Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Rwy'n cytuno'n gryf â hynny. Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedwyd yn gynharach. Cylchrediad y Gwent Gazette yw 393 o bobl. Nawr, bydd y darlleniad ychydig yn uwch na hynny, yn amlwg, ond mae awgrymu bod hwn yn ffordd o gyfathrebu i awdurdod lleol neu unrhyw un arall yn ffwlbri noeth. Dydy hynny ddim yn wir. Nid yw'r niferoedd yn cynnal y ddadl. Ac ar adeg pan fo'r Ceidwadwyr yn arbennig yn sôn am arbed rhywfaint o wariant cyhoeddus, mae'n debyg nad rhoi cyllid gwladol i rai o grwpiau papur newydd mwyaf yn y wlad yw'r lle i ddechrau. Felly, byddwn yn awgrymu—. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud y cytundeb hwn y prynhawn yma, ond byddwn yn awgrymu ein bod yn ailedrych ar hyn yn fuan iawn oherwydd, ar hyn o bryd, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dweud ar y naill law fod gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau aruthrol, ac ar y llaw arall rydym ni'n mynd i wastraffu degau a channoedd o filoedd o bunnau ar hysbysebion sy'n cael eu darllen gan fawr neb.