1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 9 Gorffennaf 2024.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Eisteddfod Genedlaethol 2024? OQ61408
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch bod cydweithio rhyngom ni â'r Eisteddfod Genedlaethol yn gryfach nag y bu erioed. Trwy gydweithio, rŷn ni'n sicrhau bod pawb, o bob cefndir, yn cael profi ein diwylliant a'r Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at fynychu'r Eisteddfod fel Prif Weinidog am y tro cyntaf.
Diolch, Prif Weinidog. Ar 3 Awst, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Bontypridd—y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn y de ers 2010. Ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn Aberdâr yn fy etholaeth i y llynedd, a chyda rhaglen o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled ardal gyfan yr awdurdod lleol, mae hwn wir yn ddathliad i Rondda Cynon Taf gyfan. Rwy'n awyddus ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y manteision diwylliannol, addysgol ac economaidd hirdymor o hyn. Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau etifeddiaeth sy'n para i'r gymuned leol yn sgil yr Eisteddfod?
Mae'n gwestiwn da iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi atgoffa pawb bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud yn Aberdâr. Efallai fod y digwyddiad ffisegol yn digwydd yn etholaeth y Cwnsler Cyffredinol, ond mae wir yn ddigwyddiad i RhCT gyfan. Mae'r budd economaidd a amcangyfrifir dros £22 miliwn i'r ardal leol. Ond, mae'n fwy nag ymdeimlad o falchder yn unig; mae'n berthynas dwy flynedd mewn gwirionedd, o'r cyhoeddiad drwodd a thu hwnt, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gadael etifeddiaeth a phositifrwydd sydd wir yn para. Mae'n ymwneud â chofio bod yr Eisteddfod a'r iaith a'r diwylliant yn perthyn i bob un ohonom ni, a sut rydym ni'n cael mynediad atyn nhw gyda'r gallu iaith Gymraeg sydd gennym ni. Rwy'n credu bod y lleoliad, mewn gwirionedd—ei wneud yn wirioneddol hygyrch trwy barc Ynysangharad—yn gam da iawn ymlaen hefyd. Rwy'n gwybod bod rhai pobl yn hoffi mynd i babell fawr ymhellach i ffwrdd o ganolfan boblogaeth, ond mae cael cymysgedd o ran sut mae'r Eisteddfod yn gweithio rwy'n credu yn helpu i'w gwneud yn hygyrch, o un Eisteddfod i'r llall. Rydym ni'n buddsoddi arian yn fwriadol i wneud yn siŵr bod pobl sy'n dod o gefndiroedd incwm is yn gallu cael mynediad at yr Eisteddfod hefyd. Rydym ni wedi cynorthwyo hynny gyda £350,000 eleni—datganiad gwirioneddol o'r ffaith fod yr iaith a'r diwylliant yn perthyn i bob un ohonom ni, waeth beth yw ein gallu yn y Gymraeg. Edrychaf ymlaen at ymweld â'r Eisteddfod a'i mwynhau fy hun ac at gael y cyfle i arddangos fy sgiliau fel oedolyn sy'n ddysgwr Cymraeg parhaus.
Prif Weinidog, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad hynod bwysig i ardal ei chynnal, ac rwyf i wrth fy modd ei bod yn cael ei chynnal yn fy nhref enedigol, Pontypridd eleni, sef cartref anthem genedlaethol Cymru. Nid yn unig y bydd yn dod â thwristiaeth i'r dref, ond bydd yn sicrhau budd economaidd sylweddol ac yn arddangos yr hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig. Fodd bynnag, fel y byddwch yn gwybod, mae Pontypridd wedi dioddef lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau ers cryn amser. Mae cyngor RhCT wrthi'n ymgynghori ar adnewyddu ei orchymyn diogelu mannau cyhoeddus sydd wedi bod ar waith ers 2018 ac sy'n cynnwys canol y dref, parc coffa Ynysangharad, a'r gorsafoedd rheilffordd a bysiau. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn debygol o ddenu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i Bontypridd dros y naw diwrnod y mae'n cael ei chynnal. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n awyddus i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo'r heddlu lleol a'r cyngor i helpu i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Diolch.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio, pryd bynnag a ble bynnag y cynhelir yr Eisteddfod, bod partneriaeth gref iawn rhwng yr Eisteddfod ei hun, yr awdurdod lleol sy'n ei chynnal ac, yn wir, Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner eraill, gan gynnwys yr heddlu wrth gwrs. Felly, rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni'n darparu £1 filiwn o gyllid craidd a'r symiau ychwanegol y cyfeiriais atyn nhw mewn ymateb i Vikki Howells i'w gwneud yn wirioneddol hygyrch i bobl o bob cefndir. Felly, bydd sgyrsiau gyda'r heddlu, gyda'r awdurdod lleol a chyda'r Llywodraeth ynglŷn â sut rydym ni'n rheoli'r Eisteddfod, mewn amgylchedd sy'n gyffredinol yn ddigwyddiad sy'n addas i'r teulu, lle gall ac y bydd teuluoedd yn mynychu ac yn gwneud yr ymdrech i fynd yn fwriadol. Ond, mewn gwirionedd, y traffig achlysurol gan bobl ym Mhontypridd a'r cyffiniau—. Rwyf i wir yn edrych ymlaen at fynd i'r Eisteddfod, at weld pobl yn cael mynediad at yr Eisteddfod, rhai ohonyn nhw am y tro cyntaf, a'i mwynhau mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Dyna'r wyf i wedi ei ganfod erioed pan wyf i wedi bod i'r Eisteddfod, yn fy nghyfnod presennol fel Aelod o'r Senedd a hefyd pan oeddwn i wir yn ŵr ifanc ac yn llywydd UCM Cymru, yn mynd i'r Eisteddfod ac yn teimlo croeso gwirioneddol ar y maes ac yn rhoi cynnig ar y darnau o Gymraeg, yr wyf i'n gobeithio bod gen i fwy ohonyn nhw yn ystod tua'r 20 mlynedd diwethaf.
Rydyn ni'n lwcus iawn heddiw gan fod gennym ni senedd Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James efo ni, sef yr ysgol Gymraeg agosaf at faes yr Eisteddfod. Dwi’n gwybod eu bod nhw wedi bod wrthi yn paratoi bunting, baneri, ac yn edrych ymlaen yn arw at gael yr Eisteddfod yn eu tref nhw. Felly, dwi eisiau dilyn ymlaen o bwynt Vikki Howells—mae’r gwaddol yn sicr i’w deimlo. Mae’r ffaith bod gyda ni gymaint o ddigwyddiadau Cymraeg yn mynd ymlaen wedi bod yn ffantastig. I rywun sydd fel arfer yn trio mynd i bopeth Cymraeg, mae wedi bod yn amhosibl mynd i bopeth, sydd yn beth prin iawn mewn ardal fel Pontypridd. Ond, y gofid ydy bod y bwrlwm yma yn mynd i ddod i ben. Mae yna nifer o ffynonellau ariannol, er enghraifft, wedi mynd i mewn i greu’r digwyddiadau yma. Felly, gaf i ofyn, fel rhan o’r strategaeth 'Cymraeg 2050', sut ydyn ni am sicrhau’r gwaddol pendant hwnnw, y twf sydd ei angen hefyd o ran addysg Gymraeg yn yr ardal, fel ein bod ni felly yn gallu cael yr holl waddol yma rydyn ni i gyd eisiau? Dwi yn meddwl bod angen arian a strategaeth; dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd heb gefnogaeth y Llywodraeth, dwi’n ofni.
O ran sut rydym ni eisiau parhau i dyfu'r iaith ymhlith pobl ifanc, yn enwedig y rhai yn yr ysgol—ac mae'n wych gweld ysgol leol yn yr oriel gyda ni heddiw—byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn cadarnhau ein cynigion ar gyfer dyfodol a gwelliant addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae'n fwy na hynny; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut mae dyfodol diwylliannol ac economaidd i'r iaith, i bobl ifanc allu defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd, gan gynnwys trwy gerddoriaeth a chymdeithasu, yn ogystal â'r dyfodol economaidd. Felly, ceir amrywiaeth o wahanol ymyriadau sy'n mynd o gwmpas hyn, yn ogystal â'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn ein hysgolion, mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac, wrth gwrs, gwella addysgu a dysgu'r Gymraeg yn y ffrwd Saesneg hefyd.
Yn hynny i gyd, mae angen y staff arnom ni i wneud y gwaith, ac mae angen i ni gynhyrchu ysbryd o frwdfrydedd a chynwysoldeb o amgylch yr iaith hefyd, fel eich bod chi, beth bynnag yw eich gallu cyfrwng Cymraeg, yn teimlo'n gadarnhaol ynghylch defnyddio hwnnw, ac mae hynny'n rhan o sut y byddwn ni'n tyfu'r iaith. Ac mae honno'n wers bwysig iawn i ddysgwyr sy'n oedolion, fel fi, o'r safbwynt nad ydych chi'n mynd i gael rhywun yn eich beirniadu am gael rhai rhannau ohono ddim yn berffaith gywir, ond eu bod nhw i'w croesawu a'u hannog mewn gwirionedd i wneud mwy ac i ddefnyddio mwy. Ac rwy'n gobeithio dangos hynny nid yn unig yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ond drwy wahanol rannau o'm hamser fel Prif Weinidog.