Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:58, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Ni atebodd y Prif Weinidog fy nghwestiwn am y £3 biliwn a pha gyfran o hynny fydd yn dod i ddur yng Nghymru; efallai y gall ddychwelyd at y pwynt hwnnw. Ond fe wnaf i gloi gydag iechyd. Prin fod yr Ysgrifennydd iechyd newydd yn Lloegr wedi camu i mewn i'r adran iechyd cyn iddo ddatgan bod y GIG wedi torri. Rwy'n tybio ei fod yn siarad am y GIG yn Lloegr, er, gan fod Llafur yng Nghymru wedi cymylu'r sefyllfa yn fwriadol ar y mater datganoledig penodol hwnnw yn ystod yr etholiad, ni allaf fod yn hollol siŵr.

Ond, os yw'r GIG wedi torri yn Lloegr, siawns ei fod wedi torri yng Nghymru hefyd, gyda'i restrau aros mwyaf erioed. Nawr, er gwaethaf gwaith caled ac ymroddiad y staff, mae ein GIG ar ei liniau yma yng Nghymru, yn bennaf oherwydd penderfyniadau Gweinidogion iechyd Llafur dros 25 mlynedd, ac ynghyd, yn wir, â thoriadau'r Torïaid. Felly, dywedodd Wes Streeting:

'O heddiw ymlaen, polisi'r adran hon yw bod y GIG wedi torri.'

Nid wyf i'n anghytuno ag ef, gyda llaw, a dyna pam y galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd yn ôl ym mis Chwefror. Ond a all y Prif Weinidog gadarnhau ai cyfaddef bod y GIG wedi torri yw bolisi swyddogol adran iechyd ei Lywodraeth Lafur ef yng Nghymru hefyd bellach, neu a wnaiff ef barhau i gymryd yr agwedd, o ran y GIG o dan Lafur yng Nghymru, nad oes dim i'w weld yma?