Grŵp 6: Cyhoeddi hysbysiadau (Gwelliant 19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:29, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

A dyna un o'r trafodaethau yr oeddem yn eu cael, a byddai cael cyfnod pontio wedi caniatáu ar gyfer y drafodaeth honno, ond nid ydym ni wedi gallu gwneud hynny yn yr achos hwn. Ond rwy'n sicr yn hapus i siarad am hynny, a sut mae'r drafodaeth yna'n mynd yn ei blaen, achos credaf ei bod hi mor bwysig bod hynny'n digwydd.

Ar ben hynny, mae'n amlwg bod awydd o hyd am hysbysiadau cyhoeddus printiedig o'r math hwn ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Canfu arolwg diweddar gan Gymdeithas y Cyfryngau Newyddion fod 47 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi defnyddio cyfryngau newyddion lleol i gael gwybod am benderfyniadau ynghylch y dreth gyngor—y gyfran fwyaf o holl wledydd y DU. Felly, mae'r rhesymeg dros gyflwyno cymal 20 i'r Bil yn seiliedig ar ragdybiaethau ar ymgysylltu digidol, ac mae'n peri risgiau diangen i hyfywedd masnachol newyddiaduraeth brint leol, tebyg i'r Caerphilly Observer a grybwyllwyd yn gynharach gan Hefin, sy'n cyflawni swyddogaeth mor hanfodol wrth gyfoethogi a grymuso ein cymdeithas ddinesig.

Felly, gyda chefnogaeth i'r gwelliant hwn o bob ochr i'r Siambr, fel y gwelir yn y datganiad barn gan Mike Hedges, byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.