Grŵp 6: Cyhoeddi hysbysiadau (Gwelliant 19)

– Senedd Cymru am 5:26 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:26, 9 Gorffennaf 2024

Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r chweched grŵp o welliannau yn ymwneud â chyhoeddi hysbysiadau, a gwelliant 19 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Peter Fox).

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 5:26, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Cyn i mi sôn am y gwelliant hwn, fe hoffwn i yn wir ganu clodydd yr Ysgrifennydd Cabinet am geisio cyflwyno gwelliant hwyr i geisio datrys hyn. Rwyf yn wir yn diolch iddi am y ffordd yr aeth i'r afael â hyn. Yn anffodus, nid felly oedd hi i fod.

Mae gwelliant 19 yn dileu adran 20 o'r Bil. Bydd hyn yn sicrhau y bydd newidiadau i hysbysiadau treth gyngor yn parhau i gael eu hargraffu mewn papurau newydd. Er bod y rhan fwyaf o bethau wedi symud ar-lein, mae'n bwysig nodi nad yw'r hysbysiadau ar-lein hyn bob amser yn hygyrch i bawb. Mae yna bobl sy'n dibynnu ar gyhoeddi'r hysbysiadau hyn mewn papurau newydd, a bydd cynnal hyn yn helpu i gynyddu atebolrwydd a thryloywder.

Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod technoleg wedi symud ymlaen, a bod ystod eang o wybodaeth am newidiadau i'r dreth gyngor ar gael, ac y bydd pobl yn cael eu hysbysu drwy eu bil. Er ein bod yn derbyn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi, os yw awdurdod lleol am barhau i ddefnyddio papurau i gyhoeddi hysbysiadau, ni fydd yr adran hon yn gwarafun hynny iddyn nhw, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu ei bod hi'n dal yn bwysig parhau i gyhoeddi'r hysbysiadau hyn mewn papurau newydd lleol, gan y bydd yn sicrhau y bydd yr wybodaeth hon ar gael i bawb.

Yr hyn yr oeddem yn gobeithio y gallem fod wedi'i wneud oedd cytuno ar gyfnod pontio a fyddai'n fodd o gyflwyno hyn dros gyfnod o bum mlynedd. Nid oeddem yn gallu gwneud hynny, felly byddaf yn symud ymlaen gyda'r gwelliant fel y mae.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:28, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'r trafodaethau rhwng Peter a'r Ysgrifennydd Cabinet a minnau ynghylch y gwelliant hwn wedi bod yn gynhyrchiol iawn, ond nid oedd modd bwrw ymlaen â'r gwelliant hwnnw. Ond mae modd parhau â'r un yma ac rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliant hwn, a fyddai'n dileu'r ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn y Bil i ddatgymhwyso'r gofyniad statudol i gynghorau gyhoeddi newidiadau treth gyngor mewn papurau newydd lleol printiedig. Nid yn unig y byddai hyn yn gam yn ôl o ran sicrhau hawliau'r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth, yn enwedig y rhai nad oes technoleg ddigidol ganddyn nhw, fel yr amlygir yn aml gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, credwn hefyd y byddai'n amddifadu newyddiaduraeth leol o ffynhonnell refeniw hanfodol ar adeg pan fo ffynonellau cyfryngau o'r fath dan bwysau ariannol parhaus. Mae Cymru'n cael bargen wael iawn gan ei chyfryngau, a achoswyd yn rhannol gan enciliad newyddiaduraeth leol o'n cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf. Heb os, byddai'r ddarpariaeth hon o'r Bil yn ychwanegu at y mater, sy'n dod â goblygiadau niweidiol ehangach i iechyd democrataidd ein cenedl.

Photo of Hefin David Hefin David Llafur 5:29, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ildio? Yn fyr iawn, rwy'n deall eich dadl yn llwyr, ond rwyf wedi siarad â golygydd y Caerphilly Observer, ac un o'r pethau a ddywedodd Richard Gurner yw bod hwn yn gymhorthdal, fel y dywedwch, i raddau, ond mae angen trafodaeth onest arnom ni hefyd ynghylch sut yr ydym ni'n sybsideiddio newyddiaduraeth gymunedol, ac yn wir, yn y dyfodol, nid dyma'r ffordd i wneud hynny. Mae angen i ni feddwl yn ofalus ynghylch sut rydym ni'n gwneud hynny, ac mae angen trafodaeth bellach ar hynny.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A dyna un o'r trafodaethau yr oeddem yn eu cael, a byddai cael cyfnod pontio wedi caniatáu ar gyfer y drafodaeth honno, ond nid ydym ni wedi gallu gwneud hynny yn yr achos hwn. Ond rwy'n sicr yn hapus i siarad am hynny, a sut mae'r drafodaeth yna'n mynd yn ei blaen, achos credaf ei bod hi mor bwysig bod hynny'n digwydd.

Ar ben hynny, mae'n amlwg bod awydd o hyd am hysbysiadau cyhoeddus printiedig o'r math hwn ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Canfu arolwg diweddar gan Gymdeithas y Cyfryngau Newyddion fod 47 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi defnyddio cyfryngau newyddion lleol i gael gwybod am benderfyniadau ynghylch y dreth gyngor—y gyfran fwyaf o holl wledydd y DU. Felly, mae'r rhesymeg dros gyflwyno cymal 20 i'r Bil yn seiliedig ar ragdybiaethau ar ymgysylltu digidol, ac mae'n peri risgiau diangen i hyfywedd masnachol newyddiaduraeth brint leol, tebyg i'r Caerphilly Observer a grybwyllwyd yn gynharach gan Hefin, sy'n cyflawni swyddogaeth mor hanfodol wrth gyfoethogi a grymuso ein cymdeithas ddinesig.

Felly, gyda chefnogaeth i'r gwelliant hwn o bob ochr i'r Siambr, fel y gwelir yn y datganiad barn gan Mike Hedges, byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.  

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 5:31, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Dim ond eisiau dal sylw ar rai pwyntiau oeddwn i yn y fan yma, oherwydd rydym ni i gyd yn cytuno â'r egwyddor y tu ôl i hyn rwy'n credu: mae arnom ni eisiau sicrhau bod papurau newydd lleol yn parhau, yn enwedig i'r rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at wybodaeth ar-lein. Ond, serch hynny, mae'r hysbysiadau penodol hyn yn mynd yn uniongyrchol i gartrefi pobl beth bynnag oherwydd, yn amlwg, maen nhw'n arbennig i'r unigolyn. Ac mae llawer o'r hysbysiadau papur newydd hyn mewn gwirionedd yn annarllenadwy i'r rhan fwyaf o bobl, oherwydd eu bod mewn ffont sydd mor fach fel na fydd pobl oedrannus yn arbennig, sydd ymhlith darllenwyr mwyaf brwd papurau newydd lleol, yn gallu eu darllen. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl am ffordd wahanol o gefnogi papurau newydd lleol, ac rwy'n sylweddoli bod cytundeb na fyddwn yn gwneud unrhyw beth radical, ond nid dyma'r ffordd orau o geisio gwneud hyn mewn gwirionedd. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 5:32, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Yn fyr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nad ydym yn drysu dulliau a chanlyniadau yn y fan yma. Rwy'n credu mai'r canlyniad y mae arnom ni eisiau ei weld yw cefnogi newyddiaduraeth leol. Nid drwy roi cymhorthdal i hysbysebion astrus yw'r ffordd i wneud hynny. Mae arnom ni eisiau cefnogi gwneud gwybodaeth yn hygyrch i bobl. Nid cyhoeddi hysbysebion astrus mewn papurau newydd yw'r ffordd i wneud hynny. Nid ydym yn mynd i ddod i gytundeb heddiw, ond rwy'n credu bod hyn yn amlygu bod hwn yn fater llawer mwy cymhleth nag sy'n cael ei gyflwyno, a bod angen inni i gyd feddwl ymhellach yn ei gylch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n gryf â hynny. Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedwyd yn gynharach. Cylchrediad y Gwent Gazette yw 393 o bobl. Nawr, bydd y darlleniad ychydig yn uwch na hynny, yn amlwg, ond mae awgrymu bod hwn yn ffordd o gyfathrebu i awdurdod lleol neu unrhyw un arall yn ffwlbri noeth. Dydy hynny ddim yn wir. Nid yw'r niferoedd yn cynnal y ddadl. Ac ar adeg pan fo'r Ceidwadwyr yn arbennig yn sôn am arbed rhywfaint o wariant cyhoeddus, mae'n debyg nad rhoi cyllid gwladol i rai o grwpiau papur newydd mwyaf yn y wlad yw'r lle i ddechrau. Felly, byddwn yn awgrymu—. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud y cytundeb hwn y prynhawn yma, ond byddwn yn awgrymu ein bod yn ailedrych ar hyn yn fuan iawn oherwydd, ar hyn o bryd, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dweud ar y naill law fod gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau aruthrol, ac ar y llaw arall rydym ni'n mynd i wastraffu degau a channoedd o filoedd o bunnau ar hysbysebion sy'n cael eu darllen gan fawr neb.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 5:33, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu, a minnau o gefndir dosbarth gweithiol, bod yn rhaid i mi egluro pethau i rai pobl. [Torri ar draws.] Mae yna lawer o bobl oedrannus sy'n dibynnu ar y cyfryngau printiedig er mwyn cael gwybodaeth. Mae yna broblem hefyd ynghylch pobl yn rhoi pethau ar y cyfryngau cymdeithasol a mathau eraill o gyfryngau y mae'n hawdd eu golygu, y mae'n hawdd eu newid i roi gwybodaeth hollol anghywir. Ac rwy'n credu y gallwch chi ddibynnu yn bur ffyddiog ar yr hyn sy'n cael ei argraffu mewn papur newydd lleol oherwydd bod angen iddyn nhw gadw pobl leol yn hapus. Efallai nad yw hynny'n wir am bapurau newydd cenedlaethol, ond os ydym ni'n sôn am sybsideiddio pethau, a all rhywun egluro i mi pam mae gennym ni Radio 1 lle rydyn ni'n sybsideiddio cerddoriaeth bop?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Felly, diben gwelliant 19 yw dileu adran 20 o'r Bil, sy'n disodli'r gofyniad hen ffasiwn presennol i awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau'r dreth gyngor mewn papur newydd lleol gyda gofyniad i gyhoeddi'r wybodaeth yn electronig. Ac rwy'n credu mai dyma oedd seren annisgwyl y sioe mewn perthynas â'r hyn sy'n ddarn cymhleth ac eang iawn o ddeddfwriaeth sy'n diwygio cyllid llywodraeth leol.

Rwy'n ddiolchgar i'r holl gyd-Aelodau am y pwyntiau a godwyd yn y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bwyllgorau'r Senedd am eu gwaith craffu dwys ar y ddarpariaeth benodol hon. Yn wir, cynhaliodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai sesiwn dystiolaeth ychwanegol ar y pwnc hwn, a glywodd dystiolaeth a barn wahanol gan ystod o randdeiliaid. Rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau yn nodi fy rhesymeg dros gynnwys y mesurau hyn yn y Bil, y bwriedir iddyn nhw foderneiddio arferion gwaith sy'n ymwneud â'r dreth gyngor, a manteisiais hefyd ar y cyfle yn yr ohebiaeth honno i gywiro rhai o'r camargraffiadau a fynegwyd hefyd.

Rhoddwyd y gofyniad statudol i awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau treth gyngor ar waith ym 1992, pan oedd hi'n arferol cyfathrebu â dinasyddion trwy hysbysiadau mewn papurau newydd, ond nawr, 30 mlynedd yn ddiweddarach, ystyrir bod hyn yn ddull anhyblyg o ddarparu gwybodaeth am y dreth gyngor, nad oes gofyn amdano mwyach oherwydd datblygiadau technolegol a newidiadau eraill yn y system drethi.

Rwy'n cydnabod yn llwyr y gwaith amhrisiadwy y mae ein papurau newydd lleol a chenedlaethol yn ei wneud i hysbysu ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, ac rwy'n llwyr ddeall yr hinsawdd economaidd anodd y mae papurau print yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd. Yr wythnos diwethaf, cwrddais â chynrychiolwyr Cymdeithas y Cyfryngau Newyddion a gwrando ar yr hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud. Fe allais i roi sicrwydd iddyn nhw mai'r bwriad yw peidio â dileu gofynion statudol ar gyfer mathau eraill o hysbysiadau—yn wir, byddai hynny y tu hwnt i gwmpas cytunedig y Bil.

Mae rheswm clir pam y mae hysbysiadau treth gyngor yn wahanol i fathau eraill o hysbysiadau cyhoeddus. Mae hysbysiadau cyhoeddus am geisiadau cynllunio, er enghraifft, yn darparu gwybodaeth bwysig i drigolion gael y cyfle i wrthwynebu neu leisio eu cefnogaeth i gynlluniau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu cymdogaeth, nad ydyn nhw'n ymwybodol ohonyn nhw fel arall. Fodd bynnag, mae hysbysiad y dreth gyngor yn darparu gwybodaeth y bydd pob talwr treth gyngor yn ei dderbyn yn uniongyrchol fel rhan o'r Bil blynyddol, p'un a ydyn nhw'n dewis derbyn hynny'n electronig neu ar ffurf copi caled, ac am y rheswm yna, rwy'n credu, nid yw'r dadleuon am eithrio digidol yn dal dŵr mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae'r Bil yn darparu dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch i bobl na allan nhw fynd ar y we, ac fe wnes i dderbyn argymhelliad Cyfnod 1 i weithio gyda llywodraeth leol i fonitro gweithrediad y ddarpariaeth honno.

Rwy'n ofni nad wyf ychwaith yn credu ei bod hi'n rhesymol dadlau y byddai colli refeniw a gynhyrchir o un hysbyseb fesul blwyddyn ariannol, a allai fod cyn lleied â £600, yn gwneud papur newydd yn anghynaladwy. Ond rwy'n cytuno â chyd-Aelodau y prynhawn yma sydd wedi siarad am bwysigrwydd cael y drafodaeth ehangach honno am yr hyn sydd mewn gwirionedd yn fater llawer mwy cymhleth o ran sut rydym ni'n cefnogi'r cyfryngau lleol a hefyd sut rydym ni'n cyfathrebu'n fwyaf effeithiol â phreswylwyr. Nid yw'n ymddangos bod hysbyseb flynyddol a gyhoeddwyd ar ddiwrnod amhenodol ym mis Mawrth sy'n cyrraedd llai na 1.5 y cant o breswylwyr yn cyflawni nod o gyfathrebu'n effeithiol.

Ond, Dirprwy Lywydd, ar ôl dweud hynny i gyd, rwy'n cydnabod yn llwyr gryfder teimladau ymhlith cyd-Aelodau ar y mater penodol hwn, ac rwyf wastad yn awyddus i ddod o hyd i feysydd ble gallwn ni gyfaddawdu, lle gallwn ni, ac i weithio gyda phartïon eraill. Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox a hefyd i Peredur Owen Griffiths am y trafodaethau cydweithredol a chreadigol a gawsom ni ar y mater penodol hwn.

Rwyf wedi gorfod gofyn i gyd-Aelodau wrthsefyll gwelliannau eraill heddiw, oherwydd y canlyniadau anfwriadol posibl a allai effeithio'n negyddol ar drethdalwyr, ond nid wyf yn credu bod y gwelliant hwn yn un o'r rhai hynny. Felly, yn ysbryd gwrando ar gyd-Aelodau a gwrando ar randdeiliaid a pharchu'r sgyrsiau hynny, byddwn yn ymatal yn y bleidlais ar y gwelliant penodol hwn heddiw.

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth. Fe lwyddodd rhywbeth cymharol fach mewn dadl mor bwysig i gael cymaint o bobl i fyny ar eu traed; mae'n drueni na fu cymaint o frwdfrydedd efallai am rai o'r meysydd pwysicach.

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am wrando a gweithio gyda phobl? Oherwydd er y gellid ystyried hyn yn fater dibwys, mae dau faes sy'n cael eu cyfuno yma: yn amlwg, fel y noda Mike, y mynediad at wybodaeth i'r rhai sy'n dal i fod yn anfedrus ar-lein hyd yma—a gobeithio y bydd y nifer hwnnw'n lleihau, wrth inni symud ymlaen—a dyna'r mater arall yma am gefnogi papurau newydd a newyddiaduraeth a phethau felly. Felly, mae angen trafodaeth yn y dyfodol, does dim amheuaeth am hynny. Felly, diolchaf i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymatal. Am y tro, bydd hynny'n gadael pethau fel y maen nhw, ond gobeithio y bydd trafodaeth fanylach ar ryw adeg yn y Siambr hon am y materion ehangach. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:40, 9 Gorffennaf 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. O blaid 24, 23 yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 19 wedi’i dderbyn.

Gwelliant 19: O blaid: 24, Yn erbyn: 2, Ymatal: 23

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 5467 Gwelliant 19

Ie: 24 ASau

Na: 2 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 11 ASau

Wedi ymatal: 23 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw