– Senedd Cymru am 4:35 pm ar 2 Gorffennaf 2024.
Eitem 6 heddiw yw Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Caffael yw un o'r ysgogiadau mwyaf effeithiol sydd ar gael i gyflawni ein huchelgeisiau polisi yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae awdurdodau contractio yng Nghymru yn gwario dros £8 biliwn ar gaffael cyhoeddus. Gall gwella'r ffordd rydym yn caffael ysgogi arloesedd a chydnerthedd, cefnogi ein heconomi leol a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i Gymru.
Yn sgil ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd roedd yn ofynnol i ni foderneiddio ein deddfwriaeth caffael. Fe wnaethon ni ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru, a chadarnhaodd y mwyafrif ohonynt eu bod yn fodlon â chyfeiriad diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y DU. Roedden nhw'n ffafrio cysondeb, parhad ac eglurder i brynwyr a chyflenwyr ar ddwy ochr y ffin. Dyna pam, ar 18 Awst 2021, fe gyhoeddais i y byddai darpariaeth ar gyfer awdurdodau contractio yng Nghymru yn cael ei gwneud o fewn Bil Caffael Llywodraeth y DU, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023.
Gwneir y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau cyfatebol annibynnol ar gyfer Gweinidogion Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf Caffael, a'n bwriad yw gwneud rheoliadau pellach cyn i'r Ddeddf ddod i rym ar 28 Hydref 2024. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu'r manylion technegol ac ymarferol hanfodol sydd eu hangen i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu fel y'i bwriadwyd, gan gynnwys yr wybodaeth y bydd angen i awdurdodau contractio Cymru ei chynnwys yn eu hysbysiadau ar bob cam o'r broses gaffael.
Mae gwell tryloywder yn un o gonglfeini'r drefn gaffael newydd, a bydd ymgorffori mwy o dryloywder trwy gydol y cylch oes masnachol yn helpu i sicrhau y gellir craffu ar wariant arian trethdalwyr Cymru yn iawn a bod canlyniadau gwerth am arian yn cael eu cyflawni. Bydd y rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau contractio Cymru i gyflawni eu gweithgarwch caffael mewn ffordd fwy agored, addysgiadol a thryloyw, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'n rhwymedigaethau rhyngwladol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr ystyriaeth fanwl y maent wedi'i rhoi i'r rheoliadau hyn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y rheoliadau hyn, a gynhaliwyd yr haf diwethaf. Mae eu hadborth cadarnhaol ac adeiladol wedi helpu i ddatblygu'r rheoliadau hyn ymhellach cyn iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 24 Mehefin. Mae ein hadroddiad yn cynnwys 11 o bwyntiau technegol a dau bwynt adrodd ar rinweddau. Roedd gennym rai pryderon ynghylch yr ymateb i'n hadroddiad, a diolchaf i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei hymateb cyflym i'r llythyr a anfonwyd gennym i ofyn am eglurder. Yn anffodus, ni wnaeth ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet leddfu ein pryderon a gwnaethom gymryd y cam anarferol o ysgrifennu eto brynhawn ddoe. Mae ein hadroddiad a'r ohebiaeth ar gael ar yr agenda heddiw.
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu manylion a gofynion ychwanegol sy'n angenrheidiol i sicrhau gweithrediad Deddf Caffael 2023. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Senedd wedi cymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol i gynnwys darpariaethau perthnasol yn y Ddeddf erbyn hyn. Dywedwyd wrth bwyllgorau'r Senedd, pan oeddent yn ystyried y memorandwm cydsyniad ar gyfer y Bil, bod swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio'n agos ar ddatblygu is-ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb ar ôl hynny am wneud rheoliadau i Gymru gan ddefnyddio pwerau mewn deddfwriaeth sylfaenol a ystyrir gan Senedd wahanol o leiaf yn rhoi rhywfaint o reolaeth weithredol i'r Senedd dros y gyfraith a fydd yn berthnasol yng Nghymru.
Hoffwn dynnu sylw at ein pwyntiau adrodd 10 ac 11. Yn Atodlen 2 i'r rheoliadau, cyfeirir at Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid Comisiwn y Senedd, fel y mae ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod Llywodraeth y DU wedi cynghori na allai enwau gael eu newid. Yn yr ymateb a gawsom, ychwanegwyd hefyd, os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu diwygio'r rhestr yn ei rheoliadau ei hun, y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud yr un peth. Gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru rannu'r cyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU gyda ni, yn enwedig mewn perthynas ag enw Comisiwn y Senedd. Beth bynnag, roeddem yn synnu bod Llywodraeth Cymru, mae'n debyg, yn cymryd cyfarwyddiadau gan Lywodraeth y DU o ran sut i ddrafftio ei deddfwriaeth.
Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym hefyd yn ei llythyr nad oedd gan Lywodraeth Cymru, yn hanesyddol, unrhyw bŵer i ddiwygio enwau cyrff Llywodraeth ganolog o ganlyniad i rwymedigaethau masnach ryngwladol. Mae'n wirioneddol aneglur i ni sut y gallai defnyddio enw cywir a chyfredol Comisiwn y Senedd beri risg i gydymffurfiad y DU â rhwymedigaethau masnach ryngwladol. Gofynnwn i gymaint o fanylion â phosibl gael eu rhoi i'r Senedd i egluro pam mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull sydd i ni yn ymddangos yn afreolaidd ar y gorau. Ac, yn anffodus, ni roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyngor Llywodraeth y DU i ni y dywedodd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn a'i bod yn ei ddilyn.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn deall mai rôl allweddol y pwyllgor yw cynorthwyo'r Senedd i wneud deddfwriaeth dda. Rydym yn gyfaill beirniadol. Ac felly fe ddefnyddiaf fy sylwadau terfynol i dynnu sylw at ddiffygion hysbys yn y rheoliadau hyn. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i gyflwyno offeryn statudol pellach yn yr hydref i gywiro pedwar mater y mae fy mhwyllgor wedi'u nodi. Credwn ei bod yn bwysig bod hynny ar y cofnod y prynhawn yma.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch. A gaf i ddweud eto pa mor ddiolchgar ydw i i'r pwyllgor am y craffu trylwyr maen nhw wedi'i wneud ar y rheoliadau hyn? Mewn ymateb i bryderon y pwyllgor ynghylch y rhestr o gyrff y Llywodraeth ganolog a restrir yn Atodlen 2 i'r rheoliadau, mae'r mater y maent wedi'i godi yn gymhleth yn dechnegol ac yn hanesyddol, ac mae'n gysylltiedig â'n rhwymedigaethau rhyngwladol. Er bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau i basio deddfau sy'n ymwneud ag arsylwi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gytuno ar gytundebau masnach ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ac, yn hanesyddol, mae hyn wedi golygu nad ydym wedi gallu diwygio enwau fel y rhai a restrir yn Atodlen 2, gan nad oes gennym y pwerau i wneud hynny. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi bod ein penderfyniad i osod y rheoliadau hyn wedi'i ysgogi'n rhannol gan ein hymrwymiad i randdeiliaid Cymru y byddem yn rhoi digon o amser iddynt baratoi'n effeithiol cyn i'r drefn newydd ddod i rym. Mae'n hanfodol bwysig bod rhanddeiliaid yn cael golwg ar y rheoliadau hyn cyn y dyddiad mynd yn fyw, er mwyn llywio eu paratoadau eu hunain. Ac er bod y pwyllgor wedi tynnu sylw at rai meysydd y mae angen eu cywiro, nid yw methu â chywiro'r materion hyn ar hyn o bryd yn atal rhanddeiliaid rhag parhau â'u paratoadau ar gyfer y drefn gaffael newydd.
Fel y sylwais i yn fy—nodais, dylwn i ddweud—ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor, rydym wrthi'n archwilio opsiynau ar gyfer defnyddio pwerau o fewn y Ddeddf Caffael i ddiweddaru'r enwau a nodir yn Atodlen 2, gan na fydd y rheoliadau yn dod i rym tan 28 Hydref. Ac rwy'n hapus i roi sicrwydd y byddwn yn ceisio diwygio'r enwau, drwy reoliadau yn y dyfodol, cyn gynted â phosibl, pe bai hynny'n bosibl yn gyfreithiol.
Hoffwn hefyd gydnabod pryderon y pwyllgor ynglŷn â rhannu gwybodaeth, ac rwy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i'r pwyllgor fel y gall gyflawni ei rwymedigaethau yn llwyddiannus i ddarparu craffu effeithiol ar y rheoliadau arfaethedig. Hoffwn sicrhau'r Cadeirydd fod fy swyddogion a minnau yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r pwyllgor gymaint â phosibl gyda hynny.
Bydd y rheoliadau hyn a'r Ddeddf Caffael, ochr yn ochr â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024, yn darparu fframwaith effeithiol ar gyfer caffael yng Nghymru, a byddant hefyd yn cychwyn ffordd newydd ymlaen a fydd yn galluogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i drosoli pŵer caffael ac i gefnogi'r Gymru fwy cyfartal, fwy cynaliadwy a mwy ffyniannus yr ydym i gyd eisiau ei gweld.
Rwyf eisiau dweud bod hyn wedi bod yn enghraifft dda iawn o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rydym yn parhau i weithio'n agos ar ddatblygu ein cyfundrefnau caffael priodol. Er enghraifft, rydym wedi gallu newid dull Llywodraeth y DU o ymdrin â nifer o bethau. Er enghraifft, wrth ddrafftio'r Ddeddf Caffael, gwnaethom sicrhau cynnydd yn uchafswm tymor y contract ar gyfer pryd y cedwir contractau i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus o dair blynedd i bum mlynedd, er enghraifft, ac roeddem hefyd yn gallu dylanwadu ar ddrafftio rheoliadau caffael Llywodraeth y DU mewn nifer o feysydd. Er enghraifft, pan fydd contract yn cael ei ddyfarnu i gyflenwr sydd wedi'i eithrio, gwnaethom awgrymu y dylid cynnwys enw'r cyflenwr yn yr hysbysiad dyfarnu contract, fel bod y cyhoedd, ym mhob achos, yn ymwybodol o'r bwriad i ddyfarnu i gyflenwr sydd wedi'i eithrio cyn i'r contract gael ei ymrwymo. Felly, mae ystod eang o enghreifftiau y gallwn eu dyfynnu o ran y dylanwad a gawsom ar ddull Llywodraeth y DU a'r gwaith da sydd wedi'i wneud ar y cyd.
Ac yna dim ond i dynnu sylw at ddau beth y credaf fydd o ddiddordeb arbennig i gyd-Aelodau o ran y dull yr ydym yn ei ddatblygu heddiw. Yn y ddeddfwriaeth mae dyletswydd benodol ar awdurdodau contractio i ystyried sut i leihau a dileu'r rhwystrau i fentrau bach a chanolig pan fyddant yn ceisio cael mynediad at y cyfleoedd caffael cyhoeddus hynny. Gwyddom y gall y rhwystrau hyn gynnwys prosesau tendro sy'n rhy gymhleth a'r gofyniad i gyflwyno dogfennau lluosog sawl gwaith, a gall busnesau bach a chanolig gael eu hunain dan anfantais wrth gystadlu yn erbyn cwmnïau mwy sydd ag adnoddau ysgrifennu cynigion pwrpasol, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n gam cyffrous iawn ymlaen yn y dull yr ydym yn ei fabwysiadu. A hefyd, yn hollbwysig, bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gaffaelwyr asesu tendrau ar sail y tendr mwyaf manteisiol. Yn flaenorol, hwn oedd y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd, felly mae'n golygu, wrth ddileu'r cyfeiriad at feini prawf economaidd, y byddwn yn cael effaith gadarnhaol ar werth cymdeithasol, gan ganiatáu ar gyfer mwy o ystyriaeth o'r manteision ehangach i'r gymuned y bydd y contract yn cael ei gyflawni ynddi. Rwy'n gwybod y bydd hynny'n mynd i'r afael â llawer o bryderon y mae cyd-Aelodau wedi'u codi ynghylch caffael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.