysiadau—yn wir, byddai hynny y tu hwnt i gwmpas cytunedig y Bil.

Mae rheswm clir pam y mae hysbysiadau treth gyngor yn wahanol i fathau eraill o hysbysiadau cyhoeddus. Mae hysbysiadau cyhoeddus am geisiadau cynllunio, er enghraifft, yn darparu gwybodaeth bwysig i drigolion gael y cyfle i wrthwynebu neu leisio eu cefnogaeth i gynlluniau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu cymdogaeth, nad ydyn nhw'n ymwybodol ohonyn nhw fel arall. Fodd bynnag, mae hysbysiad y dreth gyngor yn darparu gwybodaeth y bydd pob talwr treth gyngor yn ei dderbyn yn uniongyrchol fel rhan o'r Bil blynyddol, p'un a ydyn nhw'n dewis derbyn hynny'n electronig neu ar ffurf copi caled, ac am y rheswm yna, rwy'n credu, nid yw'r dadleuon am eithrio digidol yn dal dŵr mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae'r Bil yn darparu dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch i bobl na allan nhw fynd ar y we, ac fe wnes i dderbyn argymhelliad Cyfnod 1 i weithio gyda llywodraeth leol i fonitro gweithrediad y ddarpariaeth honno.

Rwy'n ofni nad wyf ychwaith yn credu ei bod hi'n rhesymol dadlau y byddai colli refeniw a gynhyrchir o un hysbyseb fesul blwyddyn ariannol, a allai fod cyn lleied â £600, yn gwneud papur newydd yn anghynaladwy. Ond rwy'n cytuno â chyd-Aelodau y prynhawn yma sydd wedi siarad am bwysigrwydd cael y drafodaeth ehangach honno am yr hyn sydd mewn gwirionedd yn fater llawer mwy cymhleth o ran sut rydym ni'n cefnogi'r cyfryngau lleol a hefyd sut rydym ni'n cyfathrebu'n fwyaf effeithiol â phreswylwyr. Nid yw'n ymddangos bod hysbyseb flynyddol a gyhoeddwyd ar ddiwrnod amhenodol ym mis Mawrth sy'n cyrraedd llai na 1.5 y cant o breswylwyr yn cyflawni nod o gyfathrebu'n effeithiol.

Ond, Dirprwy Lywydd, ar ôl dweud hynny i gyd, rwy'n cydnabod yn llwyr gryfder teimladau ymhlith cyd-Aelodau ar y mater penodol hwn, ac rwyf wastad yn awyddus i ddod o hyd i feysydd ble gallwn ni gyfaddawdu, lle gallwn ni, ac i weithio gyda phartïon eraill. Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox a hefyd i Peredur Owen Griffiths am y trafodaethau cydweithredol a chreadigol a gawsom ni ar y mater penodol hwn.

Rwyf wedi gorfod gofyn i gyd-Aelodau wrthsefyll gwelliannau eraill heddiw, oherwydd y canlyniadau anfwriadol posibl a allai effeithio'n negyddol ar drethdalwyr, ond nid wyf yn credu bod y gwelliant hwn yn un o'r rhai hynny. Felly, yn ysbryd gwrando ar gyd-Aelodau a gwrando ar randdeiliaid a pharchu'r sgyrsiau hynny, byddwn yn ymatal yn y bleidlais ar y gwelliant penodol hwn heddiw.