– Senedd Cymru am 2:26 pm ar 2 Gorffennaf 2024.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos yma. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a'r Gymraeg yn gwneud datganiad ar Tata Steel yn syth ar ôl y datganiad busnes. Mae busnes drafft ar gyfer gweddill tymor yr haf ac wythnos gyntaf tymor yr hydref wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr, Trefnydd. A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog? Fe wnaethon ni i gyd nodi, wrth gwrs, Diwrnod y Lluoedd Arfog ledled y DU, dros y penwythnos, ac roedd gan lawer ohonon ni ddiddordeb brwd mewn gweithgareddau yn ein hetholaethau ein hunain. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn, wrth gwrs, o weithio ar y cyd ar draws Siambr y Senedd yn ystod y blynyddoedd ar gefnogi ein cyn-filwyr a chefnogaeth i deuluoedd ein lluoedd arfog, ac un o'r mentrau yr ydyn ni wedi bod yn falch iawn o'i gweld yn blodeuo yng Nghymru yw rhaglen ysgolion cyfeillgar y lluoedd arfog. Ond yn ddiweddar fe wnaeth y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ymweld â Chanolfan Battle Back y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Lilleshall, a chlywson ni yno'n uniongyrchol pa mor bwysig yw hi fod clybiau chwaraeon hefyd yn gyfeillgar i'r lluoedd arfog. Felly, tybed pa drafodaethau y gallai'r Ysgrifennydd Cabinet eu cael gyda'r gwahanol gyrff chwaraeon, yn ogystal ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol, wrth geisio datblygu rhaglen clwb chwaraeon cyfeillgar i'r lluoedd arfog yma yng Nghymru, fel y gallwn ni unwaith eto arwain ar draws y DU o ran darparu'r gefnogaeth orau un i'n teuluoedd a'n cyn-filwyr lluoedd arfog ar draws y genedl wych hon.
Diolch yn fawr, Darren Millar, a diolch i chi am dynnu sylw eto at yr achlysur a'r cofio hollbwysig a ddaeth â ni at ein gilydd yr wythnos diwethaf ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Ac rwy'n siŵr, fel chi, fod llawer ohonon ni wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ein hetholaethau. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog, wrth gwrs, hefyd yn weithgar iawn, nid yn unig yn y gogledd, gyda'r mentrau yr oedd e'n eu cymryd o ran cefnogi cyn-filwyr, ond rwy'n siŵr y bydd yn barod iawn i ddod i'r grŵp trawsbleidiol maes o law, ac rwy'n deall y byddai'n hapus iawn i drafod y cyfle hwn i ddatblygu clybiau chwaraeon cyfeillgar i'r lluoedd arfog. Diolch am ei godi.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Nawr, rwy'n gwybod, o ran y Post Brenhinol, nad yw hynny wedi'i ddatganoli, ond mae gan yr Ysgrifennydd Cabinet y prif gyfrifoldeb dros fonitro materion Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru.
Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â stampiau ffug a'r ffaith eu bod yn gorfod talu £5 i dderbyn llythyr, os yw rhywun wedi defnyddio stamp ffug. Mae rhai wedi dweud wrthyf i nad ffug yw rhai o'r stampiau hyn mewn gwirionedd, o'r hyn yr ydw i—. Mae rhai pobl wedi anfon llythyrau o'r un llyfr stampiau ac mae rhai o'r derbynwyr a fwriadwyd wedi gorfod talu, ond nid eraill. Wrth siarad â dynion post—rydyn ni i gyd wedi bod allan yn ddiweddar, felly rydyn ni wedi gweld nifer o'n dynion post a'n menywod post—maen nhw wedi bod yn dweud eu bod nhw'n meddwl bod problem gyda sut mae'r cod bar yn cael ei sganio, ac os nad yw rhywbeth yn hollol syth, neu os oes problem, bod tâl yn cael ei godi ar bobl ac nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn ffug.
Hoffwn i sefydlu, os yn bosibl, sut mae hyn yn effeithio ar bobl, oherwydd, yn amlwg, gallai fod yn bost hanfodol iawn yr ydyn ni'n ei golli. Felly, a gawn ni drafodaeth gyda'r Ysgrifennydd Cabinet i weld beth sy'n cael ei wneud? Oherwydd roedd cyfnod o burdah ar hyn, lle nad oedden nhw'n codi tâl, ond nid yw hynny'n wir bellach. Mae'r Post Brenhinol i fod i gyflwyno sganiwr stampiau ffug newydd ar eu hapiau. Nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Felly, mae hyn yn peri pryder i breswylwyr y mae £5 yn cael ei godi arnyn nhw ac nad ydyn nhw'n gwybod am beth y mae'r tâl yn cael ei godi arnyn nhw, oherwydd nid ydyn nhw'n gwybod pa lythyr, yn amlwg, sydd heb eu cyrraedd.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch am eich cwestiwn pwysig iawn. Diolch am dynnu sylw at hyn.
Rwy'n credu ein bod ni'n ffodus eto bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn eistedd yma ac wedi clywed y cwestiwn pwysig hwnnw, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth y bydden ni'n bryderus iawn amdano o ran ein hetholwyr ni a'r effaith y mae'n ei chael, a'n gweithwyr post, fel y dywedwch chi, hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Aelod, Heledd Fychan, ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, fel y gallwn ni sicrhau bod hyn yn cael ei ddatblygu, a bydd ymateb ar y gweill?
Fel pencampwr rhywogaeth y gwenoliaid du, rwy'n falch iawn o dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth y Gwenoliaid Du yr wythnos hon, ac rwy'n gwybod bod llawer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu'r adar anhygoel hyn. Ond, er hynny, mae achos pryder, gan fod y DU wedi colli mwy na hanner poblogaeth y gwenoliaid du sy'n magu ac, yn anffodus, mae hynny'n digwydd oherwydd pan fydd adeiladau hŷn yn cael eu hadnewyddu neu'u dinistrio, yn amlwg mae'r nythod traddodiadol y mae gwenoliaid yn eu defnyddio yn diflannu gyda nhw.
Roeddwn i'n ddiolchgar iawn y llynedd bod Julie James wedi'i gwneud hi'n orfodol i adeiladau newydd dros faint penodol gynnwys briciau gwenoliaid du yn y bondo, ond nid yw'n glir gan bwy na sut mae'r gydymffurfiaeth hon yn cael ei thracio. Felly, tybed a allen ni gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet tai a llywodraeth leol i nodi sut y bydd y rheoliad adeiladu newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth o ran gwella'r dyfodol i wenoliaid du yn ein gwlad.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, ein pencampwr rhywogaeth—pencampwr rhywogaeth y gwenoliaid du. Mae'n bwysig iawn eich bod chi wedi codi hyn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth y Gwenoliaid Du, fel y dywedoch chi ac, wrth gwrs, mae llawer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal, sgyrsiau, codi ymwybyddiaeth, yn enwedig gydag arbenigwyr gwenoliaid du a selogion fel chi eich hun. Ond, hefyd, dim ond i gydnabod bod rhaid i ni ddiogelu a chefnogi'r gwenoliaid du, a'r golled—y ffigyrau y gwnaethoch chi eu rhoi—mor ofidus o ran colli'r gwenoliaid du.
Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, fel y gwyddoch chi, fis Hydref diwethaf, yn bwysig, wedi diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' ar leoedd unigryw a naturiol—ym mhennod 6 'Polisi Cynllunio Cymru'. Ac roedd hynny'n ymwneud â'r seilwaith gwyrdd. Fe wnaf i gadarnhau gyda hi hefyd, yn amlwg, o ran lle mae hyn yn cyd-fynd â'r datblygiad pwysig penodol o ran diogelwch a chyfrifoldebau adeiladu o ran nythu'r gwenoliaid du, a gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y pwynt hwn.
Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn cydnabod bod hyn yn bwysig fel rhan o'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang, y cytunwyd arno yn COP15, a hefyd argymhellion Llywodraeth Cymru ei hun i archwiliad dwfn bioamrywiaeth. Ac mae'r system gynllunio yn allweddol, fel y dywedwch chi, wrth sicrhau canlyniadau amrywiaeth cadarnhaol.
Am y pumed tro, hoffwn i alw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am lywodraeth leol ynghylch y diffyg ailgylchu parhaus ers i'r model gwastraff newydd gael ei gyflwyno fis yn ôl gan Gyngor Sir Ddinbych dan arweiniad Llafur. Er gwaethaf y nifer o weithiau yr wyf i wedi codi'r mater hwn gyda chi, Trefnydd, mewn pum datganiad busnes yn olynol, nid wyf eto wedi derbyn ymateb gwybodus a chynhwysfawr gennych chi na'r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae pobl yn fy etholaeth i'n gweld gwastraff yn pentyrru ar y strydoedd, gwylanod ymosodol, mwy o gnofilod a mwy o berygl i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Mae hyn yn dechrau edrych yn debyg iawn i'r golygfeydd o ddiwedd y 1970au yn ystod yr wythnos dridiau o dan Harold Wilson, ac yn ddiweddarach, Jim Callaghan. Nid wyf i'n gwybod a yw'r ffigurau hyn yn y gorffennol yn enghraifft ar gyfer arweinyddiaeth bresennol sir Ddinbych, ond pe baen nhw'n ceisio dilyn eu harweiniad ar bwrpas, ni allen nhw fod wedi gwneud llawer yn waeth nag y maen nhw ar hyn o bryd, yn anffodus. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda sir Ddinbych ynghylch y mater parhaus hwn, i sicrhau y gallan nhw ddatrys hyn unwaith ac am byth a chyrraedd y targed ailgylchu o 70 y cant, sydd ei angen arnoch chi ganddyn nhw?
Diolch yn fawr, Gareth Davies. Ac rydyn ni, unwaith eto, yn ffodus bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yma yn y Siambr heddiw, fel y gwelwch chi. Ac rwy'n credu ei fod yn bwysig. Rwy'n deall eich bod chi'n dod â hyn yn ôl i'r datganiad busnes bob wythnos, ac mae'n gyfle i ni eich sicrhau chi, fel Llywodraeth, ein bod ni'n ymdrin â hyn yn effeithiol, mewn partneriaeth, wrth gwrs, gyda Chyngor Sir Ddinbych. Felly, unwaith eto, gallaf i eich sicrhau chi bod gan Lywodraeth Cymru gynghorwyr arbenigol sy'n gweithio'n weithredol gyda sir Ddinbych i helpu i ymdrin â'r problemau cynnar hynny ers i'r newid yn y gwasanaeth gael ei weithredu.
Hefyd, dim ond er mwyn eich sicrhau chi ac, wrth gwrs, pobl sir Ddinbych, bod camau ar waith i ymdrin â'r ôl-groniad hwnnw o gasgliadau. Mae'n cael ei ddatrys gan sir Ddinbych yn ddyddiol, o ran datrys hynny, ac rydyn ni hefyd yn deall bod gwelliant yn nifer ac ansawdd y deunyddiau sy'n cael eu casglu ar gyfer ailgylchu. Ac, wrth gwrs, bydd hyn yn symud i sir Ddinbych, mewn gwirionedd, gan gyd-fynd â glasbrint y casgliadau, yr arfer gorau y mae Lywodraeth Cymru yn ei argymell. Y gefnogaeth arbenigol honno ac, yn wir, gweithio gydag awdurdodau lleol—ac rwyf i wedi sôn am hyn o'r blaen—ar arfordir y gogledd sydd eisoes yn gweithredu hyn. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni, mewn gwirionedd, weld bod y problemau hyn yn fyrhoedlog a'i fod yn drawsnewidiad llwyddiannus fel y mae awdurdodau lleol eraill eisoes wedi'i gyflawni.
A gaf i ofyn am ddatganiad, unwaith eto, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, ond y tro hwn ynglŷn â llygredd diwydiannol o safle Kronospan yn y Waun yn fy rhanbarth i? Nawr, yn ystod y misoedd diwethaf, mae problemau hirsefydlog gydag allyriadau o'r safle wedi dwysáu. Mae cymylau o ficroffibrau o'r ffatri yn amharu ar gannoedd o gartrefi yn rheolaidd, ac mae hynny, yn ei dro, yn amlwg yn codi pryderon ymhlith pobl leol am unrhyw effaith y mae hynny'n ei chael ar eu hiechyd. Nawr, clywodd cyfarfod cyhoeddus diweddar yn y dref nad oedd rheolwyr y cwmni, er gwaethaf cydnabod bod y broblem yn bodoli, yn gallu nodi tarddiad y llygredd. Yn amlwg, dylai hynny fod yn achos pryder pellach, yn enwedig i'r corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am fonitro'r gwaith, Cyfoeth Naturiol Cymru, ond nid yw i weld eu bod yn ymateb yn effeithiol naill ai i bryderon lleol, yn benodol, neu eto o ran yr effaith ar iechyd.
Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, yn amlinellu pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i helpu i ddatrys y sefyllfa hon a sut y byddwch chi'n gweithredu gan ddiogelu iechyd y rhai sy'n byw ger y safle. Mewn gwirionedd, byddwn i'n galw am asesiad iechyd efallai i fesur effaith hirdymor y llygredd parhaus hwn ar lesiant pobl. Mae angen i ddinasyddion hirymaros y Waun wybod pa gamau ymarferol y bydd y Llywodraeth hon yn eu cymryd nawr i sicrhau bod llygredd diwydiannol yn y Waun yn cael ei leihau, a bod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd yn cael eu blaenoriaethu.
Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, a diolch yn fawr iawn, oherwydd mae hyn yn rhywbeth—eto, mae gennym ni'r Ysgrifennydd Cabinet yma—lle mae angen i ni wybod am y pryderon hyn gan drigolion lleol, yn enwedig o ran llygredd diwydiannol a'r effaith y mae'r safle hwn yn ei chael yn Y Waun. Felly, unwaith eto, byddai'n ddefnyddiol os gallech chi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, ond mae ef eisoes yma i'w nodi a mynd ar ei ôl, nid yn unig gyda'i swyddogion, ond yn amlwg gyda'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Trefnydd, a gaf i, os gwelwch yn dda, ofyn am ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a hyrwyddo busnesau masnach deg Cymru? Yn y pen draw, Trefnydd, rydych chi'n ymwybodol iawn o'r mudiad masnach deg yng Nghymru, ond mae sgyrsiau diweddar yr wyf i wedi'u cael wedi tynnu fy sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru wella dealltwriaeth defnyddwyr o brynu cynhyrchion cynaliadwy a'r gefnogaeth y gall busnesau masnach deg Cymru ei gael. Un o'r prif faterion sy'n bodoli yw'r dryswch ynghylch pa gynhyrchion sy'n dod o ffynonellau cynaliadwy a sut mae gwario mwy ar gynhyrchion masnach deg yn cael effaith mor gadarnhaol ar ffermwyr ledled y byd. Rwy'n credu'n llwyr ein bod yn dal i fod ar ddechrau'r daith hon, ac mae angen ymwybyddiaeth o pam mae angen masnach deg nawr yn fwy nag erioed. Gyda hyn mewn golwg, a gawn ni datganiad, llafar neu fel arall? Diolch.
Diolch yn fawr, Joel James. Mae hwn yn fater trawslywodraethol o ran cyfrifoldeb, ond rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi gwneud datganiad yn ymwneud â hyn yr wythnos diwethaf. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn eleni, ac adeg y Pasg cawson ni ddathliad yma yn y Senedd o'r ffaith mai ni oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf. Rydyn ni eisiau gwireddu hynny. Mae llawer ohonon ni'n ymwneud â grwpiau masnach deg, trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n galluogi'r busnesau hynny i ffynnu. Byddwn ni hefyd bob amser yn tynnu sylw at waith arloesol Jenipher's Coffi. Rydyn ni'n gwybod y gallwn ni ddod o hyd iddo, nid yn unig gan y busnes ym Mhorthcawl, ond hefyd ar-lein. Mae Jenipher's Coffi yn fenyw sy'n dyfwr coffi masnach deg, sydd wedi'n symud ni ymlaen o ran dysgu am y gadwyn gyflenwi a phwysigrwydd y gadwyn gyflenwi a'r gefnogaeth yr ydyn wedi'i rhoi o ran cael y rhostio mwyaf effeithiol ar gyfer y ffa coffi hynny. Ond, ie, diolch am godi hynny heddiw.
Dwi eisiau codi mater difrifol iawn efo chi y prynhawn yma. Mae Neil Foden wedi ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o droseddau erchyll yn erbyn plant oedd yn ei ofal yn Ysgol Friars Bangor, yn fy etholaeth i. Mae'r plant a'r teuluoedd yn ein meddyliau. Rhaid i ni rŵan roi blaenoriaeth i sicrhau nad oes yna unrhyw blentyn—unrhyw blentyn—yn dioddef fel hyn byth eto. Dwi yn gobeithio y bydd yr adolygiad ymarfer plant sy'n cael ei gynnal gan fwrdd diogelu'r gogledd yn mynd peth o'r ffordd at gyrraedd y sefyllfa honno, ond mae yna alwadau cynyddol am ymchwiliad statudol. Yn fy marn i, dyna'r unig ffordd i ddysgu'r holl wersi er mwyn atal troseddau dychrynllyd rhag digwydd i'r dyfodol. Felly, a wnewch chi sicrhau datganiad gan y Llywodraeth cyn toriad yr haf yn amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r alwad am ymchwiliad statudol? Dyma'r ail waith rŵan i fi godi'r mater yma yn y Siambr.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, un pwysig iawn.
Mae'n achos brawychus a phryderus, ac rydych chi wedi codi hyn gyda mi o'r blaen yn y Siambr, fel y dywedoch chi. Mae'n rhaid i'n meddyliau fynd at bawb a effeithiwyd gan ymddygiad troseddol, rheolaethol a sarhaus Neil Foden. Fel y dywedwch chi, yr effaith ar blant a phobl ifanc a'r rhai a roddodd dystiolaeth yn yr achos hwn—y dewrder y gwnaethon nhw ei ddangos i helpu i ddod â'r person camdriniol hwn yr oedd eraill yn ymddiried ynddo ac yr oedd ganddo bŵer yn rhinwedd ei rôl, o flaen eu gwell. Rydyn ni eisiau talu teyrnged i'w dewrder. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma hefyd y prynhawn yma.
Mae'r broses droseddol wedi dod i ben. Mae'r bwrdd diogelu rhanbarthol yn cynnal adolygiad ymarfer plant. Adolygiad annibynnol yw hwn, felly bydd yn ystyried cyfranogiad asiantaethau perthnasol, yn nodi dysgu ac yn gwneud argymhellion i wella arferion diogelu yn y dyfodol. Mae angen i ni sicrhau, fel y byddech chi'n parchu, rwy'n gwybod, y gall y broses fynd rhagddi gan wrando ar yr hyn sydd gan bobl sy'n rhoi tystiolaeth i'w ddweud cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch pa gamau eraill y gallai fod angen eu cymryd.
Rwy'n gofyn am ddatganiad brys gan yr Ysgrifennydd iechyd a gofal cymdeithasol ar ffioedd cartrefi gofal. Ar 6 Mehefin, ysgrifennodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at ddarparwyr gofal yn y gogledd, gan nodi cynnydd o 3.71 y cant yn unig yn ffioedd cartrefi gofal ar gyfer 2024-25, gan fethu â chyfateb â chynnydd awdurdodau lleol ac yn is hyd yn oed na chynnydd cyfartalog ffioedd sir y Fflint o 5.33 y cant, sef yr isaf yng Nghymru tan hynny. Mae'n golygu y byddai darparwyr yn derbyn llai am ddarparu gofal iechyd parhaus na gofal nyrsio wedi'i ariannu, er bod yr achosion gofal iechyd parhaus yn fwy cymhleth a bod ganddyn nhw ofynion nyrsio ychwanegol.
Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaeth Gareth Davies AS a minnau gyfarfod â Fforwm Gofal Cymru i drafod eu pryderon am hyn. Fe wnaethon ni glywed bod gan y gogledd erbyn hyn, y ffioedd cartrefi gofal isaf yng Nghymru, gan roi pwysau ar ddarparwyr i roi'r gorau i dderbyn cleifion gofal iechyd parhaus newydd ac i roi rhybudd i'w preswylwyr presennol sy'n cael eu hariannu gan gynllun gofal iechyd parhaus, canlyniad gofidus nad oes neb eisiau'i weld ar yr union adeg pan nad yw'r angen erioed wedi bod yn fwy a bod taer angen y gwelyau cartrefi gofal hyn ar fyrddau iechyd. Felly, mae angen ymyrraeth frys i sicrhau setliad cynaliadwy a dull cenedlaethol o osod ffioedd i ddarparu ffigur sylfaenol. Rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am y cwestiwn pwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymdrin ag ef yn weithredol, ond nid yw ychwaith yn gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig; yn amlwg, mae'n gwestiwn i'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol ac mae'n gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio. Mae'r holl gyfrifoldebau trawslywodraethol hyn, cyfrifoldebau'r Cabinet, yn allweddol i ymdrin â'r mater hwn. Ac, yn wir, gwnaeth y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, ddatganiad am ofal cymdeithasol yn ddiweddar. Felly, diolch i chi am roi hyn eto ar y cofnod o ran rhoi'r cyfle i mi ymateb i'r Llywodraeth gan gymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.
Gweinidog Busnes, dros y penwythnos, roeddwn i'n teithio ar drên o Hendy-gwyn ar Daf yn sir Gaerfyrddin i Gasnewydd, taith, yr wyf i wedi cael gwybod, y dylai gymryd llai na dwy awr a hanner. Yn hytrach, cymerodd ychydig yn llai na phedair awr. Fe stopiodd y trên yng Nghaerfyrddin am tua dwy awr oherwydd bod gyrrwr a oedd i fod i gymryd cyfrifoldeb am y trên yn sownd mewn traffig. Cafodd teithwyr wybod, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl oedrannus, y rhai â phlant mewn pramiau y gallen nhw gael trên gwahanol o blatfform 1. Gwnaeth pawb ruthro yno, dim ond i gael eu hanfon yn ôl at y trên gwreiddiol. Nawr, roedd hi'n ddiwrnod arbennig o boeth, ac er gwaethaf cael fy sicrhau ar ôl i mi gwyno ar Twitter, sy'n cael ei alw'n X hefyd, y byddai dŵr ar gael i deithwyr ar y trên yn Abertawe, yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, ac a dweud y gwir, roedd y sefyllfa y tu hwnt i jôc. Nawr, roedd pobl ar y trên hwn â chyflyrau iechyd difrifol, felly hoffwn i wybod pwy fyddai wedi cymryd cyfrifoldeb am hyn, petai rhywbeth wir wedi digwydd i un o'r teithwyr hynny. Rhaid i Trafnidiaeth Cymru wneud gwelliannau, a dylai gweithredwyr eraill nodi, er mwyn sicrhau bod llesiant teithwyr ar frig eu rhestr o flaenoriaethau, yn gyntaf drwy sicrhau bod trenau'n cael eu stocio â photeli dŵr y mae modd eu rhoi i deithwyr sydd wedi'u dal mewn amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld. Dyna pam yr wyf i wedi ysgrifennu at ddarparwr pob rheilffordd ledled Cymru i sefydlu darpariaethau os nad oes un ohonyn nhw ar waith ar hyn o bryd. Byddai datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni'n cael ei groesawu'n fawr. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Wrth gwrs, fe wnaethoch chi adrodd profiad ar ddiwrnod poeth iawn, ac rwy'n credu y gallen ni i gyd gydnabod yr anhawster i deithwyr bryd hynny ac, yn wir, y staff sy'n cefnogi'r teithwyr hynny. Felly, o ran y pwynt penodol hwnnw yn y cais hwnnw, yn amlwg, fe wnawn ni dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ato. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, er hynny, gydnabod mai Trafnidiaeth Cymru a welodd y gwelliant mwyaf mewn prydlondeb ar draws pob un masnachfraint ym Mhrydain Fawr yn ystod tri mis cyntaf eleni, 2024, o'i gymharu â'r llynedd—yr ail welliant mwyaf mewn dibynadwyedd. Rydyn ni'n gobeithio bod hynny'n digwyddiad un tro am resymau na allaf i gyfrif amdanyn nhw fy hun, ond rwy'n credu ein bod ni wedi dangos bod yr ystadegau hynny'n dangos ein bod ni wedi troi'r gornel gyda'n Trafnidiaeth Cymru, ac rydyn ni'n falch iawn o hynny. Rydyn ni'n gweld gwelliannau i deithwyr yn gyson, gan gludo mwy o deithwyr, yn cynnal mwy o wasanaethau ac yn perfformio ar lefelau sylweddol uwch. Felly, byddwn yn mynd â'ch profiad penodol chi yn ôl. Ond rwy'n credu hefyd, o ran sir Benfro, fod teithwyr ar reilffordd Doc Penfro bellach yn elwa ar drenau dosbarth 197 newydd sbon, a ddechreuodd redeg o ddydd Llun 10 Mehefin. Felly, oes, mae digwyddiadau fel yna yn resynus ac yn anffodus, ond byddwn ni'n edrych arno o ran cael cyfle i fanteisio ar y lluniaeth holl bwysig hwnnw, ond hefyd yn cydnabod y datblygiadau da o ran darparu ein gwasanaethau rheilffyrdd.
Diolch i'r Trefnydd.