Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 2 Gorffennaf 2024.
Dirprwy Llywydd, hoffwn ailbwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ein cymunedau gwledig a byddwn yn parhau i wrando. Mae gwaredu BVD yng Nghymru yn sicr yn bosibl. Mae'n tystio i ymroddiad, cydweithrediad a gweledigaeth ein ffermwyr, ein milfeddygon, ein harbenigwyr clefydau a'n Llywodraeth i greu Cymru iachach, gwyrddach a mwy ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny, Dirprwy Lywydd, yn sicr yn rhywbeth i'w ddathlu. Diolch.