– Senedd Cymru am 5:22 pm ar 3 Gorffennaf 2024.
Mae yna un eitem ar ôl, sef y ddadl fer, a galwaf ar Sioned Williams i siarad am y pwnc a ddewisiwyd ganddi.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy nadl ar ddiogelu'r croen, pwysigrwydd addysg i atal canser y croen.
A byddaf yn rhoi munud o fy amser i Mabon ap Gwynfor ac i Siân Gwenllian.
Mae'r tywydd twymach yma o'r diwedd—wel, dwi'n meddwl ei fod e, beth bynnag—ac felly bydd mwy o bobl yn rhoi heibio eu dillad trwm ac yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored, boed yn mwynhau yn yr ardd neu'n cael hwyl ar y traeth neu yn y parc. Ac mae'r haf yn rhoi cyfle inni i gyd, wrth gwrs, fwynhau mwy o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig o ran ein llecynnau awyr agored hardd.
Pan oeddwn i'n blentyn, roedd mam bob amser yn gwneud yn siŵr bod gen i eli haul ymlaen, a phan oedd fy mhlant i yn iau roeddwn i'n eu gwylltio nhw yn gyson drwy eu hatgoffa i ddefnyddio eli haul ac i wisgo het. Pan ges i losg haul—ydyn, rŷn ni i gyd wedi bod yna, a dwi'n siŵr bod llawer ohonom wedi llosgi tipyn bach tra ein bod ni mas yn canfasio strydoedd Cymru am oriau dros yr wythnosau diwethaf—byddwn i, fel llawer o bobl dwi'n siŵr, yn ei ddiystyru fel rhywbeth annifyr a diflas yn unig a jest yn rhybudd bach i fod yn fwy gofalus yn yr haul y tro nesaf. Ond nid rhywbeth bach diflas ac annifyr mo niwed croen gan yr haul mewn gwirionedd.
Cysylltiad ag UV o'r haul yn ogystal â defnydd o welyau haul yw prif achos canser y croen. Yn 2019, canserau'r croen oedd bron i hanner yr holl ganserau yng Nghymru—hanner. A dyma'r canser mwyaf cyffredin o bell ffordd sy'n effeithio ar bobl Cymru ac yn anffodus, mae'r cyfraddau'n cynyddu. Rhwng 2016 a 2019, cynyddodd cyfraddau canser y croen 8 y cant, ac mae'r cyflwr bellach yn ffurfio cyfran gynyddol o lwyth gwaith dermatolegwyr. Mae hyn, wrth gwrs, yn gost sylweddol i'n GIG, ac mae iddo sgil-effaith ar ofal ar gyfer cyflyrau eraill y croen.
O'r pedair gwlad yn y DU, Cymru sydd â'r cyfraddau uchaf o ganser y croen ac erbyn hyn mae gennym—pob un ohonom—risg o un o bob pump o'i ddatblygu yn ystod ein bywydau. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys dolur neu ran o'r croen nad yw'n gwella o fewn pedair wythnos, sy'n edrych yn anarferol, yn brifo, yn cosi, yn gwaedu, yn ffurfio cramen neu'n magu crachen am fwy na phedair wythnos, a dylai unrhyw un sy'n arddangos y symptomau hyn fynd at eu meddyg teulu rhag ofn.
Er bod modd trin canser y croen ac er bod y gyfradd oroesi yn uchel iawn ac yn gwella, bydd dros 2,000 o bobl yn dal i farw bob blwyddyn ar draws y DU; mae hynny'n fwy na chwech o bobl bob dydd. Mae'n hanfodol, felly, fod pobl yn ceisio lleihau eu risg yn y lle cyntaf, a dyna pam mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y dull ataliol. Fel gyda llawer o faterion iechyd a drafodir gennym yn y Siambr, byddwn yn dadlau bod angen gwell ffocws ar atal. Oherwydd mai cysylltiad â'r haul yw'r prif achos, gellir atal y rhan fwyaf o ganserau'r croen yn llwyr drwy newidiadau ymddygiadol bach a mesurau diogelwch. Drwy dreulio peth amser yn y cysgod, yn enwedig pan fydd yr haul ar ei uchaf a'i boethaf, gwisgo dillad golau, llac, hetiau cantel llydan, sbectol haul amddiffyniad UV, yn ogystal â gosod eli haul SPF 30 neu uwch gyda sgôr amddiffyniad UVA pedair seren neu uwch yn gyson ac yn helaeth, gallem leihau nifer yr achosion o ganser y croen yn sylweddol.
Ac rwy'n credu y gall ein hysgolion chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o beryglon cysylltiad â'r haul a chamau syml fel y rhain y gellir eu cymryd i leihau risg. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion, gan ei alw'n gonglfaen diogelwch canser y croen. Yn Lloegr, mae'n ofynnol i ysgolion sicrhau y gall disgyblion, erbyn blwyddyn olaf yr ysgol gynradd, wybod am gysylltiad diogel ac anniogel â'r haul, a sut i leihau'r risg o niwed haul. Mae'r elusen Skcin yn cynnig rhaglen achredu sy'n darparu adnoddau am ddim i ysgolion cynradd i'w cynorthwyo yn eu dyletswydd gofal i ddiogelu plant rhag UV ac atal canser y croen. Mae nifer cyfyngedig wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru, ond mae'r ysgolion sydd wedi defnyddio'r adnoddau hyn wedi eu canmol am y ffordd y maent wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion a staff.
O ran yr hyn a wnawn yma, argymhellir diogelwch rhag yr haul fel rhan o gynllun rhwydwaith ysgolion iach Iechyd Cyhoeddus Cymru, er nad yw'n orfodol. Mae 'Cynllun Gwella Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026' yn nodi bod rhwng 30 y cant a 50 y cant o ganserau'n digwydd o ganlyniad i gysylltiad â risgiau y gellir eu hosgoi, a bydd atal yn faes ffocws allweddol.
Ddeuddeg mlynedd yn ôl, yn dilyn deiseb gan Tenovus yn galw am ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn dan 11 oed, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i bolisi diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, fe wnaethant sawl argymhelliad, yn cynnwys y dylai fod yn ofynnol i ysgolion gael dogfen yn nodi dull yr ysgol o ymdrin ag ystod o ffactorau amgylcheddol a allai effeithio ar blant yn ystod y diwrnod ysgol, megis cynnwys gofynion amddiffyniad rhag yr haul a chysgod; dylid ystyried yr offer a ddarperir i blant yn y cyfnod sylfaen a gofynion yr ysgol ar eu cyfer, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n briodol i fod allan mewn amrywiaeth o amodau tywydd; dylai Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ysgolion a sefydliadau'r trydydd sector barhau i weithio gyda'i gilydd i ddarparu addysg amddiffyniad rhag yr haul i blant.
Yn anffodus, er i 12 mlynedd fynd heibio ers i'r pwyllgor adrodd yn ôl, ac ymateb calonogol gan Lywodraeth Cymru ar y dechrau, mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi canfod bod nifer o argymhellion heb eu cyflawni. Canfu'r prosiect ymchwil hwnnw, Sunproofed, dan arweiniad Dr Julie Peconi o'r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mai dim ond 39 y cant o ysgolion a ymatebodd i'w harolwg oedd yn meddu ar bolisi diogelwch rhag yr haul, ac nad oedd pob ysgol a oedd â pholisïau yn eu gweithredu. Roedd ysgolion â chanrannau uwch o blant â hawl i brydau ysgol am ddim a chyda lefelau presenoldeb is yn llai tebygol o fod â pholisi. Dim ond 29 y cant o ysgolion sy'n dysgu diogelwch rhag yr haul fel rhan o'r cwricwlwm ym mhob grŵp blwyddyn. Dim ond 5 y cant o ysgolion oedd â digon o gysgod ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau awyr agored egnïol. Dim ond 8 y cant o ysgolion sy'n cynnwys hetiau i amddiffyn rhag yr haul fel rhan o'r wisg ysgol. Roedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion yng ngogledd Cymru yn fwy tebygol o fod â pholisi, sy'n dangos, rwy'n credu, nad yw diogelwch rhag yr haul yn cael ei addysgu mewn ffordd gyson ar draws y sector addysg yng Nghymru ac ardaloedd awdurdodau lleol.
Roedd ysgolion a oedd â pholisi neu weithdrefn diogelwch rhag yr haul ffurfiol dros chwe gwaith yn fwy tebygol o gysylltu â llywodraethwyr ysgol ynghylch diogelwch rhag yr haul; dros bum gwaith yn fwy tebygol o gynnwys canllawiau ymwybyddiaeth o'r haul yn eu llawlyfr staff; dros dair gwaith yn fwy tebygol o anfon cyfathrebiadau at rieni ynglŷn â diogelwch rhag yr haul; a dros ddwywaith yn fwy tebygol o gynnwys amddiffyniad rhag yr haul yn rhan o'r cwricwlwm ym mhob grŵp blwyddyn na'i gynnwys mewn rhai grwpiau blwyddyn yn unig a thrafod mewn gwasanaeth pan fo'r angen yn codi yn unig. A hefyd, roeddent yn fwy tebygol o annog staff i fodelu ymddygiadau diogelwch rhag yr haul i fyfyrwyr, i fod â hetiau sbâr y gallai disgyblion eu benthyca ac roeddent yn fwy tebygol o drefnu gweithgareddau awyr agored er mwyn lleihau amser yn yr awyr agored rhwng 10am a 3pm yn nhymor yr haf neu pan oedd y mynegai UV yn uwch na 3.
Roedd yr ymchwil hynod ddadlennol a phwysig hwn hefyd yn cynnwys cwisiau diogelwch rhag yr haul gyda disgyblion blynyddoedd 3 i 6 mewn pum ysgol gynradd yn ne Cymru. Canfu mai dim ond 5.7 y cant o'r disgyblion hynny oedd yn ymwybodol fod angen amddiffyniad rhag yr haul pan fydd y mynegai UV yn cyrraedd 3, a dim ond 36 y cant oedd yn gwybod y gallent gael llosg haul ar ddiwrnodau cymylog.
Rwy'n deall bod Ysgrifenyddion y Cabinet dros addysg, newid hinsawdd ac iechyd, yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg presennol wedi cael llythyr gan Dr Peconi ynghylch canfyddiadau ei hymchwil. Yng ngoleuni'r ymchwiliad blaenorol a'r gwaith ymchwil mwy diweddar hwn, rwy'n awyddus i ddysgu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo addysg diogelwch rhag yr haul yn ein hysgolion.
Bydd addysg yn mynd yn bell tuag at leihau cyfraddau canser y croen, ond nid ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yw'r unig heriau sy'n ein hwynebu wrth gwrs. Mae'r argyfwng costau byw wedi codi prisiau holl hanfodion y cartref, gan gynnwys amddiffyniad rhag yr haul. Dangosodd dadansoddiad diweddar o ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cost eli haul wedi codi bron 30 y cant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, tra bo ffigurau gwerthiant diweddar yn awgrymu y gallai fod rhywfaint o effaith ar nifer y cynhyrchion gofal haul a brynir.
Dywedodd Dr Bav Shergill o Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain:
'Wrth i brisiau eli haul godi mae posibilrwydd pendant y bydd pobl yn gwneud llai o ddefnydd ohono, a allai eu rhoi mewn perygl mawr o ganser.'
Atgyfnerthir y pwynt hwn gan arolwg y llynedd gan Melanoma Focus a ganfu fod bron i hanner yr ymatebwyr yn credu bod eli haul yn rhy ddrud, a mynegodd Gofal Canser Tenovus bryderon y byddai amddiffyniad rhag yr haul yn cael ei adael oddi ar restr flaenoriaethau'r aelwyd. Yn fwyaf pryderus, dywedodd 10 y cant o'r ymatebwyr nad oeddent byth yn defnyddio eli haul.
Hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n prynu eli haul, mae'n bosibl fod pryderon ynghylch costau yn eu hannog i ddefnyddio llai nag y dylent. Gwyddom nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio digon o eli haul cyn yr argyfwng costau byw, ac mae'n annhebygol y byddai'r sefyllfa hon wedi gwella wrth i'r pris godi wrth gwrs. Fel canllaw, dylai oedolion anelu at osod tua dwy lwy de o eli haul os ydych chi'n gorchuddio'ch pen, eich breichiau a'ch gwddf yn unig, neu ddwy lwy fwrdd os ydych chi'n gorchuddio'ch corff cyfan, wrth wisgo gwisg nofio er enghraifft, oherwydd os caiff ei osod yn rhy denau, mae maint yr amddiffyniad y mae'n ei gynnig yn lleihau'n fawr. Ac wrth gwrs, dylid ei ailosod bob dwy awr.
Er gwaethaf ei rôl hanfodol yn diogelu ein hiechyd, ar hyn o bryd caiff eli haul ei ddosbarthu fel cynnyrch cosmetig ac mae'n ddarostyngedig i'r gyfradd lawn o TAW. Lansiodd Amy Callaghan, a oedd tan yn ddiweddar yn AS Dwyrain Swydd Dunbarton, ymgyrch i gael TAW wedi'i dynnu oddi ar eli haul fel sy'n digwydd mewn llawer o wledydd eraill. Cefnogir yr ymgyrch hon gan nifer o elusennau ac mae hefyd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n gwybod, wrth gwrs, nad oes gennym ni bŵer i amrywio TAW, ond rwy'n awyddus i wybod a fyddai cael gwared ar TAW ar eli haul yn rhywbeth y byddai'r Llywodraeth hon yn ei gefnogi ac yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth nesaf y DU.
Mae rhai banciau bwyd hyd yn oed wedi dechrau cynnwys eli haul fel eitem y maen nhw'n ei ddarparu, ond dim ond nifer fach o fanciau bwyd sy'n gwneud hyn ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth, yn gwbl briodol, wedi buddsoddi mewn gwella mynediad at gynnyrch mislif mewn ysgolion, felly hoffwn wybod a yw’r Llywodraeth wedi meddwl am ymchwilio i ddichonoldeb darparu eli haul effeithiol o ansawdd uchel i ysgolion. Hefyd, o ran yr elfen o gost, mae gweithgareddau awyr agored sy’n gallu rhoi plant mewn golau haul uniongyrchol am gyfnodau hir, fel mynd i’r traeth a pharciau ac ati, yn dueddol o fod yn rhad ac am ddim ac felly’n fwy deniadol i’r rhai sydd â chyllidebau tynnach.
Yn ystod y pandemig, cymerodd Llywodraethau ledled y byd fesurau digynsail i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu cyfraddau cynyddol o ganser y croen, mwy o bobl yn cael gwybod bod ganddynt ganser ac yn cael triniaeth, yn ogystal â'r costau yna, rhai cynyddol i'r gwasanaeth iechyd gwladol. Gwelsom yn ystod y pandemig sut y gwnaeth hylif diheintio dwylo, er enghraifft, fod ar gael yn rheolaidd ac am ddim i'r cyhoedd. Tybed a ellid sicrhau bod eli haul ar gael mewn teclynnau dosbarthu tebyg mewn gweithleoedd sector cyhoeddus, ysgolion ac ysbytai Cymru. Gellir atal y rhan fwyaf o ganserau'r croen, ond gallant fod yn farwol. Felly, beth ydym ni'n mynd i'w wneud i sicrhau eu bod yn cael eu hatal yn effeithiol?
Mae hwn yn fater o'r pwys mwyaf. Gwyddom fod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gyfraddau canser y croen ac y bydd yn parhau i gael effaith wrth i'r tymheredd barhau i godi. Drwy weithredu polisïau iechyd cyhoeddus cadarn nawr, gallwn liniaru yn erbyn yr argyfwng iechyd cynyddol hwn, a fydd yn cael ei waethygu gan newid yn yr hinsawdd. Rhaid inni weld hyn drwy lens llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a rhaid inni roi’r sylw difrifol iddo y mae’n ei haeddu. Rwy'n edrych ymlaen at glywed sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu i sicrhau hyn. Diolch.
Mae canser yn neu wedi cyffwrdd bron bob teulu yng Nghymru. Pum mlynedd ar hugain yn ôl, bu farw fy ngŵr i, Dafydd, ar ôl cael diagnosis o ganser y croen, melanoma. Roedd yn 47 oed ac roedd yn dad i bedwar o blant bach, gyda'r ieuengaf ond tair oed. Bryd hynny, doedd dim llawer o sôn am melanoma na thrafod amdano fo, ond, erbyn hyn, mae'n hysbys mai canser y croen ydy un o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r achosion ar gynnydd. Ond does dim digon o sôn amdano o hyd, a'r camau ymarferol y gall pawb eu cymryd, dydy'r rheini, ychwaith, ddim yn cael digon o sylw—camau ymarferol i warchod croen rhag pelydrau peryglus yr haul. A dwi'n cytuno, felly, fod angen ffocws ar addysgu plant a phobl am y camau ataliol ymarferol y gallan nhw eu cymryd i leihau'r risgiau.
Mae melanoma yn dwyn anwyliaid oddi wrthym ni, ond mae yna ffyrdd o helpu, mae yna ffyrdd o leihau'r risgiau, a rhaid tynnu sylw pobl Cymru at y rheini, a dwi'n credu bod yna ddyletswydd ar y wladwriaeth yma yng Nghymru i arwain ar y gwaith.
Diolch yn fawr iawn i ti, Sioned, am ddod â'r ddadl yma gerbron. Roedd hi'n ddiddorol iawn clywed yr argymhellion am faint o eli haul i roi ar y corff. Bydd fy mhlant i'n falch iawn o glywed hynna, achos rydyn ni'n dueddol o 'lather-io' nhw efo gormod ac maen nhw'n edrych fel zombies ar ôl i ni orffen efo nhw. [Chwerthin.]
Ond mae o'n bwysig wrth ystyried bod achosion canser y croen sydd gennym ni yng Nghymru ar gynnydd, fel roeddet ti wedi'i ddweud, a bod gennym ni fwy o achosion yma yng Nghymru nac unrhyw genedl arall o'r Deyrnas Gyfunol. Ac mae'n gallu digwydd mor hawdd i ni ac yn gwbl ddiarwybod, sef pam mae dadl Sioned mor bwysig, ac yn iawn, felly, i alw am gael plant i ddysgu am y cyflwr yn yr ysgolion ac ar oedran ifanc iawn. Ac roedd deall mai dim ond un o bob tri o blant yng Nghymru sy'n cael eu haddysgu'n dangos y gwendid yna yn y drefn.
Wrth ystyried, felly, fod achosion ar gynnydd, mae hwn yn dangos yr angen i ni ddatblygu cynllun canser cynhwysfawr yng Nghymru, fel y cynllun canser mae Plaid Cymru yn ei roi ymlaen—cynllun a fydd yn arwain at adnabod cleifion ynghynt a gwell diagnostics ymhlith canserau eraill. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog ac, yn benodol, sut mae'r Gweinidog yn credu y gellir mynd i'r afael â'r cwestiwn yna o sut mae addysgu plant a phobl ifanc o'r peryglon efo canser y croen. Felly, diolch yn fawr iawn i ti, Sioned.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl. Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf i ddiolch i Sioned am gyflwyno'r ddadl hon, sydd wedi bod yn addysgiadol iawn ac sydd wedi ysgogi'r meddwl yn fawr? Fel y nododd Sioned, canser y croen yw'r canser mwyaf cyffredin yng Nghymru o bell ffordd. Cofnodwyd tua 15,000 o achosion o ganser y croen nad yw'n felanoma a 1,000 o achosion o felanoma yn 2019. Ac fel y dywedodd Sioned, mae'r achosion yn cynyddu. Siân, nid oeddwn yn ymwybodol fod eich gŵr wedi marw o felanoma, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed hynny, a diolch i chi am rannu'r profiad hwnnw gyda ni heddiw.
Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd i bawb yng Nghymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ffocws ar atal canser ac addysg sy'n cefnogi iechyd a llesiant yn ehangach. Mae diogelwch rhag yr haul yn rhan allweddol o atal canser y croen, ac mae addysg yn y maes hwn yn allweddol. Ar hyn o bryd, fel y nododd Sioned, cefnogir hyn gan rwydwaith Cymru o ysgolion sy'n hybu iechyd a llesiant, gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r rhwydwaith yn gyfrifol am gynnal a hyrwyddo llesiant pob dysgwr. Mae cydgysylltwyr lleol yn cyfeirio ac yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau gydag ysgolion i gefnogi diogelwch rhag yr haul ledled Cymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu ystod o gyfleoedd datblygu'r gweithlu er mwyn i gydgysylltwyr ysgolion lleol sy'n hybu iechyd a llesiant gael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol sy'n ymwneud â diogelwch rhag yr haul, y gallant eu rhannu'n uniongyrchol ag ysgolion, fel eu bod yn mynd i'r afael â materion sy'n codi gyda dysgwyr a'u rhieni. Mae safonau gofynnol arfaethedig y rhwydwaith yn disgrifio elfennau craidd dull ysgol gyfan, ac er nad yw'r rhain yn ymwneud â phynciau penodol, mae nifer o'r safonau hyn yn cefnogi datblygiad polisïau ac arferion priodol ar gyfer diogelwch rhag yr haul, gan gynnwys dysgu drwy'r cwricwlwm.
Rwy'n ymwybodol o'r prosiect a arweinir gan Brifysgol Abertawe, sy'n gweithio gydag ysgolion ar hyn o bryd i helpu i archwilio'r canfyddiadau cyfredol ynglŷn â lliw haul ymhlith plant, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr, a bydd canlyniadau'r prosiect hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu adnoddau addysgol newydd sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru. Nid wyf wedi derbyn—neu o leiaf, nid wyf wedi gweld—llythyr gan yr ymchwilydd eto, ond byddaf yn siŵr o fynd ar ei drywydd a gofyn am gopi o'i gwaith ymchwil. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trefnu i'r academydd sy'n arwain y prosiect i ddod i'w rwydwaith o gyfarfodydd mewn ysgolion i hybu iechyd a llesiant, sy'n cael eu cynnal yr wythnos hon yng ngogledd a de Cymru.
Yn ogystal â'r gwaith iechyd cyhoeddus hanfodol hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad i bob ysgol a lleoliad i'w cefnogi i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar ddiwrnodau poeth iawn. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys cyngor ymarferol ar bwysigrwydd cael cymaint o gysgod ag sy'n bosibl, cyfyngu amser yn yr haul yn ystod gweithgareddau awyr agored a defnyddio gorchuddion haul. O fewn y canllawiau, mae gwahanol asesiadau risg y gall ysgolion eu defnyddio i weithredu mesurau diogelwch ychwanegol ar gyfer eu plant a'u pobl ifanc yn ôl yr angen.
Mae addysg, wrth gwrs, yn hanfodol i gefnogi dysgwyr i ddatblygu ymddygiad sy'n hybu iechyd, ac wrth wraidd fframwaith y Cwricwlwm i Gymru mae pedwar diben sy'n ganolog i bob penderfyniad a wneir am y cwricwlwm newydd. Un o'r pedwar diben yw cefnogi plant a phobl ifanc i ddod yn unigolion iach a hyderus. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau bod iechyd a llesiant yn faes dysgu a phrofiad gorfodol am y tro cyntaf, gan danlinellu ein hymrwymiad i iechyd a llesiant dysgwyr. Am y tro cyntaf, mae gan iechyd a llesiant statws cydradd yn y gyfraith â meysydd pwysig eraill yng nghwricwlwm yr ysgol, a disgwylir i ysgolion ddarparu addysgu fel rhan o'u cwricwlwm o'r blynyddoedd cynnar hyd at 16 mlwydd oed. Ers cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi athrawon i gyflawni hyn.
Mae'r maes hwn o'r cwricwlwm yn darparu strwythur cyfannol ar gyfer deall iechyd a llesiant. Mae'r cod datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn nodi bod yna fanteision gydol oes i ddatblygu iechyd a llesiant corfforol. Nod hyn yw helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a llesiant corfforol, gan gynnwys cyflyrau iechyd, gweithgarwch corfforol, maeth a phwysigrwydd deiet cytbwys. Wrth i ddysgwyr symud ymlaen, mae datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig sy'n berthnasol i'r pwnc hwn yn ystyried asesu risg, pwysigrwydd gwneud penderfyniadau da a rôl dylanwadwyr cymdeithasol yn eu bywydau. Bydd y ffocws newydd hwn yn helpu plant a phobl ifanc i feithrin dewisiadau iachach a mwy diogel mewn perthynas â'u ffordd o fyw drwy gydol eu bywydau ac yn eu cefnogi i ddeall risgiau a pheryglon ystod o heriau a phroblemau. Mae cysylltiad â'r haul neu ddefnyddio gwelyau haul, sydd wedi'i wahardd i bobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru, yn enghreifftiau amlwg lle gall dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru gefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau iachach wedi'u llywio gan y dystiolaeth.
Mae gwaith ac addysg arloesol ar ymwybyddiaeth o ganser ac atal canser yn digwydd mewn ysgolion yng Nghymru. Mae prosiect a gydlynwyd gan sawl ysgol uwchradd ar draws Rhondda Cynon Taf wedi datblygu rhaglen ddysgu gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. Cafodd hwn ei weithredu drwy waith Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda Menter Canser Moondance. Drwy ddull partneriaeth, a oedd yn cynnwys y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cynhyrchodd y rhaglen brofiadau ac adnoddau dysgu i'w dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys deall sgrinio am ganser, sut i ddefnyddio pecyn prawf, a datblygu deunyddiau i ennyn diddordeb rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach, a hyrwyddodd hynny negeseuon allweddol ynghylch atal, sgrinio a symptomau cynnar. Helpodd y rhaglen i wella dealltwriaeth y dysgwyr o ganser, a chanser y coluddyn yn arbennig, o'r achosion i sgrinio a chyfraddau gwella. Roedd pwysigrwydd sgrinio yn rhan o'r dysgu hwn yn hanfodol, oherwydd mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn arwain at gyfraddau goroesi llawer uwch. Roedd hon yn rhaglen effeithiol a oedd yn mynd i'r afael â phwnc sensitif ond pwysig mewn modd arloesol a chreadigol. Mae hon yn enghraifft wych o sut mae ysgolion wedi cydweithio â dysgwyr a'u teuluoedd, gyda'r nod o wella canlyniadau i'w cymuned, gyda gwerthoedd y Cwricwlwm i Gymru yn ganolog iddi.
Er mai canser y coluddyn, yn benodol, oedd ffocws y prosiect, gellid mabwysiadu dull tebyg o gefnogi'r gwaith o atal canser y croen a chyflyrau eraill. Dyma'r mathau o gyfleoedd y mae'r Cwricwlwm i Gymru yn eu darparu i ysgolion, ac rwy'n awyddus i weld mwy o'r mathau hyn o brofiadau dysgu arloesol, sydd mor berthnasol i ddysgwyr a'u cymunedau. Dyna'r rôl y gall ysgolion ei chwarae mewn materion fel hyn, gan ddarparu dysgu sy'n helpu dysgwyr i ddeall materion sy'n ymwneud ag iechyd, a meithrin hyder ynddynt fel y gallant ddeall y pynciau hyn a gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n cefnogi eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Ond ni allwn anghofio ychwaith fod atal canser yn fater i'r gymdeithas gyfan, ac nid yw'n rhywbeth y gallwn ei roi ar ysgwyddau ysgolion yn gyfan gwbl.
A gaf i orffen drwy ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno'r ddadl? Mae Eluned Morgan hefyd wedi clywed y ddadl heddiw. Hoffwn roi sicrwydd iddi y byddaf yn edrych ar yr ymchwil yn ogystal â'r cysylltiadau ag argymhellion blaenorol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, nad wyf yn credu fy mod yn rhan ohono am ryw reswm nad wyf yn ei ddeall. Byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn edrych i weld beth sydd wedi digwydd gyda'r argymhellion hynny. Diolch.
Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.