Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 1:41, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi groesawu Prif Weinidog newydd y DU. Siaradodd am ffatri Tata—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n cael bloedd i chi, o leiaf, unwaith yn y Siambr hon, Prif Weinidog. [Chwerthin.] Fe gewch i ddiolch i mi nes ymlaen. Daeth Prif Weinidog newydd y DU i'r Senedd ddoe. Yn amlwg, mae sefyllfa Tata Steel ym Mhort Talbot ar feddyliau pawb, sy'n destun cyfyngiadau amser dybryd nawr bod Tata wedi cau un ffwrnais chwyth, ffwrnais chwyth 5, ac, yn amlwg, ceir y llinell amser ar gyfer ffwrnais chwyth 4 ym mis Medi. A allwch chi oleuo'r Siambr heddiw ynghylch a yw Llywodraeth newydd y DU wedi cyflwyno cynllun newydd i Tata Steel i sicrhau goroesiad ffwrnais chwyth 4 fel y gall aros ar agor cyhyd â phosibl? Ac, os yw'r cynllun hwnnw wedi cael ei gyflwyno, pa linell amser y mae Tata Steel wedi nodi y maen nhw'n gweithio'n unol â hi i'w asesu ac, yn y pen draw, rhoi ateb i chi yn ei gylch?