Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 3 Gorffennaf 2024.
Mae canser yn neu wedi cyffwrdd bron bob teulu yng Nghymru. Pum mlynedd ar hugain yn ôl, bu farw fy ngŵr i, Dafydd, ar ôl cael diagnosis o ganser y croen, melanoma. Roedd yn 47 oed ac roedd yn dad i bedwar o blant bach, gyda'r ieuengaf ond tair oed. Bryd hynny, doedd dim llawer o sôn am melanoma na thrafod amdano fo, ond, erbyn hyn, mae'n hysbys mai canser y croen ydy un o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r achosion ar gynnydd. Ond does dim digon o sôn amdano o hyd, a'r camau ymarferol y gall pawb eu cymryd, dydy'r rheini, ychwaith, ddim yn cael digon o sylw—camau ymarferol i warchod croen rhag pelydrau peryglus yr haul. A dwi'n cytuno, felly, fod angen ffocws ar addysgu plant a phobl am y camau ataliol ymarferol y gallan nhw eu cymryd i leihau'r risgiau.
Mae melanoma yn dwyn anwyliaid oddi wrthym ni, ond mae yna ffyrdd o helpu, mae yna ffyrdd o leihau'r risgiau, a rhaid tynnu sylw pobl Cymru at y rheini, a dwi'n credu bod yna ddyletswydd ar y wladwriaeth yma yng Nghymru i arwain ar y gwaith.