Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 3 Gorffennaf 2024.
[Anghlywadwy.]—o fargen twf gogledd Cymru i gynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer gogledd Cymru, i bryniant safle niwclear Wylfa ar Ynys Môn am £160 miliwn ar gyfer datblygiadau ynni niwclear newydd, o'r penderfyniad i sefydlu porthladd rhydd yng Nghaergybi, gyda hyd at £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU a'r disgwyl iddo gynhyrchu biliynau o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, i’r penderfyniad i sefydlu parth buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn o amgylch Wrecsam a sir y Fflint, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cymryd y cam cyntaf ac yna wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r pethau hyn. Mae’r rhain oll a mwy, gan gynnwys yr ymrwymiad i fuddsoddi £1 biliwn yn y gwaith o drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi'u cynnwys ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yr etholiad cyffredinol yfory. Pa gynlluniau sydd gennych chi felly i fwrw ymlaen â’r rhaglenni hyn gyda Llywodraeth nesaf y DU?