– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 2 Gorffennaf 2024.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu dolur rhydd feirysol buchol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn drafod heddiw sut y gall y diwydiant a'r Llywodraeth fynd i'r afael â mater trawsbynciol a heriol gyda'n gilydd: gwaredu dolur rhydd feirysol buchol, neu BVD, yng Nghymru.
Mae BVD yn effeithio'n ddifrifol ar iechyd anifeiliaid, safonau lles a chynhyrchu bwyd. Mae'n gwanhau ein buches genedlaethol, yn lleihau cynnyrch llaeth, ac mae'n arafu twf. Er nad yw'n risg iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd, mae BVD yn glefyd costus i ffermwyr ar adeg pan fo llawer o ffermwyr a chymunedau ffermio yn teimlo dan bwysau. Yr amcangyfrif yw bod colledion yn y miliynau o bunnoedd bob blwyddyn oherwydd llai o gynhyrchiant, costau milfeddygol uwch, a cholli da byw. Mae dileu BVD yn golygu hwb ariannol i'r diwydiant cyfan a buddugoliaeth i'r amgylchedd. Nid yw ond yn ymwneud â gwartheg hapus; mae ei ddileu hefyd yn cryfhau ein henw da fel arweinydd mewn amaethyddiaeth gynaliadwy, mae'n agor drysau i farchnadoedd newydd cyffrous, ac mae'n golygu mwy o gyfleoedd, mwy o dwf, a dyfodol mwy llewyrchus i'n cymunedau gwledig.
Y newyddion da yw bod modd atal BVD yn llwyr. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn ni ei ddileu o Gymru. Yn ogystal â'r enillion i ffermwyr, bydd dileu BVD yn helpu Cymru gyfan i gyflawni ein targedau sero-net yn gynt. Mae buchesau Cymru ar gyfartaledd yn cynnwys 40 o wartheg. Mae BVD yn cynyddu ôl troed carbon y fuches honno gyfwerth â thua 70 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Pan fyddwch chi'n lluosi hyn â 11,000 o fuchesi yng Nghymru, mae dileu BVD yn gyfraniad i'w groesawu at gyflawni sero net. Gan gydnabod yr amrywiaeth o fuddion, mae ein cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid presennol yn amlinellu ein bwriad i gyflwyno rhaglen orfodol o sgrinio BVD, wedi'i seilio ar ddeddfwriaeth.
Rhwng 2017 a 2022, gyda chefnogaeth ein rhaglen datblygu gwledig, diwydiant a'r Llywodraeth gyda'i gilydd wedi cymryd camau breision gyda'r rhaglen sgrinio wirfoddol. Cymerodd dros 80 y cant o'r buchesi gwartheg yng Nghymru ran ynddi, gyda 28 y cant ohonyn nhw wedi profi'n bositif am BVD. O fewn y buchesi hynny, cafodd 940 o anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaus—PI—ei nodi. Dyna pam mae'r rhaglen orfodol newydd mor bwysig. Mae BVD yn lledaenu'n bennaf trwy wartheg sydd wedi'u heintio'n barhaus, neu PI. Mae'r gwartheg hyn yn cael eu geni gyda'r clefyd, ar ôl dod i gysylltiad â'r firws BVD yn y groth. Maent yn gollwng firws BVD ac maen nhw'n ei ledaenu i wartheg brodorol o fewn y fuches, gan arwain at salwch, colledion atgenhedlu, neu enedigaeth mwy o anifeiliaid sydd wedi'u heintio. Felly, mae nodi ac yna symud gwartheg PI o'r fuches genedlaethol yn dileu ffynhonnell y clefyd. Mae hyn yn hanfodol i lwyddiant unrhyw raglen dileu BVD.
Mae dileu BVD yng Nghymru yn ymrwymiad hirsefydlog, ac rwy'n llwyr gefnogi'r diwydiant a'r Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth agos i gyflawni hyn. Dangosodd 89 y cant o'r ymatebwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori gefnogaeth gryf y diwydiant i gyflwyno deddfwriaeth BVD yng Nghymru. Gwnaeth hyn annog Llywodraeth Cymru i gyd-ddylunio ac i hwyluso rhaglen dileu BVD orfodol ochr yn ochr â chynrychiolwyr y sector gwartheg. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024 ar 1 Gorffennaf. Mae'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth yn ymdrin â'r her o ddileu BVD yn gyfannol. Cafodd ei ddatblygiad ei sbarduno gan gynrychiolwyr ymroddedig ym mharthau gwartheg, milfeddygol a throsglwyddo gwybodaeth y diwydiant, ac mae'n cynrychioli datblygiad naturiol o'r cynllun gwirfoddol, Gwaredu BVD.
Mae cychwyn ar y cam nesaf hwn o raglen dileu BVD yng Nghymru yn gam balch a phwysig i Gymru. Hoffwn i gymryd dim ond eiliad i gydnabod ymdrechion ein diwydiant gwartheg i baratoi'r ffordd ar hyn. Gallwn ni gael gwared ar BVD trwy ymdrechion parhaus pob ffermwr gwartheg, gan weithio'n agos gyda'u milfeddygon, i sgrinio a diogelu eu buchesi. Felly, gan ddechrau o 1 Gorffennaf 2024, bydd pob anifail sydd wedi'i nodi yn anifail sydd wedi'i heintio'n gyson yn cael ei gyfyngu i'r fferm am weddill ei oes a'i gadw ar wahân i weddill y fuches. O dan y ddeddfwriaeth newydd hon, rhaid i fuchesi yng Nghymru, waeth beth yw eu maint, eu math neu eu lleoliad, gael profion sgrinio blynyddol ar gyfer BVD. Bydd gan geidwaid gwartheg tan 1 Gorffennaf 2025 i gwblhau eu prawf cyntaf, a'r amcangyfrif yw y bydd yn £100 y flwyddyn ar gyfer y profion buchesi blynyddol gofynnol.
Gan ddibynnu ar y math o fferm, gall dileu BVD roi hwb o £20 i £70 y fuwch y flwyddyn i elw ffermydd. Mae hyn yn cyfateb i rhwng £2,000 i £14,000 yn ychwanegol y flwyddyn fesul buches. Mae hwn yn fuddsoddiad synhwyrol i wella iechyd a chynhyrchiant eu buches. Dylai ffermydd fuddsoddi mewn diogelu iechyd eu hanifeiliaid, gan helpu i wneud eu busnesau'n fwy cynaliadwy ac yn fwy cydnerth. Os nad yw buchesi yn cael eu profi erbyn y dyddiad hwn, byddan nhw'n cael eu gosod o dan gyfyngiadau symud nes eu bod yn cael prawf gwrthgyrff negyddol BVD ac mae tystiolaeth nad oes anifeiliaid sydd wedi'u heintio â BVD yn y fuches.
Dirprwy Lywydd, drwy bartneriaeth, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu system cronfa ddata BVD a fydd yn integreiddio'n ddi-dor â system olrhain da byw amlrywogaeth Cymru. Bydd y gronfa ddata yn cofnodi canlyniadau'r profion blynyddol a bydd yn pennu statws BVD ar gyfer buchesi ac ar gyfer gwartheg unigol. Bydd hyn yn galluogi ffermwyr i ddod o hyd yn ddiogel i anifeiliaid sy'n dod i mewn ac yn caniatáu i ddiwydiant a Llywodraeth Cymru fonitro cynnydd dileu BVD ledled Cymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y cyd â'r diwydiant gwartheg, milfeddyg a chynrychiolwyr trosglwyddo gwybodaeth i sefydlu corff llywodraethu BVD. Bydd y corff hwn yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ffermwyr a milfeddygon yn ogystal â rhoi adborth i Lywodraeth Cymru i helpu i gyd-ddatblygu unrhyw newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen arnon ni wrth gyflwyno'r rhaglen. Bydd y corff llywodraethu hefyd yn cael ei rymuso i wneud penderfyniadau i ddatrys materion gweithredol ac i ddylunio a gweithredu polisïau o fewn y ddeddfwriaeth bresennol. Rwy'n hyderus y bydd y dull partneriaeth arloesol hwn, gyda'r diwydiant yn arwain ar ddileu BVD, yn sicrhau canlyniad llwyddiannus.
Drwy weithio gyda'n gilydd, gyda'r ddeddfwriaeth newydd fel ein map ffordd, byddwn yn atal BVD rhag lledaenu, yn diogelu lles anifeiliaid, ac yn cynnal diwydiant gwartheg iach a chynaliadwy yng Nghymru. Bydd y weithred hon yn helpu i wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus ac yn helpu Cymru gyfan i leihau ein hallyriadau ac ymdrin â'r argyfwng hinsawdd. Fel stiwardiaid balch o'n tir a'n da byw, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb moesol i ddiogelu lles ein hanifeiliaid a'n hamgylchedd trwy weithio gyda'n gilydd. Mae ffermwyr, milfeddygon, addysgwyr a Llywodraeth Cymru yn cymryd camau breision i wneud Cymru'n rhydd o BVD.
Dirprwy Llywydd, hoffwn ailbwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ein cymunedau gwledig a byddwn yn parhau i wrando. Mae gwaredu BVD yng Nghymru yn sicr yn bosibl. Mae'n tystio i ymroddiad, cydweithrediad a gweledigaeth ein ffermwyr, ein milfeddygon, ein harbenigwyr clefydau a'n Llywodraeth i greu Cymru iachach, gwyrddach a mwy ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny, Dirprwy Lywydd, yn sicr yn rhywbeth i'w ddathlu. Diolch.
Hoffwn i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma yn amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru i ddileu dolur rhydd feirysol buchol, BVD, o Gymru. Er fy mod i'n cydnabod y dyhead sydd gan y Llywodraeth, mae rhai pryderon sylweddol y mae angen ymdrin â nhw cyn y gallaf gefnogi'r rhaglen y mae'r Llywodraeth hon yn mynd ar ei hôl yn llwyr.
Dydw i ddim yn credu, Ysgrifennydd Cabinet, bod y datganiad hwn yn ymdrin yn llawn â'r costau sylweddol y bydd ffermwyr yn eu hwynebu. Amcangyfrifodd y Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol fod presenoldeb BVD mewn buchesi yn arwain at golledion blynyddol o hyd at £15,000 i rai ffermwyr llaeth. Fe wnaethoch chi siarad yn y fan yna am y gost profi flynyddol o £100. Efallai fod honno'n ymddangos yn fach, ond nid dyna'r unig gost, ife, Ysgrifennydd Cabinet? Oherwydd mae yna gostau ychwanegol ar gyfer mesurau bioddiogelwch a chostau milfeddygol. Os oes yn rhaid i chi wahanu gwartheg, efallai y bydd yn rhaid i chi godi siediau ychwanegol, ac efallai y bydd yn rhaid i chi addasu eich tir i wneud hynny. Ac fe allai'r costau hynny andwyo ein ffermydd bach. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi amlinellu a oes unrhyw gynlluniau cymorth ariannol pendant y tu hwnt i rai o'r pethau yr ydych chi wedi'u crybwyll heddiw, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau sylweddol a mentrau rhannu costau i leddfu'r baich ariannol uniongyrchol hwnnw ar ein ffermwyr, yn enwedig y rhai yn ein ffermydd llai, oherwydd mae angen ymrwymiadau clir arnom ni gan y Llywodraeth ynghylch cyllid ar hyn? Mae'n beth da iawn bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno, ond os nad oes unrhyw gyllid i gyd-fynd â nhw, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i'r diwydiant amaethyddol.
Mae'n ymddangos bod y rhaglen yr ydych chi wedi'i gosod yn mabwysiadu dull eithaf unffurf, ac rwy'n credu bod hynny'n esgeuluso'r gwahaniaethau enfawr rhwng ein ffermydd mawr a'n ffermydd teuluol llai, yn enwedig y ffermydd organig hynny sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, allwch chi ymhelaethu ar sut y bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer anghenion y mathau amrywiol hyn o ffermydd, ac a oes protocolau profi a mesurau bioddiogelwch arall ar gyfer ffermwyr organig, fel y gallan nhw gadw at eu safonau ardystio, oherwydd mae perygl y bydd polisi cyffredinol ledled Cymru yn dieithrio ac yn cael effaith anghymesur ar y rhai yn y sector sy'n ei chael hi'n anodd cydymffurfio â rhai o'r safonau hyn yr ydych chi'n eu nodi?
Mae dileu yn nod uchelgeisiol, ac mae'n un yr wyf i'n ei rannu—rwy'n hoffi bod yn uchelgeisiol ac rwy'n credu bod angen i ni fod—ond rwy'n credu bod y rhaglen yn brin o fanylion hirdymor am gynaliadwyedd. Er i chi sôn am fonitro, does dim cynllun pendant wedi'i amlinellu. Mae astudiaethau'n bodoli, er enghraifft gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol, sy'n arddangos rhaglenni dileu mewn gwledydd eraill sydd wedi arwain at ostyngiadau dramatig mewn lloi BVD a PI, ond sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r dysgu hwn? Pa raglenni hirdymor penodol ydych chi'n mynd i fod yn eu rhoi ar waith i atal BVD rhag ailymddangos, ac a ydych chi wedi cael sgyrsiau â milfeddygon ar sut y gallwn ni roi'r strategaethau hirdymor hynny ar waith mewn gwirionedd i atal y clefyd hwn?
Ac o ran milfeddygon, Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym ni brinder milfeddygon ledled Cymru, ac rydych chi dal ati i ofyn iddyn nhw wneud mwy a mwy, p'un ai'r fiwrocratiaeth gynyddol sy'n dod gyda TB yw hynny, yr ymweliadau cynyddol gan filfeddygon sy'n rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, a nawr hyn ar ben hynny eto. Ac mae hynny ar ben y cynlluniau buchesi sydd gan bobl a chynlluniau iechyd defaid y mae milfeddygon yn dod o gwmpas i siarad amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu y bydd milfeddygon yn treulio llawer o'u hamser ar ffermydd, felly byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa sgwrs yr ydych chi wedi'i chael gyda milfeddygon ynghylch a oes ganddyn nhw'r adnoddau i wneud hynny.
Ac un peth sy'n allweddol iawn wrth gyflwyno'r rhaglen hon, yn fy marn i,—. Mae'n dibynnu'n helaeth ar uwchsgilio ein ffermwyr ledled Cymru, ac rwy'n credu bod prinder manylion yn y datganiad ynghylch hynny. Felly, rwyf i eisiau gwybod sut y bydd y rhaglen yn addysgu ac yn uwchsgilio ein ffermwyr am BVD, yr arferion gorau ar gyfer atal a rheoli, a'r systemau cymorth sydd ar gael. A oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu adnodd addysgol neu raglen hyfforddi wedi'i theilwra'n benodol i ffermwyr Cymru o gwmpas—rwy'n baglu dros fy ngeiriau—BVD? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gydweithio â chyrff y diwydiant fel yr NFU, yr FUW ac, yn amlwg, y mudiad ffermwyr ifanc hefyd, oherwydd ein ffermwyr ifanc ni yw dyfodol ein ffermio yng Nghymru, a byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod a ydych wedi bod yn siarad â nhw?
Rwy'n credu fy mod i wedi gofyn digon o gwestiynau i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Gallaf weld eich pen yn symud yn gyflym iawn ar draws y papur, yn ceisio cadw i fyny â'r hyn yr wyf wedi gofyn i chi. Ond o fy safbwynt i, mae dileu BVD yng Nghymru yn gam cadarnhaol. Rwy'n credu y gall ychwanegu buddion sylweddol i'r diwydiant, gyda chynhyrchiant cynyddol ac elw gwirioneddol ar ffermydd hefyd, ond rwy'n credu bod angen mwy o atebion arnom ni i'r cwestiynau yr wyf wedi gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, fel y gallwn ni drafod manylion hyn, oherwydd dim ond trwy gael y manylion llawn hynny y byddaf i'n gallu rhoi fy nghefnogaeth lawn i chi gyda'r cynllun hwn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, James, am y sawl cwestiwn hynny. Gallaf weld nad ydyn ni wedi eich argyhoeddi'n llwyr, ond byddwn i'n dweud wrthych chi fod hyn, mewn gwirionedd, wedi'i gyd-gynhyrchu a'i arwain gan y rhai yn y gymuned ffermio—y rhai yn y sector gwartheg sydd wedi bod yn awyddus iawn i weld y camau hyn ymlaen, yn benodol i ymdrin â dileu BVD, sy'n cael effaith mor sylweddol ar gynhyrchiant ein buchesi, ac mewn gwirionedd ar hyfywedd y buchesi hynny hefyd. Felly, mewn ymateb i'ch cwestiynau am y costau, fe nodais i yn fy sylwadau agoriadol—fe ddywedais i tua £100 ar gyfartaledd; mewn gwirionedd, ar gyfer deiliaid gwartheg llai, gan gynnwys, o bosibl, rhai o'r rhai organig hynny, mae yna amrywiaeth. Yn fras, mae'n £6 fesul anifail a brofir, felly o ran buches lai fe allech chi fod yn edrych ar rywbeth fel £50. O ran rhai eraill, gallai fod yn £150. Yn fras, mae'n £100 y flwyddyn. Rydych chi'n cydbwyso hynny yn erbyn yr arbedion cynhyrchiant, a allai fod hyd at £2,000 ar gyfer buches lai, neu hyd yn oed £14,000 ar gyfer buches fwy. Rwy'n credu bod cydbwysedd, a dyna pam mae'r rhai sydd wedi cyd-gynhyrchu hyn gyda ni mor gefnogol ohono. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch chi oresgyn rhai o'ch amheuon ar y gost, oherwydd yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw nid yn unig ein helpu ni gydag agweddau ar les anifeiliaid y fuches, ein helpu ni i ddileu BVD, mae hefyd yn ymdrin ag allyriadau carbon, oherwydd os oes gennych chi fuches iach, mae'r holl dystiolaeth yr ydyn ni'n ei gweld nawr—ac rwy'n gwybod ei gefndir yn y gymuned ffermio—yn dangos bod gwell cynhyrchiant o fewn buchesi hefyd yn ein helpu ni gyda'r gostyngiadau carbon, ond mae hefyd yn cynyddu'r hyfywedd oherwydd mae cost anifeiliaid llai cynhyrchiol i'r ffermwyr hynny yn eithaf sylweddol. Felly, mae'n fwy na gorbwyso'r buddsoddiad a'r £6 yr anifail yn fras ar gyfer y profion samplu.
I roi sicrwydd ynghylch hirhoedledd hyn, pan symudwn ni, fel y dywedais i yn fy natganiad cychwynnol, i system lle mae gennych chi'r integreiddio hwnnw o gronfeydd data, yr wybodaeth yn cael ei rhannu â ffermwyr ac yn hygyrch i'w milfeddygon ar y fferm ac yn y blaen, bydd y rhain yn offer a fydd ar gael i'r ffermwyr unigol hynny, yna, i wneud penderfyniadau, o ran symud gwartheg a dod â gwartheg newydd i'r fferm, ond hefyd o ran gwneud y penderfyniadau hynny ar y fferm, yna, lle mae ganddyn nhw anifeiliaid PI. Mater iddyn nhw, wedyn, fydd gwneud y penderfyniad busnes hwnnw p'un a ddylen nhw eu hynysu ac yn y blaen.
Felly, bydd tasg yn ystod y flwyddyn nesaf o ymgysylltu â'r ffermwyr, nid yn unig o ran gwneud y profion samplu cyn haf 2025, ond hefyd gweithio gydag undebau—NFU, FUW—ac eraill sy'n gysylltiedig, sefydliadau cynrychioliadol yn y gymuned ffermio, i ymgysylltu â ffermwyr ochr yn ochr â milfeddygon ar y fferm i esbonio sut y bydd hyn yn gweithio, sut y gallan nhw ei wneud mewn ffordd syml iawn. Er enghraifft, bydd ap yn cael ei gyflwyno fel rhan o hyn hefyd gyda'r gronfa ddata, fel bod yr offer ar gael i'r ffermwr unigol sydd eisiau eu defnyddio; nid pob ffermwr fydd eisiau gwneud hynny, rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond bydd rhai eisiau gwneud hynny hefyd.
Mae'r prinder milfeddygon y gwnaethoch chi sôn amdano yn bwynt diddorol iawn. Rydyn ni'n gwybod cymaint o bwysau sydd ar filfeddygon. Rwyf i eisiau dweud: mae angen i unrhyw Lywodraeth y DU sy'n cael ei hethol mewn ychydig ddyddiau, pa bynnag liw ydyw, ymdrin â mater cytundebau milfeddygol ar sail y DU-UE. Mae angen i ni fynd yn ôl i'r sefyllfa honno lle mae llif da o arbenigedd, wedi'i reoli'n dda, yn ôl ac ymlaen. Ac mae hyn yn ddiddorol, oherwydd rhan o'r problemau prinder yr ydyn ni'n eu gweld, ac fe es i—rwy'n credu eich bod chi wedi mynd hefyd o bosibl—i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Milfeddygol Prydain a'r cinio yr wythnos diwethaf—. Fe wnes i gyfarfod â nhw yn ystod y dydd. Roedd hyn yn un o'r pethau yr oedden ni'n ei drafod: sut y gwnaethon ni gyrraedd y pwynt hwn lle mae'n ymddangos ein bod ni wedi llesteirio'r hyn sydd ar gael.
Mae angen i ni hefyd, gyda llaw, barhau i ddatblygu ein harbenigedd ein hunain drwy ein hysgolion milfeddygol ac yn y blaen, ac rwy'n credu bod rhywbeth yn y fan yma y mae angen i ni ei ystyried gyda'r ffermwyr eu hunain a allai benderfynu, neu bobl ifanc ar ffermydd a allai benderfynu bod hwnnw'n llwybr iddyn nhw ei droedio. Felly, mae uwchsgilio ffermwyr yn fater y byddwn ni'n gweithio arno gyda'r milfeddygon, gyda'r undebau ffermio, gyda ffermwyr ifanc ac eraill yn ystod y flwyddyn nesaf i sicrhau bod pob ffermwr yn ymwybodol o sut i wneud y broses hon, a pham ei bod yn dda iddyn nhw wneud y broses hon, ac iddyn nhw gymryd perchnogaeth yn yr un modd ag y mae'r fenter hon wedi'i chyd-ddylunio mewn gwirionedd. Mae'r ffermwyr hynny'n mynd i fod yn rhan o'r datrysiad i ddileu BVD, y gallwn ni ei wneud.
A gaf fi ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Dwi wedi bod yn gefnogwr brwd o'r cynllun gwaredu BVD o'r dyddiau cyn bod y cynllun yn bodoli. Ac, wrth gwrs, roeddwn i'n falch iawn i weld bod y cynllun wedi dod i fod, a dwi eisiau achub ar y cyfle i dalu teyrnged i bobl fel Dr Neil Paton fuodd yn gwthio yn galed iawn i weld hyn yn digwydd, ac wrth gwrs sydd wedi gwneud cymaint i brofi gwerth yr approach ehangach yna i’r diwydiant, i’r Llywodraeth ac i eraill, a’i fod e'n gynllun sydd yn medru gwneud gwahaniaeth, fel ŷch chi wedi dweud, o safbwynt iechyd a lles yr anifail, o safbwynt productivity, elw, allyriadau, ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Ond dwi hefyd wedi rhannu rhwystredigaeth nifer ynglŷn â'r oedi buodd rhwng diwedd ariannu gwaredu BVD a'r 18 mis wedyn cyn ein bod ni'n dod i ble ŷn ni nawr lle, wrth gwrs, mae hwn yn mynd i ddod dod yn rhywbeth mwy parhaol, a'r ffaith bod yna gwymp sylweddol wedi bod yn nifer y rhai oedd yn dod ymlaen i brofi am BVD. Efallai y gallwch chi esbonio pam yr oedi. Ydych chi'n rhannu'r rhwystredigaeth yna? Ond, wrth gwrs, y peth pwysig nawr yw ein bod ni wedi cyrraedd ble rŷn ni.
Nawr, beth sy'n digwydd nawr wrth gwrs yw bod y gost a'r baich biwrocrataidd yn disgyn yn drymach nawr ar ysgwyddau'r sector, ac fel ŷn ni wedi clywed, mae yna gwestiynau ynglŷn â'r effaith ymarferol efallai fydd hynny yn ei gael. Rŷch chi'n amlwg i fi yn dweud bod yna ddim adnoddau yn mynd i fod gan y Llywodraeth i gefnogi y sifft yna o safbwynt y sector. Os felly, beth fyddwch chi'n ei wneud i hyrwyddo'r manteision i'r sector, oherwydd rŷch chi wedi amlygu y bydd mwy o elw, o bosib, yn sgil gwneud hyn. Sut ŷch chi'n mynd i werthu hwnna i'r sector, fel bod y sector ehangach—achos mi all gynrychiolwyr gwahanol fod yn prynu i mewn i hyn, ond ar lawr gwlad, mae angen y ddealltwriaeth yna mai buddsoddiad yw hwn, mewn gwirionedd, ac efallai ddim o reidrwydd i edrych arno fe fel cost? Ond mae yna, wrth gwrs, ddisgwyl wedyn, os oes llefydd wedi cael eu heintio, fod anifeiliaid yn cael eu cadw dan do, wedi cael eu cadw ar wahân, hynny yw, wedi cael eu hynysu ac yn y blaen. Mae yna gost is-adeiledd, o bosib, yn mynd i fod yn sgil hynny—i ble fyddwch chi'n cyfeirio pobl sydd angen y math yna o gefnogaeth?
Mae yna argymhelliad hefyd, wedyn, fod anifeiliaid yn cael eu difa mor fuan ag sy'n ymarferol. Efallai y gallwch chi ehangu tamaid bach ynglŷn ag 'ag sy'n ymarferol'. Dwi'n cymryd bydd yna arweiniad—pa mor glir fydd yr arweiniad yna? Dŷn ni ddim eisiau sefyllfa fel ŷn ni wedi gweld gyda TB, er enghraifft, ontefe, lle mae yna ofid yn cael ei achosi yn ddiangen. Mae angen eglurder, ac mae angen gallu symud yn gyflym iawn ar y ffrynt yna os ydy'r achos yn codi.
Pa adnoddau sy'n cael eu rhoi i'r awdurdodau sydd yn gyfrifol am orfodi y gyfundrefn newydd, oherwydd fel ŷn ni'n cyfeirio yn aml iawn pan fo yna reoliadau newydd yn cael eu cyflwyno, dŷn nhw ddim ond mor effeithiol ag y maen nhw'n cael eu gorfodi yn effeithiol, felly mae hwnna efallai yn rhywbeth sydd angen sicrwydd ynglŷn ag e?
Rŷch chi'n dweud nawr ein bod ni'n symud i ryw gyfnod industry led, bod y diwydiant eu hunain yn mynd i arwain ar hyn, ond pa rôl, felly, ŷch chi'n gweld i'r Llywodraeth dros yr hirdymor o safbwynt llywodraethiant ac efallai o safbwynt cost sy'n ymwneud â chael gwared ar BVD? Mae yna gyfeiriad at gorff lywodraethiant BVD; allwch chi ymhelaethu pwy ŷch chi'n rhagweld, neu yn disgwyl bydd yn chwarae eu rhan ar hwnna?
A jest i gloi gen i, mi wnaeth eich rhagflaenydd chi ddatganiad yn Ionawr y llynedd yn sôn mai'r ddau fygythiad yn y cyd-destun yma i'r sector yw BVD a sgab mewn defaid. Ble ŷn ni ar sgab mewn defaid? Beth yw eich uchelgais chi mewn perthynas â sgab? Os ŷch chi'n cyrraedd y pwynt yma nawr gyda BVD, ai dyna le ŷn ni'n mynd yn y cyd-destun arall? Diolch.
Llyr, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a diolch hefyd am y croeso, yn gyffredinol, i hyn, ar y sail ei fod wedi cael ei gyflwyno gan bobl sydd wedi bod yn eirioli dros hyn ers amser maith, gan gynnwys Dr Neil Paton, ond hefyd ei fod yn cael ei gyflwyno gyda chyd-gynhyrchu llawn. Rydyn ni'n gorddefnyddio'r ymadrodd hwnnw yn aml, ond mae hyn yn wir yn y maes hwn, gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth swyddfa'r prif swyddog milfeddygol, a'r sector milfeddygol o fewn yr asiantaeth hefyd. Ond mae wir yn cael ei arwain gan y rhai sy'n ymdrin â hyn o ddydd i ddydd. Nhw ofynnodd amdano. Fe ddywedon nhw, 'Mae angen i ni ymdrin â hyn a dileu hyn o'r sector gwartheg', am yr holl resymau yr ydyn ni wedi sôn amdanyn nhw eisoes. Felly, diolch am eich cefnogaeth gyffredinol i hyn.
Ond fe godoch chi bwyntiau diddorol yn y fan yna. Roedd un agwedd yn ymwneud â'r gefnogaeth gan y Llywodraeth wrth symud ymlaen. Wel, mae yna gefnogaeth, mae cefnogaeth wedi bod gan y Llywodraeth i gyrraedd y pwynt hwn, gan weithio gyda'r diwydiant i gyrraedd yma. Bydd cefnogaeth o ran cyflwyno corff llywodraethu, yr ydych chi wedi sôn yn fras amdano. Mae angen rhyw fath o lywodraethu arnon ni, ond mae angen iddo hefyd gael cyfeiriad sylweddol o fewn hynny, unwaith eto, gan y sector gwartheg ei hun fel y gallan nhw addasu, cynghori ynghylch ble arall y gallai fod angen i ni fynd, fel ein bod ni'n dileu BVD. Felly, bydd yn cael ein cefnogaeth ni i wneud hynny. Byddwn ni'n cyflwyno'r cronfeydd data ac yn integreiddio'r cronfeydd data hynny fel bod gennym ni, ar flaenau bysedd ffermwyr a'u milfeddyg ar y fferm, sut y gallan nhw ymateb i achosion o anifeiliaid PI, naill ai sydd o fewn y fuches, neu sy'n cael eu dwyn i mewn i'r fuches.
Fe fyddwn ni, i'ch sicrhau chi, fel y dywedais i wrth Jane, yn gweithio gyda'r sector, wrth symud ymlaen nawr yn yr holl ffyrdd clyfar y gallwn ni gysylltu â nhw i egluro nid yn unig pam mae hyn yn bwysig a pham y caiff gymaint o gefnogaeth, ond sut y bydd hyn yn gweithio. Mae gwaith i'w wneud ar hyn, oherwydd nid oes gan bob ffermwr gysylltiad ag undeb, nid oes gan bob ffermwr ymgysylltiad deinamig rheolaidd â milfeddyg ar ei fferm i'r un graddau ag eraill. Felly, bydd yn rhaid i ni ddefnyddio'r holl rwydweithiau hynny o bobl sydd ar gael i ni. Yn yr un modd ag yr ydyn ni wedi cyd-gynhyrchu hyn, bydd yn rhaid i ni fynd â'r gwaith o egluro hyn ymlaen gyda'n gilydd. Mae gennym ni flwyddyn i weithio gyda phob ffermwr i ddweud, 'Mae gennych chi tan yr haf nesaf i sgrinio, profi eich buches.' A bydd yn amrywio o fferm i fferm o ran natur y trafodaethau hynny a bydd yn bendant yn amrywio o ran cost hyn hefyd. Ond rydyn ni wedi gweithio'n galed, wrth gyd-gynhyrchu hyn, i sicrhau ein bod ni'n cadw'r costau hynny mor isel â phosibl.
Mae'r adnoddau ynghylch gorfodi hyn—rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig ac rwy'n credu y byddai'r grŵp sydd wedi dod â hyn at ei gilydd eisiau gweld y dull cywir o orfodi, oherwydd mae hyn i gyd yn ymwneud â lles buches Cymru yn ei chyfanrwydd a dileu BVD o'r fuches gyfan. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, gallaf roi'r sicrwydd i chi, er bod ein gwasanaethau milfeddygol ar y fferm o dan bwysau sylweddol, fel yr ydyn ni eisoes wedi'i ddweud—ac mae ffyrdd o ddatrys hynny wrth i ni symud ymlaen—mae fy nhîm arbenigol iawn ac ymroddedig iawn fy hun, mae'n rhaid i mi ddweud, o dan y prif swyddog milfeddygol hefyd yn gweithio'n galed yn gyson i weithredu drwyddi draw ar hyn. Dydy hi ddim yn anodd i mi roi'r sicrwydd y bydd hyn yn cael ei orfodi yn y ffordd iawn, yn y ffordd gymesur er mwyn dileu BVD ac y bydd yn datblygu'r gwaith sydd wedi dod allan o waith cyd-gynhyrchu'r grŵp hefyd. Mae hyn yn cael ei oruchwylio, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn oed wrth roi'r corff llywodraethu ar waith, y byddwn yn ei gefnogi, bydd goruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, gan swyddfa'r prif swyddog milfeddygol hefyd.
Fe wnaethoch chi sôn a yw hyn wedyn yn dangos y ffordd ymlaen ar bethau eraill. Rwy'n awyddus iawn i nodi, er fy mod i'n croesawu'r ffaith bod hwn yn ddarn o waith wedi'i gyd-gynhyrchu sydd wedi'i arwain gan y sector, sydd wedi'i hyrwyddo gan y sector ers peth amser, ac rydyn ni nawr wedi cyrraedd y pwynt pwysig iawn hwn heddiw, nid yw, ynddo'i hun, yn dweud, 'Mae hwn yn gynsail', ond mae angen i ni fwrw ymlaen â'r clafr hefyd. Nawr, rwy'n credu mai'r hyn y mae hyn wedi'i ddangos i ni yw bod ffordd o weithio gyda'r diwydiant i ddweud mewn gwirionedd beth yw'r ateb gorau. Mae'r model hwn, rwy'n credu, yn gwbl gywir ar gyfer hyn, ond gadewch i ni weld nawr. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno rhai canlyniadau o'r gwaith yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud ar y clafr, a'i rannu gyda'r pwyllgor hefyd, fel y gallan nhw ei weld, ac rwy'n credu mai dyna'r un nesaf y byddwn ni'n symud ymlaen ato. Ond mae hyn yn dangos ffordd y gallwn ni wneud hyn gyda'n gilydd. Diolch.
Rwy'n croesawu'r datganiad cadarnhaol hwn, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn cymryd ymagwedd bartneriaeth arloesol drwy wrando ar gymunedau gwledig a'r arbenigwyr, ac rwy'n ei gweld fel rhaglen buddsoddi i arbed hefyd. Felly, drwy wneud hyn, gallwn ni wella safonau iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â gwella cynhyrchiant bwyd, lleihau carbon deuocsid a hybu elw ffermydd, wrth symud ymlaen.
Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn ymwneud â chyfathrebu'n glir ac yn gyson â'r rhai dan sylw. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud: mae gennym ni flwyddyn i weithio ar hyn. Felly, unwaith eto, roedd gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y byddwn ni'n rhoi gwybod i'r gymuned ffermio am y newidiadau hyn. Mae'n swnio fel bod angen llawer o gyfathrebu; mae gennym ni'r cynllun ffermio cynaliadwy ynglŷn â hyn, felly sut fyddwch chi'n ei wneud? Rwy'n gwybod, yn aml iawn, eu bod yn gweithio o fewn eu cymunedau eu hunain, eu bod yn rhannu peiriannau, eu bod yn siarad â'i gilydd hefyd. Felly, rwy'n meddwl tybed sut y byddai hynny'n digwydd. A phwy fydd yn cael mynediad at y gronfa ddata BVD hon, a phwy fydd yn arwain arni mewn gwirionedd? Diolch.
Diolch, Carolyn, am hynny. Rydych chi'n iawn, mae'r dull o fwrw ymlaen â hyn, yn fy marn i, yn arwydd o'r ffordd yr ydyn ni eisiau gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau a ffyrdd o weithio o fewn y Llywodraeth, sef gweithio gyda'r bobl hynny ar y rheng flaen, yn yr achos hwn, yn llythrennol, yn y maes, sy'n ymdrin â gwartheg o ddydd i ddydd, a dysgu ganddyn nhw beth fydd manteision hyn, yn ogystal â'r heriau. Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd fe ddaethon nhw ymlaen a dweud, 'Mae'n rhaid i ni wneud hyn. Gallwn ni wneud hynny. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni symud yn gyflym i'w ddileu, ond bydd angen y sgrinio a'r profi a'r ynysu hynny nes y byddwn ni'n ei ddileu.' Ond mae'r parodrwydd i wneud hynny a'r gwaith partneriaeth, yn fy marn i, wedi bod yn foment nodedig i mi. Ac rwy'n credu bod gwneud hynny, cymhwyso hynny i feysydd eraill, yn ffordd dda o weithio. Rydych chi'n iawn wrth ddweud ei fod yn rhoi'r manteision amryfal hynny hefyd, o ran iechyd a lles anifeiliaid, o ran bod yn ddi-garbon, a hefyd—hefyd—o ran cynyddu cynhyrchiant ar ffermydd unigol. Rydyn ni'n gwybod cymaint o bwysau sydd ar ffermydd, o wahanol faint, ac os bydd manteision o ran hynny—rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud: mae bron yn fuddsoddi i arbed; mae'n ymwneud â chymryd y penderfyniadau oherwydd bydd hynny'n cynyddu cynhyrchiant, yn rhoi mwy o werth i mewn i'r anifeiliaid hynny, yn gwneud yn well ar gyfer elw'r fferm honno ar ddiwedd y flwyddyn—yna mae hynny'n gyfraniad gwych.
A byddwn angen—. Y fantais fawr sydd gennym ni, yr wyf bob amser wedi bod yn ymwybodol ohono yw, os ydyn ni'n ei ddefnyddio'n dda, os ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd, mae gennym ni rwydwaith anhygoel o gryf o ffermwyr, undebau ffermio, sefydliadau cynrychioliadol, milfeddygon ac ati, ynghyd â'r gwaith y mae ffermwyr ifanc yn ei wneud, fel yr oedd James Evans yn ei ddweud, a'r ysgolion amaethyddol sydd gennym ni. Mae angen i bob un o'r rheini gyfuno nawr i gyfleu manteision niferus y dull hwn yr ydyn ni'n ei ddefnyddio, ond hefyd i roi sicrwydd a help i ddweud, 'Dyma sut y gallwch chi, fel ffermwr unigol, fwrw ymlaen â hyn nawr.' Ond mae hyn yn rhywbeth lle y gallwn ni weld y llinell gôl—y gôl—o'n blaenau ni, ac, wrth weithio gyda'n gilydd, mae hyn wir yn rhywbeth lle y gallwn ni weld afiechyd ac y gallwn ni ddweud, 'Gallwn ni ddileu hyn, wrth weithio gyda'n gilydd.'
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.