Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 2 Gorffennaf 2024.
Hoffwn i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma yn amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru i ddileu dolur rhydd feirysol buchol, BVD, o Gymru. Er fy mod i'n cydnabod y dyhead sydd gan y Llywodraeth, mae rhai pryderon sylweddol y mae angen ymdrin â nhw cyn y gallaf gefnogi'r rhaglen y mae'r Llywodraeth hon yn mynd ar ei hôl yn llwyr.
Dydw i ddim yn credu, Ysgrifennydd Cabinet, bod y datganiad hwn yn ymdrin yn llawn â'r costau sylweddol y bydd ffermwyr yn eu hwynebu. Amcangyfrifodd y Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol fod presenoldeb BVD mewn buchesi yn arwain at golledion blynyddol o hyd at £15,000 i rai ffermwyr llaeth. Fe wnaethoch chi siarad yn y fan yna am y gost profi flynyddol o £100. Efallai fod honno'n ymddangos yn fach, ond nid dyna'r unig gost, ife, Ysgrifennydd Cabinet? Oherwydd mae yna gostau ychwanegol ar gyfer mesurau bioddiogelwch a chostau milfeddygol. Os oes yn rhaid i chi wahanu gwartheg, efallai y bydd yn rhaid i chi godi siediau ychwanegol, ac efallai y bydd yn rhaid i chi addasu eich tir i wneud hynny. Ac fe allai'r costau hynny andwyo ein ffermydd bach. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi amlinellu a oes unrhyw gynlluniau cymorth ariannol pendant y tu hwnt i rai o'r pethau yr ydych chi wedi'u crybwyll heddiw, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau sylweddol a mentrau rhannu costau i leddfu'r baich ariannol uniongyrchol hwnnw ar ein ffermwyr, yn enwedig y rhai yn ein ffermydd llai, oherwydd mae angen ymrwymiadau clir arnom ni gan y Llywodraeth ynghylch cyllid ar hyn? Mae'n beth da iawn bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno, ond os nad oes unrhyw gyllid i gyd-fynd â nhw, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i'r diwydiant amaethyddol.
Mae'n ymddangos bod y rhaglen yr ydych chi wedi'i gosod yn mabwysiadu dull eithaf unffurf, ac rwy'n credu bod hynny'n esgeuluso'r gwahaniaethau enfawr rhwng ein ffermydd mawr a'n ffermydd teuluol llai, yn enwedig y ffermydd organig hynny sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, allwch chi ymhelaethu ar sut y bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer anghenion y mathau amrywiol hyn o ffermydd, ac a oes protocolau profi a mesurau bioddiogelwch arall ar gyfer ffermwyr organig, fel y gallan nhw gadw at eu safonau ardystio, oherwydd mae perygl y bydd polisi cyffredinol ledled Cymru yn dieithrio ac yn cael effaith anghymesur ar y rhai yn y sector sy'n ei chael hi'n anodd cydymffurfio â rhai o'r safonau hyn yr ydych chi'n eu nodi?
Mae dileu yn nod uchelgeisiol, ac mae'n un yr wyf i'n ei rannu—rwy'n hoffi bod yn uchelgeisiol ac rwy'n credu bod angen i ni fod—ond rwy'n credu bod y rhaglen yn brin o fanylion hirdymor am gynaliadwyedd. Er i chi sôn am fonitro, does dim cynllun pendant wedi'i amlinellu. Mae astudiaethau'n bodoli, er enghraifft gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol, sy'n arddangos rhaglenni dileu mewn gwledydd eraill sydd wedi arwain at ostyngiadau dramatig mewn lloi BVD a PI, ond sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r dysgu hwn? Pa raglenni hirdymor penodol ydych chi'n mynd i fod yn eu rhoi ar waith i atal BVD rhag ailymddangos, ac a ydych chi wedi cael sgyrsiau â milfeddygon ar sut y gallwn ni roi'r strategaethau hirdymor hynny ar waith mewn gwirionedd i atal y clefyd hwn?
Ac o ran milfeddygon, Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym ni brinder milfeddygon ledled Cymru, ac rydych chi dal ati i ofyn iddyn nhw wneud mwy a mwy, p'un ai'r fiwrocratiaeth gynyddol sy'n dod gyda TB yw hynny, yr ymweliadau cynyddol gan filfeddygon sy'n rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, a nawr hyn ar ben hynny eto. Ac mae hynny ar ben y cynlluniau buchesi sydd gan bobl a chynlluniau iechyd defaid y mae milfeddygon yn dod o gwmpas i siarad amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu y bydd milfeddygon yn treulio llawer o'u hamser ar ffermydd, felly byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa sgwrs yr ydych chi wedi'i chael gyda milfeddygon ynghylch a oes ganddyn nhw'r adnoddau i wneud hynny.
Ac un peth sy'n allweddol iawn wrth gyflwyno'r rhaglen hon, yn fy marn i,—. Mae'n dibynnu'n helaeth ar uwchsgilio ein ffermwyr ledled Cymru, ac rwy'n credu bod prinder manylion yn y datganiad ynghylch hynny. Felly, rwyf i eisiau gwybod sut y bydd y rhaglen yn addysgu ac yn uwchsgilio ein ffermwyr am BVD, yr arferion gorau ar gyfer atal a rheoli, a'r systemau cymorth sydd ar gael. A oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu adnodd addysgol neu raglen hyfforddi wedi'i theilwra'n benodol i ffermwyr Cymru o gwmpas—rwy'n baglu dros fy ngeiriau—BVD? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gydweithio â chyrff y diwydiant fel yr NFU, yr FUW ac, yn amlwg, y mudiad ffermwyr ifanc hefyd, oherwydd ein ffermwyr ifanc ni yw dyfodol ein ffermio yng Nghymru, a byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod a ydych wedi bod yn siarad â nhw?
Rwy'n credu fy mod i wedi gofyn digon o gwestiynau i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Gallaf weld eich pen yn symud yn gyflym iawn ar draws y papur, yn ceisio cadw i fyny â'r hyn yr wyf wedi gofyn i chi. Ond o fy safbwynt i, mae dileu BVD yng Nghymru yn gam cadarnhaol. Rwy'n credu y gall ychwanegu buddion sylweddol i'r diwydiant, gyda chynhyrchiant cynyddol ac elw gwirioneddol ar ffermydd hefyd, ond rwy'n credu bod angen mwy o atebion arnom ni i'r cwestiynau yr wyf wedi gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, fel y gallwn ni drafod manylion hyn, oherwydd dim ond trwy gael y manylion llawn hynny y byddaf i'n gallu rhoi fy nghefnogaeth lawn i chi gyda'r cynllun hwn. Diolch.