– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Grŵp 5 sydd nesaf, ac mae'r pumed grŵp o welliannau yn ymwneud â'r dreth gyngor: disgownt person sengl. Gwelliant 14 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliant 14 yn welliant pur dreiddgar. Fe hoffem ni ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i gynnal y gostyngiad i bobl sengl ar o leiaf 25 y cant, a heb osod amodau neu gyfyngiadau newydd ar gymhwysedd ar gyfer y gostyngiad. Rydym yn croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ystod Cyfnod 2, wedi datgan y bydd yn ychwanegu hyn. Fodd bynnag, fe hoffem ni ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw heddiw, oherwydd, fel y gwyddom ni, yn y memorandwm esboniadol, ar dudalen 90, mae'n amlwg iawn bod llinell yno sy'n caniatáu i gynghorau ddiystyru’r gostyngiad hwn neu ei leihau mewn rhai amgylchiadau. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig ein bod yn cael ymrwymiad cadarn, hollol gadarn y bydd isafswm o 25 y cant wastad yn bodoli. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae gwelliant 14 yn cyflwyno gofyniad, mewn unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol sy'n ymwneud â dyfodol y gostyngiad person sengl, fod yn rhaid i'r gostyngiad fod o leiaf 25 y cant. Mae hwn yn faes pwysig o gefnogaeth i dros £0.5 miliwn o gartrefi ledled Cymru. Diben ehangach adran 18 y Bil yw moderneiddio, cydgrynhoi a darparu cysondeb ar draws yr ystod o bwerau yn Neddf 1992 sy'n pennu atebolrwydd i dalu'r dreth gyngor ar hyn o bryd. Mae'r dirwedd gyfreithiol yn gymhleth ac yn anghyson, ar ôl datblygu fesul tipyn dros 30 mlynedd, gan ei gwneud hi'n anodd i drethdalwyr ddeall yr ystod o ostyngiadau, eithriadau a'r diystyriadau. Mae hefyd yn gymhleth i asiantaethau cynghori, fel Cyngor ar Bopeth, ddeall wrth helpu pobl, ac i awdurdodau lleol weinyddu. Rwyf wedi bod yn gwbl glir, fodd bynnag, y byddaf yn ailddatgan y gostyngiad person sengl ar 25 y cant mewn rheoliadau. Mae'r gostyngiad person sengl wedi ei ymgorffori yn y gyfraith a dyna fydd y drefn o hyd ymlaen. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthwynebu gwelliant 14.
Diolch, a diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Nid wyf yn amau eich bod yn mynd i wneud hynny; dim ond bod y gyfraith drwy'r rheoliadau ar hyn o bryd yn caniatáu i'r cynghorau hynny ddefnyddio'r gallu i ddatgymhwyso'r elfennau hynny, a dyna sy'n rhoi rhywfaint o bryder i ni. Fel y gwyddoch chi, mae cymaint o bobl yn dibynnu ar y gostyngiad hwn o 25 y cant, ac mae llawer o'r bobl hynny yn dlawd iawn o ran arian. Efallai eu bod yn bobl sengl oedrannus mewn tai mawr, sy'n talu symiau enfawr o dreth gyngor, tai sydd wedi dirywio fwy na thebyg mewn sawl ffordd, ac felly mae'n bwysig bod hynny'n parhau. Felly, rwy'n falch y byddwch chi'n gwneud hynny. Fodd bynnag, byddaf yn cynnig y gwelliant.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwelliant 14 wedi'i wrthod.
Peter, gwelliant 15.
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwelliant 15 wedi'i wrthod.
Peter, gwelliant 16.
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 16 wedi'i wrthod.
Peter, gwelliant 17.
Wedi cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 17 wedi'i wrthod.
Peter, gwelliant 18.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, felly mae gwelliant 18 wedi'i wrthod.