Grŵp 4: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliannau 11, 12, 15, 18, 27)

– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:12, 9 Gorffennaf 2024

Grŵp 4 nawr: mae'r pedwerydd grŵp o welliannau yn ymwneud â phwerau gwneud rheoliadau. Gwelliant 11 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Peter.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Peter Fox).

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 5:12, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Felly, rwyf am siarad am welliannau 11, 12, 15, 18 a 27. Mae'r gwelliannau hyn yn darparu ar gyfer isafswm cyfnod o 60 diwrnod, ac eithrio cyfnodau diddymu neu doriad o fwy na phedwar diwrnod, er mwyn caniatáu i'r Senedd graffu ar reoliadau drafft, megis pwerau a fewnosodir yn Neddf 1988 gan adrannau 5, 9, 10 a 12 o'r Bil, sy'n honni eu bod yn gwneud unrhyw un o'r canlynol: rhoi neu dynnu rhyddhad o atebolrwydd i ardrethu annomestig hereditamentau yng Nghymru; rhoi neu dynnu eithriadau o ardrethu annomestig ar gyfer hereditamentau rhagnodedig yng Nghymru; a gwneud darpariaeth mewn perthynas â lluosyddion gwahanol ar gyfer cyfrifo atebolrwydd ardrethi annomestig ar gyfer hereditamentau yng Nghymru.

Yng Nghyfnod 2, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod y 60 diwrnod yn ei gwneud yn weithdrefn uwchgadarnhaol, a all oedi newidiadau. Fodd bynnag, drwy gael yr amser hwn i graffu, bydd yn gwella tryloywder ac atebolrwydd ac yn yr ysbryd hwn rydym yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:13, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliannau hyn, sy'n dilyn yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ynghylch yr angen i ganiatáu ar gyfer isafswm cyfnod o 60 diwrnod i bwyllgorau perthnasol graffu ar reoliadau a gynigir o dan y pwerau yn adran 5. Credwn fod natur y pwerau y mae'r Llywodraeth yn gofyn amdanynt yn gofyn am lefel briodol o oruchwyliaeth gan y Senedd, y byddai'r diwygiadau hyn yn ei gwarantu. Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur

(Cyfieithwyd)

Fel y clywsom, byddai'r rhan fwyaf o'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn gwneud rheoliadau a wneir o dan y rhan fwyaf o’r pwerau yn y Bil yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol ar ffurf isafswm cyfnod gosod o 60 diwrnod. Defnyddir gweithdrefn uwchgadarnhaol dim ond mewn achosion eithriadol lle nad ystyrir bod y weithdrefn gadarnhaol yn ddigonol. Ac, fel y nodais yn ystod cyfnodau craffu blaenorol, nid wyf yn credu bod hynny'n wir mewn perthynas â'r darpariaethau yn y Bil hwn.

Mae gwelliant 11 yn ymwneud â'r pwerau mewn perthynas ag ardrethi annomestig i ddiffinio trefniadau osgoi artiffisial, rhoi a thynnu rhyddhad ac eithriadau, a phennu lluosyddion gwahaniaethol trwy reoliadau. Mae gwelliannau 12, 15 a 18 yn ymwneud â phwerau i wneud rheoliadau ynghylch gostyngiadau treth gyngor. Nid oes unrhyw un o'r ystod o bwerau presennol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag ardrethi annomestig a'r dreth gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefnau uwchgadarnhaol. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r egwyddor sy'n sail i'r gwelliant hwn, mae'n bwysig bod yn glir ynghylch y perygl o ganlyniadau anfwriadol gwirioneddol. Gallai gweithdrefnau uwchgadarnhaol roi talwyr trethi lleol dan anfantais yng Nghymru drwy ohirio neu hyd yn oed atal darparu cymorth newydd. Byddai hon yn broblem benodol lle effeithir ar y gyllideb sydd ar gael i lywio dull Llywodraeth Cymru gan ddatganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref, neu lle rydym yn penderfynu darparu cymorth newydd mewn amgylchiadau brys. Mae'r enghreifftiau a amlinellais mewn perthynas â'r dyletswyddau ymgynghori statudol arfaethedig yr un mor berthnasol i'r mater hwn. Mae'r enghreifftiau hyn, na fyddaf yn eu hailadrodd, yn dangos sut y gallai'r gwelliant hwn atal ymyriadau i gefnogi talwyr trethi lleol, y byddai'r Senedd hon yn eu cefnogi. Byddai gweithdrefn uwchgadarnhaol hefyd yn arwain at oedi wrth fynd i'r afael â threfniadau osgoi ardrethi annomestig, gan arwain at osgoi atebolrwydd hirfaith.

Byddai gwelliant 27 yn cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i gychwyn y dyletswyddau newydd i dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Nid yw'n arfer safonol i Orchmynion cychwyn fod yn destun gweithdrefn graffu. Fel yr eglurais yn ystod cyfnodau cynharach, mae'r darpariaethau wedi'u nodi'n llawn ac ar gael er mwyn craffu arnynt yn ystod hynt y Bil. Rwyf wedi rhoi sicrwydd clir na fydd y darpariaethau'n cael eu cychwyn nes bod Llywodraeth Cymru yn fodlon y gellir disgwyl yn rhesymol i dalwyr ardrethi gydymffurfio.

Roedd tystiolaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ystod Cyfnod 1 yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch y gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau bod y trefniadau'n syml i dalwyr ardrethi ymgysylltu â nhw. Nid wyf felly'n argyhoeddedig bod angen cymeradwyaeth bellach gan y Senedd pan fyddwn yn barod i ddechrau'r darpariaethau. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthsefyll gwelliannau 11, 12, 15, 18 a 27.

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Symud i'r bleidlais.

Photo of David Rees David Rees Llafur

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 11 wedi'i wrthod.

Gwelliant 11: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 5459 Gwelliant 11

Ie: 24 ASau

Na: 25 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 11 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cynigiwyd gwelliant 12 (Peter Fox).

Photo of David Rees David Rees Llafur

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 12 wedi'i wrthod.

Gwelliant 12: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 5460 Gwelliant 12

Ie: 24 ASau

Na: 25 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 11 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cynigiwyd gwelliant 13 (Peter Fox).

Photo of David Rees David Rees Llafur

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 13 wedi'i wrthod.

Gwelliant 13: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 5461 Gwelliant 13

Ie: 24 ASau

Na: 25 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 11 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw