Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 1:49, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Gofynnais i chi am ddau bwynt. Un: oes yna gynllun ar y bwrdd, ac a yw hwnnw wedi cael ei gyflwyno i fwrdd Tata? Mae'n amlwg nad ydych chi wedi nodi bod cynllun wedi cael ei gyflwyno i fwrdd Tata. A dau: a fydd y buddsoddiad a nodwyd, y £2.5 biliwn yr ydych chi'n sôn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud ar gael, ar gyfer prosiectau yn y dyfodol neu i gynnal parhad ffwrnais chwyth 4? Felly, rwy'n rhoi'r ddau bwynt hynny i chi unwaith eto: ble mae'r cynllun ac, yn anad dim, a yw'n gysylltiedig â buddsoddiad yn y dyfodol neu a yw'n gysylltiedig â pharhad ffwrnais chwyth 4 a fydd yn diogelu'r swyddi ym Mhort Talbot yn ystod y cyfnod pontio i ffwrnais arc, yr ydym ni wedi ei gefnogi ac yn parhau i'w gefnogi?