Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 2 Gorffennaf 2024.
Diolch. Ymwelais â dau gartref gofal yn Nwyrain Abertawe yr wythnos diwethaf, lle cwrddais â gofalwyr o Guyana a Trinidad a Tobago. Rwyf hefyd wedi ymweld ag ysgolion ac wedi cyfarfod â phlant gweithwyr iechyd yn Ysbyty Treforys. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gweithwyr tramor i iechyd a gofal cymdeithasol. Ar adeg gadael yr UE, roedd gennym ni nifer fawr o ddeintyddion o dde a dwyrain Ewrop yma, ond fe wnaethon nhw adael. Er fy mod i'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i hyfforddi mwy o ddeintyddion, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu nifer deintyddion yr UE sy'n ymarfer yn y GIG yng Nghymru yn ôl i'r nifer a oedd gennym ni cyn i ni bleidleisio i adael?