Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Llafur 1:50, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, er gwaethaf yr holl weiddi a phwyntio bysedd, rwy'n meddwl nad yw arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn gwrando ar yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud. Mae gwrando yn bwysig mewn Llywodraeth ac mewn gwleidyddiaeth, ac os edrychwch chi ar yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud, mae'r trafodaethau yn parhau gydag arweinyddiaeth y DU a chydag arweinyddiaeth Mumbai. Nid ydym yn mynd i gynnal y trafodaethau hynny yn gyhoeddus ynghylch sut mae bargen well ar gyfer dur yn edrych. Yn y ffenestr gyfyngedig sydd gennym ni'n weddill ar ôl i'r Ceidwadwyr adael y maes, er, a dweud y gwir, prin yr oedden nhw'n chwaraewyr egnïol dros y blynyddoedd diwethaf ar y materion hyn, byddwn yn deall a ydym ni wedi gallu sicrhau gwell bargen â chyd-fuddsoddiad ychwanegol sylweddol ar gael, gydag uchelgais ychwanegol sylweddol ar gyfer dyfodol dur, ac nid wyf i'n credu o gwbl y bydd unrhyw un o eiriau neu brotestiadau dig yr Aelod yn cael unrhyw effaith mewn cymunedau dur. Maen nhw'n gwybod pwy sydd wedi bod ar eu hochr a phwy sydd ar eu hochr o hyd, ac maen nhw'n gwybod ei leoliad ef yn y sefyllfa honno.