2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am ar 3 Gorffennaf 2024.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twf gwyddorau bywyd yng Nghymru? OQ61386
Mae gan y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru nifer o alluoedd o'r radd flaenaf, ac rydym yn cefnogi ei dwf mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy'r cymorth ariannol a ddarparwn i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a thrwy noddi digwyddiadau MediWales fel BioCymru a NHS Connects.
Diolch am yr ateb.
Fis diwethaf, agorodd cyfleuster gweithgynhyrchu gwyddorau bywyd blaengar newydd yng Ngogledd Caerdydd. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi mynychu'r agoriad. Bydd safle Molecular Devices yn cynhyrchu modelau 3D o feinwe organau dynol, a elwir yn organoidau, wedi'u tyfu o fôn-gelloedd dynol ar gyfer ymchwil i glefydau ac ar gyfer datblygu cyffuriau. Ac fe arloeswyd y gwaith o ddiwydiannu ymchwil organoid gan brifysgolion Caerdydd a Chaerfaddon, drwy gwmni newydd sydd bellach wedi'i gaffael gan Molecular Devices, ac mae'r gweithlu wedi dyblu a bydd rhagor o swyddi'n cael eu creu. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hon yn enghraifft wych o'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflawni gyda'r cynllun gweithgynhyrchu? A beth arall y gellir ei wneud i ddenu cwmnïau gwyddorau bywyd blaengar eraill i Gymru?
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pellach hwnnw. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o arloesedd gwirioneddol flaenllaw yng Nghymru, gan bwyso ar ymrwymiad gan y Llywodraeth, ond hefyd y cryfderau sylfaenol yn ein heconomi a'n gwasanaeth cyhoeddus. Ac rwy'n credu ei bod yn enghraifft dda iawn o gydweithrediad academaidd a diwydiannol, gyda'r nod o chwyldroi gofal iechyd a dod â manteision economaidd i Gymru. Mae'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi siarad amdano ar sawl achlysur.
Roedd Julie Morgan yn gofyn beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt ein cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu. Byddwn yn mapio cadwyni cyflenwi presennol a phosibl ar gyfer gwyddorau bywyd, ac yn trafod gyda'r GIG—parhau â'r trafodaethau yr ydym eisoes wedi'u dechrau, mewn gwirionedd—sut y gallwn ei gefnogi i ddod o hyd i weithgynhyrchwyr yng Nghymru, annog cwmnïau i fuddsoddi yng Nghymru a helpu gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i arallgyfeirio i'r cadwyni cyflenwi hyn. Rwy'n credu ei fod yn gyfle da iawn o safbwynt economaidd, a chredaf y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cytuno ei fod yn gyfle pwysig o safbwynt gofal iechyd hefyd.
Diolch am ofyn y cwestiwn, Julie Morgan. Mae cefnogi ein sector gwyddorau bywyd yn hynod o bwysig i hyrwyddo economi ffyniannus, a gwyddom fod cyfleoedd enfawr yma yng Nghymru, ond mae angen inni ennyn diddordeb mewn gyrfaoedd gwyddorau bywyd yn ifanc. Mae'n hanfodol sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr bywyd yn chwilfrydig, yn dangos diddordeb ac yn cael eu hyfforddi, ac mae hynny, wrth gwrs, yn dechrau yn ein hysgolion, ond mae yna broblem.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud y penderfyniad gwleidyddol, drwy'r cwricwlwm newydd, i leihau'n sylweddol faint o wyddoniaeth a gynigir ar lefel TGAU. Yn hytrach na chynnig y dewis i bobl ifanc astudio gwyddoniaeth driphlyg, fel y'i gelwid yn flaenorol, yr uchafswm sydd ar gael i ddisgyblion yn rhan o'r cwricwlwm newydd yw'r hyn a elwid gynt yn wyddoniaeth ddwbl, felly traean yn llai. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sylwadau a wnaethoch ac y byddwch chi'n eu gwneud i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i adolygu'r penderfyniad annoeth hwn i amddifadu pobl ifanc o'r lefel fwy trwyadl o wyddoniaeth ar lefel TGAU, sy'n amlwg yn dal i gael ei gynnig dros y ffin?
Wel, rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â thresmasu ar fy nghyfrifoldebau Cabinet blaenorol wrth ateb y cwestiwn. Ond bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod y penderfyniad a wnaed gan Cymwysterau Cymru i ddiwygio'r cymwysterau hynny wedi cael ei gymeradwyo gan y cymdeithasau brenhinol ar gyfer cemeg, bioleg a ffiseg. A'r rheswm y credaf eu bod wedi cefnogi'r penderfyniadau hynny yw oherwydd eu bod yn gwybod, ar sail tystiolaeth, y bydd pobl sy'n symud ymlaen at Safon Uwch yn gwneud yn dda iawn ar sail y cymwysterau hynny—mae tystiolaeth o hynny'n digwydd—ac yn seiliedig ar drafodaethau gyda phrifysgolion. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, mae'r pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig, sef bod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i annog pobl ifanc i astudio'r gwyddorau a phynciau STEM yn ehangach. Dyna pam rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ysgolion i wneud hynny.