Grŵp 6: Cyhoeddi hysbysiadau (Gwelliant 19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:28, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'r trafodaethau rhwng Peter a'r Ysgrifennydd Cabinet a minnau ynghylch y gwelliant hwn wedi bod yn gynhyrchiol iawn, ond nid oedd modd bwrw ymlaen â'r gwelliant hwnnw. Ond mae modd parhau â'r un yma ac rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliant hwn, a fyddai'n dileu'r ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn y Bil i ddatgymhwyso'r gofyniad statudol i gynghorau gyhoeddi newidiadau treth gyngor mewn papurau newydd lleol printiedig. Nid yn unig y byddai hyn yn gam yn ôl o ran sicrhau hawliau'r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth, yn enwedig y rhai nad oes technoleg ddigidol ganddyn nhw, fel yr amlygir yn aml gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, credwn hefyd y byddai'n amddifadu newyddiaduraeth leol o ffynhonnell refeniw hanfodol ar adeg pan fo ffynonellau cyfryngau o'r fath dan bwysau ariannol parhaus. Mae Cymru'n cael bargen wael iawn gan ei chyfryngau, a achoswyd yn rhannol gan enciliad newyddiaduraeth leol o'n cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf. Heb os, byddai'r ddarpariaeth hon o'r Bil yn ychwanegu at y mater, sy'n dod â goblygiadau niweidiol ehangach i iechyd democrataidd ein cenedl.