Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Llafur 1:59, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, eto, mae arweinydd Plaid Cymru yn ceisio rhoi geiriau yn fy ngheg i nad wyf i erioed wedi eu defnyddio, ac i geisio gwneud dyfarniad nad yw'n ddyfarniad y Llywodraeth hon, yn sicr. Rwy'n cytuno, fodd bynnag, bod ein staff o dan bwysau aruthrol, a heb ymrwymiad ac arbenigedd rhyfeddol ein staff ym maes gofal sylfaenol a gofal mewn ysbytai, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaeth. Mae'n ffaith bod y rhan fwyaf o bobl yn cael canlyniad da ac yn cael gofal prydlon yn eu profiad eu hunain. Ein her ni yw bod llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir, ac mae llawer gormod o bobl ddim yn cael y profiad y byddem ni eisiau iddyn nhw ei gael. Rydym ni'n gwybod bod ôl-groniad enfawr a grëwyd ar ôl y pandemig gyda'r mesurau eithriadol y bu'n rhaid i ni eu cymryd. Mae'n ymddangos bod adferiad yn ein gofal iechyd yn cymryd hyd yn oed yn hirach nag yr oeddem ni'n meddwl y byddai'n ei wneud. Dydyn ni dal ddim ar yr un lefel o effeithlonrwydd eto o ran amrywiaeth o lawdriniaethau yn y gwasanaeth—mae hynny'n cael effaith. Rydym ni wedi dargyfeirio £1 biliwn i fynd i'r afael â'r ôl-groniad, gydag arosiadau hirdymor yn gostwng, ond rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud. Mae hynny wedi golygu nad ydym ni wedi gallu buddsoddi yn y drws ffrynt, os mynnwch, y rhan gofal sylfaenol a gofal cymunedol o'n system, yr ydym ni'n gwybod fydd yn cyflawni canlyniadau gwell, tymor hwy, ac yn lleihau angen o fewn ein system. Hefyd, mae gennym ni heriau iechyd cyhoeddus enfawr ar draws gymdeithas gyfan. Mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin â phen mwy miniog hynny, ond mewn gwirionedd mae amrywiaeth eang o fesurau y mae angen i ni eu cymryd yn llwyddiannus i geisio cael gafael ar y rheini.

Nid wyf i erioed wedi bod ac ni fyddaf byth yn hunanfodlon ynghylch yr heriau a'r pwysau eithriadol sydd ar ein system gofal iechyd. Bydd cael gafael ar hynny, gweld y gwelliant yr ydym ni'n gwybod y mae angen i ni ei weld, yr ydym ni ei eisiau, nid yn unig yn golygu sloganau yn y lle hwn, bydd yn golygu gwaith caled go iawn. Bydd yn golygu diwygio ac adnoddau. Bydd yn golygu moderneiddio. Rydym ni wedi bod yn moderneiddio ein gwasanaeth mewn amrywiaeth o feysydd. Ac, mewn gwirionedd, mae Wes Streeting yn edrych ar gyflawni amrywiaeth o'r gwelliannau yn y ddarpariaeth o ofal iechyd yr ydym ni wedi eu cyflawni yma yng Nghymru. Mae gennym ni gynnig llawer gwell o ran fferylliaeth yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae'n bwriadu gwneud mwy o hynny. Rydym ni wedi newid y ffordd y mae deintyddiaeth yn contractio—gyda mwy o gyfnodau cleifion newydd. Rwy'n falch iawn o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ym maes optometreg. Yn ddiddorol, pan oeddwn i'n gweld pobl yn Iwerddon, roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oeddem ni wedi ei wneud o ran symud mwy o wasanaethau â mwy o fynediad at optometreg rheng flaen. Felly, mae gennym ni nifer o bethau y dylem ni fod yn falch ohonyn nhw, yn ogystal â chydnabod y nifer sylweddol o heriau sydd gennym ni.

Ac o ran Tata, rwy'n ei gyfeirio at yr ateb yr wyf i wedi ei roi i arweinydd yr wrthblaid: rydym ni mewn trafodaeth—trafodaeth â ffenestr gyfyngedig. Byddwch wedi clywed arweinydd Community—yr undeb dur mwyaf ym Mhort Talbot, yr undeb dur mwyaf yn y DU—yn dynodi yn ei farn ef ffenestr o bedair i chwe wythnos, i ddarganfod a ellir taro bargen well, os gallwn ni berswadio Tata i newid trywydd, i fuddsoddi yn y dyfodol a rhoi gwahanol gyfnod pontio i ni. Mae hynny'n bosibl dim ond oherwydd bod dwy Lywodraeth ar y maes bellach, yn brwydro dros ddur a gweithwyr dur, oherwydd bod lefel wahanol o gyd-fuddsoddiad, a lefel wahanol o uchelgais ar gyfer dyfodol dur. Ac rwy'n credu bod gweithwyr dur a'u cymunedau yn deall hynny, ac yn gwybod ein bod ni'n gwneud popeth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud drostyn nhw, ac, yn wir, yr hyn y mae'n ei olygu i'n dyfodol economaidd hefyd.