1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 9 Gorffennaf 2024.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniad yr etholiad cyffredinol yn ei chael ar bobl Cymru? OQ61445
Diolch am y cwestiwn. Rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU a mynd i'r afael gyda'n gilydd â'r heriau a'r cyfleoedd niferus y mae Cymru a'r DU ehangach yn eu hwynebu. Rydym ni eisiau helpu i greu partneriaeth newydd i ddarparu sefydlogrwydd economaidd, cyfrifoldeb cyllidol a hybu twf. Roeddwn i'n falch o gael y cyfle i ddechrau'r sgwrs uniongyrchol honno gyda Phrif Weinidog y DU ddoe.
Diolch, Prif Weinidog. Yn anffodus, difaterwch oedd enillydd mwyaf yr etholiad cyffredinol. Cawsom ni un o'r niferoedd lleiaf o bleidleiswyr a gofnodwyd erioed. Mae fy mhlaid i yn cymryd llawer o'r bai am hynny, ond felly hefyd y mae eich plaid chi. Ymhell o gael mandad aruthrol, cefnogaeth dim ond traean o'r etholwyr a wnaeth drafferthu pleidleisio y sicrhaodd eich plaid. Felly, Prif Weinidog, mae gennych chi dasg enfawr o'ch blaen o ran perswadio pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth. Fe wnaethoch chi nifer enfawr o addewidion yn ystod yr ymgyrch. Pryd fyddwch chi'n eu cyflawni nawr, o gofio mai prin yr ydych chi wedi ei wneud i dyfu'r economi, i wella cyrhaeddiad addysgol, neu i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG? Sut wnewch chi argyhoeddi pobl bod eu pleidlais yn bwysig?
Wel, rwy'n credu bod pobl a aeth i bleidleisio yn deall bod eu pleidleisiau wir yn bwysig. Fe wnaethon nhw newid pendant, oddi wrth y Ceidwadwyr ac o ran deall mai'r Blaid Lafur ym mhob cenedl o'r DU oedd yn cynrychioli'r newid hwnnw. Dyna pam mae gennym ni fwyafrif o Aelodau Seneddol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd bellach, ac ni fyddwn yn disgrifio bod â mwy na 400 o ASau Llafur yn Senedd y DU fel canlyniad gwael. Rwy'n credu ei fod yn ganlyniad cadarnhaol iawn â mandad sy'n rhoi'r lle i ni weithredu ledled y DU, a bydd Cymru yn elwa o hynny, ond hefyd y cyfrifoldeb i wneud hynny hefyd, i gyflawni'r maniffesto sydd gennym ni. Ac, mewn gwirionedd, bydd cadw at yr addewidion yr ydym ni wedi eu gwneud mewn grym yn gwneud gwahaniaeth, gan ddeall bod rhaniad bwriadol y rhyfeloedd diwylliant a ddechreuwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei roi y tu ôl i ni. Os ydym ni'n credu y bydd ein prif bleidiau yn elwa o fynd tuag at eithafion barn neu fynnu bod pawb yn derbyn bod eu gwrthwynebwyr rywsut yn eithafwyr pan ei bod yn amlwg nad ydyn nhw, rwy'n credu y bydd hynny yn gyrru mwy a mwy o bobl oddi wrth wleidyddiaeth mewn gwirionedd. Mae'r bleidlais gwrth-wleidyddiaeth i bobl a bleidleisiodd dros blaid amgen, y difaterwch gwrth-wleidyddiaeth sy'n bodoli gyda'r cwymp i nifer y pleidleiswyr, rwy'n credu eu bod nhw'n adlewyrchiad o sut mae ein dadleuon yn cael eu cynnal a'r sinigiaeth yr wyf i'n credu sy'n bodoli mewn llawer gormod o gymunedau.
Rwy'n edrych ymlaen at bartneriaeth wirioneddol gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb i'r her onest ar sawl carreg drws am faint o amser y bydd yn ei gymryd i wneud iawn am y 14 mlynedd diwethaf, gan ddangos bod pwy rydych chi'n pleidleisio drosto yn bwysig, a'n bod ni'n bobl nobl yn y bôn sy'n anghytuno â'n gilydd am sut i wella'r wlad. Rwy'n cydnabod bod pobl nobl yn y Blaid Geidwadol; rwy'n anghytuno â chi am y dyfodol i'r wlad. Rwy'n credu y bydd ymgysylltu gonest o ddaioni i bob un ohonom ni, ac rwy'n edrych ymlaen at gyflawni ein mandad yma yng Nghymru ac, yn wir, y mandad ehangach hwnnw ledled y Deyrnas Unedig.
Mae i'w groesawu wrth gwrs, bod trafodaethau yn digwydd rhwng Tata a Llywodraeth newydd y DU. Rydym ni'n dal i fod yn eglur os ydym ni eisiau'r sicrwydd o swyddi, yna mae gwladoli yn un ffordd o sicrhau hynny. Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am drafodaethau sy'n parhau, ond os bydd Llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd y strategaeth o roi arian i Tata i'w perswadio i aros, a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i'r arian hwnnw ddod â thelerau ac amodau penodol, yn wahanol i'r buddsoddiad a roddwyd gan y Llywodraeth flaenorol? Ac a fyddai'n cytuno hefyd y dylai cyfranddaliad euraidd i'r Llywodraeth fod yn un o'r amodau hynny, fel y gellir adennill unrhyw fuddsoddiad a wneir pan fydd y cwmni hwnnw yn gwneud elw unwaith eto?
Edrychwch, mae nifer o drafodaethau y mae'n rhaid eu cynnal ac sy'n cael eu cynnal, ac rwy'n credu ei fod yn un o'r pethau y dylai pobl fyfyrio ar realiti lle'r ydym ni wedi bod, nid dim ond y sefyllfa yr ydym ni wedi cael ein glanio ynddi ar ôl sawl blwyddyn o Lywodraeth Geidwadol a wnaeth ffoi'r maes o ran y mater hwn, ond hefyd pan oedd perygl gwirioneddol y byddai'r ddwy ffwrnais chwyth yn cau. Siaradais i a Jeremy Miles gyda'n gilydd; siaradais â Keir Starmer, arweinydd yr wrthblaid o hyd; cawsom sgwrs gyda Jonathan Reynolds, dal yn Ysgrifennydd busnes yr wrthblaid ar y pryd, a chawsom nid yn unig sgyrsiau gyda ni ein hunain ond gyda'r cwmni a phartneriaid eraill hefyd. Ac fe wnaeth hynny wahaniaeth, rwy'n credu, o ran symud i sefyllfa lle mae sgwrs am y dyfodol yn dal yn bosibl, pan efallai na fyddai wedi bod drwy'r wythnos etholiad honno. Ac mae hynny wedi parhau ar ôl yr etholiad.
Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag ewyllys da yn unig. Nid yw'n ymwneud ag uchelgais yn unig. Mae'n ymwneud â sgwrs uniongyrchol gyda Llywodraeth sydd â mandad i weithredu, a'r gallu i gyd-fuddsoddi yn y dyfodol. A byddwn yn disgwyl y byddai'r cyd-fuddsoddiad hwnnw yn dod gyda disgwyliadau a chytundebau ar swyddi a buddsoddiad yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod hi'n bosibl cael bargen well. Hyd yn oed pe bai'n bosibilrwydd bach yn unig, mae'n rhaid iddi fod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon ac unrhyw Lywodraeth y DU werth chweil i fynd ar drywydd y posibilrwydd hwnnw, i geisio diogelu mwy o swyddi, a'r gallu hwnnw i wneud dur sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol ein heconomi yma yng Nghymru ac yn y DU ehangach.
Prif Weinidog, mae ein system cyfiawnder troseddol a charchardai mewn cyflwr enbyd, ac ni ddylai llawer o'r bobl sydd yn y carchar fod yno yn y lle cyntaf; mae angen eu helpu nhw'n well gyda'r ffactorau sylfaenol sydd wrth wraidd eu troseddu. Ac, wrth gwrs, os yw'r carchardai yn orlawn, mae'n gwneud adsefydlu yn anodd iawn, ac mae hynny'n creu mwy o aildroseddu, mwy o ddioddefwyr troseddau. Felly, rwy'n falch iawn bod ein Prif Weinidog newydd, Keir Starmer, wedi gwneud James Timpson yn Weinidog Gwladol dros Garchardai i ymdrin â'r problemau hyn, oherwydd trwy ei syniadau a thrwy ei weithredoedd yn ei fusnes ei hun, mae wedi dangos ei agwedd flaengar a sut y gellir ymdrin â'r materion hyn yn briodol.
Felly, gyda'r dull newydd hwn a fydd gennym ni, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i wasanaethau Llywodraeth Cymru, fel iechyd meddwl, sgiliau a hyfforddiant, digartrefedd ac, wrth gwrs, camddefnyddio alcohol a chyffuriau? Yr holl wasanaethau hyn, a wnewch chi wneud yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r dull adeiladol newydd hwn, fel bod gennym ni lai o ddioddefwyr troseddau a gwell safonau byw yn ein cymunedau?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig am yr argyfwng gwirioneddol yr ydym ni'n ei weld ar draws carchardai. Mae'n frawychus gweld yr hyn a ddywedodd yr arolygiaeth yn ddiweddar am yr amodau mewn carchardai: y gorlenwi, yr amodau sy'n dadfeilio hefyd—amgylchedd cwbl amhriodol—a faint mae ein carchardai yn llenwi hefyd. Rydym ni ar y pwynt lle gallai Llywodraeth y DU gael ei gorfodi i adeiladu carchardai newydd, nid oherwydd ei bod hi eisiau rhoi mwy o bobl yn y carchar, ond gan nad yw'n gallu ymdopi â'r bobl sydd ganddi, ac mae'r ystad mewn cyflwr mor wael y bydd angen i ni gau carchardai hefyd. Nawr, mae honno'n rhan arall o'r etifeddiaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei hetifeddu.
Rwy'n cytuno â chi, mae penodiad James Timpson yn arwydd go iawn o fod eisiau deall sut rydych chi'n dod â phobl i mewn gydag arbenigedd sy'n gallu sicrhau cynnydd ymarferol. Ceir safbwynt ideolegol, os mynnwch, y bydd llawer ohonom ni'n ei fabwysiadu ynglŷn â beth ddylai'r math cywir o ateb fod, ond mae'n hynod ymarferol hefyd. Os edrychwch chi ar yr hyn y mae busnes Timpson wedi ei wneud, ac eraill, maen nhw'n cynnig llwybr i bobl adael y carchar a chael bywyd sefydlog mewn cymdeithas ehangach. Mae hynny o fudd i bob un ohonom ni. Mae o fudd i bob un ohonom ni fel trethdalwyr, fel pobl a allai fod â chysylltiad â phobl yn yr ystad carchardai nawr, ond hefyd i gymunedau lle mae pobl yn dychwelyd hefyd. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r elfen gosbi o roi pobl yn y carchar yn unig; mae'n ymwneud ag atal ac adsefydlu ac angen gwneud hynny'n iawn, fel nad yw pobl ar chwyrligwgan o fynd i mewn ac allan o'r system cyfiawnder troseddol.
Ac mae'n sail i'r sgwrs y mae angen i ni ei chael am ddyfodol gwasanaethau prawf. Ni fydd pawb wedi darllen maniffesto Llafur y DU, ond mae'n sôn am yr hyn sydd eisoes yn digwydd ym Manceinion Fwyaf, lle maen nhw'n gallu cysylltu gwasanaethau datganoledig, gan gynnwys tai ac eraill, ac fe wnaethon nhw lwyddo i gysylltu hynny â phrawf, ac mae'n sicrhau canlyniadau gwell. Nid mater syml o ailddylunio map o le'r ydym ni eisiau i bwerau fod yw hwn; mewn gwirionedd, mae'n fater o le a sut y gallwch chi ddarparu gwell gwasanaethau gyda chanlyniadau gwell i'r bobl sydd wedi'u hymgysylltu ac yn cymryd rhan, yn ogystal â'r trethdalwr. Ac rwy'n credu nad trafodaeth yn unig y byddwn ni'n ei chael yw hi, gyda Lesley Griffiths yn Weinidog arweiniol i ni yn y Llywodraeth hon, ond rwy'n credu ei bod yn gyrchfan i'r DU a Chymru gael gwahanol fath o sefydliad i sicrhau canlyniadau llawer gwell y gall pob un ohonom ni fod yn falch ohonyn nhw.