2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 3 Gorffennaf 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae digwyddiadau mawr yng Nghymru yn ffynhonnell refeniw hanfodol i lawer o fusnesau. Maent yn denu ymwelwyr i Gymru, sy'n aml yn aros am sawl diwrnod, ac maent hefyd yn darparu swyddi hanfodol, yn enwedig i bobl iau sy'n chwilio am waith dros dro tra byddant yn astudio. Mae digwyddiad Ironman Wales, a gynhelir yn Ninbych-y-pysgod bob mis Medi, yn un o nifer o ddigwyddiadau o'r fath ar draws Cymru. Mae'n denu athletwyr o bob cwr o'r byd, ac mae'n cyd-fynd â'r ethos o annog gweithgareddau chwaraeon a herio pob un ohonom i wneud mwy o ymarfer corff, rhywbeth y gallwn i wneud ychydig mwy ohono, mae'n debyg. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, mae carthion amrwd wedi gollwng unwaith eto i draeth y gogledd Dinbych-y-pysgod, lle mae'r athletwyr yn nofio, sydd wedi arwain Cyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi rhybudd perygl llygredd, nid yn unig ar y traeth hwn, ond ar draeth y de Dinbych-y-pysgod, traeth y Castell a thraeth Penalun gerllaw hefyd. Mae etholwyr wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael llond bol ar weld dyfroedd Cymru'n cael eu llygru â charthion. Pe bai'r llygredd hwn wedi digwydd ym mis Medi, mae'n debyg y byddai'r gystadleuaeth Ironman wedi cael ei chanslo, rhywbeth a fyddai wedi cael effaith ddifrifol ar dwristiaeth, yr economi leol, ac yn y pen draw, ar enw da Cymru am gynnal digwyddiadau o'r fath.
Mae'r potensial i hyrwyddo digwyddiadau mawr yn nyfroedd Cymru yn enfawr. Fodd bynnag, mae'r methiant i ddwyn Dŵr Cymru i gyfrif am beidio â gwneud digon i atal carthion amrwd rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd Cymru yn ffactor sylfaenol i beri i ddigwyddiadau nofio dŵr agored mawr edrych ar lefydd eraill. Ysgrifennydd y Cabinet, mae digwyddiadau mawr fel Ironman Cymru yn dda i economi Cymru. Fodd bynnag, mae cael dyfroedd llygredig yn barhaus yn niweidio ein henw da a'n potensial ar gyfer digwyddiadau yn ddifrifol. Pa sgyrsiau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i roi pwysau ar gwmnïau dŵr i wneud mwy i atal carthion amrwd rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd Cymru? Diolch.
Rwy'n cefnogi'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Cabinet yn ei wneud mewn perthynas â hyn ac mae'n gweithio'n galed iawn i sicrhau ei fod yn dwyn yr asiantaethau sy'n gyfrifol a'r rhai sy'n achosi'r llygredd i'n hafonydd a'n moroedd i gyfrif. Ar ei bwynt ehangach am ddigwyddiadau mawr, rwy'n credu ei fod yn iawn i ddweud y gall digwyddiadau mawr fod yn gyfranwyr arwyddocaol iawn i economi Cymru. Mae gennym enghreifftiau da o hynny ar draws Cymru. A dyna pam mae cefnogi digwyddiadau mawr yn rhan bwysig iawn o'r hyn y ceisiwn ei wneud fel Llywodraeth. Hoffwn awgrymu wrth Natasha Asghar, er hynny, wrth iddi fyfyrio ar bwysigrwydd y maes awyr, fod ein gallu i ddenu llawer o ddigwyddiadau mawr yn deillio i raddau helaeth o'r ffaith bod gennym faes awyr y gŵyr pobl y gallant ei ddefnyddio i gyrraedd y digwyddiadau hynny'n gyflym iawn. Felly, dyna reswm arall eto pam fod cael y rhan hanfodol honno o'n seilwaith mor bwysig.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan droi at drafnidiaeth, daeth taith Eras Taylor Swift i Gaerdydd ar 18 Mehefin eleni, ac fel y gwyddoch, cafodd un o'r prif reilffyrdd i mewn i dde Cymru ei rhwystro gan offer peirianneg wedi torri, gan darfu'n helaeth ar y trenau am sawl awr. Oherwydd hyn, dewisodd llawer mwy o bobl yrru i Gaerdydd ar gyfer y cyngerdd, gan greu traffig helaeth a thagfeydd hir iawn. Yn ddiddorol, pan aeth taith Eras i Lerpwl a Chaeredin, ni chofnodwyd unrhyw broblemau o'r fath.
Ddwy flynedd yn ôl, profodd gyrwyr 19 milltir o dagfeydd ar yr M4 pan ddaeth Pink i Stadiwm Principality, a phan ddaeth Ed Sheeran i Gaerdydd, cafodd llawer o bobl eu dal mewn ciwiau 15 milltir ar yr M4 i mewn i dde Cymru, gyda phobl yn dweud eu bod wedi colli'r cyngerdd i gyd. Mae hyn yn annifyr iawn i'r gyrwyr sy'n sownd mewn ciwiau, gan roi profiad gwael iawn iddynt, ac mae'n rhwystredig iawn hefyd i bobl sy'n byw yn ne Cymru os oes rhaid iddynt ddioddef yr anhrefn traffig heb hyd yn oed gael y mwynhad o fynychu'r cyngerdd. Ac mae'n amlwg fod cael 19 milltir o dagfeydd yn achosi llawer iawn o lygredd, gan ddadwneud yr holl ymdrechion i wella problem gynyddol ansawdd aer yn ne Cymru yn ôl pob tebyg.
Y llynedd, fe wnaethoch chi gyhoeddi diwedd ar y cynllun i adeiladu llinell sefydlogi digwyddiadau mawr, gyda Trafnidiaeth Cymru yn cofnodi colled o £10.5 miliwn ar y prosiect, a fyddai heb os wedi cynyddu capasiti i gefnogi digwyddiadau mawr, sy'n dangos nad ydych chi'n poeni llawer am helpu i ddatblygu profiad cadarnhaol i'r rhai sy'n mynychu digwyddiadau yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda hyn mewn golwg, pa sgyrsiau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i ddeall effaith cysylltiadau trafnidiaeth mor wael a bregus ar ddenu digwyddiadau mawr i dde Cymru a pha gynlluniau sydd gennych i newid hyn? Diolch.
Rwy'n credu fy mod am dynnu sylw at y cyferbyniad llwyr rhwng y darlun y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio a'r profiad y mae'r bobl a aeth i weld Taylor Swift ac i gyngherddau eraill wedi gallu ei rannu. Mae fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, yn canolbwyntio'n agos iawn ar fuddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Rydym wedi gweld gwelliant amlwg dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd buddsoddiad ychwanegol yn ein rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau. Rwy'n siŵr ei fod yn rhannu fy uchelgais ar ran economi Cymru i sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gallu cefnogi'r digwyddiadau mawr yr ydym yn awyddus i'w cynnal ac sy'n dod â hapusrwydd, llawenydd ac adloniant i gynifer o filoedd o bobl.
Diolch. Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd lleoedd ledled Cymru yn cynnal digwyddiad mawr, rwy'n credu y dylai fod elw net cyffredinol i'r ardal lle cânt eu cynnal, nid yn unig mewn swyddi a thwristiaeth, ond hefyd o ran enw da a gwelliannau i'w hamwynderau. Mewn geiriau eraill, ni ddylid cam-drin ardaloedd drwy adael tunelli o sbwriel a phroblemau amrywiol i'r cyngor lleol eu datrys. Rwyf wedi argymell ar sawl achlysur fod taer angen mwy o gyfleusterau cyhoeddus, er enghraifft, ar strydoedd mawr Cymru, ac un ffordd o fuddsoddi yn y rhain yw drwy gael digwyddiadau mawr i fuddsoddi yn amwynderau'r ardal, sy'n creu budd i'r ddwy ochr, wrth i'r boblogaeth leol deimlo'n fwy brwdfrydig ynghylch y digwyddiadau a ddaw, yn ogystal â gwella profiad y rhai sy'n ymweld, a rhoi hwb economaidd eilaidd i'r ardal drwy ddarparu'r amwynderau sydd eu hangen i gefnogi ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau a gymerwyd gennych i annog rhai sy'n cynnal digwyddiadau mawr i fuddsoddi yn y trefi a'r dinasoedd lle maent yn cynnal eu digwyddiadau? Diolch.
Mae llawer o'r ffyrdd sydd gennym o gefnogi digwyddiadau mawr yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y gall digwyddiadau mawr ei chael ar yr amgylchedd, ac rydym yn gweithio, yn aml, gyda'r sefydliadau a'r cwmnïau sy'n cynnal y digwyddiadau hynny, a'r lleoliadau sy'n eu cynnal, er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd. Yn fwyaf arbennig, rydym wedi gwneud gwaith arloesol mewn perthynas ag atebion sero net i'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn arddel safbwynt cyfannol o'r fath, fel y mae'r Aelod yn awgrymu—ein bod yn gweld y budd economaidd, ond hefyd fod gennym lygad ar yr effaith amgylcheddol. Ac rydym am sicrhau, wrth gwrs, ein bod yn cefnogi ac yn gweithio gyda'n partneriaid sy'n darparu digwyddiadau mawr i sicrhau ymagwedd gyfannol tuag at yr economi a'r amgylchedd.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi darparu mwy o gymorth gyda dyledion ynni a chymorth argyfwng nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae llawer wedi'i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf o Great British Energy, ers i Keir Starmer ei gyhoeddi. Mewn cyfweliad yn ddiweddar, cadarnhaodd Pat McFadden, cydlynydd ymgyrch genedlaethol Llafur, na fydd GB Energy yn gwmni sy'n cynhyrchu ynni, ac mai'r hyn a fydd i bob pwrpas fydd cwmni cyllid a gynlluniwyd i gynhyrchu buddsoddiad yn y sector preifat, cyfrwng dadrisgio i sybsideiddio cwmnïau ynni preifat, a fydd, heb os, yn berchen ar seilwaith adnewyddadwy allweddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad. Ar y sail ei fod yn cael y canlyniad y mae ef am ei weld yfory, sut y bydd GB Energy yn rhyngweithio ag Ynni Cymru? A fu unrhyw drafodaethau gyda chymheiriaid yn y DU yn amlinellu'r berthynas honno, ac a roddwyd unrhyw ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru i sut y byddent yn rhyngweithio?
Gadewch inni obeithio y cawn y canlyniad y gobeithiaf amdano'n fawr yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn annog eraill i wireddu'r canlyniad hwnnw hefyd, fel y gallwn gael y dull mwy cydweithredol o weithredu y gwn y byddai ef a minnau'n ei gefnogi. Rydym wedi cael trafodaethau mewn perthynas â'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru drwy Trydan Gwyrdd Cymru, gyda'r bwriad o sicrhau llais gan y cyhoedd yn natblygiad ynni adnewyddadwy, a sicrhau ei fod yn arloesol ac yn gallu dychwelyd gwerth i'r cymunedau sy'n cynnal y datblygiadau hynny, a hefyd, gwaith Ynni Cymru yn buddsoddi mewn prosiectau ynni cymunedol.
Felly, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i weld cynlluniau Llywodraeth Lafur newydd, gobeithio, yn cydblethu'n dda iawn gyda'r cynlluniau sydd gennym ar waith eisoes yma yng Nghymru. Cefais drafodaeth gynhyrchiol iawn yr wythnos diwethaf yng nghynhadledd RenewableUK Global Offshore Wind, gydag Ed Miliband—a allai fod yn Weinidog ynni newydd mewn Llywodraeth Lafur newydd—ac rwy'n hyderus iawn y ceir perthynas waith agos a chydweithredol, a fydd yn golygu bod Cymru hefyd yn gallu manteisio ar y datblygiadau ledled y DU.
Gallai'r model a bennwyd ar gyfer GB Energy fod yn destun pryder o ran ei ryngweithiad ag Ynni Cymru, oherwydd, yn y bôn, yr hyn y gallem ei gael yma yw menter cyllid preifat ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni gadw llygad barcud arno os yw am ryngweithio a gweithio mewn partneriaeth ag amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer Ynni Cymru.
Mae angen i'r wladwriaeth ymyrryd ar ben cynhyrchu, pen trawsyrru, a phen manwerthu'r farchnad ynni, wrth gwrs—nid wyf yn dadlau â hynny. Ond nid yw'r system yn gywir ar hyn o bryd. Nid yw'n gyfrinach nawr fod elw'n cael ei gynyddu i'r eithaf a'i dynnu o'n cymunedau ar bob lefel. Cawsom ddadl ar hyn yr wythnos diwethaf. Rydym yn siarad yma am gyfleustodau sylfaenol sy'n angenrheidiol i bawb yn eu bywydau bob dydd, ac mae cwmnïau'n gwneud pentwr o arian ohono.
Un o'r honiadau yw y bydd GB Energy yn ariannu gwynt ar y môr, y bydd ei ddifidendau yn ôl pob tebyg yn llenwi coffrau'r DU. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylem, yn yr achos hwn, gael gwared ar y dyn yn y canol, y dylem geisio pwerau llawn dros Ystad y Goron, gan ganiatáu inni elwa'n uniongyrchol yma yng Nghymru o ddatblygiad ynni adnewyddadwy ar y môr, gan sicrhau bod y difidendau'n mynd yn syth i goffrau Trysorlys Cymru?
Cefais sgwrs dda iawn—sgwrs anffurfiol, dylwn ddweud—yn y gynhadledd honno gydag Ystad y Goron. Rwy'n gobeithio cyfarfod â nhw'n fuan iawn i drafod ein hanghenion yng Nghymru, a sicrhau, mewn rowndiau lesio yn y dyfodol, y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfle ynni glân i Gymru, ond hefyd y cyfle economaidd i gefnogi cymunedau sy'n cynnal prosiectau cynhyrchu ynni, a Chymru'n fwy eang na hynny. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw yr hoffem weld datganoli pwerau dros Ystad y Goron. Rwy'n credu y gallai hynny gyfrannu'n sylweddol iawn at ein hanghenion ynni ond hefyd at ein hanghenion economaidd. Ond yn allweddol, yr hyn y credaf y gallwn i gyd gytuno arno yw y bydd cael Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, yn seilwaith ynni adnewyddadwy'r wlad hon, yn y grid cenedlaethol, yn newid sylweddol yn ein gallu fel cenedl i fachu ar y cyfle hwnnw, i Gymru a'r DU yn gyffredinol.
Dyna'r union bwynt, onid e? Mae datganoli Ystad y Goron yn ein galluogi i gael mynediad cyflym a hawdd at yr arian y gallwn ei ddefnyddio wedyn er budd ein cymunedau. Yn y bôn, rydym am weld cronfa gyfoeth sofran yn cael ei sefydlu yma gan ddefnyddio'r elw a gymerir o ffermydd gwynt ar y môr i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai nifer o ffermydd gwynt ar y môr newydd sydd wedi'u cynllunio yn nyfroedd Cymru gynhyrchu £43 biliwn mewn rhenti, a fyddai'n sylfaen sylweddol i gronfa o'r fath. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda chyd-Aelodau fel Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd a'r Cwnsler Cyffredinol i sicrhau pwerau llawn dros Ystad y Goron cyn gynted â phosibl? A all roi amserlen i ni ar ryw bwynt yn y dyfodol ar gyfer pryd y gallwn ddisgwyl i'r trafodaethau hynny ddigwydd? A pha ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i adroddiad is-grŵp ynni'r comisiwn annibynnol ar ddyfodol Cymru, sy'n argymell adolygiad brys o'r setliad datganoli mewn perthynas â pholisi ynni, Ofgem ac Ystad y Goron?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwyntiau diddorol am y setliad datganoli a'n gallu i wneud mwy o benderfyniadau ynghylch ynni yma yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi hynny. Ar y model y mae'n ei grybwyll, a chredaf iddo ei ddisgrifio fel cronfa gyfoeth sofran yng nghyd-destun ynni—ac yn amlwg, mae gwledydd eraill wedi gwneud hynny yng nghyd-destun olew mewn degawdau a fu, onid ydynt—yr egwyddor honno, mewn gwirionedd, sy'n sail i sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru, sy'n amlwg ar gam cynnar iawn. Ond yr egwyddor yno yw mai pwrs cyhoeddus Cymru i bob pwrpas sy'n derbyn elw o ddatblygu prosiectau, ac o bosibl, o adeiladu neu weithredu, yn dibynnu ar y model cyflawni ac yn dibynnu ar fynediad at gyfalaf. Y pwynt hollbwysig yw y gellir defnyddio'r elw o hynny wedyn i gefnogi'r rhai sy'n agos at y datblygiadau, fel rwy'n dweud, ond hefyd i gefnogi blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y genedl gyfan. Rwy'n credu bod hwnnw'n fodel diddorol ac rwy'n gyffrous iawn i weld beth arall y gallwn ei wneud yn y gofod hwnnw.