Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:51, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rwyf i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog newydd y DU yn ei llongyfarch ac rwy'n gwybod y bydd y pedwar AS Plaid Cymru yn ei ddwyn ef a'i Lywodraeth newydd i gyfrif yn gadarn ond yn adeiladol. Rydym ni eisoes wedi clywed llawer gan Brif Weinidog y DU am ei ddymuniad i ailosod y berthynas rhwng Llywodraethau a chenhedloedd y DU, ond mae'n rhaid i'r geiriau hynny, er eu bod i'w croesawu, olygu rhywbeth, ac mae arnaf i ofn fy mod i'n dal i boeni am rywfaint o'r hyn yr wyf i'n ei glywed: y Gweinidog Llafur newydd, Stephen Kinnock, ar y BBC dros y penwythnos yn dweud na ddylid datganoli Ystad y Goron i Gymru. 'Nid wyf i'n credu bod angen i ni boeni'n ormodol am broses, nawr, symud y darnau o gwmpas y jig-so', meddai—y math o agwedd ddiystyriol a oedd yn adleisio'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru am y ffaith fod datganoli cyfiawnder yn fater o 'ffidlo o gwmpas gyda strwythurau'.

Nawr, mae'r Prif Weinidog yn gwybod yn iawn bod y materion hyn, yn ogystal â chyllid teg a chyllid HS2 ac yn y blaen, yn llawer mwy na phroses a strwythurau; maen nhw'n faterion sylfaenol o degwch. Felly, a wnaeth y Prif Weinidog anghofio gwneud cais cynnar i'r Prif Weinidog i ychydig o barch gael ei ddangos i Gymru, neu a yw'r Llywodraeth newydd eisoes yn dewis peidio â gwrando?