Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Prif Weinidog, rydych chi wedi fy nghyhuddo o fod yn llosgwr; rydych chi wedi fy nghyhuddo o gamarwain yn fwriadol. Rydych chi'n Brif Weinidog sy'n sefyll yn y fan yna gyda phleidlais o ddiffyg hyder o amgylch ei wddf. Rydych chi'n Brif Weinidog a gymerodd £200,000 gan ddyn â dwy euogfarn droseddol. Rydych chi'n ddyn sydd, yn y pen draw, wedi sefyll yn y fan yna wythnos ar ôl wythnos ac wedi methu ag ateb y cwestiynau yr ydym ni wedi eu gofyn i chi wythnos ar ôl wythnos am y rhoddion hynny. A gallaf weld eich Gweinidog iechyd yn lapan yn y fan yna o'r fainc flaen—