10. Dadl Fer: Diogelu'r croen: Rôl ysgolion wrth atal canser y croen

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 3 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:24, 3 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Cysylltiad ag UV o'r haul yn ogystal â defnydd o welyau haul yw prif achos canser y croen. Yn 2019, canserau'r croen oedd bron i hanner yr holl ganserau yng Nghymru—hanner. A dyma'r canser mwyaf cyffredin o bell ffordd sy'n effeithio ar bobl Cymru ac yn anffodus, mae'r cyfraddau'n cynyddu. Rhwng 2016 a 2019, cynyddodd cyfraddau canser y croen 8 y cant, ac mae'r cyflwr bellach yn ffurfio cyfran gynyddol o lwyth gwaith dermatolegwyr. Mae hyn, wrth gwrs, yn gost sylweddol i'n GIG, ac mae iddo sgil-effaith ar ofal ar gyfer cyflyrau eraill y croen. 

O'r pedair gwlad yn y DU, Cymru sydd â'r cyfraddau uchaf o ganser y croen ac erbyn hyn mae gennym—pob un ohonom—risg o un o bob pump o'i ddatblygu yn ystod ein bywydau. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys dolur neu ran o'r croen nad yw'n gwella o fewn pedair wythnos, sy'n edrych yn anarferol, yn brifo, yn cosi, yn gwaedu, yn ffurfio cramen neu'n magu crachen am fwy na phedair wythnos, a dylai unrhyw un sy'n arddangos y symptomau hyn fynd at eu meddyg teulu rhag ofn.