9. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:18 pm ar 3 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:18, 3 Gorffennaf 2024

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, roedd 15 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Hyfforddiant deintyddol: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 5445 Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Hyfforddiant deintyddol

Ie: 29 ASau

Absennol: 16 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 15 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:20, 3 Gorffennaf 2024

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 5444 Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 12 ASau

Na: 32 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 16 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:20, 3 Gorffennaf 2024

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 5446 Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan

Ie: 9 ASau

Na: 35 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 16 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:21, 3 Gorffennaf 2024

Felly, nawr galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 5447 Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt

Ie: 23 ASau

Na: 21 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 16 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:22, 3 Gorffennaf 2024

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 2.

Cynnig NDM8630 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru.

2. Yn cydnabod:

a) bod arosiadau hir wedi lleihau 70 y cant ers y brig ym mis Mawrth 2022;

b) bod amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cael eu cyfrifo mewn ffyrdd gwahanol ar draws y DU—yng Nghymru maent yn cynnwys amseroedd aros am therapïau a diagnosteg; ac

c) bod Cymru yn gwario 15 y cant yn fwy y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol nag yn Lloegr a bod Llywodraeth Cymru, yn 2024-25, yn buddsoddi mwy na 4 y cant yn ychwanegol yn y GIG o gymharu hynny â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

3. Yn croesawu buddsoddiad a chymorth parhaus Llywodraeth Cymru fel y gall GIG Cymru fanteisio ar y diweddaraf o ran meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:22, 3 Gorffennaf 2024

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 5448 Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 23 ASau

Na: 21 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 16 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw