6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hyfforddiant deintyddol

– Senedd Cymru am 3:13 pm ar 3 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:13, 3 Gorffennaf 2024

Eitem 6 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Hyfforddiant deintyddol yw'r ddadl yma. Siân Gwenllian sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM8600 Sian Gwenllian, Jane Dodds

Cefnogwyd gan Heledd Fychan, Llyr Gruffydd, Peredur Owen Griffiths, Rhun ap Iorwerth, Sam Rowlands

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r pryderon a gaiff eu codi’n rheolaidd gan Aelodau o’r Senedd am ddiffyg argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG.

2. Yn nodi’r rhwystrau a ddogfennir a’r argymhellion a wneir ar gyfer y ffordd ymlaen yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth.

3. Yn nodi’r heriau penodol yn ymwneud gyda chynllunio, hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru.

4. Yn nodi cyhoeddi y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ym Mai 2024 a’r cyfeiriadau a wneir yn y cynllun hwnnw, yn benodol:

a) fod Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion;

b) fod Cymru yn dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o ddeintyddion i’w recriwtio i’r gweithlu; ac

c) mai’r Deyrnas Unedig sydd â’r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o’i gymharu ag aelodau mawr eraill y G7 yn Ewrop.

5. Yn nodi fod nifer y lleoedd yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru wedi’u cyfyngu bob blwyddyn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi prifysgol ar gyfer deintyddion yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:13, 3 Gorffennaf 2024

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae diffyg gwasanaeth deintyddol drwy’r NHS yn bwnc sy’n cael ei godi’n gyson ar lawr y Senedd yma ac yn sicr mae o'n fater sy’n pryderi fy etholwyr i yn Arfon. O’r chwe deintydd NHS yn Arfon, pan wnaethon ni eu ffonio nhw ym mis Ebrill, doedd yna ddim un ohonyn nhw—dim un—yn derbyn cleifion newydd ar yr NHS, ac mae yna ddarlun tebyg ar draws y wlad a llawer o heriau angen eu goresgyn, yn cynnwys natur y cytundeb. Ond prynhawn yma, dwi am amlinellu dadl dros gynyddu nifer y llefydd hyfforddi prifysgol yng Nghymru ar gyfer deintyddiaeth. Dwi'n dadlau bod hynny yn gorfod digwydd law yn llaw â newidiadau eraill os ydyn ni am weld gwelliant parhaol a phellgyrhaeddol ar gyfer fy etholwyr i yn Arfon ac ar draws Cymru.

Mae’r 'Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol' newydd yn dangos bod Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion. Mae o’n dangos bod Cymru yn dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o ddeintyddion i'w recriwtio i’r gweithlu, ac mae o’n dangos mai'r Deyrnas Unedig sydd â'r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o'i gymharu ag aelodau mawr eraill yr G7 yn Ewrop, a dŷn ni'n gwybod hefyd fod mwy o ddeintyddion o Gymru yn mynd allan o Gymru i astudio nag sy’n aros yma: 20 yn aros, 40 yn mynd allan. Dydy sefyllfa felly ddim yn gynaliadwy.

Mae'r prinder deintyddion yma heb os yn cyfrannu at ac yn gwaethygu'r system dair haen yr ydym yn symud tuag ati yn ôl pwyllgor iechyd y Senedd yma. Ac mae'r system yma yn un mae fy etholwyr i yn Arfon yn llawer rhy gyfarwydd â hi: system tair haen lle mae rhai yn ddigon ffodus i gael mynediad at ddeintydd yr NHS, mae rhai eraill yn gallu talu i fynd yn breifat, a'r drydedd haen, yn anffodus, yw'r rhai sydd yn methu cyrchu deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd ac yn methu talu i fynd yn breifat. Does dim rhaid i fi ymhelaethu am y problemau sy'n deillio i'r rhai sydd yn y drydedd haen. Mae Aelodau ond yn rhy gyfarwydd â storïau erchyll am sepsis a deintyddiaeth do-it-yourself.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:15, 3 Gorffennaf 2024

Rŵan, fe fyddai rhywun yn dychmygu mai mater o synnwyr cyffredin, felly—synnwyr cyffredin eithaf sylfaenol—fyddai cynyddu'r lleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru er mwyn meithrin gweithlu i ddarparu'r gwasanaeth deintyddol cyhoeddus sydd mawr ei angen. Ond, i'r gwrthwyneb, mae'r Llywodraeth yn gosod cap ar y nifer o lefydd y gellir eu cynnig yn ein hunig ysgol ddeintyddol yn Nghaerdydd, cap fesul blwyddyn o 74 lle. O ystyried y cyd-destun yma, roedd disgwyl mawr am y cynllun gweithlu deintyddol strategol gan gorff cynllunio gweithlu'r Llywodraeth a gyhoeddwyd ganol mis Mai eleni. Ac mae o yn rhoi darlun a dadansoddiad rhagorol o'r problemau, ond yn anffodus mae o'n syrthio'n brin fel cynllun strategol, yn anad dim am nad ydy o'n ymrwymo i unrhyw gynnydd penodol mewn darpariaeth addysgu a hyfforddi deintyddion.

Mi gawson ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet am fuddsoddiad y Llywodraeth mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yr wythnos diwethaf. Ac er mor gynnes ydy'r croeso i'r twf mewn meddygaeth ym Mangor, wrth gwrs, wrth i'r ysgol feddygol yno gymryd cam sylweddol ymlaen ym mis Medi, doedd yna ddim gair yn y datganiad yma am gynnydd mewn lleoedd prifysgol deintyddiaeth. Ac yr un oedd hi ddydd Mawrth, wrth i'r Prif Weinidog ateb cwestiwn am y gweithlu iechyd—dim sôn am gynyddu hyfforddi deintyddol mewn prifysgolion. 

Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr yn eu cynllun adfer deintyddol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi cyhoeddi ymrwymiad i gynyddu'r lleoliadau hyfforddi deintyddol israddedig yn Lloegr, a hynny o 24 y cant i 1,000 o lefydd erbyn 2028-29. Yn anffodus, dydy plaid Aneurin Bevan ddim wedi dangos uchelgais o'r fath, ac mae o'n ddigalon ac yn staen ar Gymru fod gallu nifer o'n hetholwyr i gael deintydd yn ddibynnol ar eu gallu i dalu. Y gwir amdani ydy bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi cael 25 mlynedd i gynllunio, ond mae'n ymddangos dydyn ni ddim nes at gael trefn gynaliadwy lle mae y gallu i ddweud i sicrwydd faint o ddeintyddion sydd yng Nghymru, lle maen nhw'n byw ac yn gweithio, faint yn rhagor o weithlu sydd angen i gyfarch anghenion ein pobl a chynllun ymarferol i gyflawni hynny. Mae hynny'n syfrdanol. Ar ben hynny, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi comisiynu cynllun 10 mlynedd arall cyfochrog, gan y prif swyddog deintyddol. Dydy hynny chwaith ddim yn gwneud llawer o synnwyr imi. Nes bod ymrwymiad o ddifrif ac mewn termau penodol i gynyddu lleoedd, yna gallwn ni ond casglu mai geiriau gwag ydy'r gefnogaeth gan y Blaid Lafur i wasanaeth iechyd cyhoeddus efo deintyddiaeth yn rhan allweddol o hynny, gwasanaeth am ddim ar sail angen.

I droi at yr unig ysgol ddeintyddol sydd yma yng Nghymru, honno ym Mhrifysgol Caerdydd, 111 allan o 1,442, neu tua 8 y cant, o ymgeiswyr i ysgol ddeintyddol Caerdydd ar gyfer mynediad yn 2023-24 oedd o Gymru. Rydyn ni'n gwybod o'r data diweddaraf sydd ar gael mai wyth o'r 111 myfyriwr yna o Gymru fu'n llwyddiannus i gael lle yng Nghaerdydd y flwyddyn yna—wyth ohonyn nhw oedd o Gymru. O'r holl fyfyrwyr sy'n astudio yn yr ysgol ddeintyddol yng Nghaerdydd, hanner y rheini, wedyn, sy'n aros yng Nghymru ar ôl hyfforddi. Rŵan, dydy hyn ddim yn feirniadaeth o'r ysgol ddeintyddol yng Nghaerdydd o gwbl, nac o'r staff sy'n gweithio yno, na'r rhai sy'n mynd yno i astudio. Ond mae hi'n bur amlwg na fydd y ddarpariaeth yng Nghaerdydd fyth yn ddigonol i ddiwallu anghenion cenedl cyfan. Ac mae'n hysbys hefyd fod cysylltiad rhwng lle mae myfyrwyr yn gwneud eu hyfforddiant deintyddol sylfaenol a chraidd a lle maen nhw'n aros wedyn i weithio ac i fwrw gwreiddiau yng nghyfnod ffurfiannol bywyd.

Felly, beth sydd angen ei wneud? Un ysgol ddeintyddol newydd sydd wedi agor ei drysau yn y Deyrnas Gyfunol ers 40 mlynedd, ac Ysgol Ddeintyddol Peninsiwla yn Plymouth oedd honno yn 2006. Fe ddechreuwyd ysgol feddygol yno yn y flwyddyn 2000. Ym mis Medi eleni, mi fydd hyd at 80 o fyfyrwyr yn dechrau ar astudiaethau meddygol ym Mangor—y cohort llawn cyntaf—gan ychwanegu at y gwaith sydd yn digwydd yno hefyd ym maes gwyddorau iechyd ac, i fod yn deg, cynyddu hyfforddiant therapyddion, deintyddion a hylenwyr. Efallai eich bod chi'n gweld lle dwi'n dechrau mynd efo hyn. Mae yna gyfleusterau arbennig ar gael ym Mangor yn yr academi ddeintyddol, er bod yna heriau cychwynnol yn fanno, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor iechyd y dylid sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd. Ac rydych chi wedi ymrwymo hefyd i rannu efo'r pwyllgor y gwaith mae'r adran iechyd wedi bod yn ei wneud, a hynny erbyn toriad yr haf. Mi fyddai Bangor, heb os, yn lleoliad pwrpasol sy'n gwahodd ei hun ar gyfer yr ysgol, a byddai modd teilwra'r ddarpariaeth i gyfarch her ardal sy'n cyfuno'r gwledig a'r trefol.

Ond dadl at ddiwrnod arall ydy honno. Mi ddof i nôl at hyn. Dwi wedi comisiynu gwaith i edrych ar yr achos dros ysgol ddeintyddol ym Mangor a dwi'n edrych ymlaen at rannu hynny efo'r Senedd maes o law. Dwi'n deall hefyd bod Prifysgol Aberystwyth efo diddordeb mewn gweithio efo eraill i gyflwyno hyfforddiant deintyddiaeth mewn ardaloedd gwledig. Yr hyn rydym ni'n ei ofyn i'r Senedd ei wneud heddiw ydy cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i osod allan safbwynt polisi clir o blaid cynyddu'r lleoedd prifysgol deintyddiaeth, efo ffigur penodol i yrru cynnydd, ac i amlinellu cynlluniau clir y gellir eu craffu arnyn nhw i wneud hynny. Mae'n ddadl at ddiwrnod arall lle y dylai'r llefydd newydd yma fynd. Diolch.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 3:22, 3 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Ledled y DU, mae pobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddeintyddion y GIG, gyda naw o bob 10 heb fod yn derbyn cleifion newydd. Yn gynharach eleni, gwelsom gannoedd o bobl ym Mryste yn ciwio am oriau i gofrestru gyda meddygfa a oedd newydd agor, sy’n symptom o flynyddoedd o danfuddsoddi gan San Steffan mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac ni allwn ganiatáu sefyllfa lle na all neb ond y bobl ffodus fforddio cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol.

Fel y mae’r cynnig yn cydnabod, mae heriau penodol i Gymru o ran hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion. Hoffwn weld mwy o bobl yn hyfforddi ym mhrifysgolion Cymru ac yn penderfynu gweithio yma yn ein GIG. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r heriau hyn, ac yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, mae nifer o gamau arloesol wedi’u cymryd i geisio gwella’r sefyllfa. Mae academi ddeintyddol Bangor yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn y gogledd, gan ddarparu gofal i 12,000 i 15,000 o bobl bob blwyddyn pan fydd yn gweithredu'n llawn. Nod Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru yw rhoi cyfle i weithwyr deintyddol proffesiynol sefydledig a rhai sydd newydd gymhwyso hyfforddi, gweithio ac uwchsgilio tra byddant yn byw yn ein rhan brydferth o ogledd Cymru. Mae mor bwysig hyrwyddo manteision byw a gweithio yng Nghymru wrth annog pobl i ymuno â'r GIG yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2023 hefyd, gwelsom glinig deintyddol cymunedol newydd yn agor yn swyddogol yn Ysbyty Bryn Beryl, a bydd yn darparu ystod lawn o wasanaethau deintyddol cymunedol i bobl na ellir eu trin yn hawdd mewn practis deintyddol cyffredinol, gan gynnwys pobl sydd â chyflyrau iechyd penodol, anabledd dysgu neu fater iechyd meddwl. Mae’n cymryd lle gwasanaeth a arferai weithredu o uned symudol ar y safle, nad oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn—gwelliant pwysig iawn. Her arall sy’n cael sylw yw iechyd deintyddol pobl ifanc, ac roedd uned ddeintyddol symudol yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog yn darparu gofal deintyddol i bob plentyn 11 a 12 oed gyda chaniatâd rhieni, ac nid oedd y rhan fwyaf ohonynt wedi gweld deintydd ers cyn y pandemig. Yr ymateb cychwynnol i’r gwerthusiad yw bod hwn yn ymyriad hynod gadarnhaol, ac fe’i croesawyd gan rieni a’r gymuned ehangach, sy’n newyddion gwych. Mae'r uned symudol i fod i symud i ail safle yn Ysgol Godre'r Berwyn yn y Bala, gyda thair ysgol arall wedi eu nodi ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Ar lefel y DU, mae gan y Blaid Lafur gynllun wedi’i gostio’n llawn ac wedi’i ariannu’n llawn i achub deintyddiaeth y GIG, gan ddarparu 700,000 o apwyntiadau deintyddol brys y flwyddyn, ac i ddiwygio contract deintyddol y GIG yn y tymor hir. Bydd hyn yn golygu cyllid canlyniadol mawr ei angen i Gymru. Mae peth ffordd i fynd eto i gyrraedd lle mae angen inni fod, o ran argaeledd triniaeth ddeintyddol y GIG, ond rwy'n hyderus ein bod ar y trywydd cywir i gyflawni hynny. Os cawn y Blaid Lafur yn Llywodraeth y DU, ac os caiff y cyllid canlyniadol hwnnw ei ddarparu i ni, bydd yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Diolch.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:26, 3 Gorffennaf 2024

Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am ddod â'r ddadl amserol a phwysig yma o flaen y Senedd heddiw. Dwi'n nodi, ac mae'n ddifyr nodi, fod Keir Starmer wedi bod yn ymgyrchu dipyn ar ddeintyddiaeth, gan gyfeirio'n aml iawn at ymweliad a wnaeth o ag Alder Hey, a sôn am y nifer o blant sydd yn gorfod mynd i fanna er mwyn cael eu dannedd wedi'u tynnu allan. Wrth gwrs, mae pawb yn ymwybodol o'r broblem felly yn Lloegr, ond Llafur sydd wrth y llyw fan hyn yng Nghymru a Llafur sydd wedi methu â delifro ar gyfer plant a phobl Cymru pan fo'n dod i ddeintyddiaeth yma.

Wrth drafod deintyddiaeth, fel ym mhob sector arall, mae angen yn gyntaf mynd at wraidd y broblem, sef methiant i gadw deintyddion yma a methiant mwy fyth i hyfforddi deintyddion newydd. Fel yr ydym ni wedi clywed eisoes gan Siân Gwenllian, dim ond Prifysgol Caerdydd sydd yn cynnig cwrs deintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac, fel y soniodd hi, dim ond wyth o Gymru oedd yn llwyddiannus i gael mynediad at y cwrs hwnnw y flwyddyn ddiwethaf. Er gwaethaf ymdrechion gwych—pethau megis y bwrsariaeth—gan y Llywodraeth yma, dim ond tua hanner y garfan o fyfyrwyr deintyddol sydd yn dewis aros yng Nghymru er mwyn gweithio yma yn flynyddol, ac mae'r rhai hynny yn rhai tymor byr yn amlach na pheidio.

Mae hyn yn golygu bod pres prin Llywodraeth Cymru sydd yn mynd at ariannu a hyfforddi'r myfyrwyr yma yn mynd i ariannu gwasanaethau sydd yn mynd dros y ffin neu'n mynd i lefydd eraill. Dydy'r myfyrwyr yma ddim yn aros yng Nghymru, felly mi ydym ni'n colli allan ar hynny. Mae Prifysgol Caerdydd yn gwneud gwaith rhagorol yn hyfforddi'r deintyddion yma, a diolch byth amdanyn nhw, ond mae’n amlwg na all y brifysgol, felly, ddiwallu anghenion Cymru gyfan.

Os edrychwn ni ar fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, does yna ddim un deintydd yn cymryd cleifion newydd ymlaen drwy’r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd. Dwi, neu mae fy swyddfa i, er tegwch, wedi cysylltu â phob un deintydd yn yr ardal a gweld nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Bu i mi gynnal holiadur drwy'r etholaeth a chael dros 1,000 o atebion, gyda phobl yn dweud eu bod nhw'n cael trafferth yn cael mynediad at ddeintydd yr NHS, efo'r enghraifft fwyaf eithafol efo un o fy etholwyr yn gorfod teithio i Dunbarton yn yr Alban er mwyn gweld ei ddeintydd, a bron pob un yn nodi eu bod nhw'n gorfod teithio dwsinau o filltiroedd er mwyn mynd i weld deintydd. 

Mae nifer y deintyddion sydd gennym ni yn y gogledd yn prysur leihau hefyd, ac o'r rheini sydd yn ddigon ffodus o fod ar lyfr deintydd yn y gogledd, dim ond un o bob tri pherson oedd wedi derbyn triniaeth yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae o, felly, yn argyfwng arnom ni. Mae’r ffigurau dwi wedi cyfeirio atynt yng ngogledd Cymru dipyn yn is o'i gymharu â’r ffigurau cenedlaethol, ac mae yna amryw resymau am y gwahaniaethau rhanbarthol; un amlwg ydy bod yn rhaid i fyfyrwyr o’r gogledd deithio'n bellach er mwyn mynd i gael eu haddysg, lawr i Gaerdydd, neu dros y ffin i brifysgol yn Lloegr, er mwyn arbenigo yn y maes.

Er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth i gynyddu nifer y Cymry sydd yn astudio yn yr ysgol ddeintyddol yng Nghaerdydd, mae’n amlwg nad ydy o'n ddigon. Mae angen ailstrwythuro’r drefn fwrsariaeth bresennol, er enghraifft, er mwyn denu pobl i aros yng Nghymru ar ôl iddyn nhw gyflawni’r ddwy flynedd ofynnol o waith. Yn ogystal â hyn, gellir cynnig cydweithrediad gwell rhwng yr ysgol yng Nghaerdydd a’r gogledd, boed hynny’n ymestyn cyfnod lleoliadau gwaith myfyrwyr yn y gogledd neu'n cyhoeddi cydweithrediad â Phrifysgol Bangor fel man cychwyn i ddatblygu’r ymdrechion er mwyn agor ysgol annibynnol ym Mangor, mewn cydweithrediad ag Aberystwyth, yn y pen draw. Ar sail y wybodaeth yma felly, tybed a all y Gweinidog ateb, pa gynlluniau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod myfyrwyr deintyddol o Gymru yn aros yng Nghymru ac efo'r cyfleoedd er mwyn ehangu eu sgiliau trwy arbenigo a gweithio ar y cyd?

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:30, 3 Gorffennaf 2024

Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n amlwg o'r cyflwyniadau sydd wedi bod yn barod fod hwn yn broblem ledled Cymru. Prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i godi un gwendid amlwg iawn a hefyd sôn am enghraifft o fy ngwaith achos.

Ynglŷn â'r gwendid, dwi'n methu'n lan â deall pam mae gap mor fawr yn y data ynglŷn â deintyddiaeth yng Nghymru. I fi, mae e'n rhyfeddol ein bod ni methu dweud nawr, fan hyn yn y Senedd, faint o bobl sy'n aros i weld deintydd o dan y gwasanaeth iechyd. Does dim ychwaith y data i ddweud faint o bobl sy'n cael triniaeth breifat gyda deintydd preifat yng Nghymru.

Gwn fod rhai byrddau iechyd wedi ceisio llenwi'r gap trwy greu rhestrau aros eu hunain, ond does dim byd ledled Cymru—does dim byd canolog i gynllunio. Felly, sut mae modd i chi gynllunio i wella deintyddiaeth yng Nghymru os nad ydych chi'n gwybod ateb i ambell i gwestiwn sylfaenol iawn: faint sy'n aros i weld deintydd? Faint sy'n derbyn triniaeth breifat? A faint, felly, yn drydydd, sydd ddim yn cael unrhyw driniaeth o gwbl? Faint o bobl sy'n syrthio rhwng y cracks? Faint o bobl sy'n mynd i ddiweddu lan yn cael eu dannedd wedi'u tynnu, fel roedd Mabon yn sôn am blant yn mynd i Alder Hey? Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni'n cofio perthnasau a oedd â dim dannedd. Doedd gan fy nhad-cu ddim dannedd. Collodd ei ddannedd i gyd pan oedd yn 19 mlwydd oed. Dyna oedd y drefn bryd hynny. Ydym ni'n gweld hwn yn digwydd unwaith eto yng Nghymru 2024?

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:32, 3 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Yn absenoldeb data sylfaenol a hanfodol, fe roddaf stori bersonol i chi o fy ngwaith achos. Daeth etholwr i gysylltiad â mi eleni i sôn am bryderon tebyg iawn i'r rhai a godwyd eisoes yn y ddadl hon, a dyma reswm allweddol pam rwy'n siarad y prynhawn yma. Mae fy etholwr yn fam i fachgen yn ei arddegau a gafodd ei atgyfeirio gan ei ddeintydd yn 2021 am driniaeth orthodontig. Ni chafodd ei roi ar restr aros yn y flwyddyn honno am nad oedd ond yn 11 oed ac nid oedd yn ddigon hen i gael y driniaeth.

Yn 2022, dywedwyd wrtho y byddai'r driniaeth yn fwy helaeth nag a feddyliwyd ar y dechrau ac fe'i hanfonwyd i Ysbyty'r Tywysog Siarl i gael rhagor o archwiliadau. Gwaethygodd yr aros. Ar ôl gweld y meddyg ymgynghorol, dywedwyd wrth y teulu y byddai'n cymryd chwe blynedd arall iddo gael y driniaeth. Ar ôl cael ei asesu am y tro cyntaf yn 11 oed, dywedir wrtho bellach y bydd yn rhaid iddo aros tan ei fod yn 20 oed i gael triniaeth. Drwy hyn i gyd, mae mab fy etholwr wedi dioddef bwlio, ac mae ei hyder a'i hunan-barch wedi dioddef.

Ysgrifennais atoch am fy etholwr i ofyn a fydd ganddo hawl i driniaeth ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn ddeunaw; os yw'n symud i ffwrdd i fynd i brifysgol, a fydd yn dal i allu cael triniaeth gan ddeintydd GIG Cymru, neu a fyddai GIG Cymru yn ariannu triniaeth iddo yn rhywle arall, os nad oes capasiti o fewn y system. Er fy mod yn derbyn ateb Ysgrifennydd y Cabinet i mi na allai ymateb yn uniongyrchol i unrhyw achosion unigol, mae'n amlwg i mi o'r enghraifft hon nad yw'r system yn gweithio, nad oes gennym ddata cywir i wneud i'r system weithio. Rwy'n derbyn eich bod chi eich hun wedi cydnabod y broblem gyda data a'ch bod wedi sôn y bydd yna wybodaeth am restrau aros erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, a yw hynny'n dal i fod ar y trywydd iawn, oherwydd yn amlwg, ar hyn o bryd, nid yw pethau'n gweithio i fy etholwr ac yn anffodus, fel y clywsom y prynhawn yma, mae'n bell o fod yn achos unigryw? Diolch yn fawr.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Ceidwadwyr 3:34, 3 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf innau hefyd ddiolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon heddiw? Hefyd, a gaf i ymddiheuro i'r Aelod gan fy mod wedi gobeithio bod yn un o gyd-gyflwynwyr y ddadl, ond llwyddais i fethu'r dyddiad cyflwyno o ychydig funudau, ac rwyf i lawr fel cefnogwr yn lle hynny? Ond roeddwn i'n gobeithio bod yn gyd-gyflwynydd gyda chi ar y ddadl yma heddiw.

Gwyddom fod darpariaeth ddeintyddol yn rhan mor bwysig o'r system gofal iechyd ac mae'n rhan bwysig o'r agenda ataliol. Nid wyf yn siŵr fod hynny wedi ei grybwyll eto—pwysigrwydd yr agenda ataliol mewn gofal iechyd, ac wrth gwrs, mae deintyddiaeth yn rhan mor bwysig o hynny drwy leihau problemau llawer mwy, a llawer drutach yn nes ymlaen. Ac rydym yn gwybod bod hyn yn arbennig o bwysig i blant, sy'n gallu, ac a ddylai fod yn meithrin arferion glanhau dannedd iach erbyn pan fyddant yn oedolion. Ac rwy'n arbennig o bryderus am y problemau sy'n datblygu yma yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc ac oedolion yn nes ymlaen. Ac yn anffodus, i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yma yng ngogledd Cymru—ac mae eraill wedi siarad yn barod—nid yw'r ddarpariaeth yn ddigon da, a chawn ein gadael â'r hyn y mae rhai yn ei ddisgrifio fel 'anialwch deintyddol' ar draws y rhanbarth. Ac mae'r diffyg cysondeb hwn yn sicr yn gwaethygu'r problemau yn nes ymlaen y soniais amdanynt eiliad yn ôl, gan gynyddu problemau mawr yn y dyfodol, a chostio mwy i'r trethdalwyr hefyd yn y pen draw. 

Fel y mae'r cynnig yn amlinellu heddiw, mae deintyddiaeth yn rhywbeth y mae pawb ohonom yn cael llawer o ohebiaeth yn ei gylch, yn enwedig am anallu ein hetholwyr i gael mynediad at ddeintydd GIG. Ac ni ddylid anwybyddu neu ddiystyru hyn. Ac oherwydd y nifer o weithiau y mae'r mater yn cael ei godi, rwy'n poeni weithiau ein bod yn dod i arfer ag ef ac yn rhyw fath o godi ein hysgwyddau a dweud, 'Efallai mai dyna sut mae pethau, a dyna ni.' Ond rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol i bobl sy'n talu eu trethi, neu'r rhai sydd wedi gwneud hynny ar hyd eu hoes, ddisgwyl cael mynediad at ddeintydd GIG. Nid wyf yn credu bod hynny y tu hwnt i'r hyn y dylai pobl fod yn disgwyl ei gael fel rhan sylfaenol o'u hanghenion iechyd. Ond yn anffodus, mae gormod o bobl yn cael eu siomi gyda'r disgwyliad mwyaf sylfaenol hwn. 

Ac fel y mae'r cynnig yn ei amlinellu—ac y mae cyd-Aelodau eisoes wedi ei rannu—mae'r broses o ddarparu gwasanaeth deintyddol digonol yn dechrau gyda hyfforddiant ac addysg a chael y nifer cywir o bobl. Ac Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi cadarnhau yn ddiweddar mai 74 y flwyddyn yw nifer y lleoedd i fyfyrwyr ar gyfer addysg israddedig mewn deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, nifer nad yw'n ddigon, fel y mae, i lenwi'r bwlch. Ac fel y soniodd cyd-Aelodau eisoes, roedd adroddiad y pwyllgor iechyd ar ddeintyddiaeth y llynedd yn cynnwys nifer o argymhellion defnyddiol, ac un ohonynt oedd edrych ar ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru, mewn partneriaeth â'r brifysgol. Byddai ysgol ddeintyddol a ariennir yn llawn ac sy'n gweithredu'n llawn yn ein hardal ni yng ngogledd Cymru yn sicr yn cyfrannu'n helaeth at ddarparu'r gweithlu deintyddol sydd ei angen ar Gymru a gogledd Cymru, ar gyfer y cleifion sydd angen y gwasanaeth hwnnw.

Mae'n angenrheidiol ac yn deg cydnabod, fodd bynnag, fod cost ynghlwm wrth ehangu lleoedd hyfforddi, ac mae'n rhaid inni ystyried cost hyfforddiant, capasiti lleoliadau clinigol prifysgol, yn ogystal â chael staff academaidd o safon sy'n gallu llunio a chyflwyno'r cyrsiau hynny. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n dadlau bod yn rhaid cael achos busnes gwario i arbed cryf yma, a hoffwn eich annog i fynd ar drywydd hyn mor gadarn â phosibl. Ac felly, i gefnogi cynigion Siân Gwenllian heddiw, hoffwn eich annog chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gynyddu nifer y deintyddion a staff cymorth ochr yn ochr â deintyddion traddodiadol. Hoffwn weld cynyddu'r niferoedd hynny yn dod yn rhan ganolog o waith y Llywodraeth hon, a byddai cael trefn ar gynllun hirdymor eang yn sicr o gyfrannu'n helaeth at wireddu hynny, fel y gall ein hetholwyr gael mynediad at y deintyddion GIG sydd eu hangen arnynt. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:39, 3 Gorffennaf 2024

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae deintyddiaeth y GIG wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i mi ers i mi gael y portffolio, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd heddiw yn cyfeirio at argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dilyn eu hymchwiliad i ddeintyddiaeth. Nawr, un o'r argymhellion a wnaed oedd sefydlu rhestr aros ganolog i Gymru gyfan ar gyfer pobl sydd am gael mynediad at ofal deintyddol rheolaidd y GIG. Ac rwyf am ateb yn uniongyrchol y cwestiwn a ofynnwyd gan Rhys ab Owen am y data. Rwy'n falch iawn o gadarnhau heddiw fod Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cwblhau eu cynllun cychwynnol ar gyfer porth mynediad deintyddol, a fydd yn rhoi un pwynt cyswllt i bobl ledled Cymru gofrestru eu diddordeb mewn derbyn gofal deintyddol y GIG. Mae iteriad cyntaf y system yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys—Powys yw un o'r byrddau iechyd a oedd eisoes yn gweithredu rhestr aros leol—ac mae gwaith ar y gweill i drosglwyddo eu rhestr bresennol i'r system newydd cyn i'r elfen wynebu cleifion fynd yn fyw yr wythnos nesaf.

Felly, mae wedi cymryd mwy o amser na'r hyn a obeithiwn, ond rydym bron yno. Ar ôl cael ei phrofi'n llawn ym Mhowys, byddwn yn cyflwyno'r system hon i bob bwrdd iechyd arall yn yr hydref. Fel y dywedaf, mae hyn yn hwyrach na'r hyn a obeithiwn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hwn yn gam mawr ymlaen o ran gallu mesur y galw heb ei ddiwallu am wasanaethau deintyddol y GIG, ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi ffordd lawer tecach i gleifion gael mynediad at ofal deintyddol y GIG. Nawr, pan fydd y galw heb ei ddiwallu wedi cael ei nodi'n iawn, gallwn gael sgwrs sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedyn ynghylch y bwlch gwirioneddol yn y ddarpariaeth. Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn gallu dweud faint sy'n mynd yn breifat, oherwydd yn amlwg, nid yw'r data hwnnw gennym yn fwy nag y gallwn ddweud wrthych faint o bobl sy'n mynd i Tesco dros y penwythnos. Nid mater i'r Llywodraeth yw gwneud hynny. Ond gallwn o leiaf—. Lle mae pobl eisiau darpariaeth y GIG, gallwn o leiaf fesur hynny.

Hoffwn roi eiliad heddiw i dynnu sylw at y driniaeth ddeintyddol y mae'r GIG yn ei darparu. Dangosodd yr ystadegau swyddogol diwethaf fod dros 1 filiwn o bobl wedi cael triniaeth ddeintyddol y GIG yn 2022-23, ac mae gwybodaeth reoli yn dangos bod y lefel hon o wasanaeth wedi cynyddu ychydig yn 2023-24. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai un o fy nodau allweddol ar gyfer diwygio deintyddiaeth oedd gwella mynediad i gleifion newydd—y bobl sydd wedi cael trafferth yn hanesyddol i gael mynediad at ofal deintyddol y GIG. Mae'r adroddiad rheoli diweddaraf yn dangos bod bron i 380,000 o gleifion newydd wedi cael cwrs llawn o driniaeth ac mae 114,000 arall wedi cael triniaeth frys ers i'n diwygiadau ailgychwyn ym mis Ebrill 2022. Nid yw'r rhain yn niferoedd bach, ac maent yn golygu bod bron i 500,000 o bobl nad oeddent wedi cael gofal deintyddol y GIG ers dros bedair blynedd wedi cael mynediad erbyn hyn. Nawr, rwy'n derbyn bod llawer mwy i'w wneud wrth gwrs, ond rwy'n gobeithio bod y niferoedd hyn yn dangos ein bod wedi cyflawni ein nod. Mae'n ddiddorol nodi bod y Llywodraeth Lafur newydd hefyd yn bwriadu darparu apwyntiadau GIG newydd, ond yn gyfrannol, rydym ymhell ar y blaen i lle roedd Llywodraeth Dorïaidd y DU arni gyda mynediad at y GIG i gleifion newydd.

Os caf droi at fater cynyddu lleoedd hyfforddiant deintyddol, mae angen inni gael safbwynt hirdymor yn seiliedig ar dystiolaeth ar hyn. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Addysg a Gwella Gofal Iechyd Cymru eu cynllun ar gyfer y gweithlu deintyddol, fel yr awgrymwyd gan Siân Gwenllian, ac mae nifer o ymrwymiadau ynddo a fydd yn ein helpu i nodi'r ffordd orau o ddatblygu'r gweithlu deintyddol sydd ei angen yng Nghymru. Y pwynt cyntaf yr hoffwn ei wneud yw y bydd unrhyw gynnydd yn y broses o gomisiynu lleoedd hyfforddi yn dibynnu ar ddata a modelu cadarn ar gyfer y gweithlu, ac mae ymrwymiad penodol yng nghynllun y gweithlu i ddatblygu modelau gweithlu deintyddol yn seiliedig ar anghenion a chynllunio senarios i lywio siâp, maint, a chomisiynu addysg a hyfforddiant yn y dyfodol, ac mae hynny'n mynd i lywio maint a chyfansoddiad y gweithlu y bydd ei angen arnom yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod, rwy'n credu, nad deintyddion yn unig sy'n creu'r gweithlu deintyddol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, felly gadewch inni fod yn ofalus nad ydym yn gor-ganolbwyntio ar ddeintyddion. Mae'r cymysgedd sgiliau yn ddyhead clir gennym ar gyfer deintyddiaeth.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 3:44, 3 Gorffennaf 2024

Rŷn ni eisoes wedi cymryd camau i gynyddu nifer yr hylenwyr a therapyddion deintyddol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu rhaglen hylendid deintyddol ym Mangor a chynyddu nifer y llefydd hyfforddi ar gyfer therapi deintyddol yng Nghaerdydd. Serch hynny, dwi eisiau mynd llawer ymhellach o ran gweithio ar y gwaith tîm yma. Mae camau clir yn y cynllun gweithlu deintyddol hefyd i gynyddu'r niferoedd sy'n cael eu hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cymhwyster newydd sy'n galluogi hylenwyr i astudio am flwyddyn ychwanegol er mwyn cymhwyso fel therapyddion deintyddol. Ac, wrth gwrs, rydyn ni nawr wedi datrys y broblem rheoleiddio er mwyn galluogi'r aelodau yma o'r tîm i agor a chau cyrsiau triniaeth yr NHS a chwarae eu rhan yn llawn.

Dwi am orffen drwy sôn am sefydlu ail gyfleuster ar gyfer cwrs gradd mewn deintyddiaeth. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ariannu tua 74 o lefydd bob blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae cyllid ar gael ar gyfer yr un faint o lefydd hyfforddiant sylfaen i fyfyrwyr ar ôl graddio. Bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod ni'n ceisio annog y rhain drwy roi arian ychwanegol iddyn nhw wneud yr hyfforddiant yna mewn ardaloedd cefn gwlad.

Byddai cynnydd pellach yn anodd oherwydd heriau ariannol a diffyg lle yn yr ysgol ddeintyddol, felly fy ffocws i ar hyn o bryd yw sicrhau bod mwy o fyfyrwyr o Gymru yn cael lle ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe wnes i gwrdd â'r ysgol ddeintyddol yn ddiweddar, ac fe wnaethon nhw sôn am y mentrau sydd gyda nhw i gefnogi'r myfyrwyr yma i ymgeisio. Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n cael eu derbyn i astudio yna o 8 y cant i 40 y cant dros y ddwy i dair blynedd nesaf.

Roeddwn i'n falch iawn i gymryd rhan mewn digwyddiad bythefnos yn ôl a oedd yn annog disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru i ymgeisio ac i ddilyn cwrs mewn deintyddiaeth yng Nghymru, a dwi eisiau diolch i brifathro Ysgol Glantaf, Matthew Evans, am drefnu'r digwyddiad yna.

Yn sicr, sefydlu ail gyfleuster yng Nghymru fyddai'r opsiwn orau, ond byddai hynny yn golygu llawer o fuddsoddiad a dyw'r pwysau ariannol ddim yn caniatáu hynny ar hyn o bryd. Serch hynny, yr wythnos ddiwethaf, fe ges i sgwrs gydag is-ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth ac fe ddywedodd e ei fod e'n gweithio ar gynnig ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor. Dwi wedi eu hannog nhw i ddatblygu'r cynigion yma. Dwi'n ymwybodol iawn na allwn ni oedi wrth aros i gyllid fod ar gael, ac mae angen cael cynllun yn ei le er mwyn bod yn barod i weithredu.

Dwi'n gobeithio bod y diweddariad yma wedi bod yn ddefnyddiol ac wedi rhoi sicrwydd i Aelodau bod llawer o'r materion sydd wedi'u trafod y prynhawn yma ar fy agenda i a bod camau gweithredu yn cael eu cymryd. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:47, 3 Gorffennaf 2024

Galwaf nawr ar Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn. Diolch hefyd i Jane Dodds, sydd wedi cydgyflwyno'r cynnig, ond mae hi'n ymddiheuro ei bod hi'n methu bod yma heddiw. A diolch i Sam Rowlands, sydd yn gydgyflwynydd mewn egwyddor os nad yn dechnegol. Diolch i Carolyn am ei chyfraniad hi, a hithau yn cyd-weld bod eisiau gweld mwy o bobl o Gymru yn cael eu hyfforddi yma yng Nghymru. Fe wnaeth hi sôn am ddisgyblion ym Mlaenau Ffestiniog sydd heb weld deintydd ers y cyfnod clo—mae hynny'n dangos maint yr argyfwng—ac amlinellu'r gwaith sydd yn digwydd yna i gyfarch hynny.

Roedd Mabon yn sôn am fethiant i gadw deintyddion a chadw deintyddion yma yng Nghymru, ac felly bod Cymru'n colli allan. Soniodd o hefyd am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan ei swyddfa yn Nwyfor Meirionnydd, yr holiadur ac yn y blaen, a thrafferth un etholwr yn benodol a oedd wedi gorfod mynd i'r Alban i gael gwasanaeth. Dydy sefyllfa fel yna jest ddim yn ddigon da, nac ydy?

Diolch i Rhys ab Owen am sôn am y data a'r bwlch rhyfeddol yma sydd yn y data, a dweud y gwir, lle rydyn ni'n methu â dweud faint o ddeintyddion sydd yn cael eu hyfforddi yma, sydd yn aros yma, a dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl sy'n cael darpariaeth breifat. Mae'n anodd cynllunio yn y math yna o sefyllfa. A'i stori frawychus o efo'r etholwr efo'r gwasanaeth orthodeintyddiaeth yn benodol—a dweud y gwir, buaswn i wedi gallu gwneud dadl arall ar broblemau orthodeintyddiaeth. Mae'r un broblem yn wynebu etholwyr yn ardal Betsi Cadwaladr, does yna ddim dwywaith am hynny. 

Roeddwn i'n falch o weld, ar yr agwedd ddata, o leiaf bod yna rywfaint o symud o ran cael un pwynt cyswllt ar gyfer pobl i gofrestru. Ond os nad ydy'r gwasanaeth yna ar ôl i chi gofrestru—. Mae angen i'r ddau beth ddigwydd. Ond rwy'n falch o weld bod yna symud yn digwydd efo hynny. 

Roedd Sam Rowlands yn sôn am ei bryder penodol o ynglŷn â phobl ifanc, a'n bod ni'n creu problemau ac yn storio problemau ar gyfer nes ymlaen mewn bywyd. A soniodd e hefyd am yr anialdir deintyddol rydyn ni ond yn rhy gyfarwydd ag o. Ac rwy'n falch o gael cefnogaeth gan Sam Rowlands i sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor, a'r angen hefyd am gynllun tymor hir. 

I droi at sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, dwi'n falch eich bod chi rŵan yn mynd i fedru casglu data ynglŷn â'r cleifion newydd sydd angen y gwasanaeth, ac, yn sgil hynny, ein bod ni'n mynd i fedru cynllunio. Ond mae hyn yn hwyr iawn yn y dydd. Mae yna gyfnod hir wedi bod lle dylai'r math yma o beth fod wedi bod yn digwydd, fel ein bod ni ddim yn yr argyfwng rydym ni ynddo fo ar hyn o bryd.

Roeddech chi'n sôn am yr angen i gael y gymysgedd sgiliau yma: yr hylenwyr a'r therapyddion. Dwi'n cytuno'n llwyr efo chi, ond ddylai hynny ddim digwydd yn lle hyfforddi deintyddion. Mae o angen bod yn rhan o'r pecyn sydd yn digwydd, yn enwedig yn yr ysbytai. Mae llawer iawn o'r gwaith sydd yn digwydd yn yr ysbytai yn cael ei wneud gan ddeintyddion—yr oral surgery ac yn y blaen. Ond dwi yn cydnabod bod yna le arbennig ar gyfer y hylenwyr a therapyddion, er mae yna broblem yn yr academi ddeintyddol ym Mangor. Buaswn yn leicio ichi sbio mewn i hynna. Dydy'r therapyddion ddim yna. Dydyn nhw dal ddim wedi dod i ddealltwriaeth ynglŷn â'r agwedd yna o'r academi ym Mangor. 

Dwi yn siomedig eich bod chi ddim wedi gallu rhoi ymrwymiad clir i ddatblygu mwy o lefydd hyfforddi prifysgol yng Nghymru y prynhawn yma. Rydych chi wedi sôn am y gwaith rydych chi'n mynd i'w wneud efo Prifysgol Caerdydd er mwyn gwneud yn siŵr bod yna fwy o bobl o Gymru yn cael lle yn y brifysgol, ac mae hynna i'w groesawu. Rydych chi hefyd wedi dweud mai ail gyfleuster newydd ydy'r ateb i'r broblem. Dwi'n falch o glywed hynny—hynny yw, nid datblygu mwy a mwy o lefydd yng Nghaerdydd, ond creu un arall.

Dwi'n falch o glywed eich bod chi yn annog trafodaethau rhwng Bangor ac Aberystwyth, a bod yna awydd yn dod o'r ddau gyfeiriad yna ar gyfer cynllunio ar y cyd. Mae'n bwysig. Ac, fel roeddwn i'n sôn, mi rydw i wedi comisiynu darn o waith ynglŷn â Phrifysgol Bangor a'r posibiliadau yn fanna, ac mi fyddaf i'n dod yn ôl i'r Senedd efo canlyniadau'r gwaith yna yn fuan iawn, gobeithio. Diolch yn fawr. 

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:52, 3 Gorffennaf 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.