1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 2 Gorffennaf 2024.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad pobl o'r tu allan i Brydain Fawr sy'n gweithio yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ61358
Gwnaf. Rwy'n falch iawn o gydnabod ein bod ni'n gwerthfawrogi'n fawr cyfraniad ein gweithlu rhyngwladol yng Nghymru heddiw, ond hefyd o'r union hanes, o ddechrau ein gwasanaeth iechyd gwladol, sy'n dathlu pen-blwydd arall eto ar 5 Gorffennaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael anrheg pen-blwydd cynnar gyda newid i'r Llywodraeth ar lefel y DU. Mae'n rhaid i'r gwaith hanfodol y mae ein gweithlu yn ei wneud ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, tra'n cydnabod unrhyw recriwtio o dramor, fod yn foesegol a pheidio â bod yn niweidiol i wasanaethau yn y gwledydd yr ydym ni'n recriwtio ohonyn nhw.
Diolch. Ymwelais â dau gartref gofal yn Nwyrain Abertawe yr wythnos diwethaf, lle cwrddais â gofalwyr o Guyana a Trinidad a Tobago. Rwyf hefyd wedi ymweld ag ysgolion ac wedi cyfarfod â phlant gweithwyr iechyd yn Ysbyty Treforys. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gweithwyr tramor i iechyd a gofal cymdeithasol. Ar adeg gadael yr UE, roedd gennym ni nifer fawr o ddeintyddion o dde a dwyrain Ewrop yma, ond fe wnaethon nhw adael. Er fy mod i'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i hyfforddi mwy o ddeintyddion, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu nifer deintyddion yr UE sy'n ymarfer yn y GIG yng Nghymru yn ôl i'r nifer a oedd gennym ni cyn i ni bleidleisio i adael?
Wel, nid wyf i'n siŵr, yn gyfan gwbl, o'r holl rifau ar ddeintyddion Ewropeaidd sy'n parhau i weithio yn GIG Cymru. Y newyddion cadarnhaol ym maes deintyddiaeth, fodd bynnag, yw ein bod ni'n dal i gydnabod yr un cymwysterau. Ceir rhannau eraill o'n system iechyd a gofal lle nad yw hynny'n wir ac mae'n gwneud recriwtio yn llawer anoddach.
Rwy'n gresynu'r ffaith bod rhai pobl wedi gadael ar ôl 2016, ac rwy'n cydnabod mai un o'r pethau y gallwn ni ei wneud i annog pobl i aros neu ddod i weithio yng Nghymru yw'r ffordd yr ydym ni'n siarad am weddill y byd, natur ein perthnasoedd. Ni allwn ddweud wrth bobl ein bod ni'n difaru'r ffaith bod yn rhaid i ni siarad â'u gwlad a gweithio gyda nhw ac yna disgwyl i bobl o'r gwledydd hynny ddod i weithio a theimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynnwys yn ein gwlad a'n cymdeithas. Felly, mae'r newid i dôn ein sgyrsiau gyda gweddill y byd wir yn bwysig, yn ogystal, wrth gwrs, â'r manylion uniongyrchol ar sut y gall pobl ddod i mewn i'r wlad i weithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys deintyddiaeth. Mae hynny'n mynd law yn llaw â'n cynlluniau i gynyddu ein gallu i hyfforddi pobl o Gymru. Ac os meddyliwch chi am yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei wneud a'r datganiad yr wythnos diwethaf gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn â'r buddsoddiad ychwanegol yr ydym ni'n ei wneud mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, y buddsoddiad ychwanegol y byddwn ni'n ei wneud yn nyfodol meddygon yma yng Nghymru pan fyddwn ni'n agor ysgol feddygol newydd sbon ym Mangor yr hydref hwn—sydd i gyd yn bethau yr ydym ni'n eu gwneud, i gyd o gyllidebau y mae Aelodau Llafur Cymru wedi pleidleisio drostyn nhw. Ac os oes gennym ni wahanol berthynas yn y DU gyfan, rwy'n credu y byddwn ni mewn sefyllfa well o lawer i recriwtio a chadw pobl o bob cwr o'r byd mewn ffordd deg a moesegol, yn union fel y mae'r Aelod yn ei awgrymu.
I ddod at y mater moesegol, Prif Weinidog, fel rhywun a anwyd y tu allan i Brydain Fawr, a dreuliodd ei yrfa yn gweithio yn y GIG, gallaf dystio'n bersonol i'r cyfraniadau y mae meddygon, nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr tramor yn eu gwneud at ein system iechyd a gofal. Ond rwyf i hefyd yn ymwybodol iawn o anfanteision ein dibyniaeth ar weithwyr tramor, sef ein bod ni'n amddifadu eu gwlad wreiddiol o'u doniau. Fel meddyg o Kashmir, un o'r pethau rwy'n eu hedifarhau fwyaf yw'r ffaith bod gofal iechyd yn fy ngwlad enedigol wedi parhau i ddirywio, heb fod yn agos at ddigon o feddygon. Mae'r un peth ar draws is-gyfandir India, Ynysoedd Philippines a rhannau helaeth o Affrica. Mae eu goreuon a'u mwyaf disglair yn dod yma i gael gwell cyflogau ac amodau gwaith, tra bod gofal iechyd gartref yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i staff. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod ein dibyniaeth ar staff tramor yn gwneud anghymwynas â llawer o genhedloedd tlotach? A wnewch chi amlinellu'r camau pendant yr ydych chi'n eu cymryd i hyfforddi a chadw dinasyddion Prydain fel meddygon a nyrsys?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn gydnabod nad wyf i'n croesawu ei safbwyntiau ar wleidyddiaeth—rydym ni'n anghytuno ac rydym ni mewn gwahanol bleidiau—ond rwy'n cydnabod ac yn croesawu ei gyfraniad at wasanaeth cyhoeddus yn ein gwasanaeth iechyd. Mae'n rhan o lwyddiant ein GIG. Os bydd unrhyw un yn mynd i theatr lawdriniaeth mewn unrhyw ysbyty GIG yng Nghymru neu ledled y DU, byddan nhw'n gweld yr hanes o lwyddiant rhyngwladol hwnnw o'u blaenau. Mae'n rhan o sut y cafodd ein gwasanaeth iechyd ei greu a sut mae'n cael ei gynnal. Hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i fuddsoddi hyd yn oed mwy mewn hyfforddi nifer fwyaf erioed o staff yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar niferoedd nyrsio, niferoedd bydwreigiaeth, ffisiotherapyddion—amrywiaeth eang o feysydd lle'r ydym ni wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn hyfforddiant yn fwriadol, a nodwyd hynny gan yr Ysgrifennydd iechyd yr wythnos diwethaf—. Mae hynny'n ogystal a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn yr ysgol feddygol newydd a fydd yn agor ym Mangor, ac yn ogystal â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn llwyddiannus yn ystod y pum i chwe blynedd diwethaf wrth gynyddu nifer yr ymarferwyr cyffredinol dan hyfforddiant yn gynaliadwy hefyd.
Yn ogystal â hynny, rydym ni'n recriwtio pobl o rannau eraill o'r byd, ac rydym ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn foesegol. Enghraifft dda o hynny yw yn Kerala, talaith yn India lle maen nhw'n gorhyfforddi ac yn gorgyflenwi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn fwriadol. Mae gennym ni gytundeb i recriwtio 250 o nyrsys a meddygon o Kerala gan fod gennym ni bartneriaeth foesegol â nhw, ac mae hwn yn ddewis bwriadol lle mae pobl eisiau gweithio mewn rhannau eraill o'r byd, lle mae ganddyn nhw gysylltiadau teuluol o hyd i fynd yn ôl, ac rydym ni'n falch o'r ddeuoliaeth yn hynny. Rwy'n rhywun a anwyd mewn gwahanol wlad hefyd. Rwyf i yma ac rwy'n sicr yn gallu dathlu treftadaeth fy mam—man fy ngeni—a man geni fy nhad yn Aberogwr. Dyna pwy wyf i a rhan o stori ein gwlad, a llwyddiant ein gwlad, wrth symud ymlaen. Felly, byddwn yn parhau i hyfforddi a recriwtio yng Nghymru a'r DU. Byddwn hefyd yn parhau i recriwtio'n foesegol o rannau eraill o'r byd, ac mae cytundeb Kerala a lofnododd yr Ysgrifennydd iechyd gyda Phrif Weinidog Kerala yn enghraifft dda o hynny.
Mae Mike Hedges yn berffaith iawn i bwyntio allan bwysigrwydd gweithwyr o dramor yn y sector gofal. Ddaru Mike gyfeirio at bobl o Guyana a Thrinidad, er enghraifft; dwi'n ymwybodol o nifer o Nigeria sydd yn gweithio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd ac yn gwerthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Ond, wrth gwrs, ddaru'r Llywodraeth Geidwadol bresennol ddod mewn â ban ar fisas i bartneriaid a theuluoedd nifer o'r gweithlu yma sydd yn dod i'r sector gofal, sydd, yn ei dro, yn achosi trafferth, nid yn unig yn y sector gofal ond hefyd yn y sector iechyd. Rŵan, yn ddiweddar iawn—tua mis yn ôl, dwi'n meddwl—ddaru Wes Streeting o'r Blaid Lafur, sydd yn mynd i fod yn Weinidog iechyd yn San Steffan, ddweud nad oedd gan Lafur unrhyw fwriad i sgrapio'r cynllun yna o roi ban ar fisas i deuluoedd gweithwyr sector gofal. Ydy Wes Streeting yn iawn i ddweud hynny? Ydych chi'n cytuno efo fo?
Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar sut rydym ni'n recriwtio pobl yn gynaliadwy o rannau eraill o'r byd, a beth mae hynny'n ei olygu iddyn nhw gael eu recriwtio yma. Mae gennym ni broblem ehangach hefyd, mewn gwirionedd, am gael sgwrs resymol ynghylch mewnfudo, nad yw wedi digwydd yn ystod y 14 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar y darlun cyfan wrth wneud hynny'n llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Mae angen i ni hefyd gydbwyso ein gallu nid yn unig i recriwtio o rannau eraill o'r byd ar gyfer y sector gofal yn benodol—. Os caf i, Llywydd, mae'n werth nodi nad yw'r sector gofal yno i helpu'r GIG yn unig—mae'n rhan hanfodol o sut mae llif yn digwydd yn ein GIG a chael pobl allan o wely GIG pan nad oes angen iddyn nhw fod yno, ond mae hefyd yn lle o werth gwirioneddol ynddo'i hun ac iddo'i hun; rwy'n gwybod hynny yn fy nheulu fy hun, a bydd Aelodau eraill yma yn gwybod hynny hefyd.
Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud hefyd, ochr yn ochr â recriwtio pobl o rannau eraill o'r byd, yw codi dyheadau a'r ddelwedd o bobl yn y sector gofal. Mae'n cael ei weld yn rhy aml fel gwaith nad yw'n cyfrif am yr un gwerth ag eraill, ac ni ddylai fod yn wir. Dyna pam rwy'n falch iawn, yn y maniffesto sy'n mynd gerbron pobl ar 4 Gorffennaf, bod ymrwymiad i edrych ar ofal cymdeithasol, i edrych ar sut rydym ni'n ei ariannu'n iawn, ac fel y maes cyntaf yn y fargen newydd i bobl sy'n gweithio gael cytundeb cyflog teg, gofal cymdeithasol sy'n cael ei dargedu. Byddai cael cyflog priodol o fewn y sector gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl fynd i mewn iddo, yn ogystal â'r cymwysterau ochr yn ochr ag ef, ac mae hynny'n rhan o'r ddadl resymegol ynghylch y dyfodol i sicrhau bod gennym ni'r bobl sydd eu hangen arnom ni ym mhob agwedd—y bobl sydd eu hangen arnom ni—boed hynny'n recriwtio rhyngwladol, neu, yn wir, sut rydym ni'n hyfforddi ac yn cynnal gweithlu yma i ni'n hunain.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld yma heddiw y cyfraniad uniongyrchol y mae pobl a anwyd y tu allan i'r DU yn ei wneud at ofal cymdeithasol a gofal iechyd yma yng Nghymru. Fel y nododd Mike Hedges, dros y blynyddoedd diwethaf, gwelais ostyngiad yn nifer y gweithwyr mewn cartrefi gofal o ddwyrain Ewrop a chynnydd i nifer y gweithwyr o is-gyfandir India—o India a Bangladesh, yn benodol. A byddaf yn fythol ddiolchgar am y gofal y maen nhw wedi ei roi, yn aml, fel y dywedodd Mabon, gan adael aelodau eu teuluoedd eu hunain, eu hanwyliaid, ar ôl. Rwy'n cofio siarad ag un unigolyn a oedd yn ei dagrau—unigolyn o Bangladesh—na allai fynd i angladd ei mam gan ei bod yn gweithio mewn cartref gofal yma ym Mae Caerdydd. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich ateb cyntaf, mae angen newid tôn yn y sgwrs, a byddwch yn fwy nag ymwybodol bod sylwadau a ddywedwyd yr wythnos diwethaf gan arweinydd y Blaid Lafur yn greulon iawn i aelodau'r gymuned Bangladeshaidd—y mae rhan fawr ohoni'n byw yn eich etholaeth chi. A wnaiff y Prif Weinidog fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud bod y gymuned Bangladeshaidd yng Nghaerdydd a ledled Cymru yn cael ei gwerthfawrogi, ac i ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad anhygoel at Gymru, at ein cenedl? Diolch yn fawr.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio, yn dilyn y sesiwn cwestiwn ac ateb ar lwyfan a gynhaliwyd, bod arweinydd y Blaid Lafur wedi myfyrio'n gyflym ar rywfaint o'r geiriad a ddefnyddiwyd mewn ymatebion, gan gydnabod ei fod wedi cam-siarad ar un adeg, ac ail-bwysleisio’r berthynas hirsefydlog sydd gennym ni gyda Bangladesh a'i phobl, o ran amrywiaeth eang o feysydd gweithgarwch, nid yn unig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond yn yr economi hefyd.
Rwy'n falch iawn o gynrychioli trigolion Caerdydd a Phenarth sy'n dod o Bangladesh yn y Senedd hon. Rwy'n falch iawn o'r hyn y maen nhw wedi ei gyfrannu at hanes Cymru. Ac os meddyliwch chi am beth yw Cymru heddiw, ceir sawl rhan o Gymru na fyddai'n Gymru heb y stori ryngwladol honno, o fwyd i gelf i ddiwylliant, a sut rydym ni'n gweld ein hunain a'n lle yn y byd. Rwy'n awyddus iawn bod Cymru'n parhau i fod yn bartner rhyngwladol cadarnhaol sy'n edrych tuag allan. Rydym ni wedi gwneud llawer mwy o hynny yn ystod y degawd diwethaf, ac rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni wedi gwneud hynny. Rwy'n gobeithio y gall Prydain hefyd fod yn aelod llawer gwell o deulu'r cenhedloedd yn y dyfodol, gan sefyll dros ein buddiannau, ond gan fod yn bartner gwirioneddol sydd eisiau cyfeillgarwch a phartneriaeth gyda gweddill y byd, yn hytrach na gwrthdaro ac arallgyfeirio ein heriau ein hunain yma. Rwy'n credu y gallem ni weld hynny ar ôl 4 Gorffennaf.