Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 3 Gorffennaf 2024.
Er bod modd trin canser y croen ac er bod y gyfradd oroesi yn uchel iawn ac yn gwella, bydd dros 2,000 o bobl yn dal i farw bob blwyddyn ar draws y DU; mae hynny'n fwy na chwech o bobl bob dydd. Mae'n hanfodol, felly, fod pobl yn ceisio lleihau eu risg yn y lle cyntaf, a dyna pam mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y dull ataliol. Fel gyda llawer o faterion iechyd a drafodir gennym yn y Siambr, byddwn yn dadlau bod angen gwell ffocws ar atal. Oherwydd mai cysylltiad â'r haul yw'r prif achos, gellir atal y rhan fwyaf o ganserau'r croen yn llwyr drwy newidiadau ymddygiadol bach a mesurau diogelwch. Drwy dreulio peth amser yn y cysgod, yn enwedig pan fydd yr haul ar ei uchaf a'i boethaf, gwisgo dillad golau, llac, hetiau cantel llydan, sbectol haul amddiffyniad UV, yn ogystal â gosod eli haul SPF 30 neu uwch gyda sgôr amddiffyniad UVA pedair seren neu uwch yn gyson ac yn helaeth, gallem leihau nifer yr achosion o ganser y croen yn sylweddol.
Ac rwy'n credu y gall ein hysgolion chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o beryglon cysylltiad â'r haul a chamau syml fel y rhain y gellir eu cymryd i leihau risg. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion, gan ei alw'n gonglfaen diogelwch canser y croen. Yn Lloegr, mae'n ofynnol i ysgolion sicrhau y gall disgyblion, erbyn blwyddyn olaf yr ysgol gynradd, wybod am gysylltiad diogel ac anniogel â'r haul, a sut i leihau'r risg o niwed haul. Mae'r elusen Skcin yn cynnig rhaglen achredu sy'n darparu adnoddau am ddim i ysgolion cynradd i'w cynorthwyo yn eu dyletswydd gofal i ddiogelu plant rhag UV ac atal canser y croen. Mae nifer cyfyngedig wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru, ond mae'r ysgolion sydd wedi defnyddio'r adnoddau hyn wedi eu canmol am y ffordd y maent wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion a staff.
O ran yr hyn a wnawn yma, argymhellir diogelwch rhag yr haul fel rhan o gynllun rhwydwaith ysgolion iach Iechyd Cyhoeddus Cymru, er nad yw'n orfodol. Mae 'Cynllun Gwella Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026' yn nodi bod rhwng 30 y cant a 50 y cant o ganserau'n digwydd o ganlyniad i gysylltiad â risgiau y gellir eu hosgoi, a bydd atal yn faes ffocws allweddol.
Ddeuddeg mlynedd yn ôl, yn dilyn deiseb gan Tenovus yn galw am ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn dan 11 oed, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i bolisi diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, fe wnaethant sawl argymhelliad, yn cynnwys y dylai fod yn ofynnol i ysgolion gael dogfen yn nodi dull yr ysgol o ymdrin ag ystod o ffactorau amgylcheddol a allai effeithio ar blant yn ystod y diwrnod ysgol, megis cynnwys gofynion amddiffyniad rhag yr haul a chysgod; dylid ystyried yr offer a ddarperir i blant yn y cyfnod sylfaen a gofynion yr ysgol ar eu cyfer, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n briodol i fod allan mewn amrywiaeth o amodau tywydd; dylai Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ysgolion a sefydliadau'r trydydd sector barhau i weithio gyda'i gilydd i ddarparu addysg amddiffyniad rhag yr haul i blant.
Yn anffodus, er i 12 mlynedd fynd heibio ers i'r pwyllgor adrodd yn ôl, ac ymateb calonogol gan Lywodraeth Cymru ar y dechrau, mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi canfod bod nifer o argymhellion heb eu cyflawni. Canfu'r prosiect ymchwil hwnnw, Sunproofed, dan arweiniad Dr Julie Peconi o'r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mai dim ond 39 y cant o ysgolion a ymatebodd i'w harolwg oedd yn meddu ar bolisi diogelwch rhag yr haul, ac nad oedd pob ysgol a oedd â pholisïau yn eu gweithredu. Roedd ysgolion â chanrannau uwch o blant â hawl i brydau ysgol am ddim a chyda lefelau presenoldeb is yn llai tebygol o fod â pholisi. Dim ond 29 y cant o ysgolion sy'n dysgu diogelwch rhag yr haul fel rhan o'r cwricwlwm ym mhob grŵp blwyddyn. Dim ond 5 y cant o ysgolion oedd â digon o gysgod ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau awyr agored egnïol. Dim ond 8 y cant o ysgolion sy'n cynnwys hetiau i amddiffyn rhag yr haul fel rhan o'r wisg ysgol. Roedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion yng ngogledd Cymru yn fwy tebygol o fod â pholisi, sy'n dangos, rwy'n credu, nad yw diogelwch rhag yr haul yn cael ei addysgu mewn ffordd gyson ar draws y sector addysg yng Nghymru ac ardaloedd awdurdodau lleol.
Roedd ysgolion a oedd â pholisi neu weithdrefn diogelwch rhag yr haul ffurfiol dros chwe gwaith yn fwy tebygol o gysylltu â llywodraethwyr ysgol ynghylch diogelwch rhag yr haul; dros bum gwaith yn fwy tebygol o gynnwys canllawiau ymwybyddiaeth o'r haul yn eu llawlyfr staff; dros dair gwaith yn fwy tebygol o anfon cyfathrebiadau at rieni ynglŷn â diogelwch rhag yr haul; a dros ddwywaith yn fwy tebygol o gynnwys amddiffyniad rhag yr haul yn rhan o'r cwricwlwm ym mhob grŵp blwyddyn na'i gynnwys mewn rhai grwpiau blwyddyn yn unig a thrafod mewn gwasanaeth pan fo'r angen yn codi yn unig. A hefyd, roeddent yn fwy tebygol o annog staff i fodelu ymddygiadau diogelwch rhag yr haul i fyfyrwyr, i fod â hetiau sbâr y gallai disgyblion eu benthyca ac roeddent yn fwy tebygol o drefnu gweithgareddau awyr agored er mwyn lleihau amser yn yr awyr agored rhwng 10am a 3pm yn nhymor yr haf neu pan oedd y mynegai UV yn uwch na 3.
Roedd yr ymchwil hynod ddadlennol a phwysig hwn hefyd yn cynnwys cwisiau diogelwch rhag yr haul gyda disgyblion blynyddoedd 3 i 6 mewn pum ysgol gynradd yn ne Cymru. Canfu mai dim ond 5.7 y cant o'r disgyblion hynny oedd yn ymwybodol fod angen amddiffyniad rhag yr haul pan fydd y mynegai UV yn cyrraedd 3, a dim ond 36 y cant oedd yn gwybod y gallent gael llosg haul ar ddiwrnodau cymylog.
Rwy'n deall bod Ysgrifenyddion y Cabinet dros addysg, newid hinsawdd ac iechyd, yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg presennol wedi cael llythyr gan Dr Peconi ynghylch canfyddiadau ei hymchwil. Yng ngoleuni'r ymchwiliad blaenorol a'r gwaith ymchwil mwy diweddar hwn, rwy'n awyddus i ddysgu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo addysg diogelwch rhag yr haul yn ein hysgolion.
Bydd addysg yn mynd yn bell tuag at leihau cyfraddau canser y croen, ond nid ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yw'r unig heriau sy'n ein hwynebu wrth gwrs. Mae'r argyfwng costau byw wedi codi prisiau holl hanfodion y cartref, gan gynnwys amddiffyniad rhag yr haul. Dangosodd dadansoddiad diweddar o ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cost eli haul wedi codi bron 30 y cant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, tra bo ffigurau gwerthiant diweddar yn awgrymu y gallai fod rhywfaint o effaith ar nifer y cynhyrchion gofal haul a brynir.
Dywedodd Dr Bav Shergill o Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain:
'Wrth i brisiau eli haul godi mae posibilrwydd pendant y bydd pobl yn gwneud llai o ddefnydd ohono, a allai eu rhoi mewn perygl mawr o ganser.'
Atgyfnerthir y pwynt hwn gan arolwg y llynedd gan Melanoma Focus a ganfu fod bron i hanner yr ymatebwyr yn credu bod eli haul yn rhy ddrud, a mynegodd Gofal Canser Tenovus bryderon y byddai amddiffyniad rhag yr haul yn cael ei adael oddi ar restr flaenoriaethau'r aelwyd. Yn fwyaf pryderus, dywedodd 10 y cant o'r ymatebwyr nad oeddent byth yn defnyddio eli haul.
Hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n prynu eli haul, mae'n bosibl fod pryderon ynghylch costau yn eu hannog i ddefnyddio llai nag y dylent. Gwyddom nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio digon o eli haul cyn yr argyfwng costau byw, ac mae'n annhebygol y byddai'r sefyllfa hon wedi gwella wrth i'r pris godi wrth gwrs. Fel canllaw, dylai oedolion anelu at osod tua dwy lwy de o eli haul os ydych chi'n gorchuddio'ch pen, eich breichiau a'ch gwddf yn unig, neu ddwy lwy fwrdd os ydych chi'n gorchuddio'ch corff cyfan, wrth wisgo gwisg nofio er enghraifft, oherwydd os caiff ei osod yn rhy denau, mae maint yr amddiffyniad y mae'n ei gynnig yn lleihau'n fawr. Ac wrth gwrs, dylid ei ailosod bob dwy awr.
Er gwaethaf ei rôl hanfodol yn diogelu ein hiechyd, ar hyn o bryd caiff eli haul ei ddosbarthu fel cynnyrch cosmetig ac mae'n ddarostyngedig i'r gyfradd lawn o TAW. Lansiodd Amy Callaghan, a oedd tan yn ddiweddar yn AS Dwyrain Swydd Dunbarton, ymgyrch i gael TAW wedi'i dynnu oddi ar eli haul fel sy'n digwydd mewn llawer o wledydd eraill. Cefnogir yr ymgyrch hon gan nifer o elusennau ac mae hefyd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n gwybod, wrth gwrs, nad oes gennym ni bŵer i amrywio TAW, ond rwy'n awyddus i wybod a fyddai cael gwared ar TAW ar eli haul yn rhywbeth y byddai'r Llywodraeth hon yn ei gefnogi ac yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth nesaf y DU.