2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am ar 3 Gorffennaf 2024.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael effaith negyddol ar gymunedau cyfagos? OQ61379
Mae deddfwriaeth gynllunio, 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol' a 'Polisi Cynllunio Cymru' yn darparu fframwaith cadarn i sicrhau bod effaith datblygiadau ar gymunedau yn cael ei hystyried yn llawn mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch ceisiadau ynni adnewyddadwy.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae llawer o gymunedau yn fy rhanbarth yn cael eu defnyddio fel mannau ar gyfer profi technolegau ynni adnewyddadwy. Mae'n edrych yn debyg y bydd pentref Bryn yn dod dan gysgod 18 o dyrbinau gwynt, pob un yn fwy na'r Shard yn Llundain. Nid wyf yn gofyn i chi wneud sylwadau ar gais cynllunio unigol, ond yn hytrach, i roi sylw i'r egwyddorion. Sut y gallwn ystyried prosiectau o'r fath yn ddiogel pan nad oes gennym unrhyw beth i bwyso arno? Fel y dywedodd eich cyd-Aelod mewn ymateb i gwestiwn, nid yw'r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi lefelau cysgodion symudol neu gysgodi llygaid sy'n cael eu hystyried yn dderbyniol. Felly, yma mae gennym gynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n defnyddio tyrbinau a oedd ond wedi eu gosod yn y môr o'r blaen, ac nid oes gennym ganllawiau cenedlaethol i ddiogelu cymunedau. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi annog adolygiad nawr o ganllawiau cynllunio i sicrhau nad yw'r cam hanfodol tuag at ddatgarboneiddio ein grid ynni yn effeithio ar iechyd a diogelwch trigolion Cymru?
Gwn fod hwn yn gwestiwn y mae’r Aelod wedi mynd ar ei drywydd ar nifer o achlysuron blaenorol yn y Siambr, felly rwy’n cydnabod ei ddiddordeb ynddo, ac mae’n iawn—yn amlwg, ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar unrhyw gais cynllunio penodol am y rhesymau amlwg. Ond mae pob cais, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i ofynion statudol, mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio, ond hefyd cyfleoedd eraill drwy gydol y broses i gymunedau ymgysylltu â datblygwyr a chodi pryderon, fel y dylent, ynghylch effaith bosibl cynlluniau, pan fydd hynny'n codi. Mae'n bwysig iawn fod cymunedau'n cael y cyfle hwnnw, ond hefyd eu bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw i leisio'u pryderon. Dyna’r ffordd orau o sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol.
Fel Llywodraeth, fel y soniais yn gynharach wrth eich cyd-Aelod, James Evans, rydym yn cefnogi egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg a phob maint i ddiwallu ein hanghenion ynni. Rwy'n cydnabod y bydd rhai yn ddadleuol, ac mae angen inni ystyried y rheini’n ofalus, ond y gwir amdani, er mwyn gallu gwneud cynnydd ar ein hamcanion ynni adnewyddadwy, bydd angen amrywiaeth o dechnolegau, ar y tir ac ar y môr, a’n tasg ni, felly, yw sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith hynny ar gymunedau ac yn rhoi ystyriaeth lawn i’r hyn a glywn gan gymunedau.
Mae polisi 18 yn 'Cymru’r Dyfodol' yn sicrhau bod ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn darparu'r cyfle hwnnw, fel bod cymunedau, ardaloedd dynodedig, a thirweddau yn cael eu diogelu rhag effeithiau niweidiol annerbyniol, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod cymunedau'n gallu ymgysylltu’n weithredol â’r rheini sy’n cynnig datblygiadau newydd.