Grŵp 5: Y dreth gyngor: disgownt person sengl (Gwelliant 14)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 5:19, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliant 14 yn welliant pur dreiddgar. Fe hoffem ni ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i gynnal y gostyngiad i bobl sengl ar o leiaf 25 y cant, a heb osod amodau neu gyfyngiadau newydd ar gymhwysedd ar gyfer y gostyngiad. Rydym yn croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ystod Cyfnod 2, wedi datgan y bydd yn ychwanegu hyn. Fodd bynnag, fe hoffem ni ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw heddiw, oherwydd, fel y gwyddom ni, yn y memorandwm esboniadol, ar dudalen 90, mae'n amlwg iawn bod llinell yno sy'n caniatáu i gynghorau ddiystyru’r gostyngiad hwn neu ei leihau mewn rhai amgylchiadau. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig ein bod yn cael ymrwymiad cadarn, hollol gadarn y bydd isafswm o 25 y cant wastad yn bodoli. Diolch.